Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r canlynol yn rhoi crynodebau o'r penderfyniadau a wnaed gan weinidogion

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Search our decision reports using Ctrl + F.

Pobl sy’n Sipsiwn, Roma neu’n Deithwyr

30 Rhagfyr 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i roi estyniad i’r contract presennol ar gyfer Gwasanaeth Cyngor ac Eiriolaeth i bobl sy’n Sipsiwn, Roma neu’n Deithwyr.

Hanes Pobl Ddu yng Nghymru

30 Rhagfyr 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar y dyraniadau cyllid ar gyfer prosiect Hanes Pobl Ddu Race Council Cymru.

Datblygiad Rhaglen Safleoedd a Mangreoedd Canolbarth Cymru

30 Rhagfyr 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ddarparu cyllid refeniw i gefnogi datblygiad manwl Rhaglen Safleoedd a Mangreoedd Canolbarth Cymru.

Incwm Rhaglen Ynni Gwynt Cyfoeth Naturiol Cymru

30 Rhagfyr 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno, fel trefniant eithriadol, y bydd incwm a gynhyrchwyd gan Raglen Ynni Gwynt Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ymwneud â datblygiadau ynni adnewyddadwy ar Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru, yn cael ei gadw yn y gyllideb Newid Hinsawdd i helpu i ariannu’r datblygiad a darparu rhaglenni ynni ac amcanion newid hinsawdd cysylltiedig.

Setliad dros dro yr Heddlu ar gyfer 2023 i 2024

20 Rhagfyr 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyfanswm dros dro y cyllid refeniw craidd cyffredinol ar gyfer 2023 i 2024, ac i gynnal ymgynghoriad 4 wythnos ar fersiwn ddrafft yr Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2).

Setliad Refeniw a Chyfalaf Llywodraeth Leol dros dro ar gyfer 2023 i 2024

20 Rhagfyr 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar ddyraniad y Cyllid Cyfunol Allanol rhwng y 22 o awdurdodau unedol, ac i ymgynghori ar fersiwn ddrafft Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1 – Cynghorau).

Heintiau Streptococol Grŵp A

20 Rhagfyr 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ryddhau meddyginiaethau o’r cyflenwad parodrwydd ar gyfer pandemig ffliw er mwyn i helpu i ddatrys y problemau sy’n effeithio ar y cyflenwad o wrthfiotigau a ddefnyddir i drin heintiau Streptococol Grŵp A yng Nghymru, os bydd y sefyllfa o ran y cyflenwad yn golygu bod angen cymryd cam o’r fath. 

Hyrwyddwyr Cyflogaeth ar gyfer Pobl Anabl

20 Rhagfyr 2022

Cymeradwyodd Gweinidog yr Economi recriwtio a phenodi pum Hyrwyddwr Cyflogaeth ar gyfer Pobl Anabl yn Llywodraeth Cymru. 

Cylch gwaith a Llythyr Cyllid i Gwmni Egino

20 Rhagfyr 2022

Gweinidog yr Economi yn cymeradwyo Cylch Gwaith a Llythyron Cyllid i Gwmni Egino ar gyfer 2022 i 2023.

Cyllid Cynhyrchu Creadigol – Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 27 Medi 2022

20 Rhagfyr 2022

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno i roi cyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghaerdydd.

Cronfa Dyfodol yr Economi – Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 29 Tachwedd 2022

20 Rhagfyr 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i roi cyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ym Mlaenau Gwent.

Cyllid i gefnogi’r gwaith o weithredu Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio

20 Rhagfyr 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gefnogi’r gwaith o weithredu’r Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio. 

Cytundeb Amrywio ar gyfer Cytundeb Asiantaeth

20 Rhagfyr 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo Cytundeb Amrywio ar gyfer Cytundeb Asiantaeth Canolfan Bioddiogelwch ar y cyd, sy’n disgrifio rolau a chyfrifoldebau’r Llywodraethau Datganoledig a Llywodraeth y DU / Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU.

Ffioedd ymgynghori ar gyfer Datblygiad yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin

20 Rhagfyr 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo ffioedd ymgynghori ar gyfer datblygu unedau diwydiannol yn Sir Gaerfyrddin.

Grant Atal Digartrefedd – Dyraniadau Dangosol ar gyfer 2023 i 2024

20 Rhagfyr 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar ddyraniadau dangosol y Grant Atal Digartrefedd ar gyfer 2023 i 2024. Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno i’r dyraniadau prosiect dangosol yn 2023 i 2024 mewn perthynas ag Abertawe, ynghyd â’r dyraniadau awdurdodau lleol perthnasol. Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i drosglwyddo cyllid y Grant Atal Digartrefedd yn 2023 i 2024, sy’n ymwneud â chymorth  i ffoaduriaid a phrosiectau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, i linellau cyllideb yn y MEG Cyfiawnder Cymdeithasol (Prif Grwpiau Gwariant) i gael ei weithredu fel rhan o gyllideb atodol yn ystod y flwyddyn 2023 i 2024.

Buddsoddiadau Cyfalaf y GIG

19 Rhagfyr 2022

Mae’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo £14.425 miliwn ar gyfer amrywiaeth o fuddsoddiadau o flaenoriaeth ddiwedd y flwyddyn ar gyfer GIG Cymru yn 2022 i 2023.

Ymestyn penodiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol  Betsi Cadwaladr

19 Rhagfyr 2022
 
Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn tymor presennol Is-Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am 12 mis hyd at 30 Tachwedd 2023.

Cymraeg mewn addysg – rôl Cymdeithas Ysgolion dros Addysg Gymraeg

19 Rhagfyr 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar ddyraniad grant dwy flynedd i Gymdeithas Ysgolion dros Addysg Gymraeg.

Cwrs Pontio Cyfrwng Cymraeg 

19 Rhagfyr 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i barhau i gyllido uchafswm o 20 o leoedd ar y Cynllun Pontio yn 2023 i 2024.

Gwerthiant tir yn Ne Sebastopol, Cwmbrân

19 Rhagfyr 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i werthiant tir yng Nghwmbrân.

Ariannu cynhyrchiad creadigol – Cyfarfod o’r Panel Buddsoddi ar 15 Tachwedd 2022

19 Rhagfyr 2022

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghymru.

Cronfa Dyfodol yr Economi – Cyfarfod o’r Panel Buddsoddi ar 1 Tachwedd 2022

19 Rhagfyr 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Gyllid Buddsoddi mewn Twristiaeth ar gyfer prosiect yn Sir Benfro.

Penodi Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i Gymru

15 Rhagfyr 2022

Mae Prif Weinidog Cymru wedi penodi Derek Walker am gyfnod o 7 mlynedd o 1 Mawrth 2023 i 28 Chwefror 2030.

Dyraniadau’r Gyllideb ar gyfer 2023 i 2023 

15 Rhagfyr 2022

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i ddyrannu £6,001,000 o refeniw a £2,610,000 o gyfalaf ar gyfer gwasanaethau tân ac achub a materion sy’n ymwneud â'r lluoedd arfog yn 2023 i 2024, gan gynnwys dyraniad y gyllideb o £25,132,000 ar gyfer pensiynau diffoddwyr tân yn 2023 i 2024 a ariannwyd gan Drysorlys EF – ac ar ôl cael cytundeb pellach gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol,  maent wedi cytuno i drosglwyddo cyllid grant o £5.872 miliwn ar gyfer cyfraniadau cyflogwyr at bensiynau diffoddwyr tân i Grant Cynnal Refeniw Llywodraeth Leol o 2023 i 2024 ymlaen.

Rhaglen Arweinwyr y Dyfodol Coleg Brenhinol Meddygon Teulu Cymru

14 Rhagfyr 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gais am gyllid Coleg Meddygon Teulu Cymru ar gyfer Rhaglen Arweinwyr y Dyfodol 2023 i 2024.

Proffil buddsoddi yn unol â fframwaith strategol Digidol 2030 ar gyfer Addysg Bellach a 'galwad i weithredu'

14 Rhagfyr 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gynlluniau ar gyfer 'galwad i weithredu' ar gyfer Sefydliadau Addysg Bellach ar ddysgu digidol, yn unol â fframwaith strategol Digidol 2030; a phroffil buddsoddi amlflwyddyn, sy’n cynnwys cyfanswm o £8 miliwn o gyllid cyfalaf dros dair blynedd ariannol, i gefnogi Sefydliadau Addysg Bellach i fwrw ymlaen â blaenoriaethau a datblygiadau digidol yn ystod blynyddoedd academaidd 2022 i 2023 a 2024 i 2025.

Y ddarpariaeth gofal iechyd yn CEF Y Parc

14 Rhagfyr 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno gyda Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Gweinidogion Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi yng Nghymru.

Hybu Cig Cymru

14 Rhagfyr 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i osod Datganiadau Ariannol Blynyddol Hybu Cig Cymru.

Ffliw Adar

14 Rhagfyr 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi awdurdodi £1m o arian brys ychwanegol i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion er mwyn rheoli achosion y Ffliw Adar yng Nghymru.

Hybu Cig Cymru

14 Rhagfyr 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a'r Gogledd, a'r Trefnydd wedi cytuno i ailbenodi pedwar Aelod o Fwrdd Hybu Cig Cymru ac wedi cytuno y gall swyddogion ddechrau paratoi ar gyfer ymgyrch recriwtio penodiadau cyhoeddus er mwyn newid gweddill aelodau'r bwrdd.

Mapiau Teithio Llesol

14 Rhagfyr 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo Mapiau'r Rhwydwaith Teithio Llesol, ar gyfer cynghorau Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Benfro, Powys, Torfaen a Wrecsam.

Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb

14 Rhagfyr 2022

Mae'r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol wedi cymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol cyfunol ar Gydraddoldeb ac Adroddiad Gweinidogion Cymru sy'n cwmpasu 2021 i 2022.

Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau 

14 Rhagfyr 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno a'r broses ymgeisio am y Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau 2023 hyd at 2024.

Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau

14 Rhagfyr 2022

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddarparu cyllid ychwanegol i Rhondda Cynon Taf drwy'r Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau 2022 i 2023.

Tasglu Hawliau Pobl Anabl

13 Rhagfyr 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn cyfnod gwaith y Tasglu Hawliau Pobl Anabl tan 31 Mawrth 2024.

Bwrdd Cynghori ar Gyllid Cyfalaf a Chyllid Ystadau yn ôl Disgresiwn ar gyfer y GIG

13 Rhagfyr 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ynghylch cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau cyfalaf ar draws GIG Cymru ar gyfer 2023 i 2024 a 2024 i 2025.

Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch

13 Rhagfyr 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar yr opsiynau ar gyfer darparu rhyddhad ardrethi annomestig i’r rhai sy’n talu ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yn 2023 i 2024.

Penodi Is-gadeirydd ac Aelod Annibynnol (Trydydd Sector) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

13 Rhagfyr 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y cynllun recriwtio ar gyfer penodi Is-gadeirydd ac Aelod Annibynnol (Trydydd Sector) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Y diweddaraf ar Lwybr Arfordir Cymru – Trefniadau hyrwyddo, Cyllid ac Opsiynau i’w Hadolygu

13 Rhagfyr 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i gryfhau swyddogaeth farchnata ac ymgysylltu cymunedol Llwybr Arfordir Cymru a Llwybrau Cenedlaethol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, mae wedi cytuno i greu grŵp marchnata ac ymgysylltu goruchwyliol ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru a Llwybrau Cenedlaethol dan arweiniad Croeso Cymru, ac mae wedi cytuno ar drefniant cyllid dwy flynedd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn rheoli a hyrwyddo Llwybr Arfordir Cymru a Llwybrau Cenedlaethol unwaith y bydd y trafodaethau cyllidebol wedi’u cwblhau.
 

Awdurdod Cyllid Cymru

12 Rhagfyr 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddarparu refeniw ychwanegol gwerth £106,000 i Awdurdod Cyllid Cymru er mwyn gwaredu’r diffyg wrth gyflwyno dyfarniad cyflog eleni a gwerth £44,000 o gyllid cyfalaf ar gyfer adnewyddu eiddo a chyfarpar digidol. 

Gwasanaethau Tân ac Achub

8 Rhagfyr 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i ffurfio Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol ar gyfer y Gwasanaethau Tân ac Achub a bydd yn nodi ei Gylch Gorchwyl yng nghyfarfod cyntaf y Fforwm ym mis Ionawr 2023.

Cyllid bwlch gwaddoli

8 Rhagfyr 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid bwlch gwaddoli ar gyfer deg landlord cymdeithasol cofrestredig trosglwyddo gwirfoddol ar raddfa fawr ar gyfer 2024 i 2025.

Trawsnewid Trefi – Marchnad Lôn y Parc, Caerffili

7 Rhagfyr 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid Trawsnewid Trefi ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddatblygu Marchnad newydd yng Nghanol Tref Caerffili. Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a Gweinidog yr Economi wedi cytuno y gall cyfraniad y Cyngor o arian cyfatebol gynnwys cyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. 

Cyllid i gefnogi prentisiaethau a thuag at recriwtio mwy o siaradwyr Cymraeg yn y sector gofal

6 Rhagfyr 2022 

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar arian i gefnogi prentisiaethau a cheisio recriwtio mwy o siaradwyr Cymraeg yn y sector gofal.

Ymgynghoriad ledled Prydain o bedwar cynllun gweithredu llwybr drafft ar gyfer rhywogaethau anfrodorol ymledol

6 Rhagfyr 2022 

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ar y cyd, ledled Prydain ar bedwar cynllun gweithredu llwybr drafft ar y cyd â Defra a Llywodraeth Yr Alban.

Cynllun cymorth costau byw

6 Rhagfyr 2022 

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid i dalu costau gweinyddu awdurdodau lleol sy'n gweinyddu'r prif gynllun cymorth costau byw a gaeodd ar 31 Hydref 2022.

Ailflaenoriaethu cyllid addysg bellach a chyllid arloesi arfaethedig

6 Rhagfyr 2022 

Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a Gweinidog Addysg a'r Gymraeg ar ail-flaenoriaethu cyllid addysg bellach i gefnogi pwysau costau byw ar y gronfa ariannol wrth gefn ac am gostau cynyddol defnyddiau traul ar raglenni galwedigaethol, yn ogystal â chynnig o gronfa arloesi i baratoi ar gyfer yr heriau sydd i ddod yn y dyfodol.

Cynigion ar gyfer Cynlluniau Buddsoddi Gwledig ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol hon

6 Rhagfyr 2022 

Mae'r Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno ar y dyraniad o £2.915 miliwn o gyllid y flwyddyn ariannol hon ar gyfer mentrau newydd 'Cynlluniau Buddsoddi Gwledig'

Gwerthuso Rhaglen Wella Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

6 Rhagfyr 2022 

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid o £85,000 yn y flwyddyn ariannol 2023 i 2024 ar gyfer gwerthuso Rhaglen Wella Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru yn gweithredu llwybr galw nôl risg isel

6 Rhagfyr 2022 

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithredu'r newid i gyfwng sgrinio ar gyfer cyfranogwyr sy'n cael sgrinio llygaid diabetig a nodir eu bod mewn perygl isel o retinopathi diabetig yn unol ag argymhelliad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16

6 Rhagfyr 2022 

Mae'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16 i astudio mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Cylch Gwaith Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru 

5 Rhagfyr 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cais cylch gwaith Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023.

Cyllid ychwanegol i adeiladu eiddo masnachol yn Cross Hands, Sir Gaerfyrddin

5 Rhagfyr 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol i gyfrannu at adeiladu eiddo newydd yn Sir Gaerfyrddin.

Cylch Gwaith Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

5 Rhagfyr 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cais cylch gwaith Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023.

Cyhoeddi ymateb y Llywodraeth i gyhoeddi data cydymffurfio

1 Rhagfyr 2022

Cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i gyhoeddi ymateb y Llywodraeth i’r mini-ymgynghoriad ar gyhoeddi gwybodaeth data cydymffurfio sy’n cael eu cadw gan gofrestrfa Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU. 

Datblygu canllawiau ar gyfer presenoldeb, gwaharddiadau ac ymddygiad

1 Rhagfyr 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad dros gyfnod byrrach o 7-8 wythnos ar gyfer datblygu canllawiau diwygiedig ar gyfer presenoldeb, gwaharddiadau ac ymddygiad, gan gynnwys amserlen ar gyfer eu cwblhau.

Gorchymyn Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth 2008 – newidiadau arfaethedig pellach ac ymgynghoriad sydd wedi ei dargedu

1 Rhagfyr 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i gynnal cydymgynghoriad sydd wedi ei dargedu i gynnig diwygiadau moderneiddio pellach i’r Gorchymyn Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth 2008, gyda’r nod o’u gweithredu yn 2023.

Mesur diogelu: Cyfyngiadau mewn perthynas â brech y geifr a brech y defaid yn Sbaen

1 Rhagfyr 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno ar fesur diogelu i wahardd dros dro fewnforio croen heb ei drin, yn wreiddiol o Sbaen,  o anifeiliaid o deuluoedd y ddafad a’r afr. 

Meini prawf mynediad i addysg gychwynnol i athrawon – gofynion TGAU, gan gynnwys profi cyfwerthedd

1 Rhagfyr 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gynigion i ddiwygio gofynion mynediad TGAU addysg gychwynnol i athrawon ar gyfer rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon o fis Medi 2022 ymlaen. 

Cyhoeddi adroddiad 2021 ar gynhyrchu ynni yng Nghymru

1 Rhagfyr 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi’r adroddiad diweddaraf ar gynhyrchu ynni yng Nghymru 2021.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16

30 Tachwedd 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 oed mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Ymgynghoriad cyhoeddus ‘Coffáu cyhoeddus yng Nghymru: Canllawiau i gyrff cyhoeddus’

30 Tachwedd 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip wedi cytuno ar ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar y canllawiau drafft ‘Coffáu cyhoeddus yng Nghymru: Canllawiau i gyrff cyhoeddus’, gan ddechrau ar 29 Tachwedd 2022.

Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol – Cyfarfod ar 5 Ebrill 2022

30 Tachwedd 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Rhondda Cynon Taf.

Cynnydd mewn Costau Cyflawni ar gyfer Darparwyr Prentisiaeth 

30 Tachwedd 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i roi cynnydd untro ar gyfer costau cyflawni ar gyfer prentisiaethau newydd mewn ymateb i’r pwysau ar ddarparu’r gwasanaeth yn sgil yr argyfwng costau byw.

Mewnforion Masnachol o Anifeiliaid Anwes– Dull wedi’i dargedu

30 Tachwedd 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno ar ddull wedi’i dargedu ar gyfer ailddechrau mewnforion masnachol o anifeiliaid anwes o Wcráin, Belarws, Gwlad Pwyl a Rwmania, a’u rheoli.

Rhondda Cynon Taf – Clwstwr 1 

29 Tachwedd 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo'r Achos Busnes Llawn a'r cyllid cysylltiedig ar gyfer prosiect Clwstwr Un Rhondda Cynon Taf, a gaiff ei ddarparu drwy'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol.

Comisiynu gwaith ymgysylltu ar Barthau Cadwraeth Morol ac asesu rheoli rhwydwaith 

28 Tachwedd 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gychwyn ar waith ymgysylltu cyn ymgynghori ar Barthau Cadwraeth Morwrol posibl yng Nghymru, yn lansio ar 24 Tachwedd 2022. 

Cyngor Sir Penfro – Prosiectau Cyfalaf Addysg 

28 Tachwedd 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gais amrywio a chyllid cysylltiedig ar gyfer Prosiect Ysgol Bro Penfro Cyngor Sir Penfro fel rhan o’r Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg. Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg hefyd wedi cytuno ar yr Achos Amlinellol Strategol ar gyfer Prosiect Ysgol Arbennig Portfield Cyngor Sir Penfro fel rhan o’r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy 

Cyhoeddi prosbectws ar gyfer y Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru

28 Tachwedd 2022
 
Cytunodd y Prif Weinidog, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a Gweinidog yr Economi i gyhoeddi’r prosbectws ar gyfer y Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru. 

Apelio yn erbyn hysbysiad ailstocio o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967 

28 Tachwedd 2022

Nododd y Gweinidog Newid Hinsawdd adroddiad y Pwyllgor Cyfeirio mewn perthynas ag apêl o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967 ac mae wedi cytuno i gynnal hysbysiad ailstocio â’r cyfeirnod COLINS 11474 yn ddibynnol ar addasiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni isafswm o 1600 o goed fesul hectar. 

Cyllideb Gwella Ansawdd Gofal Iechyd a Chyllideb Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal

24 Tachwedd 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y dyraniad cyllid i Gyllideb Gwella Ansawdd Gofal Iechyd ar gyfer 2022 i 2023 a Chyllideb Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar gyfer 2022 i 2023.

Darparu Ward Adleoli i hwyluso Gwaith Diogelwch Tân yn Ysbyty Llwynhelyg

24 Tachwedd 2022

Mae’r Prif Weinidog wedi cymeradwyo’r achos busnes ar gyfer ward adleoli yn Ysbyty Llwynhelyg er mwyn galluogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gynnal a diogelu’r lle sydd ar gael i gleifion mewnol drwy gydol y gwaith o ddiweddaru’r rhagofalon tân.

Pedwerydd Adroddiad Blynyddol gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi 

24 Tachwedd 2022

Mae Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i gynnwys Rhagair y Gweinidog yn yr adroddiad.

Ignite Cymru – y Nadolig ym Mharc Bute

24 Tachwedd 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip wedi cytuno ar gyllid Event Wales er mwyn cefnogi rhoi rhaglen datblygu doniau Ignite Cymru ar waith yn ystod digwyddiad Nadolig 2022 ym Mharc Bute.

Deintyddiaeth – Rhaglenni hyfforddi arloesol i'r gweithlu

22 Tachwedd 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i wella mynediad at ofal deintyddol drwy ddatblygu rhaglenni arloesol i drawsnewid y gweithlu.

Caffael Remdesivir – Tachwedd 2022

22 Tachwedd 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar adnewyddu’r cyflenwad o remdesivir ar gyfer trin cleifion yn yr ysbyty sydd â COVID-19.

Adroddiad cynnydd ar ein cynllun ymaddasu cenedlaethol ar gyfer newid yn yr hinsawdd 

22 Tachwedd 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi adroddiad cynnydd ar ein cynllun ymaddasu cenedlaethol ar gyfer newid yn yr hinsawdd.

Rheoliadau Deddf Amaethyddiaeth 2020 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2022

22 Tachwedd 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno ar Reoliadau Deddf Amaethyddiaeth 2020 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2022, ac wedi’u llofnodi.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16

22 Tachwedd 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Cymeradwyo achos busnes llawn - Dull Radiotherapi Integredig

22 Tachwedd 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Achos Busnes Llawn Ymddiriedolaeth GIG Felindre am gyllid i gefnogi Dull Radiotherapi Integredig.

Trosglwyddo Rheolaeth Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach

22 Tachwedd 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid, tan 2024 i 2025, i gefnogi'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (Cymru) a'u rheolaeth o'r Bwrdd Cyflawni Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach.

Mabwysiadu rhestr yr UE o gyd-fformiwlâu annerbyniol ar gofrestr cyd-fformiwlâu annerbyniol Prydain Fawr

22 Tachwedd 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Gweithgor Iechyd a Diogelwch i fabwysiadu rhestr o gyd-fformiwlâu annerbyniol yr UE ar gofrestr cyd-fformiwlâu annerbyniol Prydain.

Penodi Aelod Annibynnol Awdurdod Lleol ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

21 Tachwedd 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi’r Cyng Rhodri Evans yn Aelod Annibynnol Awdurdod Lleol ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Bydd ei benodiad yn para o 15 Tachwedd 2022 tan 14 Tachwedd 2026. 

Cynnig gwarant Tirion ar safle Parc Eirin 

21 Tachwedd 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi gwrthod cynnig gwarant Tirion a chytuno y dylai swyddogion ystyried opsiynau arloesol amgen gyda Tirion. 

Hysbysiad i gymeradwyo methodolegau cyfrif i gydymffurfio â Rhan L 2022

21 Tachwedd 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar Hysbysiad Cymeradwyo diwygiedig ar gyfer methodolegau i gyfrif perfformiad ynni adeiladau, i ddangos eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion lleiaf o ran perfformiad ynni yn Rhan L (cadwraeth tanwydd a phŵer) o Reoliadau Adeiladu 2010 (fel y’i diwygiwyd). 

Cynllun Busnes Academi Cymru 2021 i 2022

21 Tachwedd 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar flaenoriaethau cyflawni Academi Cymru, fel y’u disgrifir yn y cynllun busnes wedi’i gostio ar gyfer 2022 i 2023. 

Ymgynghoriad anffurfiol â physgotwyr cregyn moch ar newidiadau i’r bysgodfa cregyn moch a ganiateir yn 2023 i 2024 

21 Tachwedd 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno ar ymgynghoriad pythefnos o hyd â physgotwyr cregyn moch. 

Datblygu Porthol Cartrefi a Lleoedd 

21 Tachwedd 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i fuddsoddi i ddatblygu ateb digidol newydd ar gyfer rheoli grantiau a benthyciadau tai gan ddefnyddio cyflenwr allanol. 

Y Diweddaraf am y Rhaglen Diwygio Mynediad

21 Tachwedd 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i neilltuo tua £30k er mwyn i CNC allu llunio mapiau GIS o gyrff dŵr ar dir mynediad agored dynodedig ac i ystyried ymhellach y cynnig gan is-grŵp o’r Fforwm Mynediad Cenedlaethol ar sut i reoli mynediad i hamddena ar ddŵr. 

Cymhelliant ariannol ar gyfer hyfforddi meddygon teulu - 2023

21 Tachwedd 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gynlluniau cymhelliant ariannol ar gyfer hyfforddeion arbenigol meddygon teulu a hyfforddeion seiciatreg craidd ar gyfer 2023 i 2024, ar wahân i'r rhai yn ei hetholaeth, sef Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y cynlluniau hynny.

Tribiwnlysoedd Cymru – Dyfarniad Cyflog 2022 i 2023 a lwfans ar gyfer gwrandawiadau o bell

21 Tachwedd 2022

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno i ddyfarniad cyflog ar gyfer aelodau Tribiwnlysoedd Cymru sy’n gyflogedig ac aelodau y telir ffi iddynt o 3% yn ystod blwyddyn ariannol 2022 i 2023, wedi'i ôl-ddyddio i 1 Ebrill 2022.

Glasbrintiau Cyfiawnder i Fenywod a Chyfiawnder ar gyfer Ieuenctid – Cynigion cyllido 2022 i 2023

21 Tachwedd 2022

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022 i 2023 i gefnogi'r cyllid cynaliadwyedd ar effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) o dan y Glasbrintiau Cyfiawnder i Fenywod a Chyfiawnder ar gyfer Ieuenctid.

Penodi aelod cyffredinol annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

17 Tachwedd 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gychwyn proses o benodi cyhoeddus i hysbysebu am swydd Gyffredinol Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Penodi Aelod Annibynnol Cyfreithiol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

17 Tachwedd 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gychwyn proses benodi gyhoeddus i hysbysebu am swydd Aelod Annibynnol Cyfreithiol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Cefnogaeth i gynnydd costau ar gynlluniau tai fforddiadwy a thalu grant ar Gymalau Amrywiadau

17 Tachwedd 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar raglen cynyddu costau newydd, lle mae cynnydd mewn costau oherwydd chwyddiant yn dal i gael effaith ar gyflawni cynlluniau. Dyrannu hyd at £20 miliwn o'r Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol i gefnogi unrhyw gynnydd a thalu grant ychwanegol am gostau uwch yn dilyn y galw am gymalau amrywiad mewn contractau datblygu.

Ailbenodi Tri Comisiynydd i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru

17 Tachwedd 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, wedi cytuno i ailbenodi Neil Beagrie, Chris Brayne a Dr Louise Emanuel i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, am ail dymor o dair blynedd.

Diweddaru Damcaniaeth Newid Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) – 2022 i 2023 

17 Tachwedd 2022

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i adnewyddu'r gwaith Damcaniaeth Newid a grëwyd ym mis Mehefin 2021 gan y Rhaglen Ymchwil Fewnol.

Rhaglen Cartrefi Cynnes – Caerau Pen-y-bont ar Ogwr

17 Tachwedd 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ariannu cynllun effeithlonrwydd ynni etifeddiaeth ar gyfer Caerau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod tair blynedd ariannol, 2022 i 2023, 2023 i 2024 a 2024 hyd at 2025.

Rhaglen Cartrefi Cynnes – Bryn Carno Caerffili

17 Tachwedd 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar ariannu cynllun effeithlonrwydd ynni etifeddol ar gyfer Bryn Carno, Caerffili, dros dair blynedd ariannol, 2022 i 2023, 2023 i 2024 a 2024 i 2025.

Estyniad i Gontract Teithiau Llesol ar gyfer 2023 i 2024

15 Tachwedd 2022

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno estyniad blwyddyn i 'Deithiau Llesol', rhaglen hyrwyddo teithio llesol Llywodraeth Cymru mewn ysgolion.

Cyflenwad o Feddyginiaethau Covid Molnupiravir and Paxlovid Tachwedd 2022

15 Tachwedd 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ailgyflenwi Molnupiravir a Nirmatrelvir / Ritonavir i drin pobl â COVID-19.

Cynyddu targedau eiddo blwyddyn 1 ac ailfodelu elfen grant ar gyfer Cynllun Prydlesu Cymru

15 Tachwedd 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gynyddu'r targed dangosol ar gyfer Blwyddyn 1 (2022-23) eiddo Cynllun Prydlesu Cymru gan 58 eiddo arall ac ailfodelu elfen grant cyfalaf y gyllideb i £7,500 fesul eiddo.

Defnyddio y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP) i wella eiddo Cynllun Prydlesu Cymru

15 Tachwedd 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gynnig grant, fydd yn caniatáu defnyddio cyllid ORP i wella sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni o eiddo Cynllun Prydlesu Cymru tuag at sgôr Band C. Defnyddio'r egwyddor 'Adeiladwaith yn Gyntaf' ar gyfer arwain gwaith gwella i eiddo.

Gwaredu ffordd fynediad ar Ystad Ddiwydiannol Severn Farm 

15 Tachwedd 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo gwaredu tir yn Ystad Ddiwydiannol Severn Farm, Y Trallwng, Powys

Rhaglen beilot cefnogi iechyd meddwl da mewn cartrefi gofal

15 Tachwedd 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer prosiect peilot yn ymwneud â'r gwasanaethau iechyd meddwl a'r cymorth i bobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal

Telerau arfaethedig ar gyfer y Cynllun Grant Cartrefi Gwag

15 Tachwedd 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i'r telerau arfaethedig ar gyfer y Cynllun Grant Cartrefi Gwag.

Taliadau Entrepreneuriaeth a Chyflenwi

15 Tachwedd 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo'r Taliadau Entrepreneuriaeth a Chyflenwi - ychwanegol ym mis Rhagfyr 2022.

Bwrdd Ymgynghorol ar Ddatblygu Diwydiannol Cymru – Cyfarfod 10 Mai 2022

15 Tachwedd 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Ngwynedd.

Trosglwyddo cyllid

14 Tachwedd 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar drosglwyddiadau o gyllidebau grant cymorth refeniw Cyngor Gwynedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Abertawe ar gyfer y gyllideb llifogydd, mewn perthynas â chynlluniau o fewn y rhaglen rheoli risgiau arfordirol.

Cyllid ychwanegol i helpu i recriwtio staff a datblygu sgiliau’r gweithlu gofal plant

14 Tachwedd 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i roi cyllid ychwanegol i Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer bwrw ymlaen ag ymgyrch Gofalwn. Cymru, yn ddigidol, ac ar y teledu a’r radio, er mwyn helpu i recriwtio staff i’r sector gofal plant, yn ogystal â darparu cymorth golygyddol ar gyfer cyhoeddi’r fframwaith ar gyfer addysg plant yn y blynyddoedd cynnar ac ansawdd gofal. 

Fframwaith Cyffredin a Choncordat ar gyfer Gwastraff ac Adnoddau

14 Tachwedd 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi fersiwn ddiweddaraf y Fframwaith Cyffredin a Choncordat ar gyfer gwastraff ac Adnoddau.

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Achosion Busnes mis Hydref

10 Tachwedd 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo’r argymhellion a wnaed gan y Panel Buddsoddi Addysg ym mis Hydref ar gyfer Achosion Busnes Partner Cyflenwi ar gyfer Coleg Penybont, y Prosiect Canol Tref a Grŵp Llandrillo Menai, Tŷ Menai, achos busnes Hydref.

Terfyn Gwariant Dewisol ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref 2023 i 2024

10 Tachwedd 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno mai’r “swm priodol” ar gyfer pob etholwr ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref o dan Adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023 i 2024, fydd £9.93.

Gwelliannau i Ystafelloedd Aros Adrannau Argyfwng 

10 Tachwedd 2022

Mae’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo £2.7miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru i wella ystafelloedd aros Adrannau Argyfwng yn 2022 i 2023.

Buddsoddiadau Cyfalaf Blaenoriaeth y GIG

9 Tachwedd 2022

Mae'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid Llywodraeth Cymru o £7.632 miliwn ar gyfer ystod o fuddsoddiadau diwedd blwyddyn blaenoriaeth i GIG Cymru yn 2022 i 2023.

Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy 

9 Tachwedd 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i'r argymhellion a wnaed gan y Panel Buddsoddi mewn Addysg ym mis Hydref i gynyddu amlen y Rhaglen Amlinellol Strategol mewn perthynas â'r amrywiad i amlen rhaglenni Coleg Sir Benfro.

Cyfarfod y Panel Buddsoddi 6 Medi 2022 - Cyllid Dyfodol yr Economi - Cyllid Cynyrchiadau Creadigol

9 Tachwedd 2022

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ar draws De Cymru.

Cymorth Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru 

7 Tachwedd 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid i gefnogi gweithgareddau Canolfan Gyswllt Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Ariannu cynhyrchiad creadigol

7 Tachwedd 2022

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar gyllid ar gyfer prosiect yng Nghaerdydd.

Mapio’r gweithlu gofal plant a chwarae

7 Tachwedd 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gynlluniau i wneud gwaith ymchwil er mwyn mapio gweithlu gofal plant a chwarae Cymru.

Marchnata cig dofednod

7 Tachwedd 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno y gellir rhewi cig twrci, hwyaden a gŵydd ac yna’u dadmer i'w gwerthu i ddefnyddwyr fel trefniadau dros dro rhwng 28 Tachwedd a 31 Rhagfyr 2022.

Cyllid Dyfodol yr Economi

7 Tachwedd 2022

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar gyllid ar gyfer prosiect ar draws y de.

Cyllid ar gyfer Sustrans ac ymyriadau newid ymddygiad 2022 i 2023

2 Tachwedd 2022

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid ar gyfer ymyriadau newid ymddygiad ac i roi cyllid i Sustrans Cymru ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2022 i 2023 a chyllid dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2023 i 2024 a 2024 i 2025.

Cais am dystysgrif o dan baragraff 6(1)(a) o Atodlen 3 o Ddeddf Caffael Tir 1981 (Gwelliannau Pont A494)

2 Tachwedd 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i gyhoeddi tystysgrif sy'n caniatáu prynu tir yn orfodol ar gyfer prosiect yr A494, Cyfnewidfa Queensferry i Garden City.

Cymhellion Addysg Gychwynnol i Athrawon i gefnogi recriwtio 

2 Tachwedd 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gynigion ynghylch y pecyn cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024. 

Model Cynllunio a Chyflenwi Athrawon 

2 Tachwedd 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar lefel genedlaethol y nifer o athrawon dan hyfforddiant sy'n cael eu derbyn ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon (gyda Statws Athro Cymwysedig) ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024.

Cynnig ymestyn cyfnod cadeirydd dros dro y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys

2 Tachwedd 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn cyfnod Dr Chris Turner fel cadeirydd dros dro Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys am 12 mis arall.

TB Gwartheg

1 Tachwedd 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i barhau â'r cyllid ar gyfer y rhaglen i ddileu TB ac wedi cytuno i'r broses o recriwtio dwy swydd, i reoli polisi TB a'i Gynllun Cyflawni.

Rhwydwaith Fibrespeed

1 Tachwedd 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i gomisiynu adroddiad yn amlinellu’r opsiynau ar gyfer y rhwydwaith Fibrespeed.

Mynydd Isa

1 Tachwedd 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar Achos Busnes Llawn y cynllun Model Buddsoddi Cydfuddiannol ar gyfer Campws Mynydd Isa yn Sir y Fflint. 

Prydau Ysgol am Ddim

31 Hydref 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar £11miliwn i ymestyn y ddarpariaeth bwyd yn ystod y gwyliau i'r disgyblion hynny sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, tan ddiwedd hanner tymor Chwefror 2023.

Y Cynllun Cyflawni a Gweithredu ar gyfer Anabledd Dysgu

31 Hydref 2022

Cytunodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyhoeddi'r Cynllun Cyflawni a Gweithredu ar gyfer Anabledd Dysgu.

Cais gan Powys Crematorium Limited

27 Hydref 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi gwrthod cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer amlosgfa ar dir ar bwys Aberhafesb, Powys.

Dileu pridiant ar dir yng Nghyffwrdd 33, Caerdydd

27 Hydref 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ddileu pridiant ar dir yng Nghaerdydd.

Y camau nesaf i gefnogi ymgysylltu democrataidd

26 Hydref 2022
 
Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo creu rhaglen grant amlflwyddyn sy’n gallu dangos yr angen am gyllid i sicrhau dull arloesol ar gyfer y broses ddemocrataidd.

Adroddiad cynnydd ar ein cynllun cenedlaethol ar gyfer addasu i’r newid yn yr hinsawdd

26 Hydref 2022

Mae gweinidog yr economi wedi cytuno i gyhoeddi adroddiad cynnydd ar ein cynllun cenedlaethol ar gyfer addasu i’r newid yn yr hinsawdd. 

Estyn ffin Ardal Fenter Ynys Môn yn Amlwch

26 Hydref 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i estyn ffin Ardal Fenter Ynys Môn. 

Sefydliad newydd i ddarparu cyrsiau’r Cynllun Adsefydlu Gyrwyr sy’n Yfed yng Nghymru

25 Hydref 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i benodi Moorgate Training Limited fel un o ddarparwyr cwrs y Cynllun Adsefydlu Gyrwyr sy’n Yfed yng Nghymru. 

Cais am gyllid cyfalaf ar gyfer Undeb Credyd Bwrdeistref Merthyr Tudful a Banc Cymunedol Smart Money Cymru

25 Hydref 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i ddarparu gwerth £121,033 o gymorth cyfalaf i Undeb Credyd Bwrdeistref Merthyr Tudful a Banc Cymunedol Smart Money Cymru er mwyn cynorthwyo â chost addasiadau angenrheidiol i’w seilweithiau TG.

Perfformiad Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru yn unol â’r Safonau yn 2020 hyd 2021

25 Hydref 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip wedi cytuno i anfon yr adroddiad asesu a’r llythyrau adborth at awdurdodau lleol ynghylch perfformiad eu gwasanaethau llyfrgell yn ystod 2020 hyd 2021. 

Dyfodol Bwrdd Cynghori Academi Wales

25 Hydref 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo model diwygiedig ar gyfer Bwrdd Cynghori Academi Wales.

Gweithredu Rhaglenni Cenedlaethol ar gyfer Rheoli Salmonela yng Nghymru yn y dyfodol

25 Hydref 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd wedi cytuno y gall y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Rheoli Salmonela weithredu o dan darged ar wahân ar gyfer Cymru.

Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru 

25 Hydref 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo’r cynllun recriwtio at ddiben penodi Is-Gadeirydd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Taliadau Entrepreneuriaeth a Chyflenwi

25 Hydref 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo’r taliadau entrepreneuriaeth ar gyfer mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2022. 

Adroddiad Blynyddol Cymraeg 2050 

24 Hydref 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo fersiwn ddrafft o Adroddiad Blynyddol Cymraeg 2050 ar gyfer 2021 i 2022.

Parhau i ariannu sampl fwy i faint yng Nghymru ar gyfer Arolwg o Adnoddau Teulu

24 Hydref 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i wario hyd at £1.5 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd i roi hwb i’r Arolwg o Adnoddau Teulu yng Nghymru ar gyfer 2023 i 2024 hyd at 2027 i 2028. 

Galw cais cynllunio i mewn

24 Hydref 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i alw cais cynllunio i mewn ar gyfer parc busnes arfaethedig a chyfleuster canolfan drafnidiaeth newydd ar dir i’r De o Barc Busnes Llaneirwg, Caerdydd, er mwyn i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad arno. 

Dadansoddi’r Ymatebion i’r Ymgynghoriad ar yr Ardoll Ymwelwyr 

20 Hydref 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gaffael gwasanaethau allanol i lunio dadansoddiad a chrynodeb o’r ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad ar yr Ardoll Ymwelwyr ac hefyd ar ddyrannu cyllid ar gyfer cyflawni’r contract.

Penodi Aelod Cyswllt o’r Bwrdd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

19 Hydref 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Sally Bolt fel Aelod Cyswllt o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori Clinigol.

Ailbenodi Aelod Cyswllt o’r Bwrdd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

19 Hydref 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Sam Austin yn Aelod Cyswllt o’r Bwrdd ac yn Gadeirydd y Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Y Grant Plant a Chymunedau – trosglwyddo i'r Prif Grŵp Gwariant Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a symud Rhaglenni Cyflogaeth

19 Hydref 2022

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a Gweinidog yr Economi i gyd wedi cytuno y bydd y Grant Plant a Chymunedau yn trosglwyddo i Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; y bydd cyllidebau ar gyfer cymorth cyflogadwyedd yn cael eu trosglwyddo i Brif Grŵp Gwariant yr Economi i gyd-fynd â rhaglenni cyflogaeth eraill; ac y bydd Rhaglen Cymorth Rhianta Tu Allan i'r Llys y Grant Plant a Chymunedau yn cael ei chynnwys - y cyfan yn effeithiol o 1 Ebrill 2023.

Diwygio trefniadau llywodraethiant y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

19 Hydref 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ddiwygio strwythur llywodraethiant y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, drwy ddiddymu'r Pwyllgor Craffu Cymraeg i Oedolion ar 31 Mawrth 2023, a thrwy enwebu dau aelod i eistedd ar Fwrdd Cynghori'r Ganolfan o 1 Ebrill 2023 ymlaen.

Diwydiant Sero Net Cymru

19 Hydref 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid i gefnogi'r gwaith o ddarparu Diwydiant Sero Net Cymru.

Canlyniad yr adolygiad mewnol o swyddi Cydlynwyr Datblygu Rhanbarthol

19 Hydref 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i barhau i ariannu’r swyddi Cydlynwyr Datblygu Rhanbarthol am flwyddyn arall o gyllideb y Grant Atal Digartrefedd yn 2023 i 2024.

Rheoliadau Bwyd a Phorthiant Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) 2022

19 Hydref 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cydsynio y dylai Rheoliadau Bwyd a Phorthiant (Diwygiadau Amrywiol) 2022 fod yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Cyllid ar gyfer ystod o welliannau cyfalaf ar draws GIG Cymru

19 Hydref 2022

Mae'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo £7.166m o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer ystod o welliannau cyfalaf ar draws GIG Cymru yn 2022 i 2023 a 2023 i 2024.

Grŵp Cynghori a Gweithredu Cymru ar Faterion Morol

17 Hydref 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i newid enw Grŵp Cynghori a Gweithredu Cymru ar Faterion Morol i Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru, ac i Gadeirydd gael ei benodi gan Weinidogion i arwain y grŵp.  Mae'r Gweinidog hefyd wedi cytuno i gyhoeddi dogfen sy’n amlinellu gweledigaeth ac amcanion y Bartneriaeth. 

Ynni carbon isel

17 Hydref 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar hyd at £25,000 a TAW i gaffael Astudiaeth Effaith Economaidd ynghylch Dulliau Dal, Defnyddio a Storio Carbon a Hydrogen yn y Gogledd. 

Asiantaeth Ewropeaidd ar gyfer Anghenion Arbennig ac Addysg Gynhwysol

14 Hydref 2022

Mae'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg wedi cymeradwyo adnewyddu aelodaeth o'r Asiantaeth Ewropeaidd ar gyfer Anghenion Arbennig ac Addysg Gynhwysol yn 2023.

Penodiad i Banel Dyfarnu Cymru

14 Hydref 2022

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno i gynnal ymarfer recriwtio i benodi aelod cyfreithiol fydd hefyd yn cael ei benodi'n Llywydd i Banel Dyfarnu Cymru.

Newid cebl Dinorwig i Bentir

14 Hydref 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i gyhoeddi tystysgrif sy'n caniatáu i'r Grid Cenedlaethol brynu yn orfodol hawliau newydd dros ardaloedd o "Dir Agored" sydd eu hangen ar gyfer prosiect newid cebl Dinorwig i Bentir.

Gofalwyr di-dâl

14 Hydref 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd  a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ariannu adolygiad cyflym i'r modd y caiff hawliau gofalwyr di-dâl eu cynnal gan awdurdodau lleol ac wedi cytuno ar gyllid i gomisiynu adolygiad manwl dros 18 mis o ddarpariaeth yr awdurdodau lleol o ran  asesiadau anghenion gofalwyr.

Cymorth busnes

14 Hydref 2022

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ar draws Cymru.

Cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr o ran deunyddiau pacio

14 Hydref 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi ymateb y Llywodraeth i'r ymgynghoriad a bod gwaith yn cael ei wneud ar newid y Nodyn Ailgylchu Gwastraff Pecynnu a  Ailgylchu Allforio Gwastraff Pecynnu.

Ysgol Haf Arweinyddiaeth Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

14 Hydref 2022

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i’r broses o gaffael gwasanaethau ar gyfer Ysgol Haf Arweinyddiaeth Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2023 ac wedi cytuno i barhau i gyfrannu at gostau cynrychiolwyr Ysgol Haf 2023.

Amgueddfa Cymru – National Museum of Wales

14 Hydref 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip wedi cytuno i estyn tymor Dr Carol Bell yn Is-Lywydd Amgueddfa Cymru am hyd at 12 mis.

Gwerthu tir datblygu ym Mharc Busnes Llanelwy

12 Hydref 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo gwerthu tir ym Mharc Busnes Llanelwy.

Gwerthu tir datblygu ym Mharc Bryn Cegin, Bangor

12 Hydref 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo gwerthu tir ym Mharc Bryn Cegin.

Gwerthu tir datblygu ym Mharc Bryn Cegin, Bangor

12 Hydref 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo gwerthu tir ym Mharc Bryn Cegin, Bangor.

Gwerthu tir datblygu ym Mharc Menter y Bala

12 Hydref 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo gwerthu tir ym Mharc Menter y Bala.

Gwerthu rhan o Lain C3 Ystâd Ddiwydiannol Brynberth

12 Hydref 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo gwerthu tir yn Ystâd Ddiwydiannol Brynberth, Rhaeadr.

Diweddaru cyllideb Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022 i 2023

12 Hydref 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gefnogi prosiectau ychwanegol, ac i liniaru ar y pwysau ariannol yn sgil yr argyfwng costau byw, mewn perthynas â rhaglen grant refeniw Trais a Cham-drin.

Lleisiau Rhieni yng Nghymru

12 Hydref 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid grant ar gyfer Plant yng Nghymru er mwyn datblygu platfform ar lefel Cymru gyfan i gasglu safbwyntiau rhieni.

Recriwtio Aelodau newydd i Bwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu

12 Hydref 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i benodi David Holland, Richard O’Connell, Steve Burrows, Peter Richards a Dr Robert Gravelle fel aelodau newydd i Bwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu.

Cytuno ar gynigion ar gyfer rhaglen Arfor 2

12 Hydref 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar y cynigion ar gyfer rhaglen Arfor 2.

Rhaglen Sêr Cymru 

11 Hydref 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid i’r rhaglen Sêr Cymru ar gyfer y dyfarniad offer gwella cystadleurwydd ac i gefnogi'r Rhwydweithiau Ymchwil Cenedlaethol.

Rhoi Adnoddau i Gyflawni Rhaglen Lywodraethu y Cymoedd Technoleg

11 Hydref 2022
 
Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cyflawni Rhaglen y Cymoedd Technoleg ar gyfer blynyddoedd ariannol 2023 i 2024 a 2024 i 2025.

Dyfarnu Grantiau - Rhaglen Gydweithredu Cymru ar Asedau

11 Hydref 2022

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo'r gwobrau gafodd eu hargymell gan Banel Grant Cydweithredu Cymru ar Asedau ar gyfer blwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Datblygiad ar Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands

11 Hydref 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar ganiatâd i bartner menter ar y cyd er mwyn gwerthu tir a darparu cymorth grant ar gyfer datblygiad yn Sir Gaerfyrddin.

Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg

11 Hydref 2022
 
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid grant ychwanegol o £7,133,700 i gefnogi prosiectau oedd yn flaenorol ar restr wrth gefn y Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg. 

Cynllun Datblygu Strategol ParcAberporth

11 Hydref 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo refeniw i gomisiynu cyngor arbenigol ar gynllun lefel uchel cychwynnol ar gyfer ParcAberporth.

Ail gartrefi, llety tymor byr a siopau betio

10 Hydref 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar newidiadau i ddeddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi, llety tymor byr a siopau betio.

Datblygu unedau busnes newydd, Ystad Ddiwydiannol Treowain, Machynlleth, Powys

10 Hydref 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ddatblygu unedau busnes newydd ar Ystad Ddiwydiannol Treowain, Machynlleth, Powys.

Asiantaeth Safonau Bwyd

10 Hydref 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i gynnal ymgynghoriadau unigol wyth wythnos o hyd mewn perthynas â chynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid sydd wedi'u haddasu'n enetig, a phedwar cynnyrch rheoleiddiedig amrywiol arall.

Trosglwyddo’r gwaith o ymdrin â Datganiadau o Ddiddordeb

6 Hydref 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno y bydd gwaith ymgysylltu â chyflogwyr a darparwyr mewn perthynas â Datganiadau o Ddiddordeb mewn prentisiaethau yn trosglwyddo o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru i Busnes Cymru.

Gwerthiant tir yn Felinfach, Ystâd  Ddiwydiannol Gorllewin Abertawe 

6 Hydref 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i werthiant tir yn Abertawe.

Ehangu’r safle a datblygu awyrendŷ yn Bro Tathan

6 Hydref 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo gwariant a gwaith yn Bro Tathan.

Cyllid Diwygio Gofal Cymdeithasol ar gyfer prosiect Adolygiad Diogelu Unedig Sengl 2022 i 2023

6 Hydref 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i feysydd gwaith â blaenoriaeth o fewn y prosiect adolygiad diogelu unedig sengl yn 2022 i 2023 o'r gronfa diwygio gofal cymdeithasol.

Cyllid Woody's Lodge

6 Hydref 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar raglen o gyllid i elusen y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr Woody's Lodge am y cyfnod o fis Hydref 2022 hyd fis Mawrth 2023. 

Aliniad Fframwaith Cymwysterau 2023 i 2025

6 Hydref 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gaffael contract i ddarparu cyngor a chynrychiolaeth i gefnogi aliniad parhaus rhwng Fframwaith Credyd a Chymwysterau Cymru a fframweithiau cymwysterau eraill y DU a Fframwaith Cymwysterau Ewrop ar gyfer 2023 i 2024, gyda'r opsiwn i ymestyn am un flwyddyn arall (2024 i 2025).

Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer Pren – Cynllunio 

4 Hydref 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo dull o ddatblygu Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer Pren i Gymru. 

Ysgol Haf Arweinyddiaeth Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2023

4 Hydref 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo’r bwriad i gaffael gwasanaethau ar gyfer Ysgol Haf Arweinyddiaeth Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2023 ac wedi cytuno i barhau i gyfrannu at gostau cynrychiolwyr Ysgol Haf 2023.

Cronfa Perchnogaeth Gweithwyr

3 Hydref 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid grant ychwanegol i Cwmpas, i ddarparu cymorth a marchnata arbenigol ar gyfer perchnogaeth gan weithwyr.

Cyllid a threfniadau contractiol ar gyfer Canolfannau Croeso uwch-noddwr i bobl o Wcráin 

3 Hydref 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gweinidog newid Hinsawdd wedi cytuno ar drefniadau ariannu a chytundebau estynedig ar gyfer llety Canolfannau Croeso fel rhan o’r ymateb i’r rhyfel yn Wcráin.

Cronfa Dyfodol yr Economi – Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 21 Mehefin 2022

29 Medi 2022

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghaerdydd.

Penodi Cadeirydd i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys

29 Medi 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Carl Cooper yn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys o 17 Hydref 2022 tan 16 Hydref 2026.  

Tocyn croeso – trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i’r rheini sy’n ceisio lloches yng Nghymru

28 Medi 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo ymestyn y tocyn croeso – trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i’r rheini sy’n ceisio lloches yng Nghymru tan fis Mawrth 2023.

Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) Rhif 2 2022 

28 Medi 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar y Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) Rhif 2 2022 terfynol, ynghyd â’r memorandwm esboniadol a’r dogfennau cysylltiedig, sy’n gwneud newidiadau i Ran L (arbed tanwydd ac ynni) a Rhan F (awyru) o’r Rheoliadau Adeiladu.

Y gymuned fyddar

28 Medi 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno y gall Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain gyhoeddi ei Hadroddiad Archwilio i bolisïau a gwasanaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y gymuned fyddar; i flaenoriaethu gwaith y Tasglu; ac i ddefnyddio’r ddeddfwriaeth bresennol i wella’r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain ar draws Cymru.

Trawsnewid Trefi – Darparu Trefi SMART 

28 Medi 2022
 
Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid i ymestyn y Contract Trefi SMART ar gyfer 2022 i 2023 a 2024 i 2025.

Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru 

27 Medi 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gefnogi Diwrnod Ethol Menywod Cymru, a drefnir gan Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru. 

Cyfalaf Ychwanegol ar gyfer gwelliannau portffolio

22 Medi 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid i gynnal rhaglen o welliannau i bortffolio eiddo’r Economi.

Gweithredu Rhaglenni Cenedlaethol Rheoli Salmonela yn y dyfodol yng Nghymru

27 Medi 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno y bydd Cymru, ar gyfer gweithredu Rhaglenni Cenedlaethol Rheoli Salmonela, yn gweithredu o dan darged ar wahân penodol i Gymru yn y dyfodol.

Tanio Cymru - Nadolig ym Mharc Biwt

26 Medi 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a'r Prif Chwip wedi cytuno ar gyllid drwy Digwyddiad Cymru i gefnogi'r gwaith o gyflwyno rhaglen datblygu talent Ignite Cymru yn nigwyddiad Nadolig Parc Biwt 2022.

Trefniadau asesu drafft ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir

26 Medi 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gyhoeddi ymgynghoriad ar y trefniadau asesu drafft ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir.

Cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru ar y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid

26 Medi 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Gweinidog yr Economi, y Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i gyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru ar y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, sy’n cynnwys trosolwg polisi a llawlyfr.

Golygu Llawlyfr y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid

26 Medi 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer golygu Llawlyfr y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid.

Adolygu Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant

26 Medi 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gaffael adolygiad yn ymwneud ag asesiadau digonolrwydd gofal plant.

Cyhoeddi Diweddariad Chwemisol y Gwaith Ymchwil Manwl ar Ynni Adnewyddadwy 

26 Medi 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi'r diweddariad chwemisol cyntaf ar y gwaith ymchwil manwl ar ynni adnewyddadwy, gan nodi cynnydd a gyflawnwyd yn erbyn pob argymhelliad yn ogystal â'r camau nesaf.

Cyllid ymgysylltu Dysgu Oedolion yn y Gymuned 

26 Medi 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo'r dyraniad o £2 filiwn er mwyn cynnal cyllid ymgysylltu Dysgu Oedolion yn y Gymuned ac ehangu'r sector Addysg Bellach ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2022 i 2023.

Cynnig Gofal Plant - diwygio polisi 

26 Medi 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ddiwygiadau i bolisi gofal plant mewn perthynas â budd-daliadau cymwys i rieni neu warcheidwaid sydd wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth.

Cyllideb gymorth y Blynyddoedd Cynnar a'r Cyfnod Sylfaen 2022 i 2023

26 Medi 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cynlluniau gwario ar gyfer cyllidebau'r Cyfnod Sylfaen ar gyfer blwyddyn ariannol 2022 i 2023 a dyraniadau mewn egwyddor ar gyfer 2023 i 2024 a 2024 i 2025.

Cyngor Ymgynghori ar Gostau 

26 Medi 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer cyngor ymgynghori ar gostau sy'n gysylltiedig â phrosiect yn y de sy’n cael ei gefnogi gan y Grant Datblygu Eiddo Busnes.

Cysgu allan

26 Medi 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i atal dros dro y cyfrif cenedlaethol o gysgu allan ar gyfer Tachwedd 2022.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

22 Medi 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i Gynllun Tymor Canolig Integredig Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar gyfer 2022 i 2025.

Darpariaeth addysg gychwynnol i athrawon

22 Medi 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i’r cynigion i ehangu darpariaeth addysg gychwynnol athrawon y Brifysgol Agored.

Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd

22 Medi 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno mewn egwyddor i gynyddu’r nifer o fawndiroedd sydd i’w hadfer yn amodol ar asesiad o’r opsiynau cyllid.

Cronfa Ariannol wrth gefn

22 Medi 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i newid y maen prawf cymhwystra ar gyfer y Gronfa Ariannol wrth gefn yn y sector addysg bellach ar gyfer 2022 i 2023.

Cymeradwyo Dogfennau Strategol Hybu Cig Cymru 2022 i 2023

21 Medi 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i gynnwys Cynllun Gweithredu 2022 i 2023 a Chynllun Busnes 2022 i 2026 Hybu Cig Cymru (HCC).

Trefniadau ar gyfer codi tâl am ofal cymdeithasol - trin taliadau penodedig i leddfu pwysau costau byw

21 Medi 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar drefniadau i godi tâl am ofal cymdeithasol mewn perthynas â thrin taliadau penodedig i leddfu pwysau costau byw.

Ymestyn darpariaeth bwyd yn ystod y gwyliau i'r disgyblion hynny sy'n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim

21 Medi 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar £11miliwn i ymestyn y ddarpariaeth o fwyd yn ystod y gwyliau i ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, tan ddiwedd y flwyddyn academaidd bresennol.

Thales UK Limited – Llety ar gyfer Cyflawni Gweithgareddau Contractiol y Ganolfan Ecsbloetio Digidol Genedlaethol 

15 Medi 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ddarparu cyllid i Thales UK Limited i ymgymryd â gwaith i lety ar gyfer cyflawni gweithgareddau contractiol y Ganolfan Ecsbloetio Digidol Genedlaethol.

Trosglwyddo cyllid ar gyfer mesurau llywodraethu amgylcheddol dros dro

15 Medi 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar drosglwyddo cyllid o hyd at £45,000 o’r Prif Grŵp Gwariant ar gyfer Materion Gwledig a Gogledd Cymru i’r Prif Grŵp Gwariant ar gyfer Newid Hinsawdd mewn cysylltiad â chostau ar gyfer y mesurau llywodraethu amgylcheddol dros dro. Ymdrinnir â hyn yn yr ail gyllideb atodol ar gyfer 2022 i 2023 ac fel rhan o’r broses o lunio’r Gyllideb ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Protocol Cenedlaethol ar gyfer y brechlyn COVID-19 Pfizer Deufalent (Gwreiddiol / Omicron BA.1 Comirnaty®)

14 Medi 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar brotocol cenedlaethol i ganiatáu i’r bobl hynny sy’n weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig nad ydynt fel arfer yn rhoi brechlynnau, a phobl nad ydynt yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig, roi brechlyn COVID-19 Pfizer Deufalent (Gwreiddiol / Omicron BA.1 Comirnaty®) yn ddiogel.

Amserlen gyflawni’r cynllun Bwndeli Babi 

14 Medi 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar fanylion pellach ynglŷn â’r hyn y bydd y cynllun yn ei ddarparu o ran dosbarthu bwndeli babi i deuluoedd yng Nghymru.

Gŵyl y Banc ar achlysur Angladd Wladol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II: cyfraddau tâl ar gyfer staff y GIG 

14 Medi 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y trefniadau absenoldeb a’r trefniadau tâl ar gyfer gweithwyr y GIG ar achlysur Angladd Wladol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II. 

Ymdrin mewn ffordd strategol â’r cymorth i awdurdodau lleol ar gyfer yr economi gylchol a gweithredu’r Grant Rheoli Gwastraff Cynaliadwy yn y dyfodol

14 Medi 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i’r newidiadau arfaethedig i’r broses arfarnu, gan gynnwys yr egwyddor o gyllido cyfres o gymalau, ac yn cytuno i ymgysylltu â’r awdurdodau lleol yn ystod cyfarfod nesaf Bwrdd y Rhaglen Weinidogol Genedlaethol ynglŷn â neilltuo cyfran benodol o’r Grant Rheoli Gwastraff Cynaliadwy.

Darparu Cymorth Refeniw Trawsnewid Trefi ar gyfer canol trefi

12 Medi 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo’r cyllid refeniw Trawsnewid Trefi i ddarparu Cynlluniau Creu Lleoedd yn 2022 a 2023 i gefnogi Awdurdodau Lleol ledled Cymru. Cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd hefyd i gynyddu’r gyfradd ymyrraeth uchaf sydd ar gael at y diben hwn a chytunodd i sicrhau bod cyngor arbenigol ar gael i Awdurdodau Lleol wrth gyflwyno agenda’r Cynllun Creu Lleoedd.

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru – Canolfan Myfyrwyr Gofal Iechyd Cymru

8 Medi 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i gaffael a gweithredu meddalwedd newydd i ddarparu Canolfan Myfyrwyr Gofal Iechyd Cymru.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16

8 Medi 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Cyllid llenwi bwlch ar gyfer Rhaglen Gwybodeg Canser

8 Medi 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar refeniw gwerth £2.93 miliwn o Gronfa Buddsoddi Blaenoriaethau Digidol Llywodraeth Cymru i Iechyd a Gofal Digidol Cymru dros dwy flwyddyn ariannol (2022 i 2023 a 2023 i 2024) ar gyfer y Rhaglen Gwybodeg Canser.

Ymgynghoriad ar Ardoll Ymwelwyr

8 Medi 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar fersiwn derfynol y ddogfen ymgynghori ar yr ardoll ymwelwyr.

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol - Tai

8 Medi 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid grant o hyd at £70,000 i Tai Pawb er mwyn helpu i weithredu’r Nodau a’r Camau Gweithredu o fewn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Mesur Diogelu Masnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol ar gyfer Rheolaethau Clwy Affricanaidd y Moch 

8 Medi 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i weithredu mesur diogelu i gyfyngu ar gynhyrchion moch o wledydd yr UE ac EFTA (Y Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd) sydd wedi’u heintio neu y tybir bod ganddynt risg o fod â haint Clwy Affricanaidd y Moch.

Y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Ceisiadau Amrywiad – Awst 2022

8 Medi 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo argymhellion a waned gan y Panel Buddsoddi mewn Addysg ym mis Awst; gan gytuno ar amrywiadau i’r Rhaglen Partner Cyflenwi canlynol a’r Amlenni Prosiect ar gyfer Ysgol Gynradd Maendy yn Nhorfaen, Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen yn Rhondda Cynon Taf, Coleg Sir Benfro, Bro Morgannwg, Merthyr, ysgol Charles Williams yng Nghasnewydd ac ysgol St Alban yn Nhorfaen.

Grant cyfalaf prydau ysgol am ddim

8 Medi 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo dyrannu cyllid cyfalaf i Awdurdodau Lleol yn 2022 i 2023 i gefnogi’r gwaith o gyflwyno Prydau Ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd.

Cyllid ar gyfer gwelliannau cyfalaf ar draws GIG Cymru

8 Medi 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar gyllid ar gyfer gwelliannau cyfalaf ar draws GIG Cymru.

Y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Achosion Busnes ar gyfer mis Awst 2022 

8 Medi 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo argymhellion a wnaed gan y Panel Buddsoddi mewn Addysg ym mis Awst o Achosion Busnes Partneriaid Cyflawni ar gyfer Bro Morgannwg, Coleg Catholig St David, Caerdydd, Rhondda Cynon Taf a Merthyr.

Data Blynyddol ar gyfer Crynodiadau Nitrogen Deuocsid

8 Medi 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi’r Data Blynyddol ar gyfer Crynodiadau Nitrogen Deuocsid (NO2) ar gyfer Traffyrdd a Chefnffyrdd ar gyfer 2020 a 2021. 

Cynllun Gofal Sylfaenol – Gwasanaethau wedi’u Contractio: Imiwneiddio

8 Medi 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i newidiadau i’r Cynllun Gofal Sylfaenol – Gwasanaethau wedi’u Contractio: Imiwneiddio.

Protocol Cenedlaethol ar gyfer brechlyn Spikevax® Bivalent COVID-19 Gwreiddiol/Omicron (Moderna)

7 Medi 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ehangu’r ystod o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gallu rhoi’r brechlyn COVID-19 Moderna newydd. 

Ailgyflenwi remdesivir ar gyfer triniaeth cleifion â COVID-19 mewn ysbytai

6 Medi 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i barhau i gymryd rhan mewn proses ledled y DU i gaffael remdesivir ar gyfer triniaeth cleifion â COVID-19 mewn ysbytai.

Ymgynghoriad ar gynhyrchion bwyd anifeiliaid sy’n atal methan mewn da byw

5 Medi 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cymeradwyo ymgynghoriad ledled y DU ar gynhyrchion bwyd anifeiliaid sy’n atal methan mewn da byw.

Dyraniad newydd o gyllid Benthyciadau Trawsnewid Trefi

5 Medi 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i wahodd ceisiadau am £5 miliwn arall o gyllid Benthyciadau Trawsnewid Trefi yn 2022 i 2023. 

Adolygiad cyfleustodau mewn safleoedd strategol

5 Medi 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i adolygiad cyfleustodau ar draws nifer o safleoedd strategol.

Prosiectau grant trochi hwyr yn y Gymraeg

5 Medi 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ariannu £6,589,323 dros 3 blynedd ariannol gydag arian wrth gefn o £10,677 (dros y cyfnod o 3 blynedd) i brosiectau arfaethedig awdurdodau lleol i gefnogi darpariaeth trochi hwyr cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion a chanolfannau.

Contract TrawsCymru

1 Medi 2022

Mae'n rhaid i'r Gweinidog Newid Hinsawdd ddechrau ymarfer caffael ar gyfer contract newydd i’r gwasanaeth T1 TrawsCymru o Aberystwyth i Gaerfyrddin o fis Ionawr 2023.

Grant Cymorth Tai

1 Medi 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gynnal digwyddiadau ymgysylltu rhithiol ddechrau’r hydref 2022 er mwyn llywio'r Fframwaith Canlyniadau Grant Cymorth Tai terfynol.

Penodi i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys

1 Medi 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Jennifer Owen Adams yn Aelod Annibynnol (Trydydd Sector) i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys o 30/08/22 tan 29/08/26.

Parc Bryn Cegin

1 Medi 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo'r gwariant sy'n ofynnol er mwyn llywio telerau ar gyfer Menter ar y Cyd â Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar gyfer Unedau Busnes Newydd ym Mharc Bryn Cegin, Bangor.

Gwerthu tir

1 Medi 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar werthiant tir sydd wrth ymyl 109 Fidlas Rd, Llanisien, Caerdydd gan Trafnidiaeth Cymru.

Cymunedau sydd o blaid pobl hŷn

1 Medi 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid o £1.1 miliwn i gyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ‘Ariannu swydd bwrpasol ym mhob awdurdod lleol i hyrwyddo gwaith i wneud Cymru yn genedl sydd o blaid pobl hŷn’.

Grantiau addysg

31 Awst 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cynlluniau Grant Cynhaliaeth Addysg a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023.

Cymraeg ar gyfer ymarferwyr gofal plant

31 Awst 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, er mwyn datblygu cyrsiau Cymraeg newydd i ymarferwyr gofal plant yng Nghymru.

Cyngor ar gymhorthdal arbenigol

30 Awst 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo gwariant am adroddiad ar gymhorthdal arbenigol mewn perthynas â phrosiect sy'n gysylltiedig â rheilffyrdd yn Ne Cymru.

Sêr Cymru

26 Awst 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar ymgynghoriad cyhoeddus 8 wythnos er mwyn llywio cam nesaf rhaglen ariannu ymchwil Sêr Cymru.

Hyfforddi Cefnogwyr Pêl-droed

26 Awst 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles wedi cytuno i ddyrannu £521,200 i Gymdeithas Bêl-droed Cymru i ddarparu'r rhaglen 'Hyfforddi Cefnogwyr Pêl-droed' rhwng 2022 a 2024.

Doc Sych Bute

26 Awst 2022

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno i waith arolygu pellach ar Ddoc Sych Biwt.

Bro Tathan

26 Awst 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar nifer o weithgareddau i gefnogi datblygu economaidd ym Mro Tathan.

Cyllid i helpu dysgwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

25 Awst 2022

Mae’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg wedi cytuno ar y dyraniad cyfalaf i awdurdodau lleol i helpu dysgwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Penodiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

25 Awst 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Fon Roberts fel aelod cysylltiol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Ôl-daliadau ar gyfer Arolygon Adeiladau Diogelwch rhag Tân

25 Awst 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gynnig ôl-daliadau i lesddeiliaid sydd wedi talu am gynnal arolygon perygl tân.

Darpariaeth addysg bellach arbenigol

25 Awst 2022

Mae’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl 16 oed mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol

Cyngor Celfyddydau Cymru – Estyn cyfnod ymddiriedolwr am flwyddyn

25 Awst 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip wedi cytuno i estyn cyfnod Kate Eden fel aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru tan 30 Ebrill 2024.

Focus on Forestry First

25 Awst 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i estyn y cynllun Focus on Forestry First tan ddiwedd mis Mawrth 2023.

Penodiadau Cyhoeddus Aelodau Bwrdd Career Choices Dewis Gyrfa

25 Awst 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar y cynllun a’r broses penodiadau cyhoeddus ar gyfer penodi tri Aelod newydd o Fwrdd Cyfarwyddwyr Career Choices Dewis Gyrfa Limited sy’n masnachu o dan yr enw Gyrfa Cymru.

Aelodau Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru

23 Awst 2022

Y Gweinidog Newid Hinsawdd yn cytuno i’r estyniad o chwe mis i delerau Karen Balmer, Zoë Henderson, yr Athro Calvin Jones, a Mark McKenna, fel aelodau o Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru. 
 

Ailbenodiad i’r Bwrdd Teithio Llesol

22 Awst 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ail-benodi Dafydd Trystan Davies yn Gadeirydd y Bwrdd Teithio Llesol.

Tir ar gyfer plannu coed

22 Awst 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cais Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer cael cydsyniad i gaffael 260 hectar o dir ar gyfer tir plannu coed yn lle’r rhai a gollwyd.

Ailbenodi Aelod Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

22 Awst 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Reena Owen yn Aelod Annibynnol (Cymuned) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe am 4 blynedd, o 10 Awst 2022 tan 09 Awst 2026.

Cynllun grant Cartrefi Gwag

22 Awst 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddyrannu £60m yn 2022 i 2023 a 2024 i 2025 ar gyfer y Cynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol.

Datblygu Rhaglen Iechyd a Llesiant newydd ar gyfer ysgolion

18 Awst 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddatblygu Rhaglen Iechyd a Llesiant newydd ar gyfer ysgolion i blant oedran ysgol a fydd yn cyd-fynd â Rhaglen bresennol Plant Iach Cymru. 

Cyhoeddi Adroddiad Cyflwr yr Ystad 2020 hyd 2021

18 Awst 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gyhoeddi Adroddiad Cyflwr yr Ystad 2020 hyd 2021. 

Penodi Bwrdd Cynghori Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau

18 Awst 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i benodi Mr Stephen Thornton i Fwrdd Cynghori Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau. 

Rheoliadau Adeiladu

18 Awst 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo ymateb y Llywodraeth mewn perthynas ag ymgynghoriad Cam 2B ar newidiadau i Ran L (arbed tanwydd ac ynni) a F (awyru) y Rheoliadau Adeiladu ar gyfer adeiladau annomestig newydd a phresennol. 

Penodi Aelod Annibynnol (Prifysgol) i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys

17 Awst 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Simon Wright yn Aelod Annibynnol (Prifysgol) o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys o 08/08/22 tan 07/08/26.  

Darpariaeth addysg bellach arbenigol

16 Awst 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu

15 Awst 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar yr ymgyrch recriwtio i benodi aelodau newydd i Bwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu.

Cynhyrchu organig

12 Awst 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i sefydlu Grŵp Arbenigol y DU ar Gynhyrchu Organig.

Expo Byd-eang Bwyd Môr 2023

12 Awst 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i roi cymorth ariannol ar gyfer presenoldeb Cymreig yn Expo Byd-eang Bwyd Môr 2023.

Uned cynhyrchu meddyginiaethau di-haint

12 Awst 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i dalu costau gweithlu uned cynhyrchu meddyginiaethau di-haint Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru o 2023 i 2024.

Myfyrwyr fferylliaeth

12 Awst 2022

Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar raglen weithredu Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar gyfer lleoliadau clinigol i israddedigion ar gyfer myfyrwyr fferylliaeth yng Nghymru.

Y Comisiwn Cymunedau Cymraeg

12 Awst 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar aelodaeth a thelerau ac amodau’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg.

Penodiad i Iechyd a Gofal Digidol Cymru

8 Awst 2022

Mae Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Alistair Neill yn Aelod Annibynnol o Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar gyfer 4 blynedd, o 8 Awst 2022 i 7 Awst 2026.

Y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio

8 Awst 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y bydd dull newydd ar gyfer ariannu’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn seiliedig ar fformiwla yn hytrach na phroses gynnig gystadleuol; mae wedi cytuno ar y dyraniadau cyllid ar gyfer awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar gyfer 2022 i 2024; ac mae wedi cytuno i ddarparu ffigurau dangosol ar gyfer 2023 i 2024 a 2024 i 2025.

Gwasanaethau digidol ar gyfer cleifion

8 Awst 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer y Rhaglen Gwasanaethau Digidol i Gleifion a'r Cyhoedd a datblygu Ap GIG Cymru.

Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol

8 Awst 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol ar gyfer: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Ceredigion, Ynys Môn, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Bro Morgannwg.

Cynllun Cartrefi i Wcráin

8 Awst 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar daliadau 'Diolch' i'r rhai sy'n rhoi cynnig cymorth trwy'r cynllun 'Cartrefi i Wcráin', o fewn trefniadau codi tal gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru.

Fflecsi Casnewydd

8 Awst 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar estyniad i'r contract tymor penodol gyda Newport Transport Ltd i ddarparu gwasanaeth bws sy'n ymateb i'r galw gan Fflecsi Casnewydd hyd at 31 Awst 2022, ar gost o hyd at £567,000 mewn cymorth refeniw; ac ar ôl i Fflecsi Casnewydd dynnu nôl - Trafnidiaeth Cymru, bydd yr awdurdodau lleol a Newport Transport Ltd yn nodi a gweithredu pecyn o wasanaethau bws amgen sy'n darparu ar gyfer llifau allweddol o deithwyr fel y penderfynwyd drwy dreial cychwynnol Fflecsi.

Lloches frys

8 Awst 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddrafftio canllawiau diwygiedig ar gyfer awdurdodau lleol ar ddarparu lloches frys i'r rhai nad oes ganddynt yr hawl i gael arian cyhoeddus, ac i ychwanegu at y £9.6 miliwn a ddyrannwyd yn flaenorol i awdurdodau lleol ar gyfer llety dros dro yn 2022 i 2023.

Rhwydwaith Safleoedd Sentinel

4 Awst 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i dalu costau adeiladu, argraffu a gweithredu byrddau dehongli ar Safleoedd Sentinel ledled Cymru.

Penodiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

4 Awst 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi’r Athro Chantel Patel yn Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Bydd ei phenodiad am 4 blynedd, o 02 Awst 2022 hyd 01 Awst 2026.

Cronfa Cyfalaf Cerddoriaeth

4 Awst 2022

Mae Gweinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo’r Gronfa Cyfalaf Cerddoriaeth ar gyfer 2021 hyd 2022.

Seilwaith Digidol

4 Awst 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno na ddylai unrhyw waith pellach gael ei wneud ynghylch effaith cynllun rhyddhad ardrethi annomestig ar ffeibr ac o’r herwydd ni fydd cynllun rhyddhad yn cael ei gyflwyno.

Adolygiad o Gymwysterau Galwedigaethol

3 Awst 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer staffio a chostau eraill sy'n gysylltiedig â gweithredu'r Adolygiad o Gymwysterau Galwedigaethol.

Ailbenodiadau'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr

3 Awst 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ailbenodi Charlotte Moar a Stephen Tetlow yn Gyfarwyddwyr Anweithredol i Fwrdd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.

Mewnforio anifeiliaid anwes yn fasnachol

1 Awst 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi: rhoi caniatâd i Brif Swyddog Milfeddygol neu Ddirprwy Brif Swyddog Milfeddygol Cymru lofnodi Datganiad yn amlinellu’r mesurau arbennig sydd eu hangen er mwyn atal ymhellach dros dro yr arfer o fewnforio cŵn, cathod a ffuredau yn fasnachol o Wcráin, Belarws, Gwlad Pŵyl a Rwmania; ac mae wedi cytuno ar y Datganiad ar wefan gov.uk, ochr yn ochr â datganiadau cyfatebol Lloegr a’r Alban.

Prosiect Cynradd Glyncoed – Ebbw Fawr

1 Awst 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol ar gyfer ‘Prosiect Cynradd Glyncoed’ –  Ebbw Fawr.

Caniatâd ar gyfer meddyginiaethau

1 Awst 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno y bydd argymhellion, ar feddyginiaethau nad ydynt yn ddarostyngedig i’r asesiad Technoleg Iechyd a wneir gan broses Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru gyfan, yn gorfod cael eu cadarnhau gan Weinidogion Cymru cyn cael eu defnyddio gan y GIG yng Nghymru.

Cymorth i gynlluniau rhoi’r gorau i smygu a rheoli pwysau.

1 Awst 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i roi £4.157 miliwn o gyllid Atal a Blynyddoedd Cynnar i gefnogi cynlluniau byrddau iechyd lleol ar gyfer annog pobl i roi’r gorau i smygu a rheoli pwysau.

Arolwg Masnach

29 Gorffennaf 2022

Mae’r Gweinidog wedi cytuno i ariannu Arolwg Masnach blynyddol i Gymru am hyd at dair blynedd arall er mwyn mesur a gwella  ein dealltwriaeth o lifoedd masnach i mewn ac allan o fusnesau sydd wedi eu lleoli yng Nghymru.

Awdurdodau Tân ac Achub

29 Gorffennaf 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i roi cyllid ar gyfer nifer o brosiectau’r tri Awdurdod Tân ac Achub yn 2022 i 2023, sef cyfanswm o £370,338 a dyraniad ychwanegol o £75,000 ar gyfer cyngor ar bensiynau diffoddwyr tân o Adran Actiwari’r Llywodraeth.

Prydau ysgol am ddim

29 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar sut y dylid cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, ac amseriad hynny, o fis medi 2022, gan gynnwys trefniadau cyllido refeniw.

Prydau ysgol am ddim

29 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar y polisi arfaethedig ar gyfer prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, a sut y bydd hynny’n cael ei weithredu.

Asesu a thrin COVID-19

29 Gorffennaf 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i barhau â’r canllawiau ar gyfer llwybr asesu a thrin COVID-19 cenedlaethol ar gyfer 2022 i 2023.

Ymestyn darpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

29 Gorffennaf 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi ymgynghoriad ar wneud rhagor o gyrff cyhoeddus yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd llesiant (Rhan 2) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Cofrestr Mabwysiadu i Gymru

29 Gorffennaf 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i roi cyllid i Gyngor Dinas Caerdydd (fel y sawl sy’n lletya’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol) ar gyfer caffael contract pedair blynedd (1 Hydref 2022 - 30 Medi 2026) ar gyfer y Gofrestr Mabwysiadu i Gymru.

Ysgol Pen y Dre

29 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno’r Achos Busnes Llawn ar gyfer adnewyddu Ysgol Pen y Dre, Merthyr Tudful.

Cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16

28 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Penodiad i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

28 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Nick Elliott yn Gyfarwyddwr Anweithredol Digidol a Data i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae ei benodiad yn dechrau ar 01/09/2022 tan 31/08/2026.

Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu

28 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer materion lleferydd, iaith a chyfathrebu i fyrddau iechyd a chanolfannau arbenigol yng Nghymru.

Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu

28 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddatblygu dull pwrpasol ar gyfer nodi anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, 2022 i 2025.

Diogelwch Adeiladu

28 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i swyddogion ddatblygu opsiynau sy'n mynd i'r afael â’r mater o ddatblygwyr nad ydynt yn barod i ymrwymo'n gyhoeddus i gyweirio eu hadeiladau yng Nghymru ar eu cost eu hunain.

Ehangu Gwasanaethau Cynghori’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

27 Gorffennaf 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i ehangu cyllid ar gyfer Newfields Law i barhau i ddarparu Gwasanaethau Cynghori’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE tan fis Mawrth 2023.

Bwndeli Babi

27 Gorffennaf 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gynnal ymchwil gwmpasu gyda darpar rieni a rhieni newydd, a chynrychiolwyr y gweithlu i lywio’r gwaith o gyflwyno bwndeli babi ymhellach ar draws Cymru.

Bwndeli Babi

27 Gorffennaf 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar weledigaeth a diben i raglen Bwndeli Bai Cymru.

Cyllid ar gyfer Prosiect Digartrefedd Tai Ffres

27 Gorffennaf 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid benthyciadau Cyfalaf Trafodiadau Ariannol gwerth £10 miliwn ar gyfer gwasanaeth tai ieuenctid Tai Ffres a galluogi fflatiau stiwdio i gael eu datblygu o fewn y cynllun Tai Ffres.

Cyllid i gefnogi Prosiectau Adnewyddu a Diwygio COVID-19

27 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo defnyddio cyllid i gefnogi Prosiectau Adnewyddu a Diwygio COVID-19.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

27 Gorffennaf 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i beidio ag ailbenodi un Aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am dymor arall, ac wedi cytuno i ddod â chyfnod penodiad aelod arall i ben.

Ardoll Ymwelwyr

27 Gorffennaf 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar y geiriad arfaethedig ar gyfer y cwestiwn ymgynghoriad ar ardoll ymwelwyr ar gwmpas gweithgarwch trethadwy.

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth y DU ac India

27 Gorffenaf 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y DU ac India lle bydd y ddwy wlad yn cydnabod cymwysterau addysg uwch ei gilydd.

Bara a Blawd

27 Gorffennaf 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad rhwng y pedair gwlad ar gynigion yn ymwneud â safonau cyfansoddiad ar gyfer blawd a rheoleiddio blawd a chynhyrchion blawd. Mae’r Dirprwy Weinidog wedi cytuno i ddirymu Rheoliadau Bara a Blawd 1998 a rhoi deddfwriaeth ddomestig wedi’i chydgrynhoi yn eu lle, yn dilyn yr ymgynghoriad.

Cronfa Ariannol wrth gefn

27 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i wneud newidiadau i’r cynlluniau cronfeydd ariannol wrth gefn ar gyfer 2022 i 2023 a dyraniadau cymeradwy o’r gronfa ariannol wrth gefn..

Cwmni Adnoddau Addysg - Erthyglau Cymdeithasu a Gweledigaeth

25 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar yr erthyglau cymdeithasu a'r weledigaeth lefel uchel ar gyfer y cwmni adnoddau addysg dwyieithog.

Cwmni Adnoddau Addysg Dwyieithog – Penodiad cyhoeddus y Cadeirydd ac Aelodau o’r Bwrdd 

25 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo'r cynllun penodi ar gyfer Cadeirydd ac Aelodau Bwrdd y Cwmni Adnoddau Addysg Dwyieithog.

Adfer Tyrau Offer Weindio Rhestredig Gradd II yng Nglofa Cefn Coed, Blaenant

25 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid ychwanegol i gwblhau'r gwaith o adfer y Tyrau Offer Weindio Rhestredig Gradd ll* yn Amgueddfa Lofaol Cefn Coed.

Cynllun marchnata a chyfathrebu Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes 2022 i 2023

25 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid ar gyfer gweithgareddau marchnata i gefnogi ymrwymiadau allweddol y Rhaglen Lywodraethu ar gyfer 2022 i 2023.

Argymhellion ar gyfer ariannu cynlluniau bysiau a metro awdurdodau lleol 

25 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddyrannu cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer seilwaith bysiau lleol a Chynlluniau Metro ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) 2022 - Ymgynghoriad

25 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru 2022 – Drafft Ymgynghori ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16 

25 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol. 

Gwerthusiad o'r Grant Urddas Mislif

25 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar y gyllideb ar gyfer y gwerthusiad a gomisiynwyd o Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru.

Triniaeth Deg i Fenywod Cymru - Cynnig Ariannu

25 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar y dyraniadau cyllid ar gyfer Triniaeth Deg i Fenywod Cymru i gefnogi camau i gyflawni amcanion Rhaglen Lywodraethu ac amcanion polisi Llywodraeth Cymru i ddathlu amrywiaeth a dileu anghydraddoldeb o bob math ym mlwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a Chydweithredu 

25 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a Chydweithredu ar gyfer Ymchwil, Arloesi a Sgiliau rhwng Llywodraeth Cymru a'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Trefniadau Ariannu ar gyfer lleoliadau anghenion dysgu ychwanegol Ôl-16 Arbenigol 

25 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar Drefniadau Ariannu ar gyfer lleoliadau anghenion dysgu ychwanegol Ôl-16 Arbenigol o fis Medi 2023.

Datganiad ysgrifenedig yn amlinellu'r cynnydd a wnaed hyd yma ar yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol

25 Gorffennaf 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip, wedi cytuno i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn amlinellu'r cynnydd a wnaed hyd yma ar yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol, ac i roi gwahoddiad i reolwyr ystadau'r sector cyhoeddus nodi lleoliadau a/neu safleoedd posibl ar gyfer Angorfa fel rhan o'r datblygiad ehangach.

Cymorth Grant y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau 2022 i 2023

25 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid grant ar gyfer y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau yng Nghymru yn 2022 i 2023.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16 

25 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol. 

Cymeradwyaeth o dan Gam 2 y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro

21 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo'r ceisiadau ar gyfer y 396 o gartrefi a gyflwynwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol o dan Gam 2 "Datganiadau o Ddiddordeb", ar gost o hyd at £40.612miliwn ar gyfer 16 o Landlordiaid Cymdeithasol ar draws 14 ardal Awdurdod Lleol.

Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol 

21 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i osod Adroddiad Blynyddol Deddf Datblygu Diwydiannol 1982 ar gyfer blwyddyn ariannol 2021 i 2022 gerbron Senedd Cymru.

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi a Llywodraeth Cymru 2022 i 2025

21 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth diwygiedig rhwng Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi sy'n cwmpasu ariannu a darparu’r darpariaeth dysgu a sgiliau i droseddwyr rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2025.  

Newidiadau i ddarpariaeth y Cynllun Llaeth Meithrin yng Nghymru

21 Gorffennaf 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG ddarparu'r Cynllun Llaeth Meithrin yng Nghymru am flwyddyn gydag opsiwn i'w ymestyn am flwyddyn arall.

Cynnig ar gyfer prosiect o dan y Gronfa Tai â Gofal 

21 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyllid o £0.068m o’r Gronfa Tai â Gofal ar gyfer prosiect yng Ngorllewin Morgannwg.

Mapio systemau ar gyfer deall y ffactorau sy'n sbarduno newid dietegol

21 Gorffennaf 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i gomisiynu manyleb i benodi contractiwr i adolygu beth yw'r ffactorau sy'n sbarduno dewisiadau dietegol ac wedi cytuno ar gyllideb o £50,000 dros ddwy flynedd ar gyfer ymgymryd â'r gweithgaredd hwn.

Adolygu Bwrdd Rheoleiddio Cymru

20 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddiddymu Bwrdd Rheoleiddio presennol Cymru a chomisiynu rhaglen waith i wneud argymhellion ar rôl, diben a threfniadau llywodraethu corff cynghori newydd.

Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar y Model Buddsoddi Cydfuddiannol

20 Gorffennaf 2022

Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar y Model Buddsoddi Cydfuddiannol a chyhoeddi contractau cysylltiedig wedi'u golygu.

Gwell Seilwaith Di-wifr Digidol

20 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ariannu gwell seilwaith di-wifr digidol ym Mwrdeistref Sirol Conwy.

Meithrin gallu i ddarparu ar gyfer canolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig

20 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i feithrin gallu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i ddarparu canolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig.

Penodi Aelod Annibynnol i Iechyd a Gofal Digidol Cymru

20 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi Marilyn Bryan-Jones yn Aelod Annibynnol i Iechyd a Gofal Digidol Cymru am bedair blynedd o 14 Gorffennaf 2022.

Dyraniadau Grant Terfynol y Polisi Tai 2022 i 2023

20 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i'r dyraniadau cyllid terfynol ar gyfer y Rhaglen Grant Polisi Tai ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2022 i 2023. Mae'r Gweinidog eisoes wedi cytuno ar ddyraniadau dangosol cyn cadarnhau Cyllideb Derfynol 2022 i 2025 ar 1 Mawrth.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ofgem 2021 i 2022

20 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i osod Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ofgem 2021 i 2022 yn y Senedd.

Ail gartrefi a’r dreth trafodiadau tir

20 Gorffennaf 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar ail gartrefi a’r dreth trafodiadau tir.

Cynllun Gweithredol Dewis Gyrfa 2022 i 2023

20 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo Cynllun Gweithredol blynyddol Dewis Gyrfa ar gyfer 2022 i 2023.

Diweddariad i'r rhestr o Swyddogion Arolygiaethau Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Anfrodorol Prydain Fawr sydd wedi'u hawdurdodi i gymryd camau gorfodi yng Nghymru

20 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i lythyr awdurdodi newydd gael ei gyhoeddi yn diweddaru'r rhestr o swyddogion Arolygiaeth Rhywogaethau Anfrodorol a awdurdodwyd yng Nghymru at ddibenion gorfodi Gorchymyn Rhywogaethau Goresgynnol Estron (Gorfodi a Chaniatáu) 2019. 

Ymarfer cytundebol yn sector moch y DU 

20 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, wedi cytuno i Lywodraeth y DU lansio'r ymgynghoriad ledled y DU ar drefniadau cytundebol yn sector moch y DU.

Adolygiad o Gwlân Prydain ac Opsiynau Fframwaith Rheoleiddio yn y Dyfodol

20 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, wedi cytuno i edrych ymhellach ar ddirymu Gorchymyn 1950 a newid Gwlân Prydain i fod yn Gymdeithas Gydweithredol a arweinir gan Ffermwyr. Mae hefyd wedi cymeradwyo cynnal dadansoddiad pellach i asesu risgiau, materion llywodraethu a chostau sy'n gysylltiedig â throsglwyddo i'r strwythur cydweithredol, gan gynnwys canlyniadau a mesurau diogelu i ffermwyr Cymru i'w helpu i ystyried ymhellach cyn i unrhyw benderfyniadau cadarn gael eu gwneud.

Penodi Cynghorwyr Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

20 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Johanna Robinson ac ailbenodi Yasmin Khan fel Cynghorwyr Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Cytundeb benthyciad Cwm Llynfi

20 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gynyddu'r elfen nad yw'n ad-daladwy o gytundeb benthyca presennol Cwm Llynfi gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a ddyfarnwyd i'r awdurdod gyflwyno safleoedd tir llwyd anodd eu datblygu ar gyfer darparu tai. Mae hyn yn adlewyrchu'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r gwaith dichonoldeb a'r gwaith ymchwilio safle ymwthiol mewn perthynas â safle Washery West ym Maesteg. 

Cyllideb cyfathrebu a marchnata Addysg 2022 i 2023 

20 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllideb cyfathrebu a marchnata Addysg 2022 i 2023.

Ymateb i adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith (CCEI) ar ynni adnewyddadwy

18 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi ymateb i ddau ar bymtheg o argymhellion Pwyllgor CCEI sydd wedi'u cynnwys yn eu hadroddiad cyhoeddedig ar 'Ynni adnewyddadwy yng Nghymru'.

Women Connect First - Cynnig Ariannu Swyddog Polisi

18 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar y dyraniadau cyllid ar gyfer Women Connect First i gefnogi camau gweithredu i gyflawni Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ac amcanion polisi i ddathlu amrywiaeth a symud i ddileu anghydraddoldeb yn ei holl ffurfiau ym mlwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Y Dreth Gyngor Decach

18 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gyhoeddi ymgynghoriad ar gynigion i ddiwygio'r dreth gyngor yng Nghymru.

Cytundeb WUS14 mewn egwyddor

18 Gorffennaf 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Lles wedi cytuno mewn egwyddor i'r diwygiadau arfaethedig i gyfraith yr UE a ddargedwir sy'n ymwneud â hylendid a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid ac wedi cytuno i'r ymgynghoriadau sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru.

Penodiadau i'r Tribiwnlys Amrywogaethau Planhigion a Hadau

18 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog dros Newid Yn yr Hinsawdd wedi cytuno i benodi aelodau'r panel i'r Tribiwnlys Amrywogaethau a Hadau Planhigion - gan gynnwys y rhai sydd â gwybodaeth gyffredinol arbenigol ac eang ym maes amaethyddiaeth, garddwriaeth neu goedwigaeth – ac i ganiatáu i'r Cadeirydd ddewis arbenigwyr penodol o'r grwpiau o aelodau'r panel ar gyfer pob apêl,  drwy gydol y cyfnod penodi o 5 mlynedd.  Membership - Plant Varieties and Seeds Tribunal - GOV.UK (www.gov.uk).

Cyflenwi'r Swyddfa Gyflogaeth o fis Awst 2022

18 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog yr Economi, y Gweinidog dros Addysg a'r Gymraeg a'r Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i drosglwyddiad o gyllideb yr Economi i gyllideb Addysg a'r Gymraeg ym mlwyddyn ariannol 2022 i 2023 ar gyfer Cyflenwi'r Swyddfa Gyflogaeth o fis Awst 2022.

Penodiadau i Fwrdd Cadw

18 Gorffennaf 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a'r Prif Chwip wedi cytuno i ailbenodi Jane Richardson fel Cadeirydd, a Dr Peter Wakelin a Liz Girling fel aelodau anweithredol o Fwrdd Cadw am dair blynedd, a recriwtio hyd at dri aelod newydd o Fwrdd Cadw.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2022

18 Gorffennaf 2022

Cytunodd y Gweinidog dros Addysg a'r Gymraeg i osod yr Adroddiad Blynyddol gerbron y Senedd.

Byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd

18 Gorffennaf 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo’r Cynlluniau Tymor Canolig Integredig ar gyfer: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan; Bwrdd Iechyd Addysgu Powys; Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru; Ymddiriedolaeth GIG Felindre; ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. 

Ailbenodi Cadeirydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

18 Gorffennaf 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ailbenodi Mark Polin yn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am 4 mlynedd, o 1 Medi 2022 tan 31 Awst 2026.

Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd

18 Gorffennaf 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo’r Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd a gafodd eu cyflwyno gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Ailbenodi i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru

18 Gorffennaf 2022

Cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i  ailbenodi'r Athro Steve Ormerod yn aelod o Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru pan ddaw ei dymor cyntaf ei ddeiliadaeth i ben.

Diwygiad i Gyllideb Refeniw Cynllun Lesio Cymru

18 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y gellir defnyddio rhywfaint o'r gyllideb refeniw sydd wedi'i dyrannu i Gynllun Lesio Cymru i dalu am gostau eiddo gwag wrth i waith gael ei wneud gan yr awdurdod lleol fel y gall eiddo ymuno â’r cynllun, ac i awdurdodau lleol hawlio ffi reoli o 10% gan Lywodraeth Cymru, yn hytrach na chymryd hyn o'r incwm rhent. Byddai hyn yn rhoi incwm rhent llawn i berchennog yr eiddo ar gyfradd cymdeithasau tai lleol, heb beryglu costau rhentu i denantiaid.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 

18 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar raglen gymorth i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i fynd i'r afael â chanfyddiadau adroddiad gan Archwilio Cymru.

Cyllideb Atodol Gyntaf

18 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar Brif Gyllideb Atodol Gyntaf y Grŵp Gwariant Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2022 i 2023.

Ffioedd cyngor proffesiynol

18 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo gwariant ar Wasanaethau Cynghori Proffesiynol mewn perthynas â phrosiect sy'n gysylltiedig â bysiau yn Ne Cymru.

Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol

18 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gynnwys cais a wnaed gan Awdurdod Lleol Caerdydd, sy'n ceisio cyllid i brynu 26 eiddo a datblygu 210 o gartrefi modiwlar ar safle tir llwyd, i'r Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol, gyda chost ariannu ddangosol o £12.575 miliwn.

Cyngor Economaidd

18 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar wariant i gontractio cynghorwyr economaidd allanol i gynnal adolygiad busnes.

Cyllid ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

18 Gorffennaf 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ychwanegu £24.4 miliwn at ddyraniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Cadwch Gymru'n Daclus - Plannu coed mewn ysgolion

12 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i Cadwch Gymru'n Daclus yn darparu cynllun i blannu 60 – 120 o goed mewn 100 o eco-ysgolion ledled Cymru, a byddant yn gwneud hynny mewn partneriaeth â Maint Cymru a Coed Cadw.

Cyllideb Rhaglen y Grant Tai Cymdeithasol ar gyfer 2022 i 2023

12 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar y dyraniad i Awdurdodau Lleol o gyllideb y Grant Tai Cymdeithasol ar gyfer 2022 i 2023 a'r gyllideb Cymorth Prynu ar gyfer yr ardal beilot ail gartrefi ar gyfer 2022 i 2023.

Cytundeb Diogelwch Adeiladau Llywodraeth Cymru

12 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gynnig cytundeb i ddatblygwyr ynghylch mynd i'r afael â phroblemau diogelwch tân a allai beryglu bywydau sy'n deillio o ddiffygion dylunio, adeiladu neu adnewyddu ar adeiladau yr oeddent wedi chwarae rhan ynddynt wrth eu datblygu neu eu hadnewyddu, a chytunodd i ymestyn y cynnig y tu hwnt i'r 47 o ddatblygwyr sydd wedi ymrwymo i addewid Llywodraeth y DU i gynnwys datblygwyr eraill sy'n gweithredu yng Nghymru.

Cymorth ardrethi annomestig (busnes) ar gyfer ynni dŵr: 2022 tan 2023

12 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddarparu cymorth ardrethi annomestig (busnes) ar gyfer prosiectau ynni dŵr sy'n eiddo i'r gymuned yn 2022 tan 2023. Bydd yr un meini prawf yn berthnasol ag a ddefnyddiwyd yn 2021 tan 2022.

Strategaeth Gwres i Gymru

12 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gaffael gwasanaethau allanol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu Strategaeth Gwres Cymru, yn unol ag ymrwymiad Cymru Sero Net.

Trefniadau ar gyfer dosbarthu meddyginiaethau gwrthfeirysol COVID-19 yn y gymuned

12 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno bod Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn cynnal ymarfer caffael i benodi dosbarthwr meddyginiaethau gwrthfeirysol i fferyllfeydd cymunedol a meddygon fferyllol.

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain

11 Gorffennaf 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i ymestyn Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain tan fis Mawrth 2024. 

Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro

11 Gorffennaf 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo hyd at £4.138 miliwn ar gyfer sicrhau bod 141 o eiddo gwag yn gallu cael eu defnyddio eto.

Cynlluniau Tai Fforddiadwy

11 Gorffennaf 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i neilltuo hyd at £11 miliwn tuag at ymestyn y cynllun i helpu i dalu’r costau cynyddol a wynebir gan gontractwyr sy’n adeiladu tai cymdeithasol o dan gontractau pris penodedig.

Penodi aelod i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

11 Gorffennaf 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi Colin Dennis am gyfnod o 4 blynedd o 1 Hydref 2022 i 30 Medi 2026.

Labordai Ymchwil Arbenigol Cenedlaethol

11 Gorffennaf 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno y gall yr Asiantaeth Safonau Bwyd ddynodi Labordai Ymchwil Arbenigol Cenedlaethol ar gyfer y meysydd yn ei chylch gwaith. Mae’r Asiantaeth wedi ei dynodi’n awdurdod gymwys at y diben hwnnw. 

Cymorth a chyngor arbenigol ar gyfer terfyn cyflymder 20mya a pharcio ar balmentydd

11 Gorffennaf 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddarparu £25,000 o gyllid i gynghorwyr arbenigol i helpu i gyflawni ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu ar derfyn cyflymder 20mya a pharcio ar balmentydd.

Protocol Cenedlaethol ar gyfer brechlyn ffliw anweithredol a Phrotocol Cenedlaethol ar gyfer chwistrell trwyn brechlyn ffliw byw  wedi'i wanhau

11 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar brotocol cenedlaethol roi caniatâd i'r rheini sy'n weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig nad ydynt fel arfer yn brechu, a phobl nad ydynt yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig, sef y Protocol Cenedlaethol ar gyfer brechlyn ffliw anweithredol (IIV) a’r Protocol Cenedlaethol ar gyfer chwistrell trwyn brechlyn ffliw byw  wedi'i wanhau (LAIV).

Rhaglen weithredu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil

7 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen weithredu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.

Arian grant Trawsnewid Trefi

7 Gorffennaf 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo arian grant Trawsnewid Trefi ar gyfer Awdurdod Lleol Merthyr Tudful i gefnogi cam datblygu Canolfan Treftadaeth Iddewig Cymreig yn yr hen Synagog yng nghanol tref Merthyr. 

Ail gartrefi a chartrefi gwyliau

7 Gorffennaf 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gwblhau deddfwriaeth ddrafft a pholisi cynllunio yn dilyn yr ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth gynllunio a pholisi ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwyliau tymor byr.

Cyllid a chymorth rhwydwaith gwresogi yng Nghymru

7 Gorffennaf 2022
 
Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i optio i mewn i’r Cynllun Effeithlonrwydd Rhwydwaith Gwresogi ac i barhau i ganiatáu i Uned Ddarparu’r Rhwydwaith Gwresogi gefnogi prosiectau rhwydwaith gwresogi yng Nghymru. Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd hefyd wedi cytuno y dylid ystyried ceisiadau am raglen gefnogi bwrpasol a Chymreig ar gyfer rhwydweithiau gwresogi yn y Strategaeth Wresogi a fydd yn cael ei chyhoeddi.

Adolygu Llwybr Arfordirol Cymru – Ymchwil ar Fentrau Cymdeithasol

7 Gorffennaf 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i wariant o hyd at £5,000 ar gyfer ymchwil ar y potensial i hyrwyddo mentrau cymdeithasol ar Lwybr Arfordirol Cymru.

Adolygu Llwybr Arfordirol Cymru – yr Adroddiad Terfynol

7 Gorffennaf 2022

Nododd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yr argymhellion a chytuno ar y trefniadau cyhoeddusrwydd ar gyfer yr Adroddiad ar Adolygu Llwybr Arfordirol Cymru.

Ystyried uchafswm lefelau gwaddod plaladdwr Codex (CXLs) mewn bwyd a phorthiant ar gyfer Prydain Fawr

6 Gorffennaf 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i roi ei chefnogaeth i gasgliadau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ynghylch y lefelau Codex arfaethedig i’w trafod yn y Pwyllgor Codex ar Waddod mewn Plaladdwyr ym mis Gorffennaf 2022.  

Perthynas strategol Busnes yn y Gymuned 

6 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i’r berthynas strategol Busnes yn y Gymuned 2022 i 2024.

Gwella Gwasanaethau Niwroddatblygiadol

6 Gorffennaf 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i barhau i gefnogi gwasanaethau awtistiaeth ac wedi cytuno ar raglen gwella gwasanaethau niwroddatblygiadol newydd. 

Ymestyn y Cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol

6 Gorffennaf 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn y Cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol.

Recriwtio i Ofal Cymdeithasol, Hysbyseb ar y Teledu

6 Gorffennaf 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i roi cyllid o £100,000 ar gyfer ymgyrch hysbysebu 6 wythnos ar y teledu / cyfryngau cymdeithasol gan ddechrau ar 6 Gorffennaf. 

Adolygiad cynhwysfawr o Rywogaethau sy’n Peri Pryder Arbennig 

6 Gorffennaf 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddefnyddio’r senario hinsawdd 2050 i benderfynu ar allu rhywogaeth i sefydlu ym Mhrydain Fawr.

Cymeradwyo Ceisiadau Grantiau Cyfalaf ar gyfer Adeiladau Preswyl Uchder Canolig ac Uchel Iawn 

6 Gorffennaf 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gymeradwyo dyrannu £542,400.00 o gyllid grant cyfalaf am ddau gais prosiect adeiladu Grŵp Tai Arfordirol yn y flwyddyn ariannol bresennol.

Cyllid Lorient 2022

5 Gorffennaf 2022

Mae'r Prif Weinidog a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip yn cytuno i roi cymorth ariannol i Gyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi Artistiaid i fynychu a chynrychioli Cymru yng Ngŵyl Lorient 2022.

Band eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit i ddatblygiadau newydd - diwygiadau i reoliadau adeiladu

5 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i swyddogion ddatblygu cynigion i orfodi darparu band eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit i bob datblygiad adeiladu newydd drwy ddiwygio'r Rheoliadau Adeiladu a'r costau cysylltiedig.

Atgyfeiriad o dan y Cynghorau Iechyd Cymuned

5 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penderfynu ar yr atgyfeiriad o dan Reoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010 ynghylch Meddygfa Pentyrch.

Cronfa Dyfodol yr Economi – Cyllid Cynhyrchu Creadigol

5 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn y De.

Ailbenodi Aelod Annibynnol (Prifysgol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

5 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi'r Athro Nichola Callow am 4 blynedd rhwng 5 Mehefin 2022 a 4 Mehefin 2022. 

Dyraniadau Prentisiaethau

5 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog yr Economi, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar Ddyraniadau Prentisiaethau 2022 i 2023.

Trefniant gweithio gyda'r Comisiynydd Plant

5 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Chomisiynydd Plant Cymru sy'n nodi'r trefniadau gweithredol rhwng Comisiynydd Plant Cymru a Llywodraeth Cymru.

Penodi Panel Statudol i gyflawni dyletswyddau o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967

5 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi penodi David Edwards, Dai Jones, Shona Smith, Iwan Parry, Tim Kirk, Judith Webb, Rachel Sharp, Gareth Davies, Tom Jenkins a Russel Horsey yn aelodau o'r sector coedwigaeth, i Banel Statudol Llywodraeth Cymru ar gyfer Deddf Coedwigaeth 1967, sy'n darparu Pwyllgor Gorchwyl i wrando ar apeliadau o dan y Ddeddf.

Adfer adeiladau preswyl canolig ac uchel

5 Gorffennaf 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i barhau â chyllid grant cyfalaf y Rhaglen Diogelwch Adeiladu ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol, yn 2022 i 2023, ar gyfer gwaith adfer diogelwch tân mewn adeiladau dros 11m o uchder.

Cynnig Gofal Plant Cymru

5 Gorffennaf 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddiwygio'r rhaniad rhwng y ddarpariaeth yn ystod y tymor a'r ddarpariaeth yn ystod y gwyliau sydd ar gael o dan y Cynnig Gofal Plant mewn pedair ardal awdurdod lleol i sicrhau bod pob teulu cymwys yn cael 48 wythnos lawn o hawl mewn unrhyw gyfnod o 52 wythnos.

Penodiadau i'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol

5 Gorffennaf 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi penodi Sharon Gilburd yn Gadeirydd a John-Mark Frost, Andrea Gale, Samina Ali, Ben Summers a Neil Prior yn aelodau Bwrdd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol o 1 Gorffennaf 2022 tan 1 Gorffennaf 2025.

Cynllun cyflawni digidol ar gyfer y sector cyfreithiol

5 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid i benodi contractwr i gefnogi'r gwaith o ddatblygu cynllun cyflawni digidol ar gyfer y sector cyfreithiol yng Nghymru.  

Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru

5 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ddarparu cyllid craidd i gefnogi gweithgareddau Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru.

Diogelwch cerddwyr

5 Gorffennaf 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddarparu £114,000 i dreialu croesfannau sebra nad ydynt wedi eu rhagnodi yng Nghaerdydd.

Adeiladu uned ddiwydiannol newydd

5 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo gwariant i adeiladu uned ddiwydiannol newydd yn Rhyd y Blew, Glynebwy.

Unedau busnes newydd ym Mhenrhos

5 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ymestyn Menter ar y Cyd a darparu cyllid ychwanegol i gyflawni cyfres arall o unedau busnes ym Mhenrhos, Caergybi.

Datblygu safle yn Beggars Pound

5 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer ffioedd a gwaith yn Beggars Pound, Bro Tathan.

Ailbenodi aelod i Fwrdd Cymwysterau Cymru

5 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo ailbenodi Cadeirydd Bwrdd Cymwysterau Cymru.

Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu - Achosion Busnes - Mehefin 2022

30 Mehefin 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo achosion busnes y partner cyflenwi a argymhellwyd gan y Panel Buddsoddi mewn Addysg ym mis Mehefin.

Mesur Diogelu Masnach mewn Cynhyrchion sy'n Gysylltiedig ag Anifeiliaid ar gyfer Rhanbartholi Canada ac UDA mewn cysylltiad â Ffliw Adar

30 Mehefin 2022

Cytunodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a'r Trefnydd i'r Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol ddirymu'r Datganiadau Diogelu a wnaed ar 31 Mai 2022, ac ailddatgan y gwaharddiad ar fewnforio dofednod a chynhyrchion dofednod i Brydain Fawr o ardaloedd yng Nghanada ac UDA nad ydynt yn rhydd o Ffliw Adar Pathogenig Iawn.   

Cynllun talu ar gyfer caffael tir yn Abertawe

30 Mehefin 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar y cynllun talu newydd ar gyfer caffael tir yn Abertawe.

Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid - Proses Prynu Eiddo

30 Mehefin 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar y broses o brynu eiddo ar gyfer lesddeiliaid.

Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid - Proses Ymgeisio

30 Mehefin 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar y camau cyntaf yn y broses ymgeisio ar gyfer y Cynllun.

Prosiectau Trawsnewid Trefi - Marsh House,Merthyr Tudful

30 Mehefin 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo rhoi cyllid grant Trawsnewid Trefi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i gefnogi'r gwaith o ailddatblygu Marsh House.

Prosiectau Trawsnewid Trefi - Canolfan Hamdden Merthyr

30 Mehefin 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo rhoi cyllid grant a benthyciadau Trawsnewid Trefi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful er mwyn gallu adnewyddu a datgarboneiddio Canolfan Hamdden Merthyr; a datblygu Parc Sglefrio newydd.

Mewnlenwi Sianel Doc Tywysog Cymru SA1: Penodi Ymgynghorydd

30 Mehefin 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar y gymeradwyaeth i benodi ymgynghorydd.

Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid - y Meini Prawf Cymhwystra a'r Asesiad

30 Mehefin 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar y camau cyntaf ym mhroses ymgeisio'r Cynllun.

Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Bysgodfeydd Cymru

30 Mehefin 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i sefydlu Grŵp Cynghori Gweinidogol strategol newydd ar gyfer Pysgodfeydd Cymru.

Cymorth gweinyddol i’r Gwobrau Effaith Glinigol

30 Mehefin 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ychwanegol i Gyflogwyr GIG Cymru am adnoddau i gefnogi swyddogaeth ysgrifenyddiaeth y bartneriaeth gymdeithasol a gweinyddu'r Gwobrau Effaith Glinigol.

Rhaglen Gydweithredu Cymru ar Asedau Cam 3

30 Mehefin 2022

Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar lansio a gweithredu Rhaglen Gydweithredu Cymru ar Asedau Cam 3.

Cyhoeddi Canllawiau ar Brosiectau Ynni Lleol a Rhanberchnogaeth yng Nghymru

30 Mehefin 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi canllawiau ar berchnogaeth leol a rhanberchnogaeth prosiectau ynni yng Nghymru ac wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig am yr adnodd hwn ar gyfer datblygwyr, cymunedau lleol a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau.

Talu Ffioedd Cyfreithiol 

28 Mehefin 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar daliad ffioedd cyfreithiol.

Gwerthu tir yn Nhonysguboriau 

28 Mehefin 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i werthu tir yn Rhondda Cynon Taf. 

Uwchraddio seilwaith ym Mro Tathan 

28 Mehefin 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i hwyluso uwchraddio seilwaith ym Mro Tathan.

Gwella seilwaith cyflenwad pŵer, Casnewydd 

28 Mehefin 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i wella seilwaith yng Nghasnewydd. 

Uwchraddio Seilwaith yng Nghasnewydd 

28 Mehefin 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i hwyluso uwchraddio seilwaith yng Nghasnewydd. 

Haf o Hwyl – Eisteddfod Genedlaethol Cymru 

28 Mehefin 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gefnogi presenoldeb yn Eisteddfod Genedlaethol 2022, fel rhan o’r rhaglen Haf o Hwyl. 

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Ymholiadau Amrywio ar gyfer mis Mehefin 2022 

28 Mehefin 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo argymhellion a wnaed gan y Panel Buddsoddi mewn Addysg ym mis Mehefin o ran amrywiadau i amlenni rhaglenni a phrosiectau. 

Ailwampio Adeilad Diwydiannol, Ystad Ddiwydiannol Rasa, Blaenau Gwent 

28 Mehefin 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i wariant ychwanegol ar gyfer ailwampio adeilad diwydiannol yn Ystad Ddiwydiannol Rasa, Blaenau Gwent. 

Cyllid atal digartrefedd

27 Mehefin 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Prif Weinidog wedi cytuno ar ddyraniadau cyllid atal digartrefedd dewisol a chyllid ar gyfer swyddi cydlynwyr strategol i awdurdodau lleol 2022 i 2023. 

MediWales

27 Mehefin 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ariannu hyd at £54k i gefnogi pum digwyddiad a gweithgaredd ar wahân ond cysylltiedig mewn partneriaeth â MediWales, y rhwydwaith gwyddorau bywyd.  Mae hyn yn cynnwys ffrwd o'r diwydiant yng nghynhadledd NHS Connects MediWales sydd i'w gynnal ar 29 Mehefin.

Adolygiad o'r Rhaglen Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Penaethiaid

27 Mehefin 2022

Mae'r Gweinidog dros Addysg a'r Gymraeg wedi cytuno i gynnal adolygiad o'r Rhaglen Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Penaethiaid (CPCP) yng Nghymru.   

Buddsoddiad Trafnidiaeth Ychwanegol Gogledd Cymru

27 Mehefin 2022

Mae'r Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol, y Gweinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd a'r Dirprwy Weinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd wedi cytuno ar becyn o fuddsoddiadau ychwanegol i ddatblygu gwelliannau i gysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus rhwng y Gogledd a'r De, yn dilyn y penderfyniad diweddar i roi'r gorau i gefnogi Gwasanaeth Awyr Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus Caerdydd-Ynys Môn.

BlasCymru / TasteWales – Opsiynau yn y Dyfodol

27 Mehefin 2022

Mae'r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i gynnal BlasCymru / TasteWales ym mis Hydref 2023. Bydd y dyddiad a'r lleoliad yn cael ei gadarnhau maes o law.

Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol

27 Mehefin 2022

Mae'r Gweinidog dros Addysg a'r Gymraeg wedi cytuno i gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar hynt gweithredu'r argymhellion yn adroddiad terfynol Cymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Cyfraniadau a Cynefin yng Ngweithgor y Cwricwlwm Newydd.

Penodi Ymgynghorydd a Chontractwr i gynnal arolygon a gwaith ymchwilio tir ar dir yn Dafen, Llanelli

23 Mehefin 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar wariant i benodi ymgynghorydd a chontractwr i ddarparu cyngor cyn-gynllunio ar gyfer safle yn Sir Gaerfyrddin.

Dinas Diwylliant Wrecsam - Cyllid ar gyfer Darpariaeth Chwarae

23 Mehefin 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer darpariaeth chwarae yn Wrecsam.

Gofal Cymdeithasol Cymru 2022-23 Llythyr cylch gwaith a Chynllun Gwaith i gefnogi gweithlu Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar

23 Mehefin 2022

Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y cylch gwaith a'r cyllid cysylltiedig o £478,300 i Gofal Cymdeithasol Cymru i ymgymryd â gwaith o gefnogi'r gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023.

Adnewyddu Grant Iechyd yr Ymddiriedolaeth Thalidomide o Ebrilll 2023

22 Mehefin 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo trefniadau cyllido yn y dyfodol ar gyfer Grant Iechyd yr Ymddiriedolaeth Thalidomide o Ebrill 2023.

Plot B Parc Technoleg Pencoed

22 Mehefin 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i werthu tir ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cyllid tuag at Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru

22 Mehefin 2022

Mae'r Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid o £50,000 yn flynyddol am bum mlynedd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i gynorthwyo cyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i ddefnyddio tystiolaeth.

Recriwtio Aelodau'r Bwrdd ar gyfer Bwrdd Gweithredu'r Strategaeth Gwaith Ieuenctid

22 Mehefin 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar y cynllun recriwtio ar gyfer penodi aelodau i Fwrdd Gweithredu'r Strategaeth Gwaith Ieuenctid.

Gweledigaeth Strategol a Rennir

22 Mehefin 2022

Mae Gweinidog yr Economi a'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cymeradwyo'r Weledigaeth Strategol a Rennir ar gyfer y sector Manwerthu cyn ei chyhoeddi.

Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi

22 Mehefin 2022

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf Trawsnewid Trefi tuag at y grant Creu Lleoedd er mwyn galluogi cymysgedd o ymyriadau ariannu yng nghanol trefi.

Penderfynu ar 11 o geisiadau ychwanegion bwyd anifeiliaid

22 Mehefin 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles wedi cytuno i awdurdodi'r un ar ddeg o geisiadau am ychwanegion bwyd anifeiliaid ac mae wedi cytuno i awdurdodi trefniadau trosiannol i ganiatáu i'r stociau presennol o stociau ychwanegion bwyd anifeiliaid a adnewyddwyd gael eu dihysbyddu.

Y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol

20 Mehefin 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo’r cynigion gwariant ar gyfer 2022 i 2023 ar gyfer y gyllideb a ddyrannwyd i gefnogi sefydlu’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol. 

Codiad i gyfradd y cyfraniad milltiredd cefnogi myfyrwyr 

20 Mehefin 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gynyddu cyfradd y cyfraniad milltiredd ceir ar gyfer myfyrwyr anabl ac israddedig cymwys.

Ymchwiliad i’r Diwydiant Lled-dargludyddion yn y DU 

20 Mehefin 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gais Llywodraeth Cymru i ymchwiliad y Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol i’r Diwydiant Lled-dargludyddion yn y DU.

Cyllid ar gyfer gallu ambiwlansiau brys ychwanegol 

20 Mehefin 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i roi cyllid i gynyddu gallu ambiwlansiau brys er mwyn lliniaru’r pwysau gofal brys a gofal mewn argyfwng ehangach ar y system.

Cyllid Arolygiaeth Gofal Cymru i gynnal Arolwg Amlasiantaeth o Drefniadau Amddiffyn Plant 2022 i 2024

15 Mehefin 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i roi cyllid i Arolygiaeth Gofal Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Estyn i gynnal 4 o Drefniadau Adolygu Amddiffyn Plant ar y cyd ar draws Cymru yn 2022 i 2023 a 2023 i 2024.

Ysgol Gynradd Gymunedol Fenton 

15 Mehefin 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i beidio â chefnogi’r gwyn gan gorff llywodraethol Ysgol Gynradd Gymunedol Fenton, bod rhybudd a roddwyd gan Gyngor Sir Penfro wedi’i roi yn amhriodol.

Cyllid ar gyfer Cynghorau Iechyd Cymuned i gasglu profiadau am COVID-19 

15 Mehefin 202215 Mehefin 2022

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi Cynghorau Iechyd Cymuned i gynnal gweithgaredd i gasglu profiadau pobl ar draws Cymru yn ymwneud â’r pandemig gyda’r bwriad o’u rhannu gydag Ymchwiliad COVID 19 y DU gyfan. 

Gwobrau Ystadau Cymru 2022 

15 Mehefin 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i dderbyn cynigion ar gyfer Gwobrau Ystadau Cymru 2022 am gydweithio i ddefnyddio asedau eiddo sector cyhoeddus.

Cynllun Gweithredu drafft i Gymru ar gyfer HIV

14 Mehefin 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Gynllun Gweithredu drafft ar gyfer HIV, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar 14 Mehefin 2022 at ddibenion ymgynghoriad 12 wythnos. 

Cyllideb Datblygu Polisi Fferylliaeth a Phresgripsiynu 2022 i 2023

14 Mehefin 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y rhaglen waith a gynigir ar gyfer Cyllideb Datblygu Polisi Fferylliaeth a Phresgripsiynu 2022 i 2023.

Parhau â’r Grant Datblygu Disgyblion 

14 Mehefin 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar ddyraniadau cyllid ar gyfer parhau â’r Grant Datblygu Disgyblion yn 2022 i 2023.

Gwasanaeth Awyr Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus rhwng Caerdydd ac Ynys Môn

13 Mehefin 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i roi'r gorau i gefnogi’r Gwasanaeth Awyr Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus rhwng Caerdydd ac Ynys Môn, ac wedi tynnu’r cyllid ar gyfer Maes Awyr Ynys Môn yn ôl.    

Ystad yr Hafod

13 Mehefin 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a'r Prif Chwip, a Gweinidog yr Economi, wedi cymeradwyo gwaddol cyfalaf i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer buddsoddi yn Ystad yr Hafod yng Ngheredigion.    

Darparu prydau ysgol am ddim yn ystod absenoldeb astudio

13 Mehefin 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion cymwys ym mlynyddoedd 11-13 pan fyddant ar absenoldeb awdurdodedig (h.y. absenoldeb astudio) rhwng mis Mai a mis Gorffennaf 2022.    

Parhau i gefnogi rhaglen Gwobrau CREST Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain yng Nghymru

13 Mehefin 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i barhau i gefnogi rhaglen Gwobrau CREST Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain (BSA) yng Nghymru dros dair blynedd (blynyddoedd ariannol 2022 i 2023, 2023 i 2024 a 2024 i 2025).    

Datblygiad Arbrofol Band Eang 5G Gwledig Gogledd Cymru gyda chydweithio trwy Brifysgol Bangor

13 Mehefin 2022

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddyfarnu cyllid grant i Brifysgol Bangor i gyflawni prosiect band eang ac arloesi yn y gogledd drwy gonsortiwm dan arweiniad Prifysgol Bangor.

Rhaglen Recriwtio Nyrsys Rhyngwladol

13 Mehefin 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i barhau i gefnogi'r Rhaglen Recriwtio Nyrsys Rhyngwladol.

Cymorth i Brynu Cymru

13 Mehefin 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi gofyn i swyddogion edrych ar ddatblygiad cam pedwar o’r cynllun benthyciadau ecwiti a rennir Cymorth i Brynu Cymru.    

Cronfa Tai â Gofal

13 Mehefin 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid ar gyfer prosiect yng Nghwm Taf Morgannwg.    

Digideiddio ardrethi busnes

13 Mehefin 2022

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys i geisio cynnwys Cymru ym mhrosiect Digideiddio Ardrethi Busnes Llywodraeth y DU. 

Cynnig cynllun amddiffyn rhag llifogydd arfordirol yn Llanbedr

9 Mehefin 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi gwrthod cefnogi gwariant sy'n gysylltiedig â chaffael arfarniad o gynllun amddiffyn rhag llifogydd arfordirol a chynnig ffi opsiynau ar hyn o bryd.    

Cyllid Trawsnewid Trefi

9 Mehefin 2022

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo Cyllid Trawsnewid Trefi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i hwyluso'r gwaith o ddarparu canolfan drafnidiaeth integredig newydd yng nghanol tref Castell-nedd.    

Cronfa Cymorth i Ofalwyr

9 Mehefin 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar dair blynedd o gyllid ar gyfer y Gronfa Cymorth i Ofalwyr Di-dâl.

Mesur Diogelu Masnach mewn Cynhyrchion sy'n Gysylltiedig ag Anifeiliaid ar Ranbartholi Canada ac UDA mewn cysylltiad â Ffliw Adar

8 Mehefin 2022

Cytunodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a'r Trefnydd i'r Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol ddirymu'r Datganiadau Diogelu a wnaed ar 05 Mai 2022, ac ailddatgan y gwaharddiad ar fewnforio dofednod a chynhyrchion dofednod i Brydain Fawr o ardaloedd yng Nghanada ac UDA nad ydynt yn rhydd o Ffliw Adar Pathogenig Iawn.    

Penodi Cadeirydd ac Aelod i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

8 Mehefin 2022

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i'r penodiadau uniongyrchol i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Penodwyd Frances Duffy yn Gadeirydd rhwng 1 Mehefin 2022 a 31 Mai 2024 a Beverley Smith yn Aelod o 1 Mehefin 2022 i 31 Mai 2023.

Adroddiad Blynyddol 2021 i 2022 Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru 

8 Mehefin 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi adroddiad blynyddol cyntaf Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru ac i osod yr adroddiad hwn yn y Senedd.    

Y Gronfa Trafnidiaeth Leol a'r Gronfa Ffyrdd Cydnerth 2022 i 2023

8 Mehefin 2022

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddyrannu cyllid i awdurdodau lleol o'r Gronfa Trafnidiaeth Leol a'r Gronfa Ffyrdd Cydnerth. Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno i ddyrannu cyllid i Gyngor Sir Caerfyrddin a Dinas a Sir Abertawe yn etholaethau’r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog.    

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach Arbenigol

8 Mehefin 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.     

Offer Cynaliadwyedd Gofal Sylfaenol – ehangu adnoddau

8 Mehefin 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gostau adnoddau ychwanegol ar gyfer Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i gefnogi'r gwaith o ehangu'r gwasanaeth.

Yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran gweithredu'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus

8 Mehefin 2022

Cytunodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus am y cynnydd o ran gweithredu argymhellion adroddiad y pwyllgor 'Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol – y stori hyd yn hyn'.

Cyllid Brys ar gyfer y Sector Bysiau

8 Mehefin 2022

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddarparu rhagor o gyllid adfer i'r diwydiant bysiau yng Nghymru drwy Gynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau o 1 Awst 2022 tan ddiwedd y flwyddyn ariannol (Mawrth 2023).

Rhaglen Graddedigion Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru Gyfan 

8 Mehefin 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cais am gyllid rhaglen ar gyfer dwy swydd sy’n cefnogi cyflenwi Rhaglen Graddedigion Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru Gyfan.    

Estyn Contract Nyth 

8 Mehefin 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i estyn Cynllun Nyth y rhaglen Cartrefi Clyd yn ogystal â’r contract Sicrhau Ansawdd ac Archwilio i fis Medi 2023.    

Adroddiad yr Awdurdod Monitro Annibynnol

8 Mehefin 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar gyfraniad Llywodraeth Cymru i Adroddiad Awdurdod Monitro Annibynnol 2021.     

Cynllun cymorth costau byw

8 Mehefin 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddyrannu £85,000 i gyllido mynediad i awdurdodau lleol at offeryn diwydrwydd dyladwy’r llywodraeth, Spotlight, i roi cymorth iddynt gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy er mwyn cyflwyno’r cynllun costau byw ar gyfer 2022 i 2023.

Cyllid ar gyfer iechyd meddwl a dysgu proffesiynol

31 Mai 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo dyrannu cyllid ar gyfer iechyd meddwl a dysgu proffesiynol i addysg bellach.

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

31 Mai 2022

Mae Prif Weinidog Cymru a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cymeradwyo Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac wedi cytuno y bydd yn cael ei gyhoeddi ar 7 Mehefin.

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

31 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cymeradwyo geiriad terfynol Nodau a Chamau Gweithredu’r portffolio Cyfiawnder Cymdeithasol i’w cynnwys yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Y Gronfa Band-eang Lleol

31 Mai 2022

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid ar gyfer darparu dyfarniad prosiect pellach o dan Tranche 4 y Gronfa Band-eang Lleol.

Cymorth ar gyfer y sector addysg ôl-16

31 Mai 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo’r defnydd o gyllid adnewyddu a diwygio ôl-16 a’r prosiect pontio ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Diweddariad i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

31 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i roi diweddariad i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch hynt y gwaith o weithredu argymhellion adroddiad y Pwyllgor, ‘Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol – y stori hyd yma’.

Rheoli Digwyddiadau Ansawdd Aer

31 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gynnydd o £29,280 i  grant Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol 2022 i 2023 er mwyn ariannu’r gwaith o ddatblygu proses dendro am gontract, ac ymarfer caffael wedyn, er mwyn gwella’r gwasanaeth ymateb i ddigwyddiadau ansawdd aer yng Nghymru.

Penodiad i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

30 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i benodi Dianne Bevan yn Aelod o Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru o 1 Mehefin 2022 hyd 30 Mai 2026.

Cynllun Gweithredu Anableddau Dysgu

30 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi Cynllun Gweithredu Anableddau Dysgu 2022 i 2026 ac i roi £1 miliwn y flwyddyn ar gyfer 2022 i 2023, 2023 i 2024 a 2024 i 2025, i fynd i’r afael â’r gweithgareddau iechyd a gofal cymdeithasol penodol a nodir yn y cynllun.

Awdurdod Harbwr Caerdydd

30 Mai 2022

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i roi cyllid ychwanegol i Awdurdod Harbwr Caerdydd i alluogi’r Awdurdod i gyflawni ei oblygiadau statudol a’i swyddogaethau o dan Ddeddf Morglawdd Bae Caerdydd 1993 a gwneud gwaith diweddaru asedau brys.

Grant Rhwystrau i Fusnes Newydd

30 Mai 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i’r Grant Rhwystrau i Fusnes Newydd.

Mynediad i Dirweddau Dynodedig a Chefn Gwlad – dyraniadau cyllid cyfalaf 2022 i 2025

26 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar ddyraniadau cyllid cyfalaf ar gyfer Mynediad i Dirweddau Dynodedig a Chefn Gwlad.     

Cynlluniau Gweithredu Glasbrintiau Cyfiawnder Menywod ac Ieuenctid 

26 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyhoeddi’r Cynlluniau Gweithredu Glasbrintiau Cyfiawnder Menywod ac Ieuenctid.    

Cyllid i gefnogi darpariaeth ddigidol yn y sector Addysg Bellach a Sgiliau 

26 Mai 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi darpariaeth ddigidol yn y sector addysg bellach a sgiliau yn ystod y flwyddyn academaidd 2022 i 2023.      

Diwrnod Aer Glân 2022

26 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gontract gwerth hyd at £10,000 gyda Global Action Plan i gyflenwi deunyddiau addysgiadol ar ansawdd yr aer i gefnogi Diwrnod Aer Glân Cymru 2022.    

Cyfarwyddyd i Gyngor Gwynedd i gyflwyno eu Map Rhwydwaith Integredig

26 Mai 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cyflwyno Cyfarwyddyd i Gyngor Gwynedd i gyflwyno eu Map Rhwydwaith Integredig erbyn 30 Medi 2022.    

Proses recriwtio ar gyfer penodi aelodau i Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru 

26 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd wedi cytuno i fabwysiadu’r dewis a ffafrir sef recriwtio yn llawn i 7 swydd ar Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, ynghyd â swydd y Cadeirydd a’r Dirprwy Gadeirydd ym mis Gorffennaf 2023.

Y Gronfa Tai â Gofal – Datganiad Llafar a Chanllawiau

26 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo’r Datganiad Llafar i lansio’r Gronfa Tai â Gofal a’r Canllawiau.

Cynllun Cyflenwi ar gyfer Blwyddyn 5 Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru

26 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i’r cynllun cyflenwi a’r cyllid ar gyfer blwyddyn pump Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.

Bro Tathan

26 Mai 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ymrwymo i  drosglwyddiad tir gyda Chyngor Bro Morgannwg i  wrthbwyso rhwymedigaethau Adran 106 yn safle Bro Tathan.

Gwelliannau Cyfalaf ac Offer ar gyfer y maes awyr yn Sain Tathan 

26 Mai 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo’r gost a’r cyflenwad ar gyfer Gwelliannau Cyfalaf ac Offer ar gyfer y maes awyr yn Sain Tathan ym Mro Tathan.

Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2022

25 Mai 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog  Newid Hinsawdd wedi cytuno i’r Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2022 terfynol, y memorandwm esboniadol a’r dogfennau cysylltiedig a fydd yn gwneud newidiadau i Ran L (arbed tanwydd a phŵer), F (awyru) ac O (gorgynhesu) o’r Rheoliadau Adeiladu ar gyfer adeiladau preswyl.     

Plot C1 Ffordd Fabian

25 Mai 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i werthu tir ac ehangu cymal defnyddiwr Plot C1 Ffordd Fabian.    

Datblygu Canolfannau Triniaeth Rhanbarthol 

25 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gefnogi Achos Amlinellol Strategol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer Canolfannau Triniaeth Rhanbarthol.    

Ailbenodi Aelod Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg 

25 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Dilys Jouvenat fel Aelod Annibynnol Trydydd Sector i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am 4 blynedd o 3 Awst 2022 hyd 2 Awst 2026.    

Byrddau Cynghori’r Ardaloedd Menter

25 Mai 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i’r Ardaloedd Menter – Cyllideb Bwrdd 2022 i 2024.

Dyrannu’r gyllideb Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Hawliau Dynol ar gyfer blwyddyn ariannol 2022 i 2023 

25 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cymeradwyo’r dyraniadau cyllid fel y nodwyd yn y cyngor hwn, i gefnogi camau gweithredu i gyflawni Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a’r amcanion polisi i ddathlu amrywiaeth a chymryd camau i ddileu anghydraddoldeb o bob math yn y flwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Tybiaethau Model Hyfywedd Safonol 

25 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddiweddaru’r tybiaethau Model Hyfywedd Safonol ar gyfer blwyddyn ariannol 2022 i 2023, yn ogystal â’r gweithdrefnau monitro parhaus. 

Penodi Arsylwyr ar gyfer Dyfrffordd Port Talbot

25 Mai 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i benodi Nicola Pearce a Simon Brennan fel Arsylwyr i Fwrdd Cynghori Parth Menter Dyfrffordd Port Talbot.

Cymorth Technegol Parhaus, Bro Tathan

25 Mai 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ariannu ffioedd ymgynghoriaeth i gynorthwyo gyda gweithgareddau datblygu economaidd ym Mro Tathan.

Dyfodol Busnes Cymru 

25 Mai 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ddyfodol Busnes Cymru o 2023.

Cyfrifoldebau Estynedig Canolfan Gyswllt Cartrefi i Wcráin

24 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gostau gweithredu Canolfan Gyswllt Cartrefi i Wcráin nes diwedd y flwyddyn ariannol; sefydlu llwyfan data i gefnogi’r cynllun Cartrefi i Wcráin a chostau cyfieithu.    

Penodi Aelod Bwrdd Cyswllt i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

24 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodiad Anne Morris yn aelod bwrdd cyswllt o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.    

Fibrespeed - Cyllid Cost Les 2022 i 2025

24 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i’r gwariant sy’n ymwneud â pharhau i gyflawni a chynnal a chadw buddiannau Fibrespeed Llywodraeth Cymru yn y Gogledd.    

Mynd ati i ehangu’r Cynnig Gofal Plant i rieni mewn Addysg a Hyfforddiant

24 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar fanylion yn ymwneud ag ehangu’r Cynnig Gofal Plant i rieni mewn Addysg a Hyfforddiant.    

Rhaglen Archwilio Clinigol Cenedlaethol ac Adolygu Canlyniadau GIG Cymru – 2022 i 2023

24 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyllid ar gyfer Rhaglen Archwilio Clinigol Cenedlaethol ac Adolygu Canlyniadau GIG Cymru 2022 i 2023.

Gweithrediaeth y GIG

23 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar fodel llywodraethiant ar gyfer creu Gweithrediaeth y GIG.

Gorfodi 50mya

23 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddiddymu hysbysiadau cynghori a chyllid ychwanegol ar gyfer rheoli a gweithredu’r orfodaeth 50 mya ar gyfer blwyddyn ariannol 2021 i 2022.    

Gweithgareddau trafnidiaeth y rhwydwaith ffyrdd strategol – Cyllid Ychwanegol

23 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid ychwanegol am weddill y flwyddyn ariannol ar gyfer gweithgareddau trafnidiaeth y rhwydwaith ffyrdd strategol 2021 i 2022.    

Cynllun Ffordd Osgoi y Drenewydd A483/A489

23 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gynnydd i gyllideb Cynllun Ffordd Osgoi y Drenewydd A483/A489.    

Cytundeb Rhagdalu Tanysgrifiad

23 Mai 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ddefnyddio Cytundeb Rhagdalu Tanysgrifiad gan gwmni buddsoddi.    

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach Arbenigol

23 Mai 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach Arbenigol.

Grant Ynni Lleol – Trydan Cydweithredol Corwen (Bonwm Hydro)

19 Mai 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ymrwymo hyd at £330,000 o gyllid cyfalaf i Trydan Cydweithredol Corwen ar gyfer adeiladu cynllun ynni dŵr.    

Ynni Morol Cymru

19 Mai 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i gyfanswm o £450,000 o gyllid ar gyfer Ynni Morol Cymru dros y blynyddoedd ariannol 2022 i 2023 a 2024 i 2025.    

Cerrig Milltir Cenedlaethol - Dangosydd 18 ar gyfer Tlodi Incwm a Dangosydd 28 ar gyfer Gwirfoddoli

19 Mai 2022

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar werth drafft ar gyfer dangosydd cenedlaethol Rhif 18 Tlodi Incwm o gymharu â Chanolrif y DU a Rhif 28 Canran y Bobl sy'n Gwirfoddoli.    

Siarad Gyda Fi: Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu

19 Mai 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer prosiectau Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu yn 2022 i 2023.    

Cymeradwyo Ceisiadau Grant Cyfalaf ar gyfer Adeiladau Preswyl Canolig ac Uchel Iawn (Sector Cymdeithasol)

19 Mai 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo dau gais am arian grant cyfalaf gan Coastal Housing Group, am gyfanswm o £524,000.00, yn y flwyddyn ariannol gyfredol.    

Tir ar Fferm Gilestone, Tal-y-bont ar Wysg, Powys – Prynu a phrydlesu

19 Mai 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i'r tir ar Fferm Gilestone, Tal-y-bont ar Wysg, Powys – Prynu a phrydlesu.

Tir ar Fferm Gilestone, Tal-y-bont, Powys - Ffioedd Cyngor Proffesiynol

19 Mai 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyngor proffesiynol ar y posibilrwydd o gaffael a phrydlesu Tir ar Fferm Gilestone, Tal-y-bont, Powys - Ffioedd Cyngor Proffesiynol.

Adfer apêl adran 78 gan Coed Preseli - Tir yng Nghoedwig Pantmaenog, Rosebush, Clunderwen, Sir Benfro

18 Mai 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo adferiad apêl gynllunio ar gyfer datblygu chwe annedd, gweithdy a chyfleuster prosesu a sychu pren carbon isel yng Nghlynderwen, Sir Benfro.    

Trefniadau a Chyllid ar gyfer Storio Stoc o Feddyginiaethau Covid-19

18 Mai 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar drefniadau a chyllid ar gyfer Storio Stoc o Feddyginiaethau Covid-19.    

Arweinydd Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw a Phrofedigaeth

18 Mai 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar gyllid i recriwtio arweinydd Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw a Phrofedigaeth wedi'i leoli o fewn Cydweithfa’r GIG rhwng mis Hydref 2022 a mis Medi 2025.    

Newidiadau i ad-daliadau am feddyginiaethau a ddefnyddir wrth drin cleifion sy'n mynd i'r ysbyty â COVID-19

18 Mai 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar newidiadau i ad-daliadau am feddyginiaethau a ddefnyddir i drin cleifion sy'n mynd i'r ysbyty gyda COVID-19.    

Cais i'r Cyfrin Gyngor gan Brifysgol Bangor

18 Mai 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ag argymhellion swyddogion ynghylch cais i'r Cyfrin Gyngor gan Brifysgol Bangor am Siarter Atodol newydd. 

Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar niwed sy'n gysylltiedig â gamblo

18 Mai 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar argymhellion ar gyfer gwaith yn y dyfodol a wnaed gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Niwed sy'n Gysylltiedig â Gamblo.

Diweddariad ar Raglen Genedlaethol yr Argyfwng Hinsawdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Sefyllfa Ariannu

18 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddyrannu hyd at  £2.6 miliwn dros dair blynedd er mwyn cefnogi gweithgareddau o dan  Raglen Genedlaethol yr Argyfwng Hinsawdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol.    

Cyngor Iechyd Cyhoeddus i Ysgolion: Coronafeirws

18 Mai 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gyhoeddi ‘Cyngor Iechyd Cyhoeddus i Ysgolion: Coronafeirws’ a’r rhestr wirio gysylltiedig a fydd yn disodli ‘Fframwaith Penderfyniadau Rheoli Heintiau COVID-19 Lleol ar gyfer ysgolion’.    

Llunio Dyfodol Cymru 2022

18 Mai 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno bod Incwm Gwario Gros yr Aelwydydd i’w ddefnyddio fel gwerth ar gyfer y garreg filltir ddrafft yn yr ymgynghoriad ar gyfer Llunio Dyfodol Cymru 2022.     

Cerrig Milltir Cenedlaethol

18 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y bydd gan gartrefi yng Nghymru berfformiad ynni digonol a chost effeithiol erbyn 2050 ac i wyrdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth gan greu gwelliant mewn statws rhywogaethau ac ecosystemau erbyn 2030 a bod adferiad. clir erbyn 2050.    

Chwech o Fwydydd Newydd 

18 Mai 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar ganlyniad y chwe chais bwydydd newydd gan ffafrio awdurdodi. 

Adolygiad Thematig Estyn

17 Mai 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Thematig Estyn – ‘Cyngor ac arweiniad diduedd ar yrfaoedd i bobl ifanc 14–16 oed.

Cynnydd i Daliad Gwasanaeth Tariffau Myfyrwyr Cymru ar gyfer dyraniadau dysgu a delir i Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghymru 

17 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gynyddu taliad Gwasanaeth Tariffau Myfyrwyr Cymru ar gyfer dyraniadau dysgu a delir i Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghymru.

Cynnyrch cyflas mwg

17 Mai 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles wedi cytuno i Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru addasu'r rhestr ddomestig cyflas mwg i adlewyrchu manylion deiliaid yr awdurdodiad newydd.

Gwella ystadegau economaidd Cymru

17 Mai 2022

Mae'r Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ariannu rhaglen waith i wella ystadegau economaidd Cymru, gan gynnwys datblygu Tablau Allbwn Mewnbwn i Gymru.

Penodi i Fwrdd Cynghori Ardal Fenter Glannau Port Talbot

17 Mai 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i benodi Sylwedyddion i Fwrdd Cynghori Ardal Fenter Glannau Port Talbot.  

ArloesiAber a Phrifysgol Aberystwyth

17 Mai 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid i alluogi ArloesiAber a Phrifysgol Aberystwyth i benodi ymgynghorwyr i ymgymryd â chynllun datblygu strategol ac astudiaeth ddichonoldeb.

Gwasanaethau bysiau trydan

13 Mai 2022

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cymorth grant i Gyngor Casnewydd gynyddu’r defnydd o fysiau trydan.

Gwasanaethau bysiau trydan

13 Mai 2022

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cymorth grant i Gyngor Caerdydd gynyddu’r defnydd o fysiau trydan.

Cronfa Dyfodol yr Economi – Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 15 Mawrth 2022

12 Mai 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Sir Fynwy.

Cronfa Dyfodol yr Economi – Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 22 Mawrth 2022

12 Mai 2022

Mae'r Prif Weinidog wedi gwrthod cais i Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghasnewydd.   

Mesur Diogelu Masnach mewn Cynhyrchion sy'n Gysylltiedig ag Anifeiliaid ar gyfer Rhanbartholi Canada ac UDA ar gyfer Ffliw Adar

12 Mai 2022

Mae'r Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, wedi cytuno, yn dilyn achosion pellach o ffliw adar pathogenig iawn (HPAI) yng Nghanada ac UDA, i'r Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol ddirymu'r Datganiadau Diogelu a wnaed 25/03/2022 a 25/04/2022, ac ailddatgan y darpariaethau mewn Datganiadau newydd. Gwneir y Datganiadau hyn o dan reoliad 29 o Fasnach mewn Cynhyrchion sy'n Gysylltiedig ag Anifeiliaid sy'n nodi'r mesurau arbennig pellach sy'n angenrheidiol i wahardd mewnforio dofednod a chynhyrchion dofednod i Brydain Fawr o ardaloedd di-HPAI yng Nghanada ac UDA.

Cynllun Busnes a Chyllidebau Cadw ar gyfer 2022 i 2023

12 Mai 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon a'r Prif Chwip, a Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gynllun busnes a chyllideb Cadw.

Cronfa Dyfodol yr Economi – Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 12 Ebrill 2022

12 Mai 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Gyllid Buddsoddi mewn Twristiaeth Cymru ar gyfer prosiect yn Sir Fynwy.

Arian Ychwanegol i'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol

12 Mai 2022

Mae'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg wedi cymeradwyo cyllid i'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn 2022 i 2023 i gyflawni'r blaenoriaethau strategol sy'n gysylltiedig â'u Llythyr Cylch Gwaith newydd.

Meithrin gallu'r gweithlu Cymraeg 2022 i 2023

12 Mai 2022

Mae'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023 ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i gefnogi gweithgareddau meithrin gallu'r gweithlu.

Defnyddio cyllideb Buddsoddi mewn Ansawdd 2022 i 2023

12 Mai 2022

Mae'r Gweinidog dros Addysg a'r Gymraeg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cyllideb Buddsoddi mewn Ansawdd 2022 i 2023, i gefnogi darparwyr ôl-16.

Argymhellion ar gyfer ariannu Grant Cyfalaf a Refeniw Diogelwch ar y Ffyrdd 2022 i 2023

12 Mai 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid yn yr Hinsawdd a'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddyrannu cyllid Grant Diogelwch ar y Ffyrdd ar gyfer 2022 i 2023.

Cymorth Ariannol Awdurdodau Lleol ar gyfer Gweithredu 20 mya yn Genedlaethol ar gyfer 2022 i 2023

12 Mai 2022

Mae'r Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd wedi cytuno i ariannu Awdurdodau Lleol yng Nghymru i barhau â'r gwaith paratoi ar gyfer y terfyn cyflymder diofyn arfaethedig o 20 mya ar Ffyrdd Cyfyngedig yn 2022 i 2023.

Mesurau diogelu ar gyfer atal mewnforion masnachol anifeiliaid anwes o bedair gwlad dros dro

12 Mai 2022

Mae'r Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi rhoi caniatâd i Brif Swyddog Milfeddygol neu Ddirprwy Brif Swyddog Milfeddygol Cymru lofnodi, o dan awdurdod Gweinidogion Cymru, Ddatganiad o dan reoliad 29 o Reoliadau Masnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Cysylltiedig (Cymru) 2011 sy'n nodi'r mesurau arbennig sy'n angenrheidiol i atal dros dro yr holl fewnforion masnachol o gŵn, cathod a ffuredau o Wcráin, Belarws, Gwlad Pwyl a Rwmania ac mae hefyd wedi cytuno ar gyhoeddi'r Datganiadau ar wefan gov.uk, ynghyd â datganiadau cyfatebol ar gyfer Lloegr a'r Alban.

Tirweddau Dynodedig a Mynediad i Gefn Gwlad

11 Mai 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar ddyraniadau cyllid refeniw ar gyfer Tirweddau Dynodedig a Mynediad i Gefn Gwlad.

Yr ardoll dwristiaeth leol - opsiynau dylunio ar ôl ymgysylltu

11 Mai 2022

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gwestiynau cwmpasu cychwynnol ar gyfer yr ymgynghoriad ar ardollau ymwelwyr mewn perthynas ag atebolrwydd i dalu'r dreth.    

Caffael gwaith i Reoli Safle’r Ffin yng Ngogledd Cymru – Dyfarnu Cam 1 

11 Mai 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ddyfarnu cam dylunio'r contract dylunio ac adeiladu ar gyfer adeiladu Safle Rheoli'r Ffin yng Ngogledd Cymru.

Cynllun peilot ar gyfer Gwasanaeth Natur Cenedlaethol

11 Mai 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar £166,598 o gymorth refeniw tuag at gynllun peilot y Gwasanaeth Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid

11 Mai 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddefnyddio prisiad Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS), a fydd yn defnyddio Safonau Byd-eang RICS, ynghyd â chanllawiau Cymorth i Brynu Cymru a Rhagdybiaeth Arbennig sy'n diystyru ystyriaethau diogelwch tân, er mwyn darparu gwerth marchnadol priodol ar gyfer eiddo sy'n gymwys i gael cymorth o dan y cynllun. Mae wedi cytuno hefyd i ddefnyddio Asesiad o Fforddiadwyedd a Phrawf Preswylwyr sydd wedi'u Dadleoli i bennu meini prawf priodol er mwyn penderfynu a yw  ymgeiswyr yn gymwys i gael cymorth o dan y cynllun,  ac wedi cytuno i fwrw ymlaen â’r opsiynau a ffefrir ar gyfer ariannu, prynu, cadw a/neu waredu eiddo sydd o fewn cwmpas y cynllun.

Cyllidebau diwygio’r cwricwlwm

11 Mai 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac addysg wedi cymeradwyo'r cynlluniau gwariant ar gyfer cyllidebau diwygio'r cwricwlwm ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Estyn y cynllun peilot Cyflogaeth Gefnogol o fewn Rhaglen Twf Swyddi Cymru+

11 Mai 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid i estyn y cynllun peilot Cyflogaeth Gefnogol o fewn Rhaglen Twf Swyddi Cymru+ ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Y Gyllideb Profi Polisïau Cyflogadwyedd a Sgiliau ar gyfer 2022 i 2023

11 Mai 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid i gefnogi gweithgarwch o dan y gyllideb profi polisïau ar gyfer 2022 i 2023.

Trosolwg o'r Farchnad a Chomisiynu Cartrefi Gofal

11 Mai 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer gwaith cwmpasu sy'n gysylltiedig â'r fframwaith cenedlaethol trosolwg o'r farchnad ar gyfer gofal cymdeithasol ac ar gyfer adolygu'r broses o gomisiynu cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn.

Penodi Aelod Annibynnol (Digidol) o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

11 Mai 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi Dafydd Vaughan yn Aelod Annibynnol (Digidol)  o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am 4 blynedd rhwng 9 Mai 2022 ac 8 Mai 2026.

Cronfa Dyfodol yr Economi – Cyfarfod y Panel Buddsoddi dyddiedig 15 Chwefror 2022

10 Mai 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid o Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ar Ynys Môn.

Cronfa Dyfodol yr Economi – Cyfarfod y Panel Buddsoddi dyddiedig 22 Mawrth 2022

10 Mai 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo cyllid o Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghymru. 

Cadw cyllideb i gefnogi prosiect mewnfuddsoddi newydd

10 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cymeradwyo penderfyniad i gadw cyllideb gwerth £4.2m i gyllido Mademoiselle Desserts. Caiff yr arian ei dalu mewn tri rhandaliad, yn 2023 hyd 2024, 2025 hyd 2026 a 2027 hyd 2028.

Gwaith caffael ar gyfer trefniadau Safleoedd Rheoli Ffiniau Dros Dro

10 Mai 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo’r strategaeth gaffael i gyflawni trefniadau safleoedd rheoli ffiniau dros dro yng Nghymru. 

Costau Cychwyn ar gyfer Cynghorau a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion

10 Mai 2022

Mae Gweinidog yr Economi a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer y staff arolygu mewn Safleoedd Rheoli Ffiniau.

Ystyried posibiliadau ar gyfer datblygu cyfleuster ynni solar ar ran o’r daliad tir ym Mhenarth

10 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo gwaith caffael ymgynghorwyr arbenigol i fynd i’r afael â gwaith profi hyfywedd a chymeradwyo cynllunio ar gyfer cyfleuster ynni ffotofoltäig ar dir sy’n eiddo i Weinidogion Cymru ger Cosmeston.  

Prifysgol Caerdydd

9 Mai 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gais a wnaed i’r Cyfrin Gyngor gan Brifysgol Caerdydd i ddiwygio ei Siarter a Statudau mewn perthynas â’r Llys.

Y Gronfa Band Eang Lleol 

9 Mai 2022

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gynyddu ac ymestyn y cyllid ar gyfer y Gronfa Band Eang Lleol, ac wedi cytuno ar argymhellion ar gyfer dyfarniadau prosiectau o dan Tranche 4.

Safonau Ansawdd Tai Cymru

9 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ffurfiol ar y Safon Ansawdd newydd arfaethedig  ar gyfer Tai Cymru.

Digartrefedd

9 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos ar y mesurau cyfreithiol interim mewn perthynas â digartrefedd o 9 Mai i 20 Mehefin 2022.

Ymestyn Cytundeb Aelodau Grŵp Airbus Endeavr Cymru

9 Mai 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ymestyn Cytundeb Aelodau Grŵp Airbus Endeavr Cymru am dair blynedd arall o 1 Ionawr 2022 i 31 Rhagfyr 2024 gyda chyllid o £250,000 i ariannu Blwyddyn 1 yr estyniad. 

Y Gangen Gwella Deilliannau i Blant - Cytuno ar Gyllid 2022 i 2023

9 Mai 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gefnogi'r gwaith Gwella Deilliannau i Blant sy’n Derbyn Gofal a Chymorth Mabwysiadu. 

Rheoliadau Adeiladu

5 Mai 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar ymateb y Llywodraeth mewn perthynas ag adran 5 (lliniaru gorboethi mewn adeiladau preswyl) o’r  ymgynghoriad Cam 2B ar newidiadau i Ran L (arbed tanwydd a phŵer) ac F (awyru) o'r Rheoliadau Adeiladu ar gyfer adeiladau annomestig newydd a rhai sy’n bodoli eisoes, a lliniaru gorboethi mewn adeiladau preswyl.    

Cyfranogiad Cymru yn Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr 2025

5 Mai 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyfranogiad Cymru yng nghylch nesaf y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr yn 2025 a'r dulliau perthnasol mewn perthynas â chynnwys elfennau ychwanegol yn yr arolwg a phenodi Rheolwr Cenedlaethol i’r Rhaglen.

Hawliad trydydd parti

5 Mai 2022

Mae'r Gweinidog Newid yn Hinsawdd wedi cytuno i dalu hawliad trydydd parti.

Ffoaduriaid o Wcáin a'r Cynnig Gofal Plant

5 Mai 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ddull gweithredu ar gyfer teuluoedd o Wcáin sy'n defnyddio’r elfen gofal plant a ariennir yn y Cynnig Gofal Plant i Gymru.

Cyfoeth Naturiol Cymru – Camau nesaf yr adolygiad sylfaenol – Taliad untro ychwanegol

5 Mai 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Dirprwy Weinidog Newis Hinsawdd wedi cymeradwyo rhoi £6.894m o gyllid ychwanegol i Cyfoeth Naturiol Cymru ym mlwyddyn ariannol 2021/22 i liniaru'r diffyg ariannol mewn perthynas â thalu cyfraniadau pensiwn i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Swyddi aelodau bwrdd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol

5 Mai 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i benodi Yusuf Ibrahim, Dr Deborah (Debbie) Nash a Katie Phillips yn aelodau o fwrdd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol.

Cyllid Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer 2022 i 2023

5 Mai 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Cyngor y Gweithlu Addysg yn ymwneud â’r gweithgareddau y byddant yn eu gwneud yn 2022 i 2023 ar ran Llywodraeth Cymru.

Ymchwil i’r Ardoll Dwristiaeth

5 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer tri phrosiect ymchwil i gefnogi datblygiad yr Ardoll Dwristiaeth.

Penodi Cyfarwyddwr Anweithredol i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru 

5 Mai 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Nick Elliott yn Gyfarwyddwr Anweithredol Digidol a Data i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru o 01/05/2022 hyd nes bydd Cyfarwyddwr Anweithredol parhaol yn cael ei benodi.

Nofio am ddim i’r lluoedd arfog

5 Mai 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip wedi cytuno i barhad Nofio am Ddim i’r Lluoedd Arfog ar gyfer 2022 i 2025.

Covid-19 - Dileu Fframwaith Rheoli Heintiau Addysg Bellach ac Addysg Uwch 

5 Mai 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ddileu’r  Fframwaith Rheoli Heintiau ar gyfer sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach.

Ail-benodi aelod a benodwyd gan Weinidogion o'r Cyngor Iechyd Cymuned

5 Mai 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ailbenodi Hugh Pattrick fel aelod o Gyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe.

Dyrannu cyllid anghenion dysgu ychwanegol 

5 Mai 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo dyraniadau cyllid ar gyfer 2022 i 2023 ar gyfer cymorth dysgu ychwanegol ar gyfer sefydliadau addysg bellach; ac ar gyfer Coleg Caerdydd a’r Fro i gefnogi cyflwyno cwricwlwm amlsynnwyr newydd.  

Datblygu Twristiaeth a Marchnata - Cynllun Busnes a Chyllideb 2022 i 2023

3 Mai 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar y Cynllun Busnes ar gyfer Twristiaeth a Marchnata 2022 i 2023 i gefnogi’r sector lletygarwch a thwristiaeth.

Llythyr Cylch Gwaith Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru

3 Mai 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i anfon Llythyr Cylch Gwaith diwygiedig i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Aelodaeth o Raglen Gyswllt Ddiwydiannol y Massachusetts Institute of Technology 

28 Ebrill 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Aelodaeth o Raglen Gyswllt Ddiwydiannol y Massachusetts Institute of Technology ar gyfer y cyfnod rhwng 2022 a 2024. 

Cynllun teithio am ddim ar fysiau i ffoaduriaid 

28 Ebrill 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gefnogi'r gwaith parhaus o gyflwyno cynllun teithio am ddim ar fysiau i ffoaduriaid yng Nghymru am gyfnod cychwynnol o chwe mis, a gaiff ei adolygu. 

Llwybr Newydd - Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 

28 Ebrill 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyhoeddi Llwybr Newydd – Trosolwg o Fframwaith Monitro Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. 

Pont Gorsaf Drên Machynlleth dros yr A487 

28 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid ychwanegol er mwyn agor bwa o dan bont rheilffordd a oedd wedi'i lenwi er mwyn sicrhau rhagor o gyfleoedd ar gyfer teithio llesol. 

Adnodd e-ddatgelu ar gyfer yr ymchwiliad i COVID-19 

28 Ebrill 2022

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar gaffael platfform e-ddatgelu er mwyn cefnogi'r gwaith o baratoi ar gyfer yr Ymchwiliad Cyhoeddus i COVID-19. 

Prosiect Uned Gofal Dwys Digidol

27 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid cyfalaf ychwanegol o £718k dros bedair blynedd ariannol ar gyfer y prosiect Uned Gofal Dwys Digidol o'r Gronfa Buddsoddi Blaenoriaethau Digidol.

Cyllid i gefnogi profion TB ar bobl sy'n cyrraedd Cymru o Wcrain

27 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gefnogi profion TB ar bobl sy'n cyrraedd Cymru o Wcrain drwy gynyddu capasiti labordai Cymru.

Penodi Cadeirydd i Fwrdd Awdurdod Cyllid Cymru 

27 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddechrau'r broses penodiadau cyhoeddus i recriwtio Cadeirydd i Fwrdd Awdurdod Cyllid Cymru.

Gweithredu Ysgolion Rhithwir

27 Ebrill 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ddarparu rhagor o arian grant cychwyn busnes i Awdurdodau Lleol yn 2022 i 2023 a 2023 i 2024 ar gyfer gweithredu model Ysgolion Rhithwir Cymru.  

Penodi tri aelod newydd i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd

27 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i benodi'r Athro Nathalie Seddon, Dr Ben Caldecott a Dr Swenja Surminski yn aelodau o'r pwyllgor ymaddasu.

Diwygiad pellach i’r mesurau diogelu o dan y Rheoliadau Masnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol ar gyfer rhanbartholi’r UDA oherwydd ffliw adar

27 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno, yn dilyn achosion pellach o ffliw adar pathogenig iawn (HPAI) yn UDA, i'r Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol ddirymu'r Datganiad Diogelu a wnaed ar 24/03/2022 a'r diwygiadau dilynol ac ailddatgan y darpariaethau mewn Datganiad newydd. Mae'r Datganiad hwn o dan reoliad 29 o'r Rheoliadau Masnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol sy'n nodi'r mesurau arbennig pellach sy'n angenrheidiol i wahardd mewnforio dofednod a chynhyrchion dofednod i Brydain Fawr o ardaloedd di-HPAI yn yr UDA.

Dyraniad Craidd Addysg a Gwella Iechyd Cymru

26 Ebrill 2022
 
Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Ddyraniad Craidd Addysg a Gwella Iechyd Cymru 2022 i 2023. 

Y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd – Gwaith Ymgynghori a Chraffu 

26 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno ar raglen o ymchwil ar Diwna Asgell Las yr Iwerydd ar gyfer 2022. Mae'r rhaglen yn cynnwys tagio Tiwna Asgell Las yr Iwerydd â thagiau lloeren electronig er mwyn deall eu symudiadau'n well, a rhaglen dal a gollwng a arweinir gan randdeiliaid (gan ddefnyddio tagiau pysgod arferol) i bysgotwyr hyfforddedig yn Nyfroedd Cymru. 

Nodau a Chamau Gweithredu Iechyd Cymru Wrth-hiliol 

26 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Nodau a Chamau Gweithredu Iechyd: Cymru Wrth-hiliol. 

Cyllideb yr Is-adran Tirweddau, Natur a Choedwigaeth 

26 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar y dyraniadau cyllid ar gyfer yr Is-adran Tirweddau, Natur a Choedwigaeth ar gyfer 2022 i 2023.

Hwb Barod ar gyfer Prifysgol

26 Ebrill 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid i gynnal, datblygu a hyrwyddo'r Hwb Barod ar gyfer Prifysgol o 2022 i 2023 ac o 2024 i 2025. 

Coedlan Goffa De-ddwyrain Cymru 

26 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y caiff trydedd Goedlan Goffa Cymru  ei phlannu ar safle sy'n eiddo i Gyngor Caerffili yng Nghwmfelin-fach er cof am y bobl hynny a fu farw yn ystod pandemig COVID-19. 

Bioamrywiaeth

25 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cynlluniau i ystyried y dull o gyflawni’r targed i ddiogelu 30% of o’r tir a 30% o’r môr erbyn 2030.  

Bwyd iach a diodydd egni

25 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl wedi cytuno i ymgynghori ar gynigion ar gyfer amgylchedd bwyd iach a chynigion ar gyfer gwerthu diodydd egni i blant o dan 16 oed. Mae’r Gweinidogion hefyd wedi cytuno ar gyllideb o £125,000 i’w gwario ar ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r cyhoedd a gwerthuso’r ymatebion i’r ymgynghoriad.

Bioddiogelwch

25 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd wedi cytuno i lofnodi, ar y cyd â Llywodraethau eraill y DU, Cytundeb Amrywio ar gyfer Cytundeb Asiantaeth y Gyd-ganolfan Bioddiogelwch sy’n nodi rolau a chyfrifoldebau’r Llywodraethau Datganoledig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Y Gyd-ganolfan Bioddiogelwch

25 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo’r sefyllfa gyllido mewn perthynas â gwariant ar weithgarwch COVID-19 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021 i 2022, gan nodi canlyniadau ymarfer cysoni’r pedair gwlad i gytuno ar wariant mewn perthynas â chynhyrchion COVID.

Ymchwil iechyd a gofal

22 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar fuddsoddiad yn rhaglenni Ymchwil Gofal Iechyd Cymru i gryfhau ymchwil iechyd a gofal Cymru a'i effaith a'i effeithiolrwydd i Lywodraeth Cymru, GIG Cymru a gofal cymdeithasol.

Rheolau COVID i deithwyr

21 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar drefniadau ynysu yn y cartref ar gyfer teithwyr sy'n cyrraedd o wledydd yr aseswyd eu bod yn risg uchel mewn perthynas ag amrywiolyn sy'n peri pryder.

Penodiad i Chwaraeon Cymru

21 Ebrill 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon a'r Prif Chwip wedi penodi'r Farwnes Tanni Grey-Thompson yn Gadeirydd newydd Chwaraeon Cymru.

Penodiad i Lyfrgell Genedlaethol Cymru

21 Ebrill 2022

Mae’r Prif Wenidog wedi penodi Ashok Ahir yn Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Penodiad i Lyfrgell Genedlaethol Cymru

21 Ebrill 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon a'r Prif Chwip wedi penodi Andrew Evans yn Is-lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ymestyn y penodiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

21 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn penodiad Pippa Britton fel Is-gadeirydd Dros Dro i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, am 12 mis, o 01 Ebrill 2022 tan 31 Mawrth 2023.

Ailbenodi Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

21 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Katija Dew, aelod annibynnol o'r Trydydd Sector, i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am 12 mis, o 01 Ebrill 2022 tan 31 Mawrth 2023.

Ymgysylltu â Choedwigoedd Cenedlaethol

20 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd wedi cytuno ar ariannu a recriwtio hyd at 6 swyddog maes coetir ac arweinydd tîm am gyfnod o 36 mis.

Rhaglen Ddigidol Llywodraeth Leol

20 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid gwerth cyfanswm o £1.25 miliwn i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym mlwyddyn ariannol 2022 i 2023 i gyflawni prosiectau drwy'r Gronfa Ddigidol Llywodraeth Leol, gwella sgiliau Data a Thechnoleg Ddigidol, ac adolygu parodrwydd digidol yn y sector cynghorau cymuned.

Ailbenodi aelodau Cynghorau Iechyd Cymuned

20 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi 14 o aelodau i Gynghorau Iechyd Cymuned De Morgannwg, Bae Abertawe, Gogledd Cymru, Hywel Dda, Aneurin Bevan a Chwm Taf Morgannwg.

Adnewyddu sganwyr laser 3D ar gyfer yr heddlu.

19 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyfrannu cyllid tuag at adnewyddu sganwyr laser 3D ar gyfer y pedwar heddlu ar draws Cymru.

Penodiadau i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

19 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Hannah Burch a Ceri Jackson fel Cyfarwyddwyr Anweithredol Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru gan ddechrau ar 1 Ebrill 2022.

Penodiadau i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru.

19 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddechrau ar y broses penodiadau cyhoeddus i recriwtio Cyfarwyddwr Anweithredol ar gyfer Data a Digidol i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cymru’n Gweithio

19 Ebrill 2022

Mae Gweinidog yr Economi a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddyrannu cyllid i Gyrfa Cymru er mwyn darparu gwasanaeth cynghori ar arwain Cymru’n Gweithio, parhau â gwerthusiad a’r gwaith o farchnata Cymru’n Gweithio yn 2022 i 2023 dan arweiniad Llywodraeth Cymru.

Prydau Ysgol am ddim

19 Ebrill 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i barhau i ariannu darpariaeth yn lle prydau ysgol am ddim ar gyfer disgyblion cymwys, mewn perthynas â COVID-19, hyd at 30 Mehefin 2022.

Ffliw adar

19 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i ddirymu’r Prif Ddatganiad Diogelu a’r diwygiad dilynol ac i ailddatgan y darpariaethau mewn Datganiad newydd. Daw’r Datganiad hwn o dan Reoliad 29 o’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol gan nodi’r mesurau arbennig pellach sydd eu hangen er mwyn gwahardd dofednod a chynhyrchion dofednod rhag cael eu mewnforio i Brydain Fawr o ardaloedd lle ceir ffliw adar pathogenig iawn (HPAI) yn yr Unol Daleithiau.

Ffliw adar

19 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i ddiwygio’r datganiad o dan Reoliad 29 o’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol gan nodi’r mesurau arbennig pellach sydd eu hangen er mwyn gwahardd dofednod a chynhyrchion dofednod rhag cael eu mewnforio i Brydain Fawr o ardaloedd lle ceir ffliw adar pathogenig iawn (HPAI) yn yr Unol Daleithiau

Ffliw adar

19 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i wneud datganiadau o dan Reoliad 29 o’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol gan nodi pa fesurau arbennig sydd eu hangen er mwyn gwahardd dofednod a chynhyrchion dofednod rhag cael eu mewnforio i Brydain Fawr o ardaloedd a effeithir gan ffliw adar yng Nghanada a’r Unol Daleithiau.

Ymarferwyr addysg yn Dysgu Cymraeg

19 Ebrill 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid er mwyn i ymarferwyr addysg ddysgu, a pharhau i ddysgu Cymraeg yn broffesiynol.

Prydau am ddim mewn lleoliadau addysg bellach

19 Ebrill 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ymestyn cymorth ar gyfer darpariaeth prydau am ddim ychwanegol yn y sector addysg bellach yn ystod gwyliau’r coleg.

Cyllid i gefnogi’r ffrwd waith trais yn erbyn menywod

14 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid grant i Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru er mwyn recriwtio i ddwy swydd tair blynedd i gefnogi’r ffrwd waith Glasbrint ar gyfer Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Brechu rhag COVID-19

14 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar £184,105 o gyllid Llywodraeth Cymru i ddarparu mynediad parhaus at gyngor am alergeddau i glinigwyr sy’n gwneud penderfyniadau am frechlynnau COVID-19.

Casglu gwastraff

14 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i’r cais am gyllid atodol gan Fro Morgannwg, i helpu’r awdurdod lleol i newid at fodel glasbrint casglu gwastraff.

Grant Cymorth Tai

14 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar y dyraniadau 3 blynedd terfynol i awdurdodau lleol ar gyfer y Grant Cymorth Tai, ac wedi cytuno i drosglwyddo prosiectau ‘prif raglenni’ y Grant Atal Digartrefedd i’r Grant Cymorth Tai ar gyfer 2022 i 2025.

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno ar y dyraniad 3 blynedd terfynol i awdurdodau lleol ar gyfer y Grant Cymorth Tai a’r dyraniad 3 blynedd terfynol i drosglwyddo prosiectau ‘prif raglenni’ y Grant Atal Digartrefedd i’r Grant Cymorth Tai ar gyfer Cyngor Abertawe yn 2022 i 2025.

Cymorth domestig i amaethyddiaeth

14 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cymeradwyo Concordat Sefydliad Masnach y Byd ar Reoliadau Cytundeb Amaeth Sefydliad Masnach y Byd (Cymorth Domestig). Mae’r Gweinidog hefyd wedi cymeradwyo dynodi Corff Cydgysylltu y DU i gydlynu’r wybodaeth sydd ei hangen i gydymffurfio â rhwymedigaethau Sefydliad Masnach y Byd yn y DU.

Benthyciad Tai Cymdeithasol Albert Rowe

14 Ebrill 2022

Cytunodd y Prif Weinidog i ymestyn benthyciad Tai Cymdeithasol Albert Rowe

Penodiadau i Fwrdd Cynghori Gweinidogol Gweinidog yr Economi

13 Ebrill 2022 

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar y penodiadau ar gyfer aelodau o’i Fwrdd Cynghori Gweinidogol yn sgil cynnal ymarfer recriwtio.

Busnes Cymru

13 Ebrill 2022

Mae Gweinidog yr Economi a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo Cynllun Marchnata Busnes Cymru 2022 i 2023

Bws gwennol Maes Awyr Caerdydd

13 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i roi grant cyllid refeniw i Gyngor Bro Morgannwg ar gyfer gweithredu bws gwennol 905 Gorsaf y Rhws i Faes Awyr Caerdydd am ddeuddeg mis arall ar gost o hyd at £176,781 yn y flwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Llythyron Cylch Gwaith

13 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar y llythyron cylch gwaith ar gyfer Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a Chomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, ar gyfer 2022 i 2023.

Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

13 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y bydd y cynllun presennol yn parhau yn y tymor byr yn sgil adolygiad o Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, ac y bydd y dystiolaeth hon a thystiolaeth o ffynonellau ehangach yn cael ei hailystyried fel sail i’r gwaith o ddatblygu cynllun diwygiedig o fewn y 6 mis nesaf.

Strategaeth Bwyd Cymunedol

13 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i gyhoeddi canlyniadau’r arolygon defnyddwyr a rhanddeiliaid ynglŷn â’r Strategaeth Bwyd Cymunedol ar wefan Bwyd a Diod Cymru.

Gofalwyr Di-dâl

13 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cynllun seibiannau byr i ofalwyr di-dâl.

Cymorth ar gyfer Ynni Cymunedol Cymru ac Ynni Teg

13 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i neilltuo cyllid dros gyfnod o dair blynedd i gefnogi cynllun busnes ar gyfer Ynni Cymunedol Cymru ac Ynni Teg.

Cyllid ar gyfer Arolygiaeth Gofal Cymru

13 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ychwanegol ar gyfer Arolygiaeth Gofal Cymru i gefnogi’r gwaith ychwanegol a wneir i weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ymhellach yn ystod 2022 i 2023.

Cynllun Pontio Gofal Cymdeithasol

13 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gynllun pontio gofal cymdeithasol ar gyfer mis Ebrill i fis Mehefin 2022.

Ailbenodi i Gyngor Celfyddydau Cymru

13 Ebrill 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip wedi ailbenodi Alison Mears Esswood, Devinda de Silva, Gwennan Mair, Lhosa Daly, Sara Younan, Tudur Hallam a Victoria Provis i Gyngor Celfyddydau Cymru, am 3 blynedd o 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2025.

Bwrsari GIG Cymru

13 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar becyn Bwrsari GIG Cymru i fyfyriwr cymwys ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024.

Cynllun Adfer y GIG

13 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i sefydlu Cronfa Gofal wedi’i Gynllunio i gefnogi Cynllun Adfer y GIG.

Cyllid trafnidiaeth leol

12 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddyrannu arian ychwanegol i awdurdodau lleol o amrywiaeth o grantiau trafnidiaeth, ac mae'r Prif Weinidog wedi cytuno i ddyrannu arian ychwanegol i Gyngor Sir Gaerfyrddin a Dinas a Sir Abertawe

Llyfryn 'Dewis Gofal Plant'

12 Ebrill 2022

Nid yw'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cardiau busnes i hyrwyddo'r llyfryn 'Dewis Gofal Plant'. Mae mesurau dros dro i hyrwyddo'r llyfryn am ddim wedi'u cymeradwyo ac mae argymhellion wedi'u cytuno ar gyfer datblygu ymgyrch ddigidol symlach yn y dyfodol.

Gwariant cyfalaf ychwanegol y GIG

12 Ebrill 2022

Mae'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo £1.682 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwariant cyfalaf ychwanegol GIG Cymru yn 2021 i 2022.

Cyllideb Dysgu Troseddwyr

12 Ebrill 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar y gwerthoedd ariannu i gefnogi'r ddarpariaeth dysgu a sgiliau i garcharorion yng Ngharchardai De Cymru, a darparu addysg a dysgu yng Ngharchar y Berwyn.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

12 Ebrill 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru i gefnogi'r broses o gaffael stondinau.  

Rheilffordd Eryri

12 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i wneud Gorchymyn i drosglwyddo'r pwerau a'r rhwymedigaethau statudol yng Ngorchymyn Rheilffordd Ysgafn Caernarfon 1997 o Ffestiniog Railway Holdings Limited i Gwmni Rheilffordd Ffestiniog.

Cytundeb benthyciad

12 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddiwygio cytundeb benthyca a gwariant i gefnogi buddsoddiad cyfalaf mewn perthynas â phrosiect sy'n gysylltiedig â'r rheilffyrdd yn Ne Cymru.

Grant Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol

12 Ebrill 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar y dyraniadau cyllid ar gyfer Grant Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol ar gyfer 2022 i 2023.

Cyllideb Anghenion Dysgu Ychwanegol

12 Ebrill 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo gweithgarwch o fewn y gyllideb Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach Arbenigol

12 Ebrill 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Rhaglen Argyfwng Hinsawdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Cyllid Rheolaidd Ychwanegol ar gyfer Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

7 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid rheolaidd ar gyfer Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru fel rhan o'u cyfraniad at Gynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru a thargedau Sero Net.

Cymorth i Fwa Niwclear y Gogledd-orllewin

7 Ebrill 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i gefnogi Bwa Niwclear y Gogledd-orllewin ar gyfer 2021 i 2022.

Iteriad nesaf y Rhaglen Cartrefi Cynnes - Diwygiadau i'r Rheoliadau Effeithlonrwydd Ynni Cartref

7 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddrafftio Rheoliadau diwygio ar gyfer Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2011.

Dyrannu grant ar gyfer ail dymor y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

7 Ebrill 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ddyrannu grant i Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i letya’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol am 5 mlynedd arall o 1 Awst 2022 i 31 Gorffennaf 2027.

Cynllun Gwaith Arfaethedig Ofcom 

7 Ebrill 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, wedi cytuno ar ymateb Llywodraeth Cymru i Gynllun Gwaith Arfaethedig Ofcom rhwng 2022 a 2023.

Cyllid i adnewyddu aelodaeth Cymru o'r Asiantaeth Ewropeaidd ar gyfer Anghenion Arbennig ac Addysg Gynhwysol

7 Ebrill 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i adnewyddu aelodaeth Cymru o'r Asiantaeth Ewropeaidd ar gyfer Anghenion Arbennig ac Addysg Gynhwysol ar gyfer 2022 i 2023.  

Ymchwil Preswylwyr

7 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar wariant o hyd at £150,000 i gaffael ymchwil gyda phreswylwyr i gefnogi cynigion Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru. 

Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 - Cau Priffyrdd 

7 Ebrill 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i wneud gorchymyn Cau Priffyrdd (tir yn Rhydlafar Drive, Sain Ffagan, Caerdydd 202-).

Penderfyniad ar apêl gynllunio a adferwyd

7 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi gwrthod apêl gynllunio gan Elan Homes Ltd ar gyfer datblygiad preswyl arfaethedig o 95 o anheddau (gan gynnwys tai fforddiadwy), mynedfa, mannau agored a'r holl waith cysylltiedig ar dir gerllaw Kinnerton Meadows, Kinnerton Lane, Kinnerton Uchaf, Sir y Fflint.   

Ailbenodi i Fwrdd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol

7 Ebrill 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ailbenodi Dr John Graystone, Dr Martin Price, Mike James a Dr Paul Marshall i wasanaethu fel aelodau a benodwyd gan Lywodraeth Cymru o Fwrdd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol rhwng 1 Mai 2022 a 30 Ebrill 2025.

Cyfraddau Ardollau ac Ymestyn Penodiad Aelod Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth 2022 i 2023

7 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, wedi cymeradwyo Cyfraddau Ardollau'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth ar gyfer 2022 i 2023 ac i ymestyn cyfnod Mike Sheldon fel aelod o'r bwrdd am 12 mis arall. 

Gwariant dysgu proffesiynol arfaethedig ar gyfer 2022 i 2023

7 Ebrill 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer darparu dysgu proffesiynol i ymarferwyr yn ystod 2022 i 2023.

Datblygu Swyddfeydd ac Unedau Diwydiannol Newydd, Parc Teifi, Aberteifi, Ceredigion

6 Ebrill 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i waredu tir a chynnig Grant Datblygu Eiddo i gefnogi datblygiad swyddfeydd ac unedau diwydiannol newydd ym Mharc Teifi, Aberteifi, Ceredigion.

Cymhorthdal ar gyfer M –Sparc – Cynghrair Ynni ar y Môr   

6 Ebrill 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i sefydlu'r Gynghrair Ynni ar y Môr.

Llythyr Cylch Gwaith Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

6 Ebrill 2022
 
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo a chyhoeddi llythyr cylch gwaith Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru 2022 i 2023.

Cyllid gweithlu olrhain cysylltiadau Profi, Olrhain, Diogelu 

6 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar £36miliwn o gyllid ar gyfer Olrhain Cysylltiadau yn y flwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Llythyr Cylch Gwaith, Strategaeth Gorfforaethol, Llythyr Ariannu a Chynllun Busnes Trafnidiaeth Cymru ar gyfer 2022 i 2023

6 Ebrill 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cylch gwaith a chyllid Trafnidiaeth Cymru ar gyfer 2022 i 2023.

BEL Atal Digartrefedd - Dyraniadau Grant Terfynol yn 2022 i 2023

5 Ebrill 2022

Mae'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar ddyraniadau terfynol 2022 i 2023 ar gyfer y rhaglen o brosiectau a ariennir o'r Grant Atal Digartrefedd, gan gynnwys cyllid i awdurdodau lleol i barhau â'r dull gweithredu o beidio gadael unrhyw un allan. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i ddyrannu cyllid ar gyfer dau brosiect a fydd yn cael eu trosglwyddo o Newid yn yr Hinsawdd i'r Prif Grŵp Gwariant Cyfiawnder Cymdeithasol yn ystod 2022 a 2023.

Cyllid ar gyfer Data Cymru

5 Ebrill 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid i Data Cymru barhau â'r gwaith o reoli a chynnal a chadw'r system capasiti gofal a chymorth; cynnal a chadw'r wefan gyhoeddus a sefydlu'r offeryn gyda darparwyr cartrefi gofal. 

Gwerthusiad Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog

5 Ebrill 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i’r Forces in Mind Trust gynnal gwerthusiad o fanteision, gwerth a budd cymdeithasol swyddi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi'u lleoli mewn ardaloedd Awdurdodau Lleol ledled Cymru.

Cymeradwyo cyllid ar gyfer y Cynllun Benthyciadau Di-log 

5 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i fenthyg hyd at £1 miliwn o Gyfalaf Trafodion Ariannol i Fair4All Finance, sy'n datblygu ac yn mynd i reoli'r Cynllun Benthyciadau Di-log ledled y DU.  

Cyhoeddi'r dull newydd o gynnal Asesiadau o'r Farchnad Dai Leol

5 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ystyried a chytuno ar ddull newydd o gynnal Asesiadau o'r Farchnad Dai Leol gan gynnwys y canllawiau, proses gymeradwyo Llywodraeth Cymru, adroddiad templed a rhagair drafft y Gweinidog.

Penodi Aelod Cyswllt – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

5 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Ms Jane Wild yn Aelod Cyswllt o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn rhinwedd ei swydd fel Pennaeth y Fforwm Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol.

Cyllideb a Chynllun Busnes yr Is-adran Diwylliant 2022 i 2023

5 Ebrill 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, wedi cytuno ar gynigion ar gyfer Cynllun Busnes yr Is-adran Diwylliant 2022 i 2023.

Ymateb i'r Ymgynghoriad ar yr Adolygiad o Ddyfroedd Ymdrochi Cymru 2022

5 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i nodi Traeth Col-Huw (Llanilltud Fawr) a Thraeth Penarth fel dŵr ymdrochi dynodedig yn unol â Rheoliadau Dŵr Ymdrochi 2013 ac i gyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion ac ymateb y Llywodraeth i'r ymgynghoriad ar yr Adolygiad o Ddyfroedd Ymdrochi yng Nghymru 2022.

Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu - Dyraniadau Technoleg Addysg ac Ysgolion Bro

5 Ebrill 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo dyraniadau cyllid cyfalaf i gefnogi'r rhaglenni Ysgolion Bro a Thechnoleg Addysg.

Ardaloedd Gwarchodedig Dŵr Pysgod Cregyn

5 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar yr argymhelliad ar gyfer dynodi Ardaloedd Gwarchodedig Dŵr Pysgod Cregyn yng Nghymru.

Cyllideb Datblygu Gofal Sylfaenol 2022 i 2023

5 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Cyllideb Datblygu Gofal Sylfaenol 2022 i 2023. 

Cyllid ar gyfer ymgyrchoedd gwybodaeth Helpwch Ni i'ch Helpu Chi a Cadw Cymru'n Ddiogel 2022 i 2023

5 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar £3.5 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ymgyrchoedd cyfathrebu Helpwch Ni i'ch Helpu Chi a Cadw Cymru'n Ddiogel ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Cyllid ar gyfer Gŵyl Haf i Ofalwyr Ifanc 2022

4 Ebrill 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Gŵyl Haf i Ofalwyr Ifanc yn 2022.

Strategaeth ar unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol

4 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer tîm prosiect penodedig, o fewn Llywodraeth Cymru, a fydd yn parhau i weithredu’r strategaeth ar unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol “Cysylltu Cymunedau” ac yn ymateb i flaenoriaethau sydd wedi deillio o’r pandemig.

Ailbenodi Aelod Annibynnol o Undeb Llafur i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

4 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Jackie Hughes yn Aelod Annibynnol (Undeb Llafur) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am 4 blynedd o 1 Mehefin 2022 hyd 31 Mai 2026. 

WEST a Llythrennedd Digidol 

4 Ebrill 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllideb contract (2022 hyd 2024) ac wedi cytuno bod Asesiad Llythrennedd Digidol yn cael eu ddatblygu o fewn Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST).

Cyllid Craidd Chwarae Teg

4 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Chwarae Teg yn ystod blwyddyn ariannol 2022 hyd 2023. Caiff y cyllid hwn ei ddefnyddio i gyflawni Cynllun Strategol a Gweithredol Blynyddol Chwarae Teg.

Cyllid ar gyfer gwasanaethau COVID Hir 2022 i 2023  

4 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer 2022/23 i sicrhau bod y gwasanaethau Adferiad COVID hir presennol yn parhau.

Grŵp y Gweithlu Meddygol Cenedlaethol 

4 Ebrill 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno yn ffurfiol i sefydlu Grŵp y Gweithlu Meddygol Cenedlaethol ac is-grwpiau cysylltiedig, ac i ariannu swydd Rheolwr Rhaglen Cynhyrchiant Meddygol i reoli ffrydiau gwaith Grŵp y Gweithlu Meddygol Cenedlaethol a phrosiectau cysylltiedig yn ganolog.

Parent Talk Cymru

4 Ebrill 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer y gwasanaeth cymorth rhianta dwyieithog yn ystod 2022–2023. 

Taliadau Cyfoeth Naturiol Cymru

4 Ebrill 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gynyddu taliadau cynllun codi tâl Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2022–2023.

Dysgu’r Rhaglen Iaith a Llythrennedd o bell

4 Ebrill 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid i wella’r ffordd mae’r Rhaglen Iaith a Llythrennedd yn cael ei dysgu o bell dros y ddwy flynedd ariannol nesaf.

Cyllid ar gyfer Cynllun Tystysgrif Addysg i Raddedigion - Cymhellion Hyfforddi Athrawon Addysg Bellach

31 Mawrth 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer y Cynllun Tystysgrif Addysg i Raddedigion - Cymhellion Hyfforddi Athrawon Addysg Bellach ym mlwyddyn academaidd 2022 i 2023.

Adolygiad thematig Estyn o RAChS (Recriwtio, Adfer, Codi Safonau) a chyllid dal i fyny

31 Mawrth 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gyhoeddi ymateb i Argymhellion Adolygiad Thematig Estyn: Sut defnyddiodd ysgolion a cholegau'r RAChS a grant dal i fyny ar gyfer dysgwyr ôl-16.

Targedau ailgylchu pecynnau

31 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar dargedau newydd ar gyfer 2023 ac i'r Ysgrifennydd Gwladol gynnwys Cymru yn y rheoliadau diwygio.

Protocol Cyflog Banc Datblygu Cymru

31 Mawrth 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Brotocol Cyflog Banc Datblygu Cymru 2022 i 2027.

Penodi Aelod Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

31 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Hugh Evans yn Aelod Annibynnol (Cymuned) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, am 4 blynedd, rhwng 01 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2026.

Cyllideb Tystysgrif Addysg i Raddedigion Cymhellion Addysg Bellach ar gyfer Datblygu'r Gweithlu Ôl-16

31 Mawrth 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid i fwrw ymlaen â gwaith ar y safonau proffesiynol ar gyfer y sector ôl-16, adolygiad o Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol ac adolygiad o'r Dystysgrif Addysg i Raddedigion o ran Cymhellion Addysg Bellach.

Grant Iechyd Ymddiriedolaeth Thalidomide – talu diffyg Cymru a gronnwyd yn ystod rhaglen ariannu 10 mlynedd

31 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar £289,000 o gyllid i Ymddiriedolaeth Thalidomide yn y flwyddyn ariannol 2021 i 2022 i fynd i'r afael â'r diffyg a ragwelir a gronnwyd yn ystod oes y rhaglen ariannu 10 mlynedd ar gyfer Goroeswyr Thalidomide sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2023.

Protocol Cenedlaethol i Weinyddu Brechiadau COVID-19 yn Ddiogel  

31 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar fân ddiweddariadau i'r pedwar protocol brechu Covid, gan gynnwys ymestyn y dyddiadau dod i ben.

Cytuno ar gyllid i gefnogi Ymchwiliad Cyhoeddus COVID 19 2022 i 2023

31 Mawrth 2022

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar gyllid o £1.725miliwn i gefnogi paratoadau ar gyfer Ymchwiliad Cyhoeddus COVID-19.

Fframwaith Bioamrywiaeth y DU

31 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar Fframwaith Bioamrywiaeth y DU.

Gweinyddu'r cynlluniau Addysg Bellach ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023

31 Mawrth 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gyhoeddi Cyfarwyddyd i'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i lansio ei weinyddiaeth o'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg a chynlluniau Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023.

Cyllid i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol

31 Mawrth 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid cymeradwy ar gyfer 2022 i 2023 i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol.

Arian cyfalaf ychwanegol y GIG

31 Mawrth 2022

Mae'r Prif Weinidog, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo £8.718 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer GIG Cymru yn 2021 i 2022.

Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu - Cyllid Cyfalaf ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim

31 Mawrth 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo dyfarnu hyd at £25 miliwn o gyllid cyfalaf i ganiatáu i awdurdodau lleol ledled Cymru gefnogi'r gwaith o ymestyn yr hawl i gael prydau ysgol am ddim i blant ysgolion cynradd.

Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu - Ariannu Gwariant Cymwys y Rhaglen

31 Mawrth 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo ceisiadau ychwanegol gan bartneriaid cyflawni i dalu am wariant cymwys ar brynu tir a gwaith a wnaed ar brosiectau yn ystod yr Achos Amlinellol Strategol a'r camau Achos Busnes Amlinellol.

Grant Cyngor Sir Powys ar gyfer Cerbydau Fflyd Trydan

31 Mawrth 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i roi arian grant i Gyngor Sir Powys brynu cerbydau fflyd newydd.

Cyllid cyfalaf Comisiynydd y Gymraeg 2022 i 2023

31 Mawrth 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cynnydd i gyllid cyfalaf Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Cronfa Ysgogi Economaidd - Prosiect Aquariums SustaiNable

31 Mawrth 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ddarparu cyllid yn 2021 i 2022 i gefnogi Prosiect Aquariums SustaiNable.

Cyllid ar gyfer y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol a Chanolfan Cydweithredol Cymru

30 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid grant ar gyfer y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol a Chanolfan Cydweithredol Cymru.

Penodi Aelod Annibynnol dros Gyllid ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

30 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Iwan Jones yn Aelod Annibynnol dros Gyllid ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, am gyfnod o 4 blynedd o 24 Mawrth 2022 tan 23 Mawrth 2026.

Arolwg o Haint COVID-19

30 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno y bydd Cymru yn parhau i gymryd rhan yn yr Arolwg o Haint COVID-19 2022-2023 a fydd yn cael ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Cyllid ar gyfer rhoi organau a meysydd cysylltiedig rhwng 2022 a 2023 ac wedi  hynny

30 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i roi codiad ariannol o £0.785 miliwn i Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG ar gyfer y flwyddyn 2022 i 2023. Bydd y swm yn codi’n flynyddol wedyn i £1.659 miliwn yn 2026 i 2027, i helpu gyda chostau uwch, i adfer gweithgarwch ym maes rhoi organau ac i drawsnewid gwasanaethau drwy dechnolegau newydd. Mae’r Gweinidog wedi cytuno hefyd i wneud cyfraniad blynyddol o £10,000 i helpu Tîm Cymru i gystadlu yng Ngemau Trawsblaniadau Prydain. Cadarnhaodd hefyd fod Cymru yn cyfrannu £62,450 tuag at gostau rhedeg yr Awdurdod Meinweoedd Dynol.

Gorchymyn Prynu Gorfodol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Deuoli A4119 Coed-Elái) 2020

30 Mawrth 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i awdurdodi Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i arfer y pŵer i gadarnhau Gorchymyn Prynu Gorfodol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Deuoli A4119 Coed-Elái) 2020.

Ailbenodi Aelodau i Fwrdd Cymwysterau Cymru

29 Mawrth 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ailbenodi Anne Marie Duffy a Jayne Woods i Fwrdd Cymwysterau Cymru o 1 Ebrill 2022. 

Llythyr Cylch Gwaith newydd a llythyr chyllid i’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol

29 Mawrth 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo Llythyr Cylch Gwaith yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol.

Llythyr Cylch gwaith a llythyr cyllid blynyddol Cymwysterau Cymru

29 Mawrth 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo’r llythyr cylch gwaith a’r llythyr dyrannu grant ar gyfer Cymwysterau Cymru a fydd yn berthnasol i flwyddyn ariannol 2022 hyd 2023. 

Cyfleuster Profi Hydrolig Thermig – Cyllid ar gyfer Datblygu Achos Busnes

29 Mawrth 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i gefnogi datblygiad yr Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Cyfleuster Profi Hydrolig Thermig.

Pecyn cymorth ar gyfer prosiectau datgomisiynu niwclear sifil 

29 Mawrth 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i gefnogi prosiectau datgomisiynu economaidd-gymdeithasol niwclear sifil.

Cefnogi Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru gyda blaenoriaethau’r Fframwaith Economaidd Rhanbarthol (REF) – Mawrth 2022

29 Mawrth 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cefnogi awdurdodau lleol Gogledd Cymru i gyflawni blaenoriaethau a chyflymu adferiad economaidd ar ôl COVID. 

Rhaglen Gŵyl y Gelli ar gyfer Ysgolion

29 Mawrth 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi nifer o raglenni addysg ar gyfer ysgolion a phobl ifanc fel rhan o Raglen Gŵyl y Gelli ar gyfer Ysgolion 2022 hyd 2023. 

Diweddaru Telerau ac Amodau ar gyfer aelodau Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol

29 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo newidiadau i delerau ac amodau aelodau a benodir gan Lywodraeth Cymru i Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol.

Parhau i gefnogi Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol 2022 i 2025

28 Mawrth 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i barhau i gefnogi Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol 2022 i 2025.

Addasu Cyllid Prentisiaeth Gradd at ddibenion gwahanol

28 Mawrth 2022

Mae Gweinidog yr Economi, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i addasu Cyllid Prentisiaeth Gradd at ddibenion gwahanol ar gyfer 2021 i 2022.

Fframwaith Profi Cleifion

28 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ddiweddariad i’r fframwaith profi cleifion COVID-19 mewn ysbytai yng Nghymru gyda'r Grŵp Cynghori a Blaenoriaethu Clinigol a gyfer Profion a Throsglwyddiad Nosocomiaidd. 

Cynlluniau Cyfalaf y Cynnig Gofal Plant - Cais am amrywiad

28 Mawrth 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cynlluniau cyfalaf y cynnig gofal plant a gynghorwyd gan y Panel Buddsoddi mewn Addysg.

Datganiadau o Ddiddordeb mewn Cyfalaf Dechrau'n Deg 2022 i 2023 

28 Mawrth 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar argymhellion sy'n ymwneud â Datganiadau o Ddiddordeb mewn Cyfalaf Dechrau'n Deg ar gyfer 2022 i 2023.

Cyllideb Isadran yr Economi Gylchol ac Effeithlonrwydd Adnoddau ar gyfer 2022 i 2023

28 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar ddyraniad cyllidebau refeniw a chyfalaf ar gyfer Isadran yr Economi Gylchol ac Effeithlonrwydd Adnoddau.

Cyflwyno Matrics Aeddfedrwydd Mamolaeth a'r Blynyddoedd Cynnar y Sefydliad Ymyrraeth Gynnar ar draws yr Awdurdodau Lleol sy'n weddill yng Nghymru

28 Mawrth 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i roi hyd at £75,000 rhwng mis Mawrth 2022 a mis Mawrth 2023 i ariannu’r Sefydliad Ymyrraeth Gynnar i gefnogi Awdurdodau Lleol ledled Cymru i ymgymryd â’r Matrics Aeddfedrwydd Mamolaeth a Blynyddoedd Cynnar.

Taliad o £500 i ofalwyr di-dâl

28 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwsanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer taliadau cymorth ariannol i ofalwyr di-dâl. 

Cyllid ar gyfer Gallu Cydnerthedd Cenedlaethol

28 Mawrth 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cynnal a datblygu Gallu Cydnerthedd Cenedlaethol Cymru yn 2022 i 2023.

Cyllid ar gyfer mentrau diogelwch ar y ffyrdd

28 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gynorthwyo gyda mentrau diogelwch ar y ffyrdd Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022 i 2023.

Addysg Gychwynnol Athrawon

28 Mawrth 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid i barhau a datblygu'r ymgyrch farchnata ar gyfer recriwtio i Addysg Gychwynnol Athrawon yn ystod y flwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Noddi Pysgod Môr

28 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i barhau â'n dull presennol o noddi Pysgod Môr ac adolygu sut y dylid gweinyddu'r cyllid yn y dyfodol ar ôl cytuno ar ganlyniadau'r adolygiad strategol a'u cyhoeddi.

Cynhadledd flynyddol Cymdeithas Pysgod Cregyn Prydain Fawr

28 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i ddarparu nawdd ar gyfer cynhadledd flynyddol Cymdeithas Pysgod Cregyn Prydain Fawr ar 10-11 Mai 2022.

Atal digartrefedd

28 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y dylid sefydlu panel adolygu arbenigol i adolygu'r ddeddfwriaeth atal digartrefedd bresennol yng Nghymru.

Proses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

28 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi derbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn y penderfyniad i wrthod Grant Busnes Fferm (ffenestr 6) gan na chyflwynwyd unrhyw hawliad ac ni chyflwynwyd yr holl ddogfennau ategol erbyn y dyddiad cau, sef 26 Medi 2019.

Proses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

28 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi derbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn y penderfyniad i gosbi cais am Waith Cyfalaf Uwch Glastir yn dilyn arolygiad gan fod Eitem wedi'i chanfod yn anghyflawn / heb ei chwblhau i fanylebau, ond ei bod wedi'i hawlio a'i thalu'n llawn yn flaenorol.

Proses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

28 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi derbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn y penderfyniad i gymhwyso cosb o 100% (am dramgwyddo’r ail waith) i gais y cwsmer yn 2017 o dan gynllun Organig Glastir am fethu â chydymffurfio â rheol y Cynllun ar drothwy o 40%.

Proses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

28 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi derbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn y penderfyniad i wrthod hawliad BPS 2018 gan na dderbyniwyd unrhyw dystiolaeth ategol ar gyfer 'gweithgareddau amaethyddol' erbyn 15 Mai (9 Mehefin gyda chosb 'hwyr'), ac ni dderbyniwyd hysbysiad erbyn 15 Mai, (9 Mehefin gyda chosb 'hwyr') y byddai'r gweithgaredd hwnnw'n cael ei wneud ar ôl 15 Mai a byddai tystiolaeth yn cael ei chyflwyno o fewn 30 diwrnod i'r gweithgaredd ddigwydd.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - Achos Amlinellol Strategol - Atgyfnerthu Meddygaeth Niwclear a Thomograffeg Allyriadau Positron

24 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Achos Amlinellol Strategol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i atgyfnerthu Meddygaeth Niwclear ar un safle a darparu un ateb statig ar gyfer CT Tomograffeg Allyriadau Positron ar gyfer Gogledd Cymru.

Penderfyniadau ar geisiadau GM Cynhyrchion a Reoleiddir

24 Mawrth 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles wedi cytuno i awdurdodi'r naw cynnyrch bwyd a bwyd anifeiliaid GM yn seiliedig ar gyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae'r Dirprwy Weinidog hefyd wedi cytuno i ddirprwyo, yn unol ag adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, y swyddogaeth o sefydlu a chynnal cofrestr o fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig i'r Asiantaeth Safonau Bwyd.

Arian Grant ar gyfer Rhaglen Cymorth Gwella Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

24 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyfanswm o £800,000 o gyllid grant ar gyfer Rhaglen Cymorth Gwella Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2022 i 2023. 

Cynllun Sicrwydd Bywyd y GIG a Gofal Cymdeithasol

24 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer Cynllun Sicrwydd Bywyd y Coronafeirws hyd at 30 Mehefin 2022 ar gyfer gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Rhaglen newid ymddygiad a arweinir gan yr hinsawdd

24 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar hyd at £1.455 miliwn o gyllid i gefnogi rhaglen Newid Ymddygiad a arweinir gan yr hinsawdd i alluogi'r cyhoedd i chwarae eu rhan i roi Cymru ar lwybr i Sero Net erbyn 2050 a chyfleu'r camau y mae angen eu cymryd i ymaddasu i effeithiau'r newid yn yr hinsawdd.

Haf o Hwyl 2022

23 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid a threfniadau sy'n ymwneud â Haf o Hwyl 2022.

Prynu Cartref Cymru – Canllawiau a meini prawf hyblyg i'w defnyddio yn ardal y cynllun peilot ail gartrefi a fforddiadwyedd

23 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddiwygio meini prawf a chanllawiau presennol y cynllun Prynu Cartref - Cymru i'w defnyddio yn ardal y cynllun peilot ar ail gartrefi a fforddiadwyedd, er mwyn diwallu anghenion ac amgylchiadau'r ardal yn well.

Cyllid ar gyfer rhaglenni Datblygu Arweinyddiaeth

23 Mawrth 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer rhaglenni Datblygu Arweinyddiaeth ar gyfer blwyddyn ariannol 2022 i 2023.  

Gwerthu tir ym Mharc Busnes Woodlands, Ystradgynlais

23 Mawrth 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i werthu tir yn Ystradgynlais. 

Prosiect Magellan

23 Mawrth 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i hyd at £250,000 o gyllid refeniw i gefnogi cost arbenigwyr gweithgynhyrchu.

Gwerthu Plotiau C1 a C2 Millstream Way, Bro Abertawe

23 Mawrth 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i werthu tir yn Abertawe.

Plot C1 Ystad Ddiwydiannol Baglan - Gweithred Amrywio

23 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog wedi cytuno i amrywio telerau contract ar gyfer gwerthu tir ym Mhort Talbot.

Cyfraddau Gŵyl Banc Jiwbilî ar gyfer staff y GIG

23 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y trefniadau absenoldeb a thâl ar gyfer Jiwbilî Platinwm y Frenhines i weithwyr y GIG.

Cymorth Sgiliau Airbus

23 Mawrth 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Gymorth Sgiliau i Airbus.

Cyfalaf y Gronfa Gofal Integredig - Cynigion Prosiect

22 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid Prif Raglen Gyfalaf y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer prosiectau yng Ngorllewin Morgannwg, Gorllewin Cymru a Chwm Taf Morgannwg. 

Ymgynghoriad ar y Cynllun Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon

22 Mawrth 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Cynllun Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon.

Penodi Is-gadeirydd Ystadau Cymru

22 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo penodi Lorna Cross, Pennaeth Eiddo yng Nghyngor Bro Morgannwg, yn is-gadeirydd Ystadau Cymru.

Cyllid ar gyfer Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

22 Mawrth 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar y cynllun busnes a chyllideb o hyd at £1.5 miliwn ar gyfer Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar gyfer 2022 i 2023.

Rhaglen Sgiliau Hyblyg

22 Mawrth 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg: Cymeradwyo 2022 i 2025. 

Cynllun Penodi Ar gyfer Dirprwy Gadeirydd a Chomisiynwyr Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru

22 Mawrth 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gynnal proses Penodiadau Cyhoeddus i recriwtio Dirprwy Gadeirydd a 6 Chomisiynydd i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Deintyddiaeth y GIG: Taliadau deintyddol cleifion a thargedau refeniw'r Bwrdd Iechyd

22 Mawrth 2022
 
Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i beidio â chynyddu taliadau cleifion deintyddol yn 2022 i 2023.

Occult Hep B - profi ac edrych yn ôl

22 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar argymhelliad Diogelwch Gwaed, Meinweoedd ac Organau ar Haint Hepatitis B Occult yn Rhoddwyr Gwaed y DU ac i gyflwyno profion rhoddwyr a chamau gweithredu sy'n ymwneud ag astudiaeth i edrych yn ôl.

Rhaglen Solar Egni, cam 3

21 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i neilltuo cyllid hyd at £990,000 ar gyfer Egni Co-op er mwyn iddo allu gweithredu cam 3 o’i gynllun cyflawni.

Genome UK

21 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi Genome UK: yr ymrwymiadau a rennir i’w gweithredu ar draws y DU gyfan 2022 i 2025.

Diogelwch ar y ffyrdd

21 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i roi cyllid grant i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i helpu gyda mentrau Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd 2022 i 2023.

Ymchwil gymdeithasol

21 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid ar gyfer pedair swydd dros dro i swyddogion ymchwil sy’n gweithio gyda’r Gyfarwyddiaeth Tai ac Adfywio yn 2022 i 2023 drwodd i 2023 i 2025.

Seilwaith ailgylchu Torfaen

21 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddyrannu hyd at £3.64 miliwn mewn cyfalaf, tuag at ddatblygu cyfleuster ailgylchu newydd.  

Parc Eco Sir Benfro

21 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddyrannu cyllid cyfalaf hyd at £9.5 miliwn tuag at ddatblygu Parc Eco sy’n cynnwys seilwaith integredig ar gyfer casgliadau gwastraff ac ailgylchu.   

Seilwaith ailgylchu Sir Ddinbych

21 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf hyd at £1.5 miliwn tuag at seilwaith a chasgliadau ailgylchu Cyngor Sir Ddinbych.

Cymorth Busnes

21 Mawrth 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid grant ar gyfer prosiect ym Mhencoed.

Rhaglen buddsoddi mewn rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol 2022 i 2023

21 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar y cyllid cyfalaf a refeniw ar gyfer rhaglenni rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, a chyllid y rhaglen ar gyfer 19 o swyddi o flaenoriaeth o fewn yr Is-adran Dŵr, Llifogydd a Diogelwch Tomenni Glo er mwyn sicrhau bod digon o gapasiti a gallu arbenigol i gyflawni 7 ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu.

Newidiadau i brofion PCR wythnosol ar gyfer pobl asymptomatig

21 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar newidiadau i brofion PCR wythnosol ar gyfer staff asymptomatig sy’n gweithio mewn cartrefi gofal a lleoliadau gofal cymdeithasol eraill. 

Ymgynghoriad ar y Strategaeth Bioddiogelwch Planhigion 

21 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyd-gyhoeddi adroddiad Llywodraeth y DU ar y ‘crynodeb o ymatebion’  i’r ymgynghoriad ar y Strategaeth Bioddiogelwch Planhigion newydd. 

Adolygiad Annibynnol o’r Rhwydwaith Ffyrdd Strategol

21 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gomisiynu panel annibynnol i adolygu’r rhaglenni blynyddol presennol ar gyfer y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yng Nghymru, gan ystyried a ydynt yn addas ac wedi eu cynllunio’n benodol i gyflawni dyletswyddau statudol Gweinidogion Cymru fel yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y rhwydwaith, ac ar yr un pryd sicrhau nad yw’r gwariant yn uwch nag sydd rhaid, gan ddangos gwerth am arian. 

Darparu’r rhaglen Gofyn a Gweithredu

21 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu ac i wahodd ceisiadau tendro ar gyfer darparu’r hyfforddiant Hyfforddi’r Hyfforddwyr; gan roi’r un dyfarniad cyllid i bob un o’r 6 rhanbarth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) i ddarparu hyfforddiant Gofyn a Gweithredu yn unol â chynlluniau hyfforddi rhanbarthol; a chyfuno’r grant cymhorthdal Gofyn a Gweithredu o fewn dyraniad y rhanbarth.

Ariannu Rhaglenni Diogelwch Cymunedol yr Awdurdodau Tân ac Achub yn 2022 i 2023

21 Mawrth 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer rhaglenni diogelwch cymunedol yr Awdurdodau Tân ac Achub yn 2022 i 2023, yn seiliedig ar geisiadau am gyllid cydweithredol Cymru gyfan.

Cyllid cyfalaf yn ystod y flwyddyn ar gyfer Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn 2021 i 2022

21 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i roi cyllid ar gyfer peiriant rheoli o bell ‘i-cut’ (peiriant torri a reolir o bell sydd wedi ei gynllunio ar gyfer mannau anodd a serth), ynghyd â threlar addas, i Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn 2021 i 2022, o gyllid cyfalaf sydd dros ben yn ystod y flwyddyn. 

Cynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl, Busnes Cymru

21 Mawrth 2022
 
Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ddarparu Cynghorwyr ar Gyflogaeth Pobl Anabl yn Busnes Cymru.

Banc Cymunedol – Cyllid Dichonoldeb Ychwanegol

21 Mawrth 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Gyllid Dichonoldeb Ychwanegol – y Banc Cymunedol.

Cyllid i gefnogi’r elfen teuluoedd agored i niwed yn y Pecyn Cymorth Costau Byw

21 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gefnogi’r elfen teuluoedd agored i niwed yn y Pecyn Cymorth Costau Byw.

Cyllid grant ychwanegol ar gyfer Jenipher's Coffi a Maint Cymru

21 Mawrth 2022

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno i ddarparu cymorth ychwanegol mewn grantiau sy’n werth cyfanswm o £210,000 ar gyfer Maint Cymru (£100k) a Jenipher’s Coffi (£110k) o’r gyllideb  Cysylltiadau Rhyngwladol.

Cynigion ariannu – cymorth COVID - Namibia / Uganda

21 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo trefniadau ar gyfer darparu cyllid COVID brys i bartneriaethau â Chymru yn Namibia a Uganda.

Ail ffocysu cyllid ymateb COVID brys Cymru ac Affrica

21 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn y cyllid COVID brys ar gyfer sefydliadau o Gymru sy’n gweithio mewn partneriaethau ar draws yr holl wledydd yn Affrica Is-Sahara – nid Namibia a Uganda yn unig. Gwneir hyn drwy gynllun grantiau Cymru ac Affrica.

Ail-dendro ar gyfer cynllun grantiau bach 3 blynedd Cymru ac Affrica

21 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cymeradwyo trefniadau ymarfer tendro i gael partner i weinyddu Cynllun Grantiau Bach Cymru ac Affrica am gyfnod o dair blynedd o 2022 i 2023 ac i 2024 i 2025.

Cyfraniad i Apêl Argyfwng Affganistan y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC)

21 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Weinidog wedi cytuno i roi £100,000 i’r DEC tuag at Apêl Argyfwng Affganistan.

Cyfraniad i Apêl Argyfwng Wcráin y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC)

21 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Weinidog wedi cytuno i roi £4 miliwn i’r DEC tuag at Apêl Argyfwng Wcráin. Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar y cyllid o gyllidebau Llywodraeth Cymru sy’n bodoli eisoes.  

Cynnig cwch solar ar gyfer y Wampis

21 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i roi cyllid i Maint Cymru ar gyfer helpu pobl y Wampis ym Mheriw i adeiladu cwch ynni solar deg sedd, a hefyd i gefnogi cyfnewid diwylliannol rhwng ieuenctid brodorol y Wampis a phobl ifanc yng Nghymru.

Penodi aelod i Fwrdd Dewis Gyrfa

21 Mawrth 2022
 
Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i benodi James Harvey yn aelod o Dewis Gyrfa (Gyrfa Cymru) o’r rhestr wrth gefn.

Penodi Cadeirydd newydd i Fwrdd Dewis Gyrfa

21 Mawrth 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i benodi Erica Cassin yn Gadeirydd Dewis Gyrfa (Gyrfa Cymru).

Mentrau tocynnau teithio aml-ddull integredig a menter tocynnau teg

21 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i roi hyd at £795,400 o gyllid refeniw i Trafnidiaeth Cymru yn 2021 i 2022 ar gyfer parhau i ddatblygu a threialu ffyrdd o wella trefniadau tocynnau teithio aml-ddull integredig i deithwyr ledled Cymru.

Gofyniad cyllideb ychwanegol ar gyfer atal cerbydau sy’n fygythiad (Hostile Vehicle Mitigation)

21 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo gwariant cyllidebol ychwanegol mewn perthynas â phrosiect bws yn y De.

Amcangyfrif cyllideb 2022 i 2023 Comisiynydd Plant Cymru

21 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i osod amcangyfrif cyllideb 2022 i 2023 Comisiynydd Plant Cymru gerbron y Senedd.

Cyllid gweithredu ar gyfer gwasanaethau peilot Fflecsi yn 2021 i 2022

21 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i roi cymorth cyllid refeniw o £199,343 yn 2021 i 2022 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a £161,143 i Gyngor Sir Penfro er mwyn iddynt allu darparu’r cynlluniau Fflecsi yn eu hardaloedd.  Hefyd cytunwyd i roi cyllid refeniw o £514,404 (heb gynnwys TAW) i Trafnidiaeth Cymru ar gyfer parhau i reoli’r gwaith o dreialu nifer o gynlluniau bws Fflecsi ledled Cymru. Hefyd cytunwyd i neilltuo cyllid refeniw o £33,870 (yn cynnwys TAW)  i alluogi Llywodraeth Cymru i gomisiynu asesiad annibynnol o’r cynlluniau Fflecsi peilot cychwynnol.

Bwrw ati â’r gwaith ar niwed sy’n gysylltiedig â gamblo

16 Mawrth 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar y dull arfaethedig o fwrw ati â’r gwaith ar niwed sy’n gysylltiedig â gamblo ac mae wedi ysgrifennu at y Gweinidog dros Dechnoleg a’r Economi Ddigidol Llywodraeth y DU i bwysleisio safbwynt polisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag Adolygiad Llywodraeth y DU o Ddeddf Gamblo 2005.

Cwyn am wasanaeth y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr 

16 Mawrth 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gyfarwyddo’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i weithredu’r setliad a gynigiwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. 

Cais cynllunio a alwyd i mewn

16 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi gwrthod cais cynllunio gan Aldi Stores Ltd i godi siop fwyd Dosbarth A1 gyda’r mynediad, maes parcio a’r gwaith tirlunio cysylltiedig yng Nghoedlan y Parc, Aberystwyth.  

Cyllid ar gyfer rhagolygon treth

16 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i drosglwyddo cyllid i’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (drwy Drysorlys ei Mawrhydi) ar gyfer llunio a chyhoeddi rhagolygon trethi annibynnol yn 2022 i 2023 i gyd-fynd â Chyllideb Llywodraeth Cymru.  

Cyllid ychwanegol ar gyfer prosiectau a gymeradwywyd drwy’r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau

16 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y dylid rhoi cyllid ychwanegol i brosiectau a gymeradwywyd yn y gorffennol sydd wedi gweld cynnydd mewn costau yn ogystal â £2,000,000 o gyllid ar gyfer Cyngor Sir Gaerfyrddin i brynu eiddo gwag.  

Gwariant Ymyriadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg 2022 i 2023

16 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Wariant Ymyriadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar gyfer 2022 i 2023 ac ymlaen i 2023 i 2024.

Diwygio Setliad Llywodraeth Leol 2021 i 2022

15 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo 10 miliwn ychwanegol i gael ei ddyrannu drwy’r setliad llywodraeth leol 2021 i 2022.

Cardiau adnabod awdurdodau lleol ar gyfer gofalwyr Ifanc – cyllid 2022 i 2023

15 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cardiau adnabod awdurdodau lleol ar gyfer gofalwyr ifanc yn 2022 i 2023.

Prosiect Cefnffyrdd LFFN y De

15 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid ychwanegol ar gyfer Prosiect Cefnffyrdd LFFN lleol y De. 

Cynllun Gwella Strategol - Gwastadeddau Gwent

15 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Prif Weinidog wedi cytuno i benodi ymgynghorwyr i roi cyngor ar botensial bioamrywiaeth safleoedd ar Wastadeddau Gwent y mae Llywodraeth Cymru yn berchen arnynt. 

Cyhoeddi’r Strategaeth Gweithio o Bell

15 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi Gweithio’n Ddoethach: Strategaeth Gweithio o Bell i Gymru.

Cefnogi Cyllid Craidd Mentrau Cymdeithasol

15 Mawrth 2022

Mae Gweinidog yr Economi a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar Gyllid Craidd y Sector Mentrau Cymdeithasol - Ebrill 2022 - Mawrth 2023.

Busnes Cymru Digidol – 2022 i 2023

15 Mawrth 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ynglŷn â Busnes Cymru Digidol ar gyfer 2022 i 2023.

Cyllid Grant i dîm Dadansoddi Cyllidol Cymru

14 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyfanswm o £60,000 o gyllid grant i dîm Dadansoddi Cyllidol Cymru ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2022 i 2023 a 2023 i 2024.

Cynnal a chadw'r Rhwydwaith Traffyrdd a Chefnffyrdd

14 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid cyfalaf ar gyfer y cyfnod o fis Hydref i fis Mawrth ym Mlwyddyn Ariannol 2021 i 2022 ar gyfer gweithgareddau trafnidiaeth y rhwydwaith ffyrdd strategol.

Cynigion ar gyfer rheoli risgiau o rywogaethau estron goresgynnol yn 2022 i 2023

14 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gynigion ar gyfer camau gweithredu yn 2022 i 2023 i reoli rhywogaethau estron goresgynnol sydd â blaenoriaeth yng Nghymru, gan helpu i gyflawni ymrwymiadau bioamrywiaeth cenedlaethol a rhyngwladol.

Adran 5 a 6 yr A465 – Cymeradwyaeth i caffael a gwaredu tir

14 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo caffael a gwaredu tir ar gyfer cynllun Adran 5 a 6 yr A465.

Trosglwyddo Tir

14 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar Drosglwyddo tir yn Ffynnon Taf.

Adroddiad Blynyddol ar Fân-ddaliadau Awdurdodau Lleol yng Nghymru 2020 - 2021

14 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno ar gynnwys a chyhoeddi'r Adroddiad Blynyddol ar Fân-ddaliadau Awdurdodau Lleol yng Nghymru 2020 - 2021.

Tîm Datgarboneiddio a Safonau - Adnoddau Rhaglenni

14 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar ariannu'r rhaglen ar gyfer 17 o swyddi yn yr isadran Diogelwch a Rheoleiddio Tai am y cyfnod o dair blynedd hyd at 31 Mawrth 2025.

Astudiaeth Sensitifrwydd ar Rwydwaith Cymru ar gyfer Dal, Defnyddio a Storio Carbon

14 Mawrth 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid ar gyfer caffael adroddiad sensitifrwydd am y pedwar achos o fesur y galw i ddal a storio carbon a fodelwyd yn yr adroddiad gwreiddiol a baratowyd gan DNV Ltd. (£16,800 gan gynnwys TAW) ac ar gyfer cyhoeddi'r adroddiad dilynol.

Grant Sipsiwn a Theithwyr 2021 i 2022 – Llandygair

14 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer gwaith adnewyddu ar safle Llandygair.

Lwfans Atgyweiriadau Mawr

14 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd wedi cytuno i barhau i ddyrannu Lwfans Atgyweiriadau Mawr i ddeg awdurdod tai lleol ac mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar y dyraniad parhaus o Lwfans Atgyweiriadau Mawr i Gyngor Abertawe ar gyfer 2022 i 2023.

Grid Ynni’r Dyfodol

14 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd wedi cytuno i ariannu prosiect Grid Ynni'r Dyfodol yng Nghymru, ac i swyddogion weithio gyda'r rhai sy'n debygol o fod yn gysylltiedig â datblygu strwythur llywodraethu i oruchwylio'r gwaith.

Gwastraff a Reolir

14 Mawrth 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd wedi cytuno i beidio â gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth yn dilyn cynnig Llywodraeth y DU i ymgynghori ar newidiadau i Loegr i Reoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012, ond i adolygu'r polisi hwn yn barhaus.

Trawsnewid cyllid Trefi

14 Mawrth 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd a'r Gweinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd wedi cymeradwyo: hyd at £2,000,000 ar gyfer cynlluniau yn y Farchnad Gyffredinol a Chigyddion yn Wrecsam; a chymeradwyo £1,041,877 yn ychwanegol ar gyfer cynllun hamdden a masnachol defnydd cymysg Canol Tref Castell-nedd. Mae'r Dirprwy Weinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd a'r Prif Weinidog wedi cymeradwyo £410,755 yn ychwanegol ar gyfer cynllun tir cyhoeddus Wind Street, Abertawe.

Prydau Ysgol am Ddim

14 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg wedi cymeradwyo £21.4 miliwn i barhau i ddarparu prydau bwyd i blant sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim yn ystod y gwyliau hyd at ddiwedd mis Awst 2022.

Gwaith cyflwyno Diwygio Partneriaethau Cymdeithasol

14 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog dros Bartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i ddyfarnu contract am gymorth wrth lunio cam nesaf yr adolygiad o bartneriaethau cymdeithasol.

Fframwaith Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

14 Mawrth 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, wedi cytuno ar gynnwys Dogfen Fframwaith Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Cymorth ymholiadau band eang a phost uniongyrchol i eiddo cysylltiedig

9 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i barhau â chymorth ar gyfer ymholiadau band eang a phost uniongyrchol at eiddo sy'n gysylltiedig â rhaglen gyflwyno band eang ffeibr Llywodraeth Cymru gydag Openreach ar gyfer 2022 i 2023.

Dadansoddiad Data Allwedd Band Eang y Genhedlaeth Nesaf i Gymru ac Adolygiad o'r Farchnad Agored Prosiect Gigabit

9 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog  Newid Hinsawdd wedi cytuno i benodi Farrpoint Ltd i gynnal y dadansoddiad data ar ddarpariaeth band eang ar gyfer Allwedd Band Eang y Genhedlaeth Nesaf i Gymru ac Adolygiad o'r Farchnad Agored ac Adolygiad Cyhoeddus Prosiect Gigabit.

Diweddaru ‘Dylunio Ffermydd Gwynt yng Nghymru’ i gefnogi Cymru'r Dyfodol

9 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i roi'r dasg i Gomisiwn Dylunio Cymru adolygu a diweddaru ‘Dylunio Ffermydd Gwynt yng Nghymru’ i gyflawni'r ymrwymiad yn Cymru’r Dyfodol i baratoi canllawiau i helpu i ddatblygu ynni gwynt ar y tir.

Dull Strategol o ymdrin â Pholisi Gwrthsefyll Newid Hinsawdd

9 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar waith arfaethedig gan swyddogion i wella dull polisi a llywodraethu Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag addasu a gwrthsefyll newid hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys archwilio’r gwaith o gyflwyno adroddiadau annibynnol cyfnodol ar gynnydd yng Nghymru gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, darparu cymorth i brosiectau enghreifftiol addasu hinsawdd y sector cyhoeddus yn amodol ar y cyllid sydd ar gael, a datblygu ein cynllun cenedlaethol nesaf ar gyfer addasu i'r hinsawdd, i'w gyhoeddi yn 2024. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi ymateb polisi interim i drydydd asesiad Annibynnol ar y Risg Hinsawdd y Pwyllgor Newid Hinsawdd erbyn haf 2022, ochr yn ochr ag adroddiad cynnydd Blwyddyn 2 ar y cynllun cenedlaethol 5 mlynedd presennol ar gyfer addasu i'r hinsawdd, Cymru sy'n Effro i’r Hinsawdd.

Cyllid ar gyfer y Radd Meistr Genedlaethol mewn Addysg (Cymru)

9 Mawrth 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid i gam nesaf y gwaith o ddatblygu a recriwtio ar gyfer y Rhaglen Gradd Meistr mewn Addysg.

Cyllideb Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2021 i 2022 – diweddariad Chwefror 2022

9 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gefnogi prosiectau ychwanegol o dan y rhaglen grant refeniw Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Atal Cymwysterau Sgiliau Hanfodol dros dro

9 Mawrth 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i atal Cymwysterau Sgiliau Hanfodol dros dro o fewn fframweithiau prentisiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Lefel 2 a Lefel 3 tan 31 Awst 2022.

Grant Refeniw Blynyddol ar gyfer Prosiectau Menter Cyllid Preifat Presennol

9 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i dalu rhandaliad 2022 i 2023 o grant refeniw blynyddol i'r awdurdodau perthnasol.

Benthyciadau Tai Cymdeithasol

9 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddarparu cymorth benthyciadau o hyd at £30 miliwn i'r sector tai yn 2021 i 2022.

Trefniadau ar gyfer storio cyffuriau a reolir mewn cronfeydd meddyginiaethau covid 27 Ion 2022

9 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno bod swyddogion yn rhoi’r gorau am y tro i ddanfon rhagor o gyffuriau a reolir i’w cadw yng nghronfeydd meddyginiaethau COVID-19 Cymru oni bai eu bod yn cyflawni diben a nodwyd gan GIG Cymru. 

Gwasanaethau Pas COVID y GIG

9 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar yr arian ychwanegol sydd ei angen ar gyfer Gwasanaeth Pas COVID y GIG (Pas A COVID y GIG) (Cynnwys Cymraeg B) (Contract Printio Pas COVID papur).

Gorchymyn Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth 2022

9 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a’r Gogledd, a’r Trefnydd, wedi cymeradwyo bod Defra yn cyhoeddi Crynodeb ymatebion i’r Ymgynghoriad ar Ddiwygio Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth, a’r camau nesaf. 

Recriwtio Ceidwaid Cadw

9 Mawrth 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo defnyddio cyllid y rhaglen i recriwtio ceidwaid ar gyfer cofebau Cadw. 

Penodi Prif Swyddog Gweithredol Interim Cyngor Celfyddydau Cymru

9 Mawrth 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip wedi cytuno i benodi Michael Elliott yn Brif Swyddog Gweithredol interim Cyngor Celfyddydau Cymru. 

Dyraniadau’r Cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, 2022 i 2023

9 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo dyraniadau refeniw a chyfalaf 2022 i 2023 ar gyfer cynlluniau’r Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. 

Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân yng Nghymru – Rhagdybiaethau Proses Brisio 2016

9 Mawrth 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno na ddylid newid y rhagdybiaethau ar gyfer cwblhau elfen capio costau prisiad 2016 a’r dull cyfrif a argymhellwyd gan Adran Actiwari’r Llywodraeth i’w ddefnyddio i gwblhau elfen capio costau prisiad 2016. 

Estyn y gwerthusiad o raglen y Gronfa Iach ac Egnïol

9 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles wedi cytuno ar estyniad o flwyddyn i’r gwerthusiad o raglen y Gronfa Iach ac Egnïol er mwyn i’r gwerthusiad allu bodloni’i holl amcanion a nodau ac i ni allu dysgu popeth sydd yna i’w ddysgu. 

Cyngor ar raglen lywodraethu a gwaith Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru

9 Mawrth 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i roi ymateb sylweddol i Dr David Clubb, Cadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar ei gynigion ynghylch rhaglenni gwaith a threfniadau llywodraethu’r dyfodol. 

Arian ar gyfer costau datblygu i reoli’r prosiect Triniaeth AHP 

9 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i neilltuo hyd at £33,300 ar gyfer ariannu tîm y prosiect tan ddiwedd y flwyddyn ariannol. 

FareShare Cymru 2022 i 2025

7 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y gellir rhoi cyllid refeniw o £840,000 i  FareShare Cymru o gyllideb Is-adran yr Economi Gylchol ac Effeithlonrwydd Adnoddau ar gyfer 2022 i 2025. Bydd hyn yn helpu i atal gwastraff bwyd yn y gadwyn gyflenwi, drwy ganiatáu i’r bwyd a’r diodydd sydd dros ben gael eu dosbarthu i sefydliadau ledled Cymru er mwyn bwydo pobl mewn angen, drwy fecanwaith llythyr dyfarnu grant.  

Ymestyn y Cynllun Cymhellion i Gyflogwyr

7 Mawrth 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ymestyn y Cynllun Cymhellion i Gyflogwyr hyd at 31 Mawrth 2022, ac i barhau â’r cynllun ar gyfer prentisiaid anabl o 1 Ebrill 2022 tan 31 Mawrth 2023.

Tai dan arweiniad y gymuned yng Nghymru – Cyllid Refeniw 2022 i 2025

7 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddarparu cyllid refeniw o £180,000 i  Ganolfan Gydweithredol Cymru ar gyfer pob un o’r tair blynedd nesaf i gefnogi’r prosiect Cymunedau’n Creu Cartrefi. 

Galluogi Tai Gwledig – Cyllid Refeniw 2022 i 2025

7 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddarparu £424,651 tuag at alluogi tai gwledig ar draws cyfnod o dair blynedd 2022 i 2023, 2023 i 2024 a 2024 i 2025; a dim mwy na £1,000 y flwyddyn i gefnogi cyfarfodydd o’r Grŵp Tai Gwledig Strategol yn ystod y tair blynedd nesaf.

Creu seilwaith ar gyfer darparu adnoddau addysgol dwyieithog

7 Mawrth 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i greu seilwaith ar gyfer darparu adnoddau addysgol dwyieithog.  

Y Cynnig Gofal Plant – diwygio polisi – plant sy’n cael eu mabwysiadu

7 Mawrth 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddiwygio polisi’r Cynnig Gofal Plant er mwyn i rieni cymwys sy’n cymryd absenoldeb mabwysiadu gael manteisio ar y Cynnig Gofal Plant.

Grantiau Gwella Gofal Sylfaenol 2022 i 2023

7 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i roi cyllid refeniw, nad yw’n rheolaidd, o £1.5m yn 2022 i 2023 i’r Byrddau Iechyd er mwyn iddynt allu darparu Grantiau Gwella Gofal Sylfaenol ar gyfer cyfleusterau gofal sylfaenol sydd o dan berchnogaeth meddygon teulu neu drydydd parti. 

Gweithgarwch adnewyddu a diwygio

7 Mawrth 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ddarparu cyllid yn 2022 i 2023 ar gyfer gweithgarwch adnewyddu a diwygio o fewn Llinell Wariant yn y Gyllideb ar gyfer y Ddarpariaeth Ôl-16.

Rhaglen Twf Swyddi Cymru+ 

7 Mawrth 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar y dyraniad ariannol arfaethedig ar gyfer y rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yn ystod 2022 i 2023.

Cynnig Gofal Plant – Adolygiad o’r gyfradd fesul awr

7 Mawrth 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i weithredu argymhellion sy’n ymwneud â’r gyfradd a delir am ofal plant drwy’r Cynnig Gofal Plant. 

Cynnig Gofal Plant Cymru – ymestyn y Cynnig Gofal Plant i gynnwys rhieni sydd mewn addysg a hyfforddiant. 

7 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ehangu’r Cynnig Gofal Plant i gynnwys rhieni sydd mewn addysg a hyfforddiant, o bosibl mor gynnar â mis Medi 2022, gan ganolbwyntio i ddechrau ar rieni sydd wedi cofrestru ar gyrsiau llawn amser neu ran-amser mewn Addysg Uwch ac Addysg Bellach, ac y dylai swyddogion gyflawni gwaith pellach er mwyn bwrw ymlaen â’r cynllun hwn. 

Cymeradwyo adnoddau ychwanegol ar gyfer Diwygio Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol 2022 i 2023

3 Mawrth 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid i gryfhau capasiti a gallu rhaglen y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER).

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - Datblygu'r Uned Endosgopi yn Ysbyty Athrofaol Llandochau - Achos Cyfiawnhad Busnes

3 Mawrth 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar achos cyfiawnhad busnes gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar gyfer datblygu'r Uned Endosgopi yn Ysbyty Athrofaol Llandochau gyda chymorth £6.689m o gyllid gan Lywodraeth Cymru dros y 2 flynedd nesaf (2021 i 2022 a 2022 i 2023).

Tîm Arolygu ar y Cyd

3 Mawrth 2022

Cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ar gyllid i gefnogi'r gwaith cwmpasu sydd ei angen mewn perthynas â sefydlu Tîm Arolygu ar y Cyd yng Nghymru ac ar gyfer recriwtio Cydgysylltydd Strategol i gefnogi hyn.

Ymgysylltu parhaus ac ymchwil i gapasiti/gallu y Sector Cyhoeddus

3 Mawrth 2022

Cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ar gyllid i gaffael prosiect ymchwil i archwilio gallu presennol y gweithlu diogelwch adeiladau ar draws pob awdurdod lleol. 

Cyllid ar gyfer undebau credyd – mentrau costau byw

3 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gefnogi dau ymyriad costau byw a ddarperir gan undebau credyd: cynllun ehangu benthyciad undeb credyd; ac ymgyrch farchnata ar gyfer credyd fforddiadwy.

Oriau agor safleoedd profi COVID-19

3 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i leihau’r oriau agor ar gyfer Safleoedd Profi COVID-19 Rhanbarthol, Safleoedd Profi Lleol, ac Unedau Profi Symudol, ac o ganlyniad byddant yn cau 2 awr ynghynt, am 6pm yn hytrach nag 8pm.  

Hyrwyddo ansawdd perthynas a chymorth teuluol – ailddyrannu cyllid

3 Mawrth 2022
 
Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailddyrannu cyllid ar gyfer hyrwyddo ansawdd perthynas a chymorth teuluol.

Penodi Prif Weithredwr Cwmni Egino

3 Mawrth 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i benodi Alan Raymant yn Brif Swyddog Gweithredol a Robert Davies a Kevin McCullough yn Gyfarwyddwyr Anweithredol i Gwmni Egino a’i Fwrdd.

Penodi Cyfarwyddwr Anweithredol i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

3 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Mohammed Mehmet yn Gyfarwyddwr Anweithredol Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd ei benodiad yn dechrau ar 01/04/2022 ac yn parhau tan 31/03/2026.

Penodi Cyfarwyddwr Anweithredol i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

3 Mawrth 2022
 
Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Kate Young yn Gyfarwyddwr Anweithredol Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd ei phenodiad yn dechrau ar 01/04/2022 ac yn parhau tan 31/03/2026. 

Ailbenodi Aelod Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

3 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Rhian Thomas yn Aelod Annibynnol (Cyfalaf ac Ystadau) ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro am bedair blynedd, a bydd hyn yn ôl-weithredol o 17 Rhagfyr 2021 hyd at 16 Rhagfyr 2025.

Addysg Drochi Cymraeg

1 Mawrth 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar ymateb Llywodraeth Cymru i adolygiad thematig Estyn: Addysg Drochi Cymraeg, Strategaethau a dulliau i gefnogi dysgwyr 3-11 mlwydd oed.

Cyflwyno adolygiadau, y gellid eu hariannu, o asesiadau anghenion astudio (Myfyrwyr sy’n cael Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl)

1 Mawrth 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ariannu adolygiadau o asesiadau anghenion astudio ar gyfer myfyrwyr cymwys sy’n cael Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl, sy’n bodloni amgylchiadau penodol. 

Setliad Refeniw a Chyfalaf Llywodraeth Leol terfynol ar gyfer 2022 i 2023

1 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar y Setliad Llywodraeth Leol terfynol 2022 i 2023.

Ymgyrch Siarad gyda Fi

1 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i neilltuo hyd at £369,000 ar gyfer yr ymgyrch Siarad gyda Fi yn 2022 i 2023.

Cyllid ychwanegol ar gyfer ailddatblygu Theatr Clwyd

1 Mawrth 2022

Mae Gweinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip wedi cytuno ar y cyllid ychwanegol ar gyfer ailddatblygu Theatr Clwyd 2022 i 2023 a 2024 i 2025.

Cynigion ar gyfer datblygu modiwlau solar ffotofoltaig cysylltiedig ar y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas

1 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno safbwynt yr Adran ar ddatblygiadau modiwlau solar ffotofoltaig cysylltiedig ar y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas.

Cyllid y cynnig gofal plant ar gyfer awdurdodau lleol ar gyfer 2021 i 2022

1 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailddyrannu cyllid ar gyfer y Cynnig Gofal Plant, a roddir i awdurdodau lleol ar gyfer 2021 i 2022 er mwyn bodloni’r galw.

Y gyllideb ddrafft ar gyfer 2022 i 2023

1 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar sut y dyrennir cyllideb y Cynnig Gofal Plant ar gyfer awdurdodau lleol yn 2022 i 2023.

Penodi Arweinwyr Clinigol Cenedlaethol ar gyfer poen parhaus

1 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Owen Hughes a Dr Sue Jeffs yn Arweinwyr Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Poen Parhaus. 

Adroddiad Blynyddol drafft

1 Mawrth 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo Adroddiad Blynyddol drafft Cymraeg 2050 ar gyfer 2020 i 2021.

Lolfa Fusnes Bwyd a Diod Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru 2022

1 Mawrth 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd  wedi cytuno ar gynnig yr Is-adran Fwyd i gynnal Lolfa Fusnes ar gyfer Masnach yn Sioe Frenhinol Cymru 2022 a hefyd i ddefnyddio gofod hysbysebu mewnol ac allanol yn y Neuadd Fwyd. 

Cylch gwaith cyflog Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

28 Chwefror 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cais cylch gwaith cyflog Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022.

Cyllid y Cynyddran Gwasanaeth ar gyfer Addysgu

28 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ddyraniadau cyllid y Cynyddran Gwasanaeth ar gyfer Addysgu ar gyfer 2021 i 2022.

Asesiadau personol

28 Chwefror 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo trefniadau rhagarweiniol i ymestyn y contract ar gyfer cyflwyno'r asesiadau personol.

Proses Apeliadau Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

28 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apêl Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn y penderfyniad i beidio â thalu saith cais Grantiau Bach Glastir ar gyfer “bondocio perthi/gwrychoedd a chau bylchau” gan nad oedd y gwaith a gwblhawyd yn cydymffurfio â'r fanyleb dechnegol.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

28 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn y penderfyniad i beidio â thalu hawliad Grantiau Bach Glastir yn dilyn cais hwyr.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

28 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn y penderfyniad i beidio â thalu opsiwn Rheoli Glastir Uwch gan na wnaed cais ar Ffurflen Cais Sengl 2016.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

28 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno o argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn y penderfyniad i wrthod hawliad Grantiau Bach Glastir a gyflwynwyd ar 30 Mawrth 2019 oherwydd nad yw'n cydymffurfio â manylebau cytundebol.

Cynllun Gwenyn Iach

28 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i’r cynllun gweithredu ar gyfer Cynllun Gwenyn Iach 2030.

Eiddo gwag

28 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i estyn gwerth y contract sydd yn ei le er mwyn darparu arbenigedd a chymorth i awdurdodau lleol gymryd camau gorfodi ar eiddo gwag a dadfeiliedig.

Rhaglen Cadwyn Gyflenwi Hinkley

28 Chwefror 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i barhau i gyllido Rhaglen Cadwyn Gyflenwi Hinkley.

Cyllid Seren

25 Chwefror 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo rhoi cyllid Seren ar gyfer 2022 i 2023. 

Grant Lleiafrifoedd Ethnig, Sipsi, Roma a Theithwyr

25 Chwefror 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar fformiwla dyrannu’r Grant Lleiafrifoedd Ethnig, Sipsi, Roma a Theithwyr ar gyfer blwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Fframweithiau Prentisiaethau a Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol

25 Chwefror 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar drefniadau derbyn a sicrhau ansawdd ar gyfer Rhaglenni Fframweithiau Prentisiaethau a Safonau Galwedigaethol ar gyfer 2022 i 2023.

Contract Fframwaith Credyd a Chymwysterau Cymru

25 Chwefror 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i estyn y contract alinio Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru am flwyddyn arall.

Penodi Arweinwyr Clinigol Cenedlaethol

25 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Dr Meinir Jones a Dr Robert Letchford yn Arweinwyr Clinigol Cenedlaethol ar gyfer arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol.

Gwasanaethau archif lleol

25 Chwefror 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip wedi cytuno i roi cyllid i gefnogi gwasanaethau archif awdurdodau lleol yng Nghymru i sicrhau cofnodion digidol o’u cymunedau lleol.

Ffurflenni Darparwyr Gofal Cofrestredig

25 Chwefror 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i oedi ar anfon ffurflenni a graddau arolygu blynyddol ar gyfer darparwyr gofal cofrestredig.

Dadgoloneiddio casgliadau llyfrgelloedd

25 Chwefror 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip wedi cytuno i gyllido prosiect ymchwil i adolygu arferion caffael presennol llyfrgelloedd ledled Cymru, gyda golwg ar sicrhau bod yr arferion hynny yn erbyn hiliaeth ac yn adlewyrchu gwir gyfoeth ein treftadaeth ddiwylliannol amrywiol.

Cynlluniau tlodi bwyd

25 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i gyllido cynlluniau tlodi bwyd cynaliadwy yn 2021 i 2022 a 2022 i 2023.

Cyllid yn ystod y flwyddyn ar gyfer yr Awdurdodau Tân ac Achub

25 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer amryw o gynigion cyfalaf gan dri Awdurdod Tân ac Achub ym mlwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Cyllid ysgogi ar gyfer arweinwyr staff nyrsio dynodedig

23 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid o £699,514 ym mlynyddoedd ariannol 2022 i 2023 a 2023 i 2024 i benodi arweinwyr lefelau staff nyrsio penodedig ym mhob bwrdd iechyd lleol ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre.

Diwygio Setliad Llywodraeth Leol 2021 i 2022

23 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo dyrannu £50 miliwn ychwanegol i brif awdurdodau lleol ar gyfer 2021 i 2022 a gwneud ail adroddiad cyllid Llywodraeth Leol mewn perthynas â Setliad Llywodraeth Leol 2021 i 2022.

Newidiadau i ffiniau cynghorau cymuned a thref

23 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Un Llais Cymru i gefnogi cynghorau cymuned i reoli materion cyflogaeth yn dilyn newidiadau i ffiniau.

Gweithgareddau Gaeaf Llawn Lles

22 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailddyrannu arian er mwyn cefnogi rhagor o fentrau Gaeaf Llawn Lles. 

Ariannu’r ymagwedd ‘gadael neb allan’ o ran y digartref

22 Chwefror 2022
 
Mae’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar ddyraniadau dangosol 2022 i 2023 ar gyfer parhau â’r ymagwedd ‘gadael neb allan’ o ran y digartref.

Arolygon o ddiogelwch adeiladau

22 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i benodi Adroit i gynnal arolygon cychwynnol ar gyfer y tîm Diogelwch Adeiladau.

Arolygon o ddiogelwch adeiladau

22 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i benodi Adroit i gynnal arolygon desg cychwynnol ar gyfer y tîm Diogelwch Adeiladau. 

Terfynau cyflymder 20mya

22 Chwefror 2022

Mae’r Prif Weinidog, y Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ariannu awdurdodau lleol i lunio rhestr o’r arwyddion ffyrdd a ddefnyddir ar ffyrdd cyfyngedig, i baratoi ar gyfer rhoi’r cynnig ar gyfer y terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar waith. 

Prosiect Bute Avenue

22 Chwefror 2022

Mae’r Prif Weinidog wedi cymeradwyo gwariant i benodi Cynrychiolydd Cleient ar gyfer rheoli prosiect PFI Bute Avenue. 

Pecyn Cymorth Costau Byw 

22 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer elfen addysg y Pecyn Cymorth Costau Byw. 

Rhaglen hyfforddiant proffesiynol Seicoleg Addysg

22 Chwefror 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen hyfforddiant proffesiynol Doethuriaeth mewn Seicoleg Addysg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Caffael a rhoi prydles i Ffatri Stadco, Llanfyllin, Powys

22 Chwefror 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo caffael a phrydlesu ffatri ym Mhowys.

Datblygu Unedau Diwydiannol Newydd, Parc Penarlâg, Brychdyn, Sir y Fflint

22 Chwefror 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cymorth grant pellach ar gyfer prosiect ym Mharc Penarlâg, Brychdyn.

Gwerthu tir datblygu ym Mharc Cybi, Caergybi

22 Chwefror 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo rhoi opsiwn i werthu tir ym Mharc Cybi, Caergybi.

Datblygu gweithlu Cymraeg 2022 i 2023

22 Chwefror 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid, yn 2022 i 2023, ar gyfer gweithgareddau i gynyddu nifer yr athrawon Cymraeg a chyfrwng Cymraeg.

Cyllid ar gyfer datblygiad technoleg iaith Gymraeg Prifysgol Bangor

22 Chwefror 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi dyrannu cyllid i Brifysgol Bangor i weithredu pecynnau gwaith ein Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg.

Adolygiad Grŵp Cynghori a Gweithredu Cymru ar Faterion Morol

22 Chwefror 2022
 
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cwblhau adolygiad o Grŵp Cynghori Cymru ar y Môr a Physgodfeydd. Mae'r Gweinidog wedi penderfynu datblygu strategaeth ymgysylltu amgen gyda'r diwydiant a rhanddeiliaid.

Opsiynau ar gyfer paratoi canllawiau cynllunio ar draws Gwastadeddau Gwent

22 Chwefror 2022

Cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud gwaith peilot i baratoi polisi/canllawiau cynllunio ar Wastadeddau Gwent i ategu Polisi 9 Cymru’r Dyfodol.

Cyllid Trawsnewid Trefi De-ddwyrain a Gogledd Cymru 

22 Chwefror 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid benthyciadau Trawsnewid Trefi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, cyllid grant ychwanegol i Gyngor Sir Gwynedd, ac estyniad i delerau ad-dalu benthyciadau i Gynghorau Bro Morgannwg a Chasnewydd.

Cyllid Trawsnewid Trefi De-ddwyrain Cymru

22 Chwefror 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid grant a datblygu Trawsnewid Trefi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a chyllid benthyciadau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Cyllid Trawsnewid Trefi

22 Chwefror 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid grant Trawsnewid Trefi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a chyllid grant i gefnogi rhaglen grant Creu Lleoedd Cymru. 

Cymorth Refeniw Ychwanegol ar gyfer Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu Awdurdodau Lleol 

22 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y gellir dosbarthu hyd at £6.5 miliwn o danwariant refeniw o fewn cyllideb yr Is-adran Effeithlonrwydd Adnoddau a'r Economi Gylchol ar gyfer 2021 i 2022 i Awdurdodau Lleol fel cymorth ychwanegol ar gyfer gweithgareddau economi gylchol a gwastraff drwy system y Grant Rheoli Gwastraff Cynaliadwy.

Cynllun grantiau bach Cymru ac Affrica

21 Chwefror 2022

Cymeradwyodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol drefniadau ar gyfer ymarfer tendro i ddod o hyd i bartner i weinyddu Cynllun Grantiau Bach Cymru o Blaid Affrica dros dair blynedd rhwng 2022 a 2023 a 2024 i 2025.

Swyddi a Ariennir gan y Rhaglen – Is-adran Tir

21 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog dros Newid Hinsawdd wedi cytuno i recriwtio'r swyddi canlynol i'r Is-adran Tir - Uwch Reolwr Datblygu Tir (x 2), Rheolwr Cymorth Tir Cyhoeddus, Rheolwr Cymorth Asedau a Swyddog Cymorth Tir (x 2). Cytunodd y Gweinidog hefyd ar barhad y cyllid ar gyfer Arbenigwr Tir Arweiniol (G7) ac Arbenigwr Asedau Arweiniol (G7).

Swydd a Ariennir gan y Rhaglen – Ystadau Cymru

21 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i recriwtio swydd Rheolwr Cynaliadwyedd – Ystadau.  Cydweithio gan y Sector Cyhoeddu â'r Is-adran Tir i gefnogi'r gwaith parhaus o gyflawni gwaith parhaus Ystadau Cymru.

Gwerthu Tir ym Mharc Busnes Woodlands, Ystradgynlais

21 Chwefror 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i werthu tir yn Ystradgynlais.

Dyraniad eilaidd o gyllideb yr Economi Sylfaenol mewn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol 2021 i 2022

21 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ariannu prosiect dan arweiniad Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i ddarparu cynllun peilot sy'n profi dichonoldeb tecstilau y gellir eu hailddefnyddio ar gyfer sgrybs, gynau, hetiau a masgiau theatr.

Datganiad Diogelu Lithuania

17 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i gymhwyso mesurau Diogelu o dan Reoliadau Masnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Cysylltiedig (Cymru) 2011 i gyd-fynd â chamau gweithredu ledled Prydain Fawr i wahardd mewnforio cnofilod bwydo o Lithwania.

Fframwaith Cyffredin Ansawdd Aer anneddfwriaethol ar ôl Brexit

17 Chwefror 2022

Cytunodd y Gweinidog dros Newid Yn yr Hinsawdd i gyhoeddi Cytundeb Amlinellol y Fframwaith wedi'i ddiweddaru a'r Concordat wedi'i ddiweddaru.

Cynnydd yn y Cyllid Grant ar gyfer Cynllun Addysg Peirianneg Cymru/STEM Cymru

17 Chwefror 2022

Cytunodd y Gweinidog dros Newid Hinsawdd a'r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd ar gynnydd grant o £3,231 i Gynllun Addysg Peirianneg Cymru.   

Penodi i Addysg a Gwella Iechyd Cymru

17 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Mr John Gammon yn Aelod Annibynnol i Addysg a Gwella Iechyd Cymru o 01 Awst 2022 tan 31 Gorffennaf 2026.

Rolau Cydgysylltydd Sero-Net

17 Chwefror 2022

Mae Gweinidog yr Economi a'r Gweinidog dros Addysg a'r Gymraeg wedi cytuno ar gyllid i gefnogi cydlynydd sgiliau sero-net ac arbenigwr arweiniol o fewn y rhwydwaith addysg bellach.

Cynllun taliadau newydd ar gyfer gofal cymdeithasol i gyd-fynd â’r Cyflog Byw Gwirioneddol

17 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gynllun talu newydd ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol sy'n cyd-fynd â'r Cyflog Byw Gwirioneddol.

Taliad ychwanegol i weithwyr gofal cymdeithasol sy'n cyd-fynd â'r Cyflog Byw Gwirioneddol – gwelliant ac estyniad

17 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i drefniadau ariannol sy'n ymwneud â'r cynllun talu ychwanegol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol sy'n cyd-fynd â'r Cyflog Byw Gwirioneddol.

Trefniadau a chyllid y Gronfa Cymorth Dewisol 2022 i 2023

17 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol wedi cymeradwyo parhad y trefniadau DAF presennol a hefyd y gefnogaeth barhaus i gleientiaid tanwydd oddi ar y grid am gyfnod pellach o ddeuddeng mis o 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023.

Corff Adolygu Cyflogau'r GIG a Llythyrau cylch gwaith Corff Adolygu Taliadau Meddygon a Deintyddion 22 i 2023

17 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i lythyrau Cylch Gwaith NHSPRB a DDRB 2022 I 2023.

Cynigion Prosiect Cyfalaf o dan y Gronfa Gofal Integredig

17 Chwefror 2022

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar gyllid o dan Brif Raglen Gyfalaf y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer un prosiect yng Ngorllewin Morgannwg. Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyfalaf o dan Brif Raglen Gyfalaf a Rhaglen Gyfalaf Ddewisol y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer prosiectau yn ngogledd Cymru, Gwent a gorllewin Cymru.

Estyn Gwasanaethau Cyngor ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE am hanner cyntaf y flwyddyn ariannol nesaf, sef 2022 i 2023

17 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i estyn Gwasanaethau Cyngor ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE am chwe mis ychwanegol ar ôl mis Mawrth 2022. 

Meini prawf cymhwysedd diwygiedig ar gyfer cyllid gan fyrddau iechyd

17 Chwefror 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddiwygio’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cyllid gan fyrddau iechyd lleol i ddarparu gweithgareddau i gefnogi gofalwyr di-dâl yn 2022 i 2023.

Estyn Cytundeb Benthyciad

17 Chwefror 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i estyn Cytundeb Benthyciad ac adnewyddu’r Gofrestr Eiddo Deallusol. 

Parhau â’r cyllid ar gyfer setliadau i dalu am gamerâu diogelwch ar y ffyrdd mewn ardaloedd 20mya peilot 

17 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i barhau â’r cyllid ar gyfer setliadau i  weithredu cam cyntaf y cynllun i gyflwyno ardaloedd 20mya ym Mwcle, Sir y Fflint. Defnyddir y cyllid hwn i ddatblygu strategaeth orfodi ar gyfer ardaloedd 20mya ac i annog dulliau llesol ar gyfer teithio i ysgolion yn yr ardal.

Cyllid ar gyfer gostyngiadau yn y dreth gyngor a gasglwyd yn 2021 i 2022

17 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddarparu cyfraniad o £19.3 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol, i liniaru effaith gostyngiadau yn y dreth gyngor a gasglwyd gan awdurdodau lleol i gefnogi gwasanaethau lleol a gweithrediadau o ddydd i ddydd ar gyfer blwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Darparu cyllid grant i Clwyd Alyn i sefydlu hwb carbon sero-net

17 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddyrannu £990,000 o gyllid grant dros y tair blynedd nesaf i gefnogi Cymdeithas Tai Clwyd Alyn i gaffael partner i sefydlu a darparu canolfan perfformiad tai sero-net, ar sail 'er lles', i ddarparu cyngor a chymorth annibynnol ar ddatgarboneiddio adeiladau preswyl, ar gyfer landlordiaid cymdeithasol i ddechrau,  ac yna i ddatblygwyr tai a pherchnogion cartrefi unigol.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – Is-ganolfan Radiotherapi

17 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i alluogi gwaith yn Ysbyty Neuadd Nevill Hall, y Fenni i ddatblygu is-ganolfan radiotherapi.

Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf 2022 i 2023

17 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar drefniadau ar gyfer cynnal Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yn 2022 i 2023.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro – gwaith ar Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol dros dro yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd

17 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gynlluniau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ddatblygu cyfleuster archwilio meddygol fforensig dros dro, wedi’i achredu gan yr ISO, ar gyfer Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Ynys Saff yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro,  Datblygu Partneriaeth Genomeg Cymru – Achos Busnes Llawn

17 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Achos Busnes Llawn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro am gyllid i gefnogi gwaith arfaethedig i ddatblygu Partneriaeth Genomeg Cymru.

BIP Aneurin Bevan – Uned Unedig y Fron Ysbyty Ystrad Fawr – Achos Busnes Llawn

17 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar achos busnes llawn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar gyfer datblygu Uned unedig y Fron yn Ysbyty Ystrad Fawr, Caerffili gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Dyraniadau Cyfalaf Dewisol y GIG 2022 i 2023

17 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y Dyraniadau Cyfalaf Dewisol i sefydliadau’r GIG o dan Raglen Gyfalaf y GIG 2022 i 2023. 

Darparu ac ariannu monitorau ansawdd aer symudol ar gyfer Barc Ynni Baglan

17 Chwefror 2022
 
Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gaffael monitorau ansawdd aer symudol i’w darparu rhwng Mawrth ac Awst 2022 ym Mharc Ynni Baglan fel rhan o becyn cynhwysfawr ar gyfer monitro ansawdd aer ac i gynhyrchu adroddiad gan arbenigwyr yn dilyn y cyfnod hwn. 

Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid

15 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i gyhoeddi Fframwaith dros dro Iechyd a Lles Anifeiliaid y DU.

Benthyciad Tai Cymdeithasol Albert Rowe

15 Chwefror 2022

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar estyniad o bedwar mis ar gyfer Benthyciad Tai Cymdeithasol Albert Rowe oherwydd oedi cyn cwblhau'r gwaith adeiladu.

Cronfa Seilwaith Eiddo Cramic Way

15 Chwefror 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo hawddfraint a grant i ariannu'n rhannol ddatblygiad ym Mhort Talbot.

Grant Cymorth Profedigaeth

15 Chwefror 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddyfarnu dyraniadau grant dros dair blynedd ychwanegol, ar gyfer y cyfnod rhwng 2021 a 2024, i sefydliadau trydydd sector sy'n darparu cymorth profedigaeth ledled Cymru a chytunodd i ddefnyddio tanwariant grant 2021 i 2022.

Ymestyn cyllid ar gyfer Swyddog Cymorth Cofrestru Etholiadol

15 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo ymestyn y cyllid sydd ar gael i Awdurdodau Lleol i recriwtio Swyddogion Cymorth Cofrestru Etholiadol tan fis Medi 2022.

PTI Cymru

15 Chwefror 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi rhoi caniatâd i Trafnidiaeth Cymru gaffael PTI Cymru Holdings Limited a'i is-gwmnïau.

Prosiect Menter Cyllid Preifat Rhodfa Bute

15 Chwefror 2022

Mae'r Prif Weinidog wedi cymeradwyo setliad ar gyfer hawliad cytundebol.

Fframwaith Cyffredin Rheoli a Chefnogi Pysgodfeydd

15 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i gyhoeddi Cytundeb Amlinellol y Fframwaith a'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar gyfer y Fframwaith Cyffredin ar gyfer Rheoli a Chefnogi Pysgodfeydd.

Ymgynghoriad ar Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid Tranche gyntaf o Gynhyrchion a Reoleiddir

15 Chwefror 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i'r Asiantaeth Safonau Bwyd gyhoeddi ymgynghoriad wyth wythnos o hyd yn gofyn am farn rhanddeiliaid ar ffactorau cyfreithlon eraill sy'n ymwneud ag Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid sydd wedi'u cynnwys yn y tranche cyntaf o geisiadau ar gyfer cynnyrch a reoleiddir.

Ardoll dwristiaeth

14 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gwmpas cychwynnol a nodau ar gyfer pwerau ardoll dwristiaeth yn ôl disgresiwn i Awdurdodau Lleol.

Y rhaglen ar gyfer cyllid sbardun rhanbarthol

14 Chwefror 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid grant ar gyfer cyllideb sbardun rhanbarthol i’r Canolbarth a’r De-orllewin.

Gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru

14 Chwefror 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i sefydlu Bwrdd Rheilffordd ar y cyd ar gyfer Cymru, sy’n cynnwys Trafnidiaeth Cymru, Network Rail a Llywodraeth y DU, i ystyried materion sy’n ymwneud â buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru yn y dyfodol.

Prisiau tocynnau trên

14 Chwefror 2022
 
Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gynnydd o RPI+0% ar gyfer prisiau tocynnau trên a reoleiddir yn 2022. Daw’r cynnydd i rym ar 1 Mawrth 2022.

Prosiect Treftadaeth Brymbo

14 Chwefror 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo rhoi cyllid refeniw i Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo er mwyn hwyluso cytundeb â pherchennog y tir ynghylch les hirdymor ar safle hanesyddol Gweithfeydd Haearn Brymbo. 

Oriel Genedlaethol ar gyfer Celf Gyfoes 

14 Chwefror 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip a Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar becyn ariannu i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r achos busnes yr Oriel Genedlaethol ar gyfer Celf Gyfoes.

Cyllid cyfalaf ar gyfer gwaith brys

14 Chwefror 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip a Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf ar gyfer gwaith brys yng Ngholeg Harlech er mwyn cyflwyno darpariaeth ddehongli lefel uchel ar safleoedd Treftadaeth y Byd allweddol yn y Gogledd. Mae Gweinidog yr Economi hefyd wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf ar gyfer gwaith brys yng Nghastell Cyfarthfa.

Ymestyn y dyddiad olaf un ar gyfer Fiberspeed

14 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ymestyn y dyddiad olaf un ar gyfer Fibrespeed.

Cymdeithas Pysgotwyr Cymru

14 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i ariannu Cymdeithas Pysgotwyr Cymru o ran ei chyllid craidd ar gyfer 2022 i 2023. 

Cyllid ychwanegol i gefnogi’r adferiad dysgu a’r rhaglen recriwtio, adfer a chodi safonau

14 Chwefror 2022

Yn 2021 i 2022 cymeradwyodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ddyfarniad o £33 miliwn ychwanegol i gefnogi adferiad dysgu ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno’r dyraniad o’r Gronfa Adnoddau Cyllidol wrth gefn yn 2021 i 2022 a throsglwyddo cyllid i’r MEG Addysg a’r Gymraeg.  

Adolygiad Annibynnol o’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi

14 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i fwrw ymlaen â’r broses gaffael i benodi adolygydd i gynnal yr adolygiad annibynnol o’r Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi.

Adroddiad yr Adolygiad Ffyrdd - Cyffyrdd 14-16a yr A55 

14 Chwefror 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i argymhellion y Panel Adolygu Ffyrdd ynglŷn â chynllun cyffyrdd 14-16a yr A55.

Adroddiad Cychwynnol yr Adolygiad Ffyrdd

11 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar argymhellion cychwynnol y Panel Adolygu Ffyrdd, ac eithrio’r rheini sy’n ymwneud â’r A4119 Coed Elái.

Ymgynghoriad Fframwaith Cymru

10 Chwefror 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gyhoeddi ymgynghoriad ar y fframwaith drafft ar gyfer y Gymraeg mewn ysgolion, lleoliadau a ffrydiau cyfrwng Saesneg.

Cynllun E-feic Partneriaeth Teithio Llesol Ogwen

10 Chwefror 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i roi cyllid i gynllun e-feic Partneriaeth Teithio Llesol Ogwen. 

Penodi Cadeirydd i Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru

10 Chwefror 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i benodi’r Arglwydd Terry Burns yn Gadeirydd Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru.

Cymeradwyaeth i sicrhau cyllid er mwyn gwerthuso'r gyllideb i ymateb i COVID-19 yn y sector addysg ôl-16

9 Chwefror 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022 i 2023 er mwyn gwerthuso’r gyllideb i ymateb i COVID-19 yn y sector addysg ôl-16. 

Cyllid ychwanegol ar gyfer anfon llythyron hysbysu i gartrefi

9 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gyllideb ar gyfer gweithgareddau cofrestru ychwanegol, yn ogystal â chyllid ar gyfer anfon llythyron hysbysu i gartrefi cyn yr etholiadau lleol 2022.

Cronfa Dyfodol yr Economi 

9 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno ar Gyllideb Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn ne Cymru.

Meini prawf ar gyfer tynnu Landlord Cymdeithasol Cofrestredig oddi ar y Gofrestr o Landlordiaid Cymdeithasol

9 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi’r Meini Prawf ar gyfer tynnu Landlord Cymdeithasol Cofrestredig oddi ar y Gofrestr o Landlordiaid Cymdeithasol.

Cronfa Dyfodol yr Economi 

9 Chwefror 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Gyllideb Buddsoddi mewn Twristiaeth Cymru ar gyfer prosiect ym Mhowys.

Digwyddiad diwrnod agored Prifysgol De Cymru

9 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog dros Addysg a'r Gymraeg, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a'r Prif Weinidog wedi cytuno y gall Prifysgol De Cymru gynnal digwyddiad diwrnod agored er mwyn galluogi darpar fyfyrwyr i brofi'r cynnig addysgol sydd ar gael ar 22 Ionawr 2022.

Is-ddeddfau a gynigiwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru ynghylch pysgota eogiaid a brithyllod y môr ar yr afon Gwy, a physgota eogiaid ar yr afon Wysg

9 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cadarnhau’r is-ddeddfau fel y’u cynigiwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â’r afon Gwy a’r afon Wysg, yn unol ag atodlen 26 o’r Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991. Mae’r Gweinidog wedi llofnodi’r Offerynnau Cadarnhau.

Cynllun ar gyfer penodi Cynghorydd Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 

8 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar gynllun ar gyfer penodi Cynghorydd Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu – Amrywiad Rhaglen Amlinelliad Strategol Casnewydd

8 Chwefror 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar argymhellion a wnaed gan y panel buddsoddi mewn addysg ym mis Ionawr 2022, mewn perthynas â rhaglen amlinelliad strategol awdurdodau lleol Casnewydd.

Cyllid ar gyfer Cartrefi Cymdeithasol mwy o faint sy’n cael eu rhentu

8 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid yn 2021 i 2022 ar gyfer prosiectau i ddarparu cartrefi cymdeithasol mwy o faint sy’n cael eu rhentu drwy addasu cartrefi sy’n bodoli eisoes ar draws Cymru.  

Caffael Profion Llif Unffordd

8 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i Gymru gael ei siâr o’r 350 miliwn o brofion llif unffordd brys a gafodd eu caffael gan Lywodraeth y DU, rhwng mis Ionawr i fis Mawrth 2022.

Y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio

8 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid o £32.1 miliwn ar gyfer prosiectau o dan y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn 2021 i 2022.

Ymestyn prosiect yr UE Busnes Cymdeithasol Cymru

8 Chwefror 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ymestyn prosiect yr UE Busnes Cymdeithasol Cymru.

Ymrwymiadau Cynllunio ac Amgylcheddol, Coed-elái, Tonyrefail

8 Chwefror 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar y cyllid sy’n gysylltiedig ag ymrwymiadau Cynllunio ac Amgylcheddol ar safle datblygiad Coed-elái.

Is-ddeddfau arfaethedig Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer pysgota am eogiaid ar Afon Hafren

8 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cadarnhau’r is-ddeddfau a wnaed gan Gyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas ag Afon Hafren, yn unol ag atodlen 26 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991, ac mae wedi arwyddo’r Offerynnau Cadarnhau.
 

Setliad yr Heddlu

7 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar Setliad yr Heddlu ar gyfer 2022 i 2023.

Gwaith cyweirio mewn perthynas â diogelwch tân ar gyfer adeiladau preswyl uchder canolig ac uchel iawn 

7 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddarparu cyllid grant i landlordiaid cymdeithasol ar gyfer gwneud gwaith cyweirio mewn perthynas â diogelwch tân ar adeiladau dros 11 metr, yn hytrach nag adeiladau 18+ metr neu uwch, yn 2022 i 2023, gyda’r cyllid yn parhau y tu hwnt i hynny, yn ddibynnol ar lwyddiant y prosiect hwn yn 2022 to 2023, os bydd dyraniadau cyllid ar gael.

Metro Gogledd Cymru

7 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cam 3 o brosiect Metro Gogledd Cymru

Busnes Cymru

7 Chwefror 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen yn mis Ebrill 2022 am hyd at 18 mis i oruchwylio’r gwaith o ddylunio a datblygu gwasanaeth Busnes Cymru.

Cynllun cymorth hunanynysu

7 Chwefror 2022

Mae’r Prif Weinidog, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i adolygu graddfa dalu’r cynllun cymorth hunanynysu ac i estyn y cynlluniau cymorth hyd at 30 Mehefin 2022.

Casgliadau ailgylchu ar ymyl y ffordd

7 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gymorth cyfalaf i alluogi newidiadau i gasgliadau ailgylchu ar ymyl y ffordd yn Sir Ddinbych.

Dechrau’n Deg

7 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid cyfalaf ychwanegol i gwblhau canolfan Dechrau’n Deg Llandudno ac i ailddyrannu cyllid i brosiectau cyfalaf  Dechrau’n Deg Powys, sydd i’w cyllido yn ystod 2021 i 2022 a 2022 i 2023.

Cartref Plant Diogel Hillside

7 Chwefror 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid cyfalaf i gefnogi ailwampio Cartref Plant Diogel Hillside.

Cronfa Dyfodol yr Economi 

7 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Ne Cymru. 

Cynlluniau Gweithredu Ansawdd Aer Awdurdodau Lleol

7 Chwefror 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi gofyn i’r holl Gynlluniau Gweithredu Ansawdd Aer sydd heb eu cwblhau eto gael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gwerthuso cyn gynted â phosibl, ond heb fod yn hwyrach na 30 Medi 2022. 

Rhaglen Heneiddio'n Iach Age Cymru 2022 i 2025

7 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid parhaus ar gyfer y Rhaglen Heneiddio'n Iach yn 2022 i 2023, 2023 i 2024 a 2024 i 2025 yn y drefn honno. 

Cronfa Dyfodol yr Economi 

7 Chwefror 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid ar gyfer busnes yng Nghaerdydd.

Cyllid Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion

7 Chwefror 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles wedi cytuno i ariannu gwaith y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion ym mlynyddoedd ariannol 2022 i 2023 a 2023 i 2024.

Parhau gyda gwasanaethau’r Cynllun Brys COVID19 ar gyfer y sector Bysiau

7 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i hyd at £22 miliwn o gyllid refeniw ychwanegol ar gyfer y 6 mis olaf yn 2021 i 2022, yn ogystal â hyd at £11miliwn o gyllid BES 1.5 a adenillwyd i alluogi'r diwydiant bysiau i barhau â lefelau gwasanaeth uwch i ateb y galw sy'n esblygu.  

Cais i gofrestru ysgol annibynnol yng Nghymru 

7 Chwefror 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gais i gofrestru ysgol annibynnol yn Ne-orllewin Cymru - Brynmorgan Villa, Castell-nedd Port Talbot. 

Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2022 i 2023 

7 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i'r canllawiau a'r dogfennau ategol ar gyfer gweinyddu cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2022 i 2023 gael eu rhoi i awdurdodau lleol. Bydd y ddogfen ganllaw hefyd yn cael ei chyhoeddi ar dudalennau gwe Busnes Cymru.

Cais i gofrestru ysgol annibynnol yng Nghymru

3 Chwefror 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cais Ysgol Tŷ Mynwy am statws ysgol annibynnol.  

Ymestyn cytundeb trwyddedu cenedlaethol Microsoft ar Hwb

3 Chwefror 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ymestyn cytundeb trwyddedu cenedlaethol Microsoft ar Hwb.   

Cyllid adfer i lywodraeth leol ar gyfer llifogydd mis Chwefror 2020

3 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar ddyraniad o £21.4miliwn i awdurdodau lleol ar gyfer y costau adfer parhaus o fewn blwyddyn ariannol 2021 i 2022 yn dilyn stormydd mis Chwefror 2020. 

Cyllid ychwanegol ar gyfer Cronfa Caledi Llywodraeth Leol Covid 19 2021 i 2022

3 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar ddyraniad o £46miliwn i gynyddu'r gyllideb ar gyfer y gronfa caledi llywodraeth leol yn 2021 i 2022.

Cyllid Cyfalaf Ychwanegol i Lywodraeth Leol 2021 i 2022

3 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar ddyraniad o £70miliwn ar gyfer cyllid cyfalaf cyffredinol ychwanegol i lywodraeth leol yn 2021 i 2022.

Cyllid Pwysau Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Leol 2021 i 2022

3 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo dyraniad refeniw o £50 miliwn o gronfeydd wrth gefn COVID ar gyfer cyllid pwysau gofal cymdeithasol llywodraeth leol yn 2021 i 2022, a bod y cyllid yn cael ei ddosbarthu i 22 o awdurdodau lleol ar sail Ardaloedd Gwariant y Sector gofal cymdeithasol o fewn fformiwla'r setliad llywodraeth leol.

Estyniad i Benodiad Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

3 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn penodiad Martin Woodford fel Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru tan 30 Medi 2022.

Peiriannau monitro CO2 ar gyfer colegau Arbenigol ac Ysgolion Arbennig Annibynnol 

3 Chwefror 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i Lywodraeth Cymru gyflenwi peiriannau monitro CO2 i ysgolion arbennig annibynnol a cholegau arbenigol am yr union gost yn unig.

Cronfa Dyfodol yr Economi  

3 Chwefror 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Bwrdd Cynghori Datblygu Diwydiannol Cymru 

3 Chwefror 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid y Grant Eiddo ar gyfer Datblygu Busnes ar gyfer prosiect yn Sir Benfro.

Cyfalaf y Gronfa Gofal Integredig 

3 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i drosglwyddo cyllideb cyfalaf o Dai a Llywodraeth Leol i Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn sicrhau y gellir darparu rhaglen cyfalaf y Gronfa Gofal Integredig 2021 i 2022. 

Penodi Cadeirydd i Diwydiant Cymru 

3 Chwefror 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i'r costau hysbysebu, y broses recriwtio a'r cyflog ar gyfer penodi Cadeirydd i Fwrdd Sector Development Wales Partnership (sy'n masnachu fel Diwydiant Cymru), ac wedi cymeradwyo'r penderfyniad i estyn tymor y Cadeirydd presennol dros gyfnod y broses hon. 

Cyllid grant Rheoli Ansawdd yr Aer yn Lleol 

3 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Dirprwy Weinidog wedi cytuno i greu grant Rheoli Ansawdd yr Aer yn Lleol i gefnogi awdurdodau lleol i gymryd camau i fynd i’r afael ag ansawdd yr aer. Mae'r Gweinidogion wedi cytuno i ddyrannu hyd at $425k (cyfalaf a refeniw) ar gyfer blwyddyn ariannol 2021 i 2022. 

Barddoniaeth yn y Senedd 

2 Chwefror 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip wedi cytuno i gyllido'r prosiect Barddoniaeth yn y Senedd. 

Y Grant Cymorth Tai 

2 Chwefror 2022

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno y dylid trosglwyddo'r dyraniad dangosol 3 blynedd i awdurdodau lleol ar gyfer prif brosiectau rhaglen y Grant Cymorth Tai a'r Grant Atal Digartrefedd i'r Grant Cymorth Tai i Gyngor Abertawe ar gyfer 2022 i 2023, 2023 i 2024 a 2024 i 2025.

Band Eang y Genhedlaeth Nesaf i Gymru  

2 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i argymhellion ar gyfer defnyddio Cyfran enillion Cyflymu Cymru. 

Cymorth i gynllun Trosglwyddo Gwybodaeth a chymhellion Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy'n ymwneud ag effeithiau COVID-19 

2 Chwefror 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gyllido cynllun Trosglwyddo Gwybodaeth ac i gynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer rhaglenni Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal plant. 

Allwedd Band Eang Cymru 

2 Chwefror 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyllido Cynllun Grant Allwedd Band Eang Cymru ar gyfer y cyfnod ariannol rhwng 2022 a 2023. 

Cronfa Dyfodol yr Economi  

2 Chwefror 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i roi cyllid Grant Datblygu Eiddo ar gyfer prosiect ym Mhowys. 

Cyllid ar gyfer hwyluso triniaethau COVID-19 yn yr hirdymor i gleifion nad ydynt yn yr ysbyty

31 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid i hwyluso triniaethau COVID-19 yn yr hirdymor i gleifion nad ydynt yn yr ysbyty.

Cyllid cyfalaf ychwanegol ar ddiwedd blwyddyn ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

31 Ionawr 2022

Mae Prif Weinidog Cymru a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf ychwanegol ar ddiwedd blwyddyn ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Tŷ Matrix, Abertawe

31 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo achos busnes oddi wrth Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i brynu Tŷ Matrix, Abertawe, gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. 

Y Gronfa Chwaraeon Gwylwyr

31 Ionawr 2022

Mae Prif Weinidog Cymru, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Gweinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip, wedi cymeradwyo pecyn ariannol gwerth £3m yn 2021 hyd 2022 er mwyn sicrhau y gall chwaraeon gwylwyr wynebu’r heriau sy’n deillio o’r cyfyngiadau coronafeirws a fydd yn atal gwylwyr rhag mynychu digwyddiadau chwaraeon rhwng 26 Rhagfyr 2021 hyd 21 Ionawr 2022. Bydd cam cyntaf y gronfa yn dyrannu £1,024,100 ar gyfer gemau a gynhaliwyd hyd at 9 Ionawr. 

Prinder llafur

31 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cymeradwyo llythyr teirochrog am brinder llafur.

Awdurdod Harbwr Caerdydd

31 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid ychwanegol ar gyfer Awdurdod Harbwr Caerdydd yn y flwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Awdurdod Harbwr Caerdydd

31 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Awdurdod Harbwr Caerdydd ar gyfer y tair blynedd ariannol 2022 i 2025.

Cyllid craidd ar gyfer Anableddau Dysgu

27 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i barhau i ddarparu cyllid i fyrddau iechyd o ran y Camau Gweithredu Gwaddol ar gyfer Anableddau Dysgu a Gwella Cymru. Bydd y cyllid hwn ar gael ar gyfer 2022 hyd 2023, 2023 hyd 2024 a 2024 hyd 2025.

Cronfa Datblygu Eiddo Cymru a Chronfa Safleoedd Segur Cymru 

27 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol ar gyfer cynlluniau Cronfa Datblygu Eiddo Cymru a Chronfa Safleoedd Segur Cymru a throi grantiau’n gyllid ar gyfer benthyciadau. 

Cyllid ar gyfer Autolink

27 Ionawr 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo’r cyllid ar gyfer Autolink dros y tair blynedd ariannol nesaf, 2022 hyd 2025.

Cronfa Adferiad Diwylliannol 

27 Ionawr 2022

Mae Gweinidog yr Economi a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo £15.438m ar gyfer cynnal trydydd cylch y Gronfa Adferiad Diwylliannol. 

Benthyciad Cyfalaf Ariannol i Melin Homes

27 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddarparu benthyciad cyfalaf trafodion ariannol i Melin Homes at ddiben darparu cartrefi cymdeithasol newydd gan ddefnyddio Dulliau Adeiladu Modern. 

Cyllid ar gyfer rhaglen cyflogadwyedd iechyd 

27 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i ddyrannu £7.8m i gefnogi cyflogadwyedd iechyd ar gyfer cyllideb 2022-23.  
 

Y Sector Gofal Plant 

26 Ionawr 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a'r Dirprwy Weinidog  Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid refeniw ychwanegol ar gyfer y sector gofal plant mewn ymateb i'r amrywiolyn Omicron.

Cwrs Pontio Cyfrwng Cymraeg 

26 Ionawr 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer blwyddyn nesaf y Cwrs Pontio Cyfrwng Cymraeg.

Cyllid ar gyfer rhaglen ôl-ffitio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

26 Ionawr 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer rhaglen ôl-ffitio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Corff Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Oedolion a Chydgysylltu Cenedlaethol

26 Ionawr 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi'r gwaith o ddatblygu Rhaglen Gydgysylltu Genedlaethol er mwyn bwrw ymlaen â’r Ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i adolygu addysg oedolion er mwyn cynyddu nifer yr oedolion sy'n dysgu yng Nghymru.
 

Adolygiad o Chweched Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru

25 Ionawr 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, wedi cytuno i ddarparu cyllid i adolygu chweched fframwaith ansawdd Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.

Canlyniad ceisiadau'r Grant Cymorth Profedigaeth

25 Ionawr 2022

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i ddyfarnu dyraniadau grant tair blynedd, ar gyfer y cyfnod rhwng 2021 a 2024, i sefydliadau trydydd sector sy'n darparu cymorth profedigaeth ledled Cymru.

Cyfathrebu â ffermwyr 2022

25 Ionawr 2022

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno ar y gwariant o £75,000 (gan gynnwys TAW @20%) i argraffu a dosbarthu tri llyfryn gwybodaeth A5 (“y llyfrynnau”) i ffermwyr ar adegau gwahanol yn ystod 2022 (gwanwyn, haf a gaeaf).

Cais am gyllid gan Prince’s Trust Cymru 

25 Ionawr 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno bod swyddogion yn gwrthod y cais am gyllid gan Prince’s Trust Cymru.  

Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo

24 Ionawr 2022

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i barhau i ariannu Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo hyd at y blynyddoedd ariannol 2024 i 2025.

Groundwork yng Nghymru

24 Ionawr 2022

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i barhau i ariannu Groundwork yng Nghymru hyd at y blynyddoedd ariannol 2024 i 2025.

Ffyrdd heb eu mabwysiadu 

24 Ionawr 2022

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid ychwanegol o £186,000 ar gyfer prosiectau peilot yng nghynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Conwy a Merthyr Tudful ar ffyrdd heb eu mabwysiadu.
 

Monitro ansawdd aer ar gyfer ardaloedd 20mya – cam1

24 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i osod dyfeisiau Monitro Ansawdd Aer yn safleoedd 20 mya – cam 1.

Cyngor Rheoli Cymorthdaliadau

24 Ionawr 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i wariant ar gyngor rheoli cymorthdaliadau gan Geldards Solicitors mewn perthynas â chynllun busnes Ebrill 2022- Mawrth 2025 Ynni Môr Cymru.

Cyllid Ychwanegol ar gyfer adfer o’r pandemig COVID i Ddysgwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol 

24 Ionawr 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol sydd wedi bod o dan fwy o anfantais o ganlyniad i’r pandemig yn 2021 i 2022. 

Cyllid Ychwanegol ar gyfer trosglwyddo AAA i’r System Anghenion Dysgu Ychwanegol – 2021 i 2022

24 Ionawr 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid ychwanegol i weithredu’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Penodi Aelod Annibynnol i Addysg a Gwella Iechyd Cymru

24 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Mr Jonathan Morgan yn Aelod Annibynnol o Addysg a Gwella Iechyd Cymru o 4 Ionawr 2022 hyd at 3 Ionawr 2026.  

Proses sicrwydd a rôl reoleiddio Cyfarwyddyd Mesurau Brys a Diogelwch Dŵr 

24 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i’r Arolygiaeth Dŵr Yfed ymgymryd â rôl reoleiddio’r Cyfarwyddyd Mesurau Brys a Diogelwch Dŵr er mwyn sicrhau bod cwmnïau dŵr yn cydymffurfio â’r cyfarwyddyd. 

Ail-benodiadau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

20 Ionawr 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo ailbenodiadau Rob Humphreys fel Cadeirydd a’r Athro Mark Smith fel Aelod o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Cyllid i gynnal arolwg o signal ffôn symudol yn y Gogledd 

20 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ariannu arolwg o signal ffôn symudol ar ffyrdd a rheilffyrdd yn y Gogledd. 

Cyllid ar gyfer darparu gweithgarwch i gefnogi gofalwyr di-dâl

20 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i neilltuo £1m ar gyfer darparu gweithgarwch i gefnogi gofalwyr di-dâl yn 2022 i 2023.

Dyraniadau Cyllideb 2022 i 2023

20 Ionawr 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar ddyraniadau’r gyllideb ar gyfer y Gwasanaethau Tân ac Achub, ac ar gyfer y Lluoedd Arfog, yn 2022 i 2023.

Adroddiad ar Sicrwydd Perfformiad Rheoliadau Tai 2020 i 2021

20 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi nodi’r Adroddiad ar Sicrwydd Perfformiad Rheoliadau Tai 2020 i 2021,  ac mae wedi cytuno i’w gyhoeddi.

Ymateb i Adroddiad Thematig Estyn – Ysgolion pob oed

19 Ionawr 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad thematig Estyn ar gyfer ysgolion pob oed yng Nghymru.

Cyllideb y Gymraeg

19 Ionawr 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ailddyrannu cyllideb y Gymraeg ar gyfer 2021 i 2022.

Ail flaenoriaethu cyllid i hybu’r Gymraeg mewn Busnes er mwyn cynyddu defnydd rhyngbersonol y Gymraeg 

19 Ionawr 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar y cyllid a ddyrannwyd er mwyn cynyddu defnydd rhyngbersonol y Gymraeg  yn unol â Rhaglen Waith Cymraeg 2050 Work: 2021 i 2026.

Achos Busnes Llawn ar gyfer gwaith paratoi safle Felindre 

19 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Achos Busnes Paratoi’r Safle ar gyfer Canolfan Ganser newydd Felindre yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre.   

‘Cardigan Mash’

19 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddyrannu £540k o’r arian grant Trawsnewid Trefi i brosiect ‘Cardigan Mash’ yn Aberteifi. 

Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir - Llacio

19 Ionawr 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i lacio’r safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer gofal plant a reoleiddir ar gyfer plant hyd at 12 oed.

Ffioedd Cyngor Proffesiynol

18 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer cyngor proffesiynol i helpu gyda phrisio sy’n gysylltiedig â phrosiect rheilffordd yn y De.

Cronfa Dyfodol yr Economi 

18 Ionawr 2022

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno i wrthod cais i Gronfa Dyfodol yr Economi.

Cronfa Dyfodol yr Economi 

18 Ionawr 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i roi cyllid o Gronfa Dyfodol yr Economi i brosiect yng Nghaerdydd.

Cais benthyca Cyngor Cymuned Llanedi

18 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i roi Cymeradwyaeth Fenthyca, ar gyfer £600,000, i Gyngor Cymuned Llanedi yn ystod blwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer ardal Gorsaf Drenau Pen-y-bont ar Ogwr

18 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid datblygu trawsnewid trefi, hyd at £35,000, tuag at gynnal astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer ardal Gorsaf Drenau Pen-y-bont ar Ogwr.

Diweddaru’r Strategaeth Digidol a Data ar gyfer Iechyd a Gofal

18 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyngor o ran y dull gweithredu a ddefnyddir i ddiweddaru’r Strategaeth Digidol a Data ar gyfer Iechyd a Gofal. 

Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc (2)

17 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar estyniad tymor byr o 6 mis er mwyn cadw 2 ffrwd waith o’r Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc.

Y Gronfa Gofal Integredig

17 Ionawr 2022

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid ar gyfer dau brosiect yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg a dau brosiect yn rhanbarth Gwent.

Strategaeth Carbon Isel ar gyfer yr Is-adran Eiddo

17 Ionawr 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i benodi ymgynghorwyr i ddatblygu Strategaeth Carbon Isel ar gyfer yr Is-adran Eiddo.

Estyn Prosiect Tell Me More

13 Ionawr 2022

Cytunodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i gyllid i estyn prosiect Tell Me More hyd at fis Mawrth 2022. Mae’r prosiect yn golygu ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl sy’n byw mewn cartrefi gofal i drafod eu profiadau yn ystod pandemig COVID-19.

Grantiau Trafnidiaeth Leol: Canllawiau 2022-2023

13 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i’r trefniadau ar gyfer cyllid grant cyfalaf ar gyfer grantiau trafnidiaeth leol ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-2023. 

Cymorth i Brynu – Cymru, Taliadau ar ôl Cwblhau i gwsmeriaid Cam 3

13 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi penderfynu peidio â chyflwyno taliadau ar ôl cwblhau ar gyfer cwsmeriaid cam 3 Cymorth i Brynu – Cymru ar hyn o bryd. 

Safonau Rheoleiddiol Diwygiedig ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru

13 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi Fframwaith Rheoleiddiol diwygiedig ar gyfer Cymdeithasau Tai sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru. 

Ailbenodi Cyfarwyddwr Anweithredol i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

13 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS, wedi ailbenodi Anoopa Jonga Singh yn Gyfarwyddwr Anweithredol i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru am gyfnod o 4 blynedd, rhwng 9 Rhagfyr 2021 ac 8 Rhagfyr 2025. 

Codi rhenti i landlordiaid cymdeithasol – trefniadau dros dro ar gyfer 2022 i 2023

13 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i’r cynnydd mwyaf a ganiateir dros dro mewn rhenti i landlordiaid cymdeithasol ar gyfer blwyddyn ariannol 2022 i 2023 ac i barhau i atal bandiau rhent targed ar gyfer tai cymdeithasol. 

Y Broses Gwneud Cais ar gyfer Llwybrau Diogel mewn Cymunedau – 2022-2023 

13 Ionawr 2022

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i’r broses gwneud cais ar gyfer y Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau ar gyfer 2022-2023. 

Trosglwyddo Eiddo Uned 2, Campws Gwaun Elai Medi, Llantrisant 

13 Ionawr 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo’r penderfyniad i werthu tir yn Llantrisant. 

Adnoddau rhyngweithiol ar gyfer dadansoddi gwybodaeth am y farchnad lafur

13 Ionawr 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i’r cyllid ychwanegol ar gyfer caffael adnoddau rhyngweithiol ar gyfer dadansoddi gwybodaeth am y farchnad lafur. 

Cyllid i roi cyfle i Gymru gymryd rhan yn Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2022

13 Ionawr 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i gyllid i roi cyfle i Gymru gymryd rhan yn Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2022. 

Ystadau Cymru

13 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllideb o £300,000 i Ystadau Cymru gomisiynu ymgynghorwyr i gynnal ymarfer cwmpasu i nodi’r ardaloedd  yn yr ystâd gyhoeddus sy’n mynd i wneud y cyfraniad mwyaf at y cynllun Di-Garbon 2030 dros y pum mlynedd nesaf. 

Delio â honiadau o gam-drin

13 Ionawr 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gychwyn y broses ymgynghori ar y canllawiau diwygiedig ‘Diogelu plant mewn addysg: ymdrin â honiadau o gam-drin yn erbyn athrawon a staff eraill’.

Y Protocol Cenedlaethol ar gyfer Comirnaty® (Plant 5-11 oed) brechlyn COVID-19 mRNA

13 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar brotocol cenedlaethol i ganiatáu i’r rheini sy’n weithwyr gofal iechyd proffesiynol nad ydynt fel arfer yn brechu, a phobl nad ydynt yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol, i weithredu Protocol Cenedlaethol ar gyfer Comirnaty® (Plant 5-11 oed) brechlyn COVID-19 mRNA.

Cyllid ychwanegol ar gyfer Cronfa’r Teulu

13 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddyroddi grant untro ychwanegol o £230,000 i Ymddiriedolaeth Cronfa’r Teulu ar gyfer 2021 i 2022.  

Cynllunio ar gyfer Raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur 2022 i 2023

13 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar ffordd ymlaen ar gyfer y blynyddoedd i ddod mewn cysylltiad â’r Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Penodi Aelod Annibynnol (Awdurdod Lleol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg 

11 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi’r Cynghorydd Geraint E Hopkins fel Aelod Annibynnol (Awdurdod Lleol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Bydd ei gyfnod yn dechrau ar 06/01/2022, am 4 blynedd, tan 05/01/2026.

Ymgysylltu â phobl hŷn drwy bandemig Covid-19 a thu hwnt

11 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gefnogi’r gwaith o barhau i ymgysylltu yn uniongyrchol â grŵp eang o bobl hŷn.

Cymorth ar frys i fusnesau

11 Ionawr 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar becyn cymorth ar frys i fusnesau yn sgil Covid.

Cyllido Trafnidiaeth Lleol – blwyddyn ariannol Rhagfyr 2021 i 2022

11 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid ar gyfer grantiau trafnidiaeth lleol ar gyfer blwyddyn ariannol  2021 to 2022 ac eithrio Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Dinas a Sir Abertawe. Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno ar y cyllid i’r ddau gorff hwnnw. 

Gwariant ychwanegol ar gyfer datblygu tai cymdeithasol a thai fforddiadwy

11 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid ar gyfer caffael tir gan yr Is-adran Tir ac i gynorthwyo Awdurdodau Lleol i symud ymlaen gyda chynigion i ddatblygu tir a/neu adeiladau ar gyfer tai fforddiadwy a thai cymdeithasol. 

Gwobrau Ystadau Cymru 

11 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo’r argymhellion ar gyfer y ceisiadau ar gyfer y gwobrau ac enillwyr terfynol Gwobrau Ystadau Cymru.

Fferyllfeydd Cymunedol

10 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol i gynyddu mynediad at y gwasanaeth mân anhwylderau a chefnogi’r gwaith o reoli pwysau’r gaeaf mewn fferyllfeydd cymunedol yn ogystal â llacio rhywfaint ar ofynion contract y fferyllfeydd hynny sy’n ymrwymo i wella mynediad. 

Grant Urddas Mislif

10 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cymeradwyo cynigion o ran amrywiad i’r Grant Urddas Mislif ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2021 hyd 2022 er mwyn ei gwneud hi'n bosibl i ddefnyddio canran fach o’r grant ar gyfer hyfforddiant ac addysg ac ar gyfer estyn y ddarpariaeth i bobl ddigartref fel y gellir darparu dillad ar eu cyfer.

Cymorth ar gyfer pobl mewn gofal

10 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo rhaglen cyllid cyfalaf newydd gwerth £60.5 miliwn a fydd ar waith rhwng 2022 a 2025 er mwyn cefnogi llety ar gyfer pobl sydd ag anghenion o ran gofal a chymorth ar draws Cymru. 

Safleoedd masnachol

10 Ionawr 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i benodi ymgynghorydd i baratoi brîff dylunio amlinellol ar gyfer safleoedd masnachol newydd.

Estyn menter ar y cyd ar gyfer unedau busnes newydd ym Mhenrhos, Caergybi

10 Ionawr 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i estyn menter ar y cyd a darparu cyllid ychwanegol er mwyn cyflawni cam arall o unedau busnes ym Mhenrhos, Caergybi. 

Hyrwyddo bwyd a diod o Gymru

10 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd wedi cytuno i gychwyn y broses gaffael er mwyn cyflwyno contract newydd yn lle’r contract presennol sy’n hyrwyddo bwyd a diod o Gymru. 

Cyflwyno dyfeisiau porth LoRaWAN

10 Ionawr 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i gyflwyno dyfeisiau porth LoRaWAN i awdurdodau lleol y cymoedd gogleddol.

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng S4C a Cymru Greadigol

10 Ionawr 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon wedi cymeradwyo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng S4C a Cymru Greadigol.

Bro Tathan

10 Ionawr 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo penodi cynghorwyr cyfreithiol i oruchwylio contractau a ddyfernir ar gyfer cyfleustodau ym Mro Tathan. 

Tir ar gyfer Cynllun Tai

10 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo’r ceisiadau am fenthyciadau ar gyfer ail gylch y Cynllun Tir ar gyfer Tai 2021 hyd 2022.

Rhaglen grantiau Galluogi Tai Gwledig

10 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gynnal y rhaglen grantiau Galluogi Tai Gwledig am gyfnod o dair blynedd – 2022 hyd 2023, 2023 hyd 2024 a 2024 hyd 2025. 

Gwaith ymchwil a datblygu ar gyfer media.cymru

10 Ionawr 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen ymchwil a datblygu media.cymru – 2022 hyd 2026.

Rhaglen Amser i Newid Cymru

10 Ionawr 2022

Mae Gweinidog yr Economi a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Mind Cymru dros dair blynedd, o fis Ebrill 2022, er mwyn cyflawni Cam 4 rhaglen Amser i Newid Cymru.  

Cyfoeth Naturiol Cymru

10 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i alluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i fanteisio ar warrant untro o adnoddau ychwanegol gwerth £9 miliwn.

Negeseuon cyfathrebu ynghylch Cysylltiadau Rhyngwladol

10 Ionawr 2022

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cytuno i benodi asiantaeth allanol er mwyn cyflwyno negeseuon cyfathrebu ynghylch y Strategaeth Ryngwladol a chynlluniau gweithredu rhyngwladol.

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

10 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo’r pecyn cymorth ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn 2022 hyd 2023; a’r dull bwriedig ar gyfer cymorth o 2023 hyd 2024.

Data am berfformiad ôl-16

10 Ionawr 2022

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gynhyrchu elfen dyddiad cyflawni’r mesurau perfformiad cyson ôl-16 ar gyfer 2021 hyd 2022 i’w defnyddio gan ddarparwyr dysgu at ddibenion prosesau monitro mewnol a sicrhau ansawdd fel rhan o drefniadau gwerthuso a gwella. 

Arolwg Adnoddau Teuluol

10 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo gwariant er mwyn hybu’r Arolwg Adnoddau Teuluol yng Nghymru ar gyfer 2021 hyd 2022 a 2022 hyd 2023. 

Rhaglen y Cymoedd Technoleg 

10 Ionawr 2022

Mae Gweinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo cais rhaglen y Cymoedd Technoleg am awdurdod ariannol dirprwyedig ar gyfer astudiaethau a ffioedd diwydrwydd dyladwy.

House of Memories Cymru

10 Ionawr 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip wedi cytuno i gefnogi prosiect i greu fersiwn Gymraeg o’r ap House of Memories, sydd wedi ennill gwobrau.

Amgueddfa Pêl-droed Cymru

10 Ionawr 2022

Mae Gweinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip wedi cytuno ar gyllid ychwanegol ar gyfer y cam cychwynnol o ddatblygu prosiect Amgueddfa Pêl-droed Cymru, sy’n cynnwys sefydlu a chyflwyno rhaglen Cymru gyfan i ymgysylltu â rhanddeiliaid, trosglwyddo’r grant presennol ac estyn y dyddiad cau ar gyfer cam 1 o fis Ebrill i fis Gorffennaf 2022.

Amgueddfeydd lleol

10 Ionawr 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo cyfres o ymyriadau a phrosiectau bychan, sydd oll yn anelu at gefnogi’r sector amgueddfeydd lleol a’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i fuddsoddi mewn amgueddfeydd.

Amgueddfeydd lleol

10 Ionawr 2022

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip wedi cytuno i ailgychwyn a pharhau i gymryd rhan yn Nghynllun Achredu Amgueddfeydd y Deyrnas Unedig; i gomisiynu adolygiad o’r cynllun;  ac i gomisiynu arfarniad o’r opsiynau a gwaith ychwanegol i archwilio ac edrych ar arwyddocâd cenedlaethol gwrthrychau sydd  mewn amgueddfeydd lleol yng Nghymru.

Cefnogaeth i’r ddarpariaeth addysgol yn y sector nas cynhelir

10 Ionawr 2022

Mae'r Gweinidog dros Addysg a'r Gymraeg wedi cytuno ar gyllid grant i gefnogi darpariaeth addysg gynnar mewn lleoliadau nas cynhelir a ariennir.

Costau cynnal a chadw mewn ysgolion

10 Ionawr 2022

Mae'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg wedi cytuno ar gyllid i gefnogi costau cynnal refeniw mewn ysgolion yn 2021 i 2022.  

Uwchraddio Llinellau Craidd y Cymoedd

10 Ionawr 2022

Mae'r Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd a'r Dirprwy Weinidog dros Newid Yn yr Hinsawdd wedi cytuno i ariannu gwaith dylunio i gefnogi'r defnydd o ffibr ychwanegol a seilwaith cysylltiedig ar linellau craidd y cymoedd.

Cynllun y Taliad Sylfaenol

10 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i bennu cyllideb o £238 miliwn i Daliadau Uniongyrchol Cymru ar gyfer y Cynllun Taliadau Sylfaenol yn 2022

Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru

10 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar egwyddorion cynllun ar gyfer rhai lesddeiliaid mewn adeiladau preswyl uchel iawn neu o uchder canolig (dros 11 metr o uchder) sy’n dioddef, neu’n wynebu, caledi ariannol sylweddol o ganlyniad i broblemau posibl yn ymwneud â diogelwch rhag tân. 

Asesu opsiynau ynni yn Celtic lakes, Casnewydd

10 Ionawr 2022

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo penodi ymgynghorwyr i ddarparu cefnogaeth dechnegol.

Terfyn Cyflymder Ffyrdd Cyfyngedig 

10 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar y cyllid i’w roi i awdurdodau lleol yng Nghymru i ddechrau gwaith paratoadol cychwynnol ar gyfer y terfyn cyflymder diofyn arfaethedig o 20 mya ar ffyrdd cyfyngedig.

Penodiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

10 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Lance Carver yn Aelod Cyswllt o Fwrdd Iechyd Preifysgpol Caerdydd a’r Fro, yn rhinwedd ei swydd fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg.

Cyllidar gyfer cydraddoldeb a chynhwysiant

10 Ionawr 2022

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cydraddoldeb a chynhwysiant am 2022.