Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddio Pàs COVID y GIG i ddangos eich statws COVID-19 wrth deithio dramor.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gellir defnyddio Pàs COVID y GIG ar gyfer teithio rhyngwladol, i ddangos eich statws COVID-19 wrth deithio dramor. Gall hyn fod yn gofnodion brechu neu’n dystiolaeth eich bod wedi gwella o haint COVID-19 blaenorol os ydych wedi profi'n bositif drwy brawf PCR y GIG yn ystod yr 180 diwrnod diwethaf.

Gwybodaeth am sut i gael Pàs COVID y GIG.

Yn ogystal â’ch Pàs COVID y GIG, bydd angen i chi gadw at reolau eraill wrth deithio, fel cael prawf cyn gadael. Gwiriwch y gofynion mynediad ar gyfer y gwledydd rydych yn bwriadu ymweld â nhw, fel profion COVID-19 a’r angen i hunanynysu (ar GOV.UK).

Dylech wirio bod yr enw ar eich pasbort yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar Bàs COVID y GIG. Rhaid ichi wneud hyn o leiaf 2 wythnos cyn ichi deithio. Os yw’r enwau’n wahanol, cysylltwch â’ch practis meddyg teulu i ddiweddaru eich manylion. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r rheolau ar gyfer teithio dramor i ac o Gymru.

Mewn rhai gwledydd, ni fydd angen ichi ddangos eich Pàs COVID y GIG. Efallai y bydd rhaid ichi dreulio cyfnod cwarantin neu gymryd prawf i fodloni gofynion mynediad y wlad.

Os ydych chi’n dewis lawr lwytho ac argraffu copi o Bàs COVID y GIG, ni fydd y dyddiad terfyn yn diweddaru a bydd angen ichi argraffu copi newydd pan fydd wedi dod i ben.

Gallwch sganio Pàs COVID y GIG i wirio a dilysu eich statws brechu COVID-19 mewn dros 40 o wledydd yn awr, gan gynnwys gwledydd yr UE.

Os ydych wedi lawrlwytho Pàs COVID y GIG fel PDF neu wedi ei ychwanegu at eich waled Apple cyn 1 Tachwedd 2021, bydd angen ichi lawrlwytho argraffu neu ychwanegu fersiwn newydd cyn teithio, i gael Pàs dilys.

Os nad ydych wedi cael cwrs llawn o’r brechlyn

Os nad ydych chi wedi cael cwrs llawn o’r brechlyn, dilynwch y gofynion mynediad presennol. Bydd y rhan fwyaf o wledydd yn derbyn prawf neu gyfnod cwarantin fel dewis arall i dystysgrif brechu.

Mae angen i chi ymchwilio’n fanwl i ofynion y wlad rydych yn mynd iddi cyn i chi deithio.

Cewch rhagor o fanylion ar ofynion mynediad ar dudalennau cyngor teithio tramor GOV.UK ac ar wefannau’r wlad yr ydych yn teithio iddi.

Cyngor teithio i bobl o Brydain sy’n teithio dramor yn ystod y pandemig.