Digwyddiadau Cymru Gronfa Arloesi Cynaliadwyedd: canllawiau ar gyfer gwneud cais
Sut i wneud cais am y gronfa.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Diben y Gronfa
Yn ôl Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022–2030, a gafodd ei lansio gan Weinidog yr Economi ar 13 Gorffennaf 2022, mae economi gylchol, h.y. parhau i ddefnyddio adnoddau cyhyd ag y bo modd ac osgoi gwastraff – yn gam allweddol tuag at gyflawni ein nod llesiant o sicrhau bod Cymru yn gyfrifol ar lefel fyd-eang. Mae newid i economi gylchol hefyd yn gallu gwella canlyniadau economaidd a chymdeithasol digwyddiadau.
Mae ystyried arferion cynaliadwyedd digwyddiad eisoes yn rhan o'n prosesau ar gyfer ystyried cymorth ar gyfer digwyddiadau, felly, nid cefnogi digwyddiadau i gyflawni cynlluniau cynaliadwyedd presennol yw nod y Gronfa ddisgresiynol 'beilot' hon. Yn hytrach, bydd y Gronfa'n targedu cymorth ar gyfer prosiectau newydd ac arloesol, y mae modd eu hefelychu, i helpu'r diwydiant i gymryd y camau a argymhellwyd, sef 'addysgu a chefnogi trefnwyr digwyddiadau unigol i hyrwyddo'r arferion amgylcheddol gorau a rhannu enghreifftiau ymarferol o'r arferion hyn'
Yn unol â blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru, sef datblygu’r economi mewn modd cynhwysol a chynaliadwy, bydd Digwyddiadau Cymru yn rhoi blaenoriaeth i brosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth i'r diwydiant digwyddiadau yng Nghymru yn y tymor canolig a'r hirdymor, a'r rhai sydd hefyd yn hyrwyddo neu'n ategu egwyddorion gwaith a thâl teg, llesiant, cydraddoldeb ac amrywiaeth a hyrwyddo'r Gymraeg.
Faint o gyllid sydd ar gael
Bydd cyllid gwerth hyd at £200,000 yn cael ei ddyrannu i'r Gronfa yn y blynyddoedd ariannol 2023–24 a 2024–25. Hoffem gefnogi cynifer o brosiectau ag y bo modd, felly nid ydym yn disgwyl i geisiadau unigol fod dros £15,000 – £20,000; ond canllaw yn unig yw hwn ac ystyrir pob cais ar sail ei rinweddau ei hun. Caiff ymgeiswyr gyflwyno mwy nag un cais.Er y byddwn yn cefnogi costau llawn prosiectau, hoffem weld yn benodol geisiadau sy'n gallu ysgogi arian atebol (gan gynnwys cymorth mewn ffyrdd nad ydynt yn ariannol), gan y bydd hyn yn galluogi ein cyllid i fynd ymhellach.
Gellir gwneud cais ar gyfer prosiectau a fydd yn cael eu cyflawni yn naill ai flwyddyn ariannol 2023–24 neu 2024–25. Caiff cais fod ar gyfer y ddwy flynedd, ond rhaid cwblhau pob prosiect a hawlio'r holl gyllid grant erbyn 31 Mawrth yn y flwyddyn ariannol y mae'r prosiect yn gysylltiedig â hi, h.y. mae'n rhaid cyflawni a hawlio ar gyfer prosiect sy'n cael ei ddechrau yn 2023 erbyn 31 Mawrth 2024.
Dim ond y lefel isaf o gyllid sydd ei hangen er mwyn i'r prosiect gael ei gwblhau yng Nghymru y bydd Digwyddiadau Cymru yn ei darparu. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos na fyddent yn gallu cynnal y prosiect arfaethedig heb gymorth Llywodraeth Cymru, neu y byddai'r prosiect yn llai o ran maint ac effaith.
Ni ddylid tybio na dweud bod cyllid Digwyddiadau Cymru wedi cael ei gadarnhau yn eich cynllun cyllid, nes bod y broses briodol wedi cael ei dilyn mewn perthynas â phob elfen o'r cais a'r broses asesu, a nes eich bod chi wedi cymryd y cam terfynol o dderbyn y llofnodi'r llythyr yn dyfarnu'r cyllid ichi.
Costau cymwys: pa weithgareddau y bydd y cynllun yn eu cefnogi
Drwy gefnogi arloesi wrth reoli digwyddiadau mewn modd cynaliadwy, byddwn yn datblygu ymhellach enw da Cymru fel gwlad sy'n cynnal digwyddiadau o'r radd flaenaf.
Nid ydym am osod meini prawf rhy llym – yn hytrach rydym am annog ceisiadau arloesol a blaengar. Er hynny, isod mae enghreifftiau o'r math o weithgareddau y byddwn yn ystyried eu cefnogi:
- Ceisiadau ar gyfer prosiectau arloesol y gellir eu hefelychu;
- Prosiectau sy'n cyd-fynd â'r uchelgeisiau a'r camau gweithredu a amlinellir yn Mwy Nag Ailgylchu;
- (e.e. dileu eitemau untro diangen o ddigwyddiadau a gweithgareddau arddangos eraill yng Nghymru; cefnogi newid ymddygiad mewn digwyddiadau; lleihau gwastraff bwyd cymaint ag y bo modd; ailddefnyddio deunyddiau cynifer o weithiau ag y bo modd; cefnogi modelau busnes cylchol);
- Prosiectau sy'n gwneud Cymru yn arweinydd strategol neu'n hyrwyddwr arloesedd ym maes cynaliadwyedd a rheoli digwyddiadau mewn modd cynaliadwy;
- Annog newid ymddygiad o ran cynaliadwyedd ymhlith y rhai sy'n gwylio neu'n cymryd rhan mewn digwyddiadau;
- Prosiectau sy'n annog economi gylchol drwy leihau gwastraff ac ailddefnyddio adnoddau e.e. drwy leihau faint o ddeunyddiau crai sy'n cael eu defnyddio neu ddefnyddio eitemau sydd wedi cael eu gwneud o ddeunyddiau cynaliadwy/wedi'u hailgylchu a/neu y mae modd eu defnyddio ar gyfer llawer o ddigwyddiadau;
- Gweithgareddau sy'n cyd-fynd â'r uchelgeisiau a amlinellir nid yn unig yn ein Strategaeth ond hefyd yn Cymru Gryfach, Decach, Wyrddach: Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero-net;
- Defnyddio adnoddau adnewyddadwy;
- Gweithgareddau ymchwil a all helpu digwyddiadau i fesur eu hallbynnau/canlyniadau, er enghraifft, ffyrdd o gyfrifo gwastraff neu ddatblygu pecyn cynaliadwyedd ar gyfer y diwydiant.
Costau anghymwys
Nid ydym yn gallu darparu cymorth ar gyfer y canlynol:
- Unrhyw gostau cyfalaf;
- Costau a ysgwyddwyd cyn gwneud cais, neu gostau y gellir eu talu drwy ffynonellau cyllid eraill (e.e. o gronfeydd hyfforddiant neu gyflogaeth presennol fel Dysgu Cymraeg);
- TAW y gellir ei hadennill;
- Costau dileu swyddi;
- Ffioedd dyled neu daliadau i wasanaethau dyled;
- Difidendau;
- Taliadau llog;
- Unrhyw beth sy'n mynd yn groes i ddeddfwriaeth neu gyngor Llywodraeth Cymru;
- Unrhyw fath o weithgaredd a allai, yn ein barn ni, ddwyn anfri ar Lywodraeth Cymru;
- Costau sy'n gysylltiedig â hyrwyddo achos neu gredoau sefydliadau gwleidyddol neu sefydliadau ffydd;
- Prosiectau sy'n dibynnu ar lafur am ddim neu sy'n ei annog;
- Costau nad ydynt yn benodol i'r gweithgaredd/prosiect y gwneir cais amdano.
Pwy sy'n gymwys i wneud cais
Rydym yn croesawu ceisiadau gan berchnogion/trefnwyr digwyddiadau, busnesau yn y gadwyn gyflenwi, awdurdodau lleol, academyddion neu eraill yn y diwydiant digwyddiadau. Rhaid i ymgeiswyr fod wedi'u lleoli yng Nghymru, neu allu dangos y bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gweithgareddau yng Nghymru. Rydym hefyd yn croesawu prosiectau partneriaeth rhwng dau neu ragor o ddigwyddiadau neu sefydliadau. Byddwn yn trafod ac yn cytuno ar y cyllid a ddyrennir ar gyfer prosiectau o'r fath cyn dyfarnu cyllid i’r prosiectau hynny, a byddai'n ddefnyddiol pe baech yn gallu amlinellu yn eich cais y ffordd rydych yn rhagweld y cyllid yn cael ei weinyddu.
Dylai ymgeiswyr fod â hanes y gellir ei ddangos o ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel yn y diwydiant digwyddiadau, hyfforddiant neu ddiwydiant perthnasol eraill. Os nad oes gan y busnes hanes am ei fod yn fusnes newydd a dyma ei fenter gyntaf, dylai'r cyfarwyddwyr fod â hanes y gellir ei ddangos o gynnal prosiectau tebyg mewn maes tebyg.
Meini prawf y cyllid
Rhaid i geisiadau gyd-fynd â'r Nod Llesiant o sicrhau bod 'Cymru yn gyfrifol ar lefel fyd-eang', a byddant yn cael eu sgorio yn erbyn meini prawf ehangach y Gronfa yn Atodiad 1.
Disgwylir i bob prosiect gyflawni yn erbyn y meini prawf craidd, sef cefnogi rheoli digwyddiadau mewn modd cynaliadwy, ond cydnabyddir y bydd y graddau y mae prosiectau yn cyflawni yn erbyn meini prawf eraill yn amrywio, yn dibynnu ar natur y prosiect. Mae'r penderfyniad ynghylch a fydd prosiect yn derbyn cyllid yn seiliedig ar sgôr gyfunol yn erbyn pob un o'r meini prawf uchod.
Yn seiliedig ar gynnwys y cais a nodau'r prosiect, bydd targedau (mae enghreifftiau yn Atodiad 1) yn cael eu cynnwys yn y Llythyr Dyfarnu Cyllid, a byddant yn rhan o delerau ac amodau'r cyllid. Byddwn yn trafod ac yn cytuno ar ddangosyddion perfformiad allweddol, wedi'u teilwra i'r math o brosiect, cyn dyfarnu unrhyw gyllid.
Bydd hefyd yn ofynnol ichi gyflwyno adroddiad pan fydd y prosiect wedi'i gwblhau, i ddangos bod y targedau hyn wedi cael eu cyflawni, ac i rannu unrhyw arferion da neu wersi wedi'u dysgu â'r diwydiant ehangach.
Mae hon yn gronfa gystadleuol ac mae'n bosibl na fydd pob cais yn cael ei gymeradwyo. Os byddwch yn gwneud unrhyw wariant cyn i grant gael ei ddyfarnu byddwch yn gwneud hynny ar eich risg eich hun, ac os nad ydym yn credu bod angen y cymorth grant i gwblhau'r prosiect, mae'n bosibl y bydd eich cais yn gael ei wrthod.
Y broses ar gyfer gwneud cais ac asesu ceisiadau
Gall ein tîm roi cyngor ar gymhwysedd a'r broses ymgeisio, ond nid yw'r ffaith bod aelod o'n tîm wedi trafod eich prosiect yn golygu ei fod wedi cael ei gymeradwyo. Mae hon yn gronfa gystadleuol a bydd pob prosiect yn cael ei asesu a'i sgorio yn erbyn y meini prawf safonol yn Atodiad 1. I ofyn am ffurflen gais neu i gael cyngor ynghylch gwneud cais, cysylltwch â'r tîm yn digwyddiadaucymru@llyw.cymru.
Bydd y rownd gychwynnol beilot hon yn agor i geisiadau am 12.00 hanner dydd ar ddydd Mercher 19 Ebrill 2023 . Dylid anfon ceisiadau at digwyddiadaucymru@llyw.cymru erbyn 5.00 y prynhawn , dydd Mercher 31 Mai 2023 fan bellaf. Nid ystyrir unrhyw geisiadau sy'n cyrraedd yn hwyr.
Bydd ceisiadau a gwybodaeth ategol yn destun proses diwydrwydd dyladwy a gwiriadau ariannol. Bydd hyn yn cynnwys adolygiad o'ch rhagamcanion ariannol, gwiriad twyll, a gwiriadau ar gyfarwyddwyr eich cwmni. Os na fydd gwybodaeth ar gael (e.e. unig fasnachwyr nad ydynt wedi'u cofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau) gofynnir ichi ddarparu'r wybodaeth berthnasol ar wahân at y diben hwn. Os ydych yn gysylltiedig â busnes sydd mewn dyled i Lywodraeth Cymru, mae'n annhebygol y byddwch yn gallu gwneud cais am ragor o gyllid a dylech drafod hyn â ni cyn ichi wneud unrhyw gais.
Mae dau gam i asesu ceisiadau. Cynhelir archwiliadau cychwynnol i sicrhau bod y meini prawf cymhwysedd sylfaenol cychwynnol wedi cael eu bodloni:
- Mae'n cyd-fynd yn strategol â Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru.
- Bydd yn cyfrannu at ddatblygu'r sector yng Nghymru yn y tymor canolig a'r hirdymor.
- Bydd yn cynyddu'r manteision economaidd a chymdeithasol ar gyfer Cymru cymaint ag y bo modd.
Gwrthodir ceisiadau nad ydynt yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd (gan gynnwys diwydrwydd dyladwy), a bydd yr ymgeiswyr yn cael eu hysbysu ar yr adeg hon.
Wedyn bydd yr holl geisiadau sydd wedi bodloni'r meini prawf cymhwysedd ac wedi pasio'r gwiriadau diwydrwydd dyladwy yn cael eu hasesu gan swyddogion Digwyddiadau Cymru, a bydd y sgoriau'n cael eu cadarnhau gan Banel Asesu. Bydd swyddog o adran berthnasol arall, y tu allan i Digwyddiadau Cymru, yn cael ei gynnwys yn y broses asesu hon.
Bydd prosiectau sy'n ennill y sgôr isaf ar gyfer pasio'n cael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru i'w cymeradwyo. Os yw gwerth y ceisiadau cymwys yn uwch na'r cyllid sydd ar gael mewn unrhyw flwyddyn ariannol, rhoddir blaenoriaeth ar gyfer cymorth i'r ceisiadau a gafodd o sgoriau uchaf.
Ar ôl i Weinidogion gymeradwyo'r ceisiadau, rhoddir gwybod i ymgeiswyr ac anfonir llythyrau dyfarnu cyllid. Bydd yr holl gyllid sy'n cael ei ddyfarnu, gan gynnwys ei werth, yn cael ei gyhoeddi ar llyw.cymru.
Mae hon yn gronfa ddisgresiynol ac nid oes proses apelio. Rhoddir gwybod i ymgeiswyr aflwyddiannus drwy e-bost yn dilyn y broses sifftio yng Ngham 1 (byddwn ein ceisio gwneud hyn o fewn pythefnos i'r dyddiad cau) neu yn dilyn canlyniadau'r panel asesu (erbyn 21 Gorffennaf fan bellaf).
Gwneud taliadau a monitro
Bydd y cyllid yn cael ei wneud ar ffurf grant, ac yn cael ei dalu mewn rhandaliadau yn ddarostyngedig i amodau a amlinellir yn y llythyr dyfarnu cyllid.
- Y ffordd arferol o dalu'r cyllid yw mewn ôl-daliadau. Mewn achosion eithriadol gellir talu cyllid ymlaen llaw, lle y gall ymgeisydd ddangos achos busnes boddhaol;
- Bydd manylion yr hyn y bydd angen ichi ei ddarparu ar gyfer y cam hawlio'n cael eu cynnwys yn eich llythyr dyfarnu cyllid;
- Byddwn yn ceisio prosesu'r taliad o fewn 20 diwrnod gwaith i gais a'r holl dystiolaeth ategol gael eu cyflwyno;
- Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol ei bod yn bosibl y bydd angen ad-dalu'r grant yn rhannol neu'n llawn os na fyddwch yn cydymffurfio â thelerau ac amodau unrhyw gyllid a ddyfernir.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i werthuso llwyddiant y grant hwn. Drwy fonitro prosiectau ar ôl iddynt gael eu cwblhau, byddwn yn asesu i ba raddau y gellir priodoli'r allbynnau a'r canlyniadau yn uniongyrchol i weithgareddau'r cynllun, ac yn ystyried a yw effeithiau ehangach a ragwelwyd neu nas rhagwelwyd wedi cael eu gwireddu.
Efallai y bydd Llywodraeth Cymru, neu drydydd parti yn gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru, yn cysylltu â chi at ddibenion ymchwil a gwerthuso a/neu er mwyn ichi roi adborth ar eich profiad o'r cynllun. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei dadansoddi a'i chyflwyno yn ddienw yn unol â'r Hysbysiad Preifatrwydd.
Cyhoeddusrwydd
Bydd disgwyl i bob ymgeisydd llwyddiannus wneud y canlynol:
- Cytuno i gael ei gynnwys mewn deunyddiau cyhoeddusrwydd, datganiadau i'r wasg a deunyddiau marchnata rydym yn eu cynhyrchu mewn perthynas â'r cyllid hwn, am dair blynedd ar ôl i'r cyllid gael ei ddyfarnu. Mae'n bosibl y bydd hyn yn golygu darparu delweddau neu fideos, ynghyd â'r hawliau perthnasol inni eu defnyddio mewn datganiadau i'r wasg a deunyddiau cyhoeddusrwydd.
- Cytuno i nodyn yn dweud bod eich prosiect wedi cael ei ariannu/ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru gael ei gynnwys ar ei ddeunyddiau hyrwyddo gan gynnwys, pan fydd hynny'n briodol, ar ei gwefan.
- Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu cyn i'r deunyddiau hyrwyddo gael eu cyhoeddi.
Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Mae amcanion y Ddeddf yn dangos sut y bydd pob corff cyhoeddus yn gweithio i wireddu'r weledigaeth i Gymru sydd yn y 'Nodau Llesiant’. Mae'r saith nod llesiant yn dangos pa fath o Gymru yr hoffem ei gweld. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn glir ei bod yn rhaid i'r cyrff cyhoeddus a restrir weithio i wireddu'r nodau i gyd, nid un neu ddau ohonynt yn unig. Nod y strategaeth yw sicrhau ein bod yn ehangu'r cyfraniad mae digwyddiadau eisoes yn ei wneud at y saith nod hyn. Bydd cyfeirio at y ffordd mae eich prosiect yn cyflawni'r nodau hyn, ac esbonio hynny, yn bwysig wrth inni asesu eich cais.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae ein strategaeth yn rhoi ffocws bwriadol ar sicrhau bod digwyddiadau'n cwmpasu amrywiaeth helaeth o genres er mwyn apelio at gymaint o bobl ag y bo modd. Bydd portffolio cytbwys yn ystyried oedran, rhanbarth, ethnigrwydd, crefydd, cost mynychu ac ati er mwyn sicrhau bod y digwyddiadau a gynigir yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb.
Byddwn yn croesawu'n benodol brosiectau sy'n tynnu sylw at dangynrychiolaeth yn y diwydiant ac yn mynd i'r afael a'r dangynrychiolaeth honno.
Y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg a chynyddu'r defnydd ohoni. Mae'r diwydiant digwyddiadau'n chwarae rôl allweddol wrth gyfrannu at flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg a'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 fel y nodir yn Cymraeg 2050.
Yn ogystal, mae tair thema allweddol ein strategaeth yn cynnwys y gofyniad i fod yn wirioneddol Gymreig'. Bydd gan ddigwyddiadau yng Nghymru 'Gymreictod' penodol, ni waeth beth fo'u maint, eu graddfa na'u lleoliad. Bydd hyn y cynnwys y Gymraeg, yn adlewyrchu Brand Cymru Wales, a meini prawf y Ddeddf Llesiant.
Hysbysiad preifatrwydd
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen, yn deall ac yn derbyn y Canllawiau a'r Hysbysiad Preifatrwydd cyn ichi ddechrau cwblhau eich cais.
- Hysbysiad Preifatrwydd Llywodraeth Cymru;
- Hysbysiad Preifatrwydd: Cronfa ddata cysylltiadau Digwyddiadau Cymru – Gweler Atodiad 2 (Hoffem ychwanegu pob un o'n hymgeiswyr at ein cronfa ddata cysylltiadau er mwyn sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth amserol am yr opsiynau cymorth eraill sydd ar gael gan Digwyddiadau Cymru, ond nid yw hyn yn un o amodau'r cyllid).
Rheoli Cymorthdaliadau yn y DU
Raid ichi sicrhau eich bod yn defnyddio'r cyllid mewn ffordd sy'n gyson â'r cytundebau perthnasol yn rheolau Sefydliad Masnach y Byd, y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a'r UE, unrhyw Gytundeb Masnach Rydd y mae'r DU yn rhan ohono, Protocol Gogledd Iwerddon ac unrhyw ddeddfwriaeth ddomestig berthnasol. Fel rhan o'ch cais bydd angen ichi roi manylion unrhyw gyllid mae eich busnes wedi ei dderbyn yn y gorffennol.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd y cyllid yn cael ei ystyried yn Gymorth Ariannol Lleiaf yn unol â Phennod 2, Rhan 3 o Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, a elwir yn flaenorol yn SAFA* / Cymorth de Minimis, yn unol ag Erthygl 3.2, paragraff 4 o'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a'r UE. Mae hyn yn cyfyngu ar faint o gymorth y caiff busnes ei dderbyn o'r wladwriaeth.
Os ydych wedi derbyn Cymorth Ariannol Lleiaf, SAFA neu Gymorth de Minimis, dylech fod wedi cael eich hysbysu am hynny pan gawsoch y cymorth hwnnw. Bydd angen ichi ychwanegu'r dyfarniad hwn at gyfanswm eich Cymorth Ariannol Lleiaf dros y tair blynedd ariannol diwethaf (mae angen i'r ffigur hwn aros o dan tua £315,000), ynghyd ag unrhyw ddatganiadau Cymorth Ariannol Lleiaf neu hawliadau yn y dyfodol, a datgan y cyfanswm inni pan fyddwch yn gwneud cais.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y Dibenion yn cael eu cyflawni yn unol â’r meini prawf ar gyfer Cymorth Gwladwriaethol y dyfarnwyd y Cyllid ar eu sail.
Os byddwch yn mynd dros y terfyn hwnnw, chi fydd yn gyfrifol am unrhyw gamau a fydd yn deillio o hynny, gan gynnwys ad-dalu'r cymorth yr ydych wedi'i gael.
Rhagor o wybodaeth
I ofyn am ffurflen gais, os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am Gronfa Arloesi Cynaliadwyedd Digwyddiadau Cymru, neu os hoffech gael yr wybodaeth mewn fformat gwahanol, anfonwch neges e-bost at digwyddiadaucymru@llyw.cymru.
Atodiad 1: Y Meini Prawf Asesu ar gyfer y Gronfa Arloesi Cynaliadwyedd
Mae cefnogi pobl i reoli digwyddiadau mewn modd cynaliadwy o fewn ein diwydiant yn flaenoriaeth allweddol. Rydym wedi ymrwymo i weithio tuag at greu diwydiant cynaliadwy, cynhwysol ac amrywiol yng Nghymru a chefnogi cadwyn gyflenwi ffyniannus ledled Cymru.
Drwy'r gronfa ar wahân hon rydym yn chwilio am brosiectau sy'n gallu dangos ymrwymiad ychwanegol i'r uchelgeisiau a'r camau gweithredu a amlinellir yn Mwy Nag Ailgylchu, strategaeth Llywodraeth Cymru i newid i economi gylchol yng Nghymru, ac sy'n ceisio sicrhau bod llai o wastraff yn cael ei gynhyrchu a'n bod ni'n parhau i ailddefnyddio adnoddau am gyfnodau hwy. Rydym hefyd yn chwilio am brosiectau sy'n gallu gwella ymwybyddiaeth o yrfaoedd yn y sector yn ogystal â helpu unigolion i ddatblygu eu gyrfaoedd drwy gynnig cyfleoedd ar gyfer uwchsgilio, ynghyd â phrosiectau sy'n gallu cael eu rhannu fel arferion da neu gael eu hefelychu gan eraill ar draws y diwydiant.
Mae'r meini prawf asesu y gellir eu defnyddio i asesu cais a/neu fesur canlyniadau'r ymyriad ariannol yn cynnwys:
- Lefel y carbon sy’n cael ei arbed;
- Y lefelau o ailddefnyddio deunyddiau y gellir eu dangos;
- Newid i gynhyrchion sydd wedi cael eu hailddefnyddio, eu hailwampio a'u hailweithgynhyrchu – neu gynhyrchion wedi'u gwneud o ddeunyddiau cynaliadwy; newid o ddefnyddio eitemau untro i ailddefnyddio eitemau;
- Deunyddiau a fyddai wedi mynd i safleoedd tirlenwi neu losgi, neu greu ynni o wastraff;
- Targedau lleihau gwastraff;
- Cadwyni cyflenwi byrrach (naill ai ar gyfer nwyddau a/neu reoli gwastraff e.e. ailddefnyddio/ailweithgynhyrchu cyflenwadau'n lleol);
- Nifer y cynlluniau/gweithdai hyfforddi;
- Costau llai o ganlyniad i newid i economi fwy cylchol;
- Cydraddoldeb a/neu gynlluniau Iaith Gymraeg yn cael eu datblygu neu eu rhoi ar waith;
- Gweithgareddau cynnwys/ymgysylltu â'r gymuned.
Mae dau gam i asesu ceisiadau. Cynhelir archwiliadau cychwynnol i sicrhau bod y meini prawf cymhwysedd sylfaenol cychwynnol wedi cael eu bodloni:
- Mae'n cyd-fynd yn strategol â Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru.
- Bydd yn cyfrannu at ddatblygu'r sector yng Nghymru yn y tymor canolig a'r hirdymor.
- Bydd yn cynyddu'r manteision economaidd a chymdeithasol ar gyfer Cymru cymaint ag y bo modd.
Gwrthodir ceisiadau nad ydynt yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd (gan gynnwys diwydrwydd dyladwy), a bydd yr ymgeiswyr yn cael eu hysbysu ar yr adeg hon.
Wedyn bydd ceisiadau sydd wedi bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd ac wedi pasio'r holl wiriadau diwydrwydd dyladwy yn cael eu asesu yn erbyn y meini prawf canlynol, a bydd y sgoriau'n cael eu cadarnhau gan Banel Asesu. Bydd swyddog o adran berthnasol arall, y tu allan i Digwyddiadau Cymru, yn cael ei gynnwys yn y broses asesu hon.
|
Meini Brawf Asesu |
Pwysoliad |
Sgôr |
1 |
Cyd-fynd strategol I ba raddau mae'r prosiect yn cyflawni/cyd-fynd â’r canlynol:
|
X5 |
/5 |
2 |
Cryfder ac Ansawdd y cynnig a thystiolaeth bod angen y gweithgaredd
|
X5 |
/5 |
3 |
Y cynllun rheoli a'r gallu i gyflawni’r prosiect
|
X4 |
/5 |
4 |
Canlyniadau/Allbynnau'r Prosiect
|
X3 |
/5 |
5 |
Costau'r prosiect a gwerth am arian
|
X3 |
/5 |
|
Cyfanswm sgôr posibl* |
|
/100 |
Atodiad 2: Hysbysiad Preifatrwydd, Cysylltiadau Digwyddiadau Cymru
Hoffai Digwyddiadau Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am ddigwyddiadau, polisi sy'n gysylltiedig â'r diwydiant, newyddion ac ymchwil drwy e-bost. Er mwyn gwneud hyn mae angen prosesu rhywfaint o wybodaeth bersonol amdanoch chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw ar gronfa ddata cysylltiadau a'i storio ar systemau diogel Llywodraeth Cymru.
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych a bydd yn ei brosesu fel rhan o'i thasg gyhoeddus i gefnogi a datblygu'r sector digwyddiadau yng Nghymru.
Mae bod ar ein cronfa ddata cysylltiadau yn gwbl wirfoddol a bydd angen ichi fynd ati i 'optio i mewn' drwy anfon e-bost at Digwyddiadau Cymru yn digwyddiadaucymru@llyw.cymru gan roi'r wybodaeth ganlynol:
Yr wybodaeth sydd ei hangen: • Enw • Teitl/rôl y swydd • Digwyddiad/Sefydliad • Cyfeiriad e-bost • Dewis iaith ar gyfer gohebiaeth (Cymraeg/Saesneg) |
Gwybodaeth ddefnyddiol ychwanegol: • Rhif/au ffôn |
Os ydych yn dymuno i'ch gwybodaeth bersonol gael ei thynnu o'r gronfa ddata cysylltiadau ar unrhyw adeg, rhowch wybod inni drwy anfon e-bost at Digwyddiadau Cymru yn digwyddiadaucymru@llyw.cymru.
Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw ar y gronfa ddata nes ichi ddewis optio allan o dderbyn y diweddariadau.
Gall Digwyddiadau Cymru rannu eich gwybodaeth bersonol â thrydydd partïon ond dim ond pan fyddant yn darparu gwasanaethau o dan gontract at y dibenion a amlinellir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn neu os oes rhaid inni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Eich hawliau
O dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol;
- Cael gafael ar gopi o'ch data eich hun;
- Gofyn inni gywiro gwallau yn y data hynny;
- Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu data (mewn rhai amgylchiadau);
- Gofyn i'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau);
- Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Gwybodaeth gyswllt
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd hwn neu am sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ,
E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru