Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Pwrpas y ddogfen hon yw rhoi gwybodaeth i rieni sydd â phlant a fydd yn gwneud cais am le mewn dosbarth Derbyn mewn ysgol fabanod, ysgol gynradd neu ysgol ganol.

Mae’r broses o wneud cais am le mewn dosbarth meithrin yn wahanol i’r broses o wneud cais am le mewn ysgol, a dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol i gael wybodaeth ynghylch sut mae gwneud hynny.

Rydym yn cyfeirio at ‘dalgylchoedd’, ond nid yw pob awdurdod derbyn yn defnyddio dalgylchoedd. Yn hytrach na hynny, maent yn cynnig lleoedd ar sail y pellter rhwng eich cartref a’r ysgol o’ch dewis ar gyfer eich plentyn. Dylech gysylltu â’ch awdurdod derbyn os ydych chi’n ansicr pa system mae’n ei defnyddio.

Derbyn i ysgolion

Rwyf newydd gael plentyn; a ddylwn i roi ei enw ar restr ysgol?

Na ddylech: Ni fydd rhoi enw eich plentyn ar restr ysgol pan fydd yn cael ei eni yn golygu bod gan eich plentyn hawl i gael lle yn yr ysgol benodol honno, nac yn rhoi mantais iddo dros unrhyw un arall a fydd yn gwneud cais am le. Bydd yn dal yn rhaid i chi wneud cais am le yr un pryd â phawb arall, a bydd yr holl geisiadau’n cael eu hasesu gyda’i gilydd ar ôl y dyddiad cau. Fodd bynnag, nid oes dim o’i le mewn cysylltu â’r awdurdod derbyn yn weddol gynnar i gael gwybod at bwy y dylech anfon ffurflenni cais pan fydd yr adeg iawn wedi cyrraedd. Edrychwch ar gwestiwn 2 i gael gwybod gyda phwy y dylech gysylltu.

Rwy’n chwilio am le mewn ysgol i’m plentyn, beth ddylwn i ei wneud?

Gallwch gael gwybodaeth am ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg yn eich ardal ar wefan eich awdurdod lleol. Os nad oes gennych gyfrifiadur, gallwch ddefnyddio’r cyfrifiadur yn eich llyfrgell leol. Gall gwefannau rhai awdurdodau lleol eich helpu i ddod o hyd i’r ysgolion agosaf/dalgylch pan fyddwch yn rhoi eich cod post neu’r ardal lle rydych yn byw, ond os oes gennych ddiddordeb mewn ysgol ffydd efallai y bydd angen i chi edrych ar y llyfryn sy’n rhestru pob ysgol. Mae’r llyfryn hwn i’w weld ar y wefan, neu gallwch ofyn i’r awdurdod lleol anfon copi papur ohono.

Os oes gennyf ddiddordeb mewn ysgol benodol, beth ddylwn i ei wneud nesaf?

Rhaid i chi lenwi ffurflen gais ar gyfer pob cam o addysg eich plentyn (e.e. cynradd ac uwchradd).

Os byddwch yn penderfynu gwneud cais am le mewn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu mewn ysgol sefydledig, fel arfer bydd yn rhaid i chi gysylltu â’r ysgol yn uniongyrchol – ond edrychwch ar lyfryn yr awdurdod lleol i wneud yn siŵr. Ar gyfer ysgolion cymunedol (cyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg) neu ysgolion gwirfoddol a reolir rhaid i chi gysylltu â’r awdurdod lleol, a fydd yn rhoi’r wybodaeth a’r ffurflenni cais i chi eu llenwi a’u dychwelyd erbyn y dyddiad cau.

Mae’n well gan rai awdurdodau lleol i’r ceisiadau gael eu llenwi ar-lein. Gallwch weld gwybodaeth am dderbyn i ysgolion, gan gynnwys ffurflenni cais ar-lein, ar wefan yr awdurdod lleol. Os nad oes gennych gyfrifiadur yn eich cartref, efallai y bydd modd i chi ddefnyddio un yn eich llyfrgell leol neu mewn mannau eraill megis canolfannau cymunedol sy’n cael eu cefnogi gan yr awdurdod lleol. Gallwch gyflwyno cais ar bapur o hyd os yw’n well gennych wneud hynny.

Alla i ddewis ysgol i’m plentyn?

Mae llawer o rieni’n ffafrio eu hysgol leol agosaf neu eu hysgol ddalgylch gan fod hynny’n aml yn golygu bod plant yn gallu gwneud ffrindiau’n fwy lleol ac y byddant yn gallu cerdded i’r ysgol. Mae gan Rieni a Gofalwyr hawl i ddweud i ba ysgol y byddent yn hoffi i’w plentyn fynd, a rhoi rhesymau dros eu dewis.Mae gan bobl ifanc yr un awliau i nodi pa addysg ôl-16 mewn ysgolion y byddent yn ei ffafrio.

Oes sicrwydd y gallaf gael lle mewn ysgol o’m dewis?

Nac oes. Gallwch ddweud i ba ysgol y byddech yn hoffi i’ch plentyn fynd ond os oes mwy o geisiadau nag sydd o leoedd ar gael efallai na fydd eich cais am le’n llwyddiannus.

Mae fy mhlentyn yn mynd i ddosbarth meithrin sy’n gysylltiedig ag Ysgol gynradd; oes rhaid i mi wneud cais am le yn y dosbarth derbyn?

Oes. Bydd rhaid i chi wneud cais am le yn yr ysgol ar wahân. Nid yw’r ffaith bod gennych chi le yn y dosbarth meithrin yn golygu y bydd gennych chi le yn yr ysgol.

Oes rhaid i mi enwi mwy nag un ysgol ar y ffurflen gais?

Dylech enwi mwy nag un ysgol y byddech chi’n eu ffafrio ar gyfer eich plentyn. Petaech chi ond yn enwi un ysgol a bod eich cais am le yn yr ysgol honno yn aflwyddiannus, gallech fethu cael lle mewn unrhyw ysgol arall rydych chi’n ei hoffi. Gallwch ddweud pa ysgol fyddai’ch dewis cyntaf.

Pa ffurflenni y mae angen i mi eu llenwi?

Bydd yr awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol yn darparu’r ffurflen gais briodol i chi. Gallwch gael ffurflen bapur i’w llenwi neu gallwch ei llenwi ar-lein gan ddibynnu ar eich awdurdod lleol.

Pryd mae’n rhaid i mi wneud cais am le?

Bydd yr amserlenni yn y Llyfryn Gwybodaeth i Rieni ac ar wefan yr awdurdod lleol. Mae rhai awdurdodau lleol yn cyhoeddi mewn papurau newydd lleol neu ar orsafoedd radio lleol pa bryd y gallwch wneud cais am le i’ch plentyn mewn ysgol. Yn aml iawn bydd hysbysiadau i’w gweld yn y llyfrgell leol, y clinig babanod, eich meddygfa yn ogystal ag mewn ysgolion a dosbarthiadaumeithrin ac ar gyfryngau cymdeithasol fel Facebook. Mae’r rhan fwyaf o’r awdurdodau derbyn yn agor eu rownd derbyn i ysgolion ym misoedd Medi a Hydref ac mae’r rhain yn aros ar agor am o leiaf chwe wythnos.

Oes rhaid i mi wneud cais, hyd yn oed os ydw i’n byw yn y dalgylch neu'n agos at yr ysgol, ac os ydw i’n fodlon anfon fy mhlentyn i’r ysgol leol?

Oes. Ni fyddwch yn cael eich ystyried oni bai eich bod yn gwneud cais, hyd yn oed yn eich ysgol leol.

A fydd pawb yn y dalgylch, neu sy’n byw yn agos at yr ysgol, yn cael lle os byddant yn gwneud cais am le?

Nid o reidrwydd. Er bod byw yn nalgylch yr ysgol neu’n agos at yr ysgol yn rhoi siawns dda iawn i chi o gael lle, mae gan rai ardaloedd boblogaeth uchel ac efallai na fydd modd cynnig lle i bob plentyn.

Beth fydd yn digwydd os bydd mwy o geisiadau nag sydd o leoedd ar gael?

Rhaid i awdurdodau derbyn dderbyn plant hyd at nifer y lleoedd sydd ar gael yn yr ysgol (nifer derbyn). Os bydd nifer y ceisiadau’n fwy na’r nifer derbyn bydd yr awdurdod derbyn yn cynnig lleoedd i blant yn unol â’r rhestr o reolau ar gyfer derbyn plant i ysgol. Mae’r rheolau, y cyfeirir atynt fel meini prawf goralw, yn cael eu cymhwyso i bob cais ar gyfer ysgol sydd â mwy o geisiadau nag o leoedd. Gallent gynnwys pethau fel pa mor agos at yr ysgol rydych yn byw, neu oes gan eich plentyn frawd neu chwaer yn yr ysgol yn barod; dylech allu gweld y rhestr lawn yng ngwybodaeth i rieni’r awdurdod neu ar wefan yr awdurdod.

A yw’r meini prawf gor-alw yr un fath i bob ysgol?

Nac ydynt. Fel arfer mae gan ysgolion ffydd feini prawf sy’n ymwneud â’r Eglwys y mae’r ysgol yn perthyn iddi. Mae’n bwysig eich bod yn edrych beth yw’r meini prawf pan fyddwch yn gwneud cais. Fel arfer, mae meini prawf gor-alw yr ysgolion gwirfoddol a reolir yr un fath ag ysgolion yr awdurdod lleol.

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn colli’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau?

Rhaid i chi wneud eich gorau i gyflwyno’ch cais i’r awdurdod derbyn cyn y dyddiad cau a gyhoeddwyd. Os byddwch yn cyflwyno’ch cais yn hwyr efallai na fydd yn cael ei ystyried gyda’r ceisiadau a gyflwynwyd mewn pryd. Gallai hyn olygu na fydd eich plentyn yn cael lle yn yr ysgol rydych yn ei ffafrio.

Os oes rheswm gwirioneddol dda pam na chafodd eich cais ei gyflwyno mewn pryd, cysylltwch â’r awdurdod derbyn gan fod posibilrwydd y byddai’n ei ystyried gyda’r ceisiadau eraill os yw hynny’n bolisi ganddo.

Pwy fydd yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â derbyn i ysgolion?

O ran ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir, yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniadau. Bydd penderfyniadau sy’n ymwneud ag ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig yn cael eu gwneud gan y corff llywodraethu, sydd fel arfer yn sefydlu panel derbyn i benderfynu ynglŷn â’r ceisiadau.

Rydw i wedi cyflwyno fy ffurflen gais ac wedi cael cais i fynd am gyfweliad; ddylwn i fynd?

Nid oes gan gynrychiolwyr ysgolion hawl i gyfweld rhieni er mwyn penderfynu a ddylent gynnig lle iddynt ai peidio.

Mae pennaeth fy hoff ysgol wedi dweud wrthyf fod lle i’m plentyn. Ydy hyn yn iawn?

Nid yw penaethiaid yn gyfrifol am benderfynu pwy all fynd i’w hysgol hwy nac unrhyw ysgol arall. Fel yr eglurwyd yn yr ateb i gwestiwn 15, dim ond yr awdurdod derbyn all ddyrannu lleoedd.

Pryd fyddaf i’n cael gwybod ydy fy mhlentyn i wedi cael lle?

Mae pob awdurdod derbyn yn nodi amserlen ar gyfer hysbysu rhieni am benderfyniadau am geisiadau ysgolion cynradd. Diwrnod y Cynnig Cenedlaethol ar gyfer ysgolion cynradd yw 16 Ebrill neu'r diwrnod gwaith nesaf.

A all fy mhlentyn gael ei roi ar restr aros?

Bydd unrhyw blentyn nad yw’n cael lle yn cael ei roi ar restr aros – mae’n bosib y byddant yn gofyn i chi gytuno ar hynny. Rhaid i blant aros ar y rhestr hon tan 30 Medi yn y flwyddyn ysgol y gwnaethpwyd y cais ynddi. Weithiau bydd lle’n dod yn rhydd yn gynnar ym mis Medi, gan fod plant a ddisgwylid mewn ysgolion wedi mynd i ysgol arall am ryw reswm. Weithiau ni fydd lleoedd yn dod yn rhydd.

Os oedd fy mhlentyn i ar y rhestr aros yn gynnar, a fydd hyn yn effeithio ar ei gyfle i gael cynnig lle?

Na fydd. Os bydd modd cynnig lle, bydd awdurdodau derbyn yn edrych ar bob plentyn sydd ar y rhestr yng nghyd-destun y meini prawf gor-alw/rheolau dyrannu.

Beth ddylwn i ei wneud pan fyddaf yn cael gwybod bod fy mhlentyn wedi cael cynnig lle?

Os byddwch wedi cael cynnig lle i’ch plentyn yn yr ysgol o’ch dewis, bydd yr awdurdod derbyn neu’r ysgol yn rhoi dyddiad dechrau i chi ac unrhyw wybodaeth arall fydd ei hangen arnoch. Efallai hefyd y gofynnir i chi ddychwelyd ffurflen yn cadarnhau eich bod yn dymuno derbyn y lle sy’n cael ei gynnig. Mae’n haws i’r awdurdod lleol a’r ysgol baratoi ar gyfer yr adeg y bydd eich plentyn yn dechrau mynd i’r ysgol os byddwch yn dychwelyd y ffurflen hon yn fuan.

Beth os nad wyf yn fodlon â’r ysgol a gynigiwyd i mi?

Os na chynigiwyd lle i chi yn yr ysgol o’ch dewis, mae gennych hawl i apelio i banel apêl annibynnol. Bydd y panel yn ystyried eich dadl chi dros gael lle i’ch plentyn a dadl yr awdurdod derbyn dros wrthod eich cais. Y panel apelau fydd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad terfynol.

Wrth wneud cais am le mewn ysgol mae bob amser yn syniad da i chi feddwl am ysgolion eraill y byddech hefyd yn fodlon â hwy rhag ofn na fydd eich dewis cyntaf ar gael. Os byddwch yn gofyn am un ysgol yn unig gallech gael cynnig lle mewn ysgol nad ydych yn dymuno i’ch plentyn fynd iddi.

Pryd mae’n rhaid i’m plentyn ddechrau mynychu ysgol yn amser llawn?

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i blant fynychu ysgol yn amser llawn yn ystod y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn bump oed.

Cyn hynny gallwch ofyn am ganiatâd yr awdurdod derbyn i’ch plentyn fynychu’r ysgol yn rhan-amser, neu beidio ag anfon eich plentyn i’r ysgol tan yn hwyrach yn y flwyddyn ysgol. Mae hyn yn cael ei alw’n fynediad wedi’i ohirio. Bydd rhaid i’ch plentyn fynd i’r ysgol cyn diwedd tymor yr haf neu bydd yn colli ei le yn y dosbarth, a bydd rhaid i chi wneud cais am le eto.

Os na fyddwch chi’n derbyn y lle a gynigiwyd yn yr un flwyddyn ysgol, ni fyddai’ch plentyn yn ymuno â’r dosbarth Derbyn nesaf fel arfer – yn lle hynny, byddai’n ymuno â’r dosbarth lle cafodd gynnig lle yn wreiddiol.

Mae gan fy mhlentyn anghenion addysgol arbennig. Sut ddylwn i wneud cais am le mewn ysgol?

Os oes gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig (AAA) bydd angen i chi wneud cais yr un fath â phawb arall fel y nodir yn C1 uchod.

Fodd bynnag, os oes gan eich plentyn ddatganiad AAA bydd y ffurflen gais yn gofyn i chi a oes gan y plentyn ddatganiad ac a yw’r datganiad yn enwi ysgol– fel arfer, bydd yr ysgol a enwir ar y datganiad wedi cael ei thrafod â chi. Pan fydd awdurdod lleol yn cyhoeddi datganiad AAA terfynol bydd yn nodi dan Ran 4 o’r datganiad, pa fath o ysgol ac unrhyw ysgol benodol a fyddai’n briodol i’ch plentyn ym marn yr ALl. Bydd hyn yn dilyn ymgynghoriad gan yr ALl gyda’r ysgol er mwyn sicrhau ei bod yn addas ar gyfer derbyn eich plentyn.

Pwy fydd yn cael y flaenoriaeth gyntaf ar gyfer lleoedd mewn unrhyw ysgol?

Bydd plant â datganiad AAA sy’n enwi ysgol benodol yn bendant yn cael eu derbyn cyn dyrannu unrhyw leoedd eraill. Yn dilyn hynny, rhaid i blant sy’n derbyn gofal a phlant oedd yn arfer derbyn gofal fod ar frig y rhestr o feini prawf gor-alw.

Apelau derbyn i ysgolion

Dim ond i blant oedran ysgol – hynny yw, plant dosbarth Derbyn (sy’n 5 oed, neu a fydd yn 5 oed yn ystod y flwyddyn ysgol) – hyd at Flwyddyn 11 y mae’r adran hon yn berthnasol. Os yw’ch plentyn yn yr oed meithrin, ni allwch wneud apêl ynghylch y lleoliad meithrin a gynigiwyd i chi.

Sut alla i apelio?

Mae gan unrhyw riant y gwrthodir lle i’w blentyn (ac eithrio rhiant y mae ei blentyn wedi cael ei wahardd yn barhaol o ddwy ysgol) hawl i apelio i banel apêl annibynnol.

Bydd eich llythyr gwrthod yn egluro’r rhesymau dros wrthod, ac yn cynnwys gwybodaeth am eich hawl i apelio, a manylion ynglŷn â sut i apelio ac i ble y dylech anfon eich hysbysiad apêl. Fel arfer rhaid gwneud apêl o fewn cyfnod penodedig.
 

Beth fydd yn digwydd yn yr apêl?

Fel arfer bydd eich apêl yn cael ei gwrando’n breifat. Fodd bynnag, os bydd llawer o apelau ar gyfer un ysgol, mae’n bosib y gwneir cam cyntaf yr apêl fel grŵp ac y bydd rhieni eraill sydd wedi apelio yn bresennol. Bydd gwrandawiad yr apêl yn dilyn y patrwm isod:

  • Bydd y swyddog cyflwyno’n egluro pam y mae’r awdurdod derbyn wedi gwrthod eich/y cais neu geisiadau (e.e. byddai’r ysgol yn rhy lawn).
  • Byddwch yn cael cyfle i ofyn cwestiynau ynglŷn â rhesymau’r awdurdod derbyn dros wrthod eich cais.

Os bydd y panel yn penderfynu bryd hyn nad oedd angen gwrthod lle, er enghraifft, pe na bai’r ysgol wedi bod yn rhy lawn, bydd y gwrandawiad yn dod i ben a byddwch yn cael eich hysbysu bod yr apêl wedi bod yn llwyddiannus.

Os bydd y panel yn penderfynu bod rhesymau dros wrthod eich cais, gan y byddai’r ysgol wedi bod yn rhy lawn, yna cynhelir ail gam. Bydd yr apelau hyn yn rhai unigol (preifat).

  • Byddwch yn egluro pam y dylid rhoi lle i’ch plentyn yn yr ysgol er ei bod yn llawn
  • Bydd yr awdurdod derbyn yn cael cyfle i ofyn cwestiynau ynglŷn â’ch rhesymau
  • Bydd yr awdurdod derbyn wedyn yn crynhoi’r achos
  • Byddwch chithau’n cael cyfle i grynhoi eich achos

Bydd y panel yn gwrando ar ddadleuon y ddwy ochr a gall ofyn cwestiynau unrhyw bryd os oes arno angen eglurhad neu ragor o wybodaeth er mwyn gwneud penderfyniad.

Dylech gael hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad y panel cyn pen 5 diwrnod gwaith.

Bydd penderfyniad y panel apêl yn derfynol ac ni ellir ei wrthdroi ac eithrio gan y llys os byddwch chi neu’r awdurdod derbyn yn llwyddiannus â chais am Adolygiad Barnwrol o’r penderfyniad hwnnw.

A oes rheolau penodol ar gyfer Apelau sy’n ymwneud â Maint Dosbarth Babanod?

Oes. Dim ond mewn ychydig o achosion y gall apelau sy’n cael eu gwneud gan rieni gael eu cadarnhau gan fod y gyfraith yn dweud na chaiff un athro babanod gael mwy na 30 o ddisgyblion yn y dosbarth. Dyma’r achosion:

  • Nid oedd y trefniadau derbyn yn cydymffurfio â’r gyfraith a phe baent yn cydymffurfio â’r gyfraith byddai’r plentyn wedi cael cynnig lle.
  • Cafodd y trefniadau eu cymhwyso’n ddiffygiol yn achos y plentyn
  • Nid oedd y penderfyniad i beidio â chynnig lle’n benderfyniad rhesymol.

Mae afresymol yn yr achos hwn yn golygu cwbl afresymol.

Alla i ailymgeisio am le mewn ysgol os ydw i wedi cael fy ngwrthod?

Efallai y bydd awdurdodau derbyn yn ystyried cais newydd os oes newid sylweddol wedi bod yn eich amgylchiadau. Gallwch ailymgeisio am le unwaith eto ar gyfer blwyddyn ysgol arall a chael hawl i apelio o’r newydd os na fyddwch yn llwyddo i gael lle.

Ni fyddai gennych hawl i ail apêl ar gyfer yr un ysgol a’r un flwyddyn ysgol fel arfer, ond gallwch wneud apêl o’r newydd:

  • Os yw’r awdurdod derbyn yn cytuno i drefnu ail apêl oherwydd bod diffygion yn yr apêl gyntaf a bod posibilrwydd sylweddol y gallai’r diffygion fod wedi effeithio ar y canlyniad, neu
  • Os oedd yr awdurdod derbyn wedi derbyn cais newydd oherwydd bod newid sylweddol wedi bod yn yr amgylchiadau ond wedi penderfynu y dylid gwrthod y cais newydd hefyd.

Os ydw i’n credu nad yw fy achos wedi cael gwrandawiad teg gyda phwy y dylwn i gysylltu?

Dim ond i gwynion ysgrifenedig ynglŷn â rheolaeth wael gan banel apêl y gall yr Ombwdsmon Gwasanaeth Cyhoeddus ymchwilio. Ni all newid na gwneud sylw ar unrhyw benderfyniad rydych chi’n anghytuno ag ef neu benderfyniad sy’n anghywir yn eich barn chi. Os ydych chi’n teimlo bod eich apêl wedi cael ei rheoli’n wael, gallwch gysylltu ag ef yn y cyfeiriad isod:

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pen-coed
CF35 5LJ