Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar gynnydd ein rhaglen frechu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae ein strategaeth frechu'r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol yn amlinellu ein cynlluniau ar gyfer rhaglen frechu integredig. Mae’n egluro sut y byddwn yn cynnig brechiadau rhag y ffliw a brechiadau atgyfnerthu COVID-19 i unigolion cymwys eleni.

Dyma ein tair prif flaenoriaeth ar gyfer ein rhaglen frechu'r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol:

  • amddiffyn y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf
  • amddiffyn plant a phobl ifanc
  • gadael neb ar ôl drwy barhau i gynnig y cwrs cychwynnol o’r brechlyn COVID-19

Diweddariad ar y rhaglen

Dechreuwyd rhoi Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol ar waith ar 1 Medi 2022. Mae’n cyfuno’r rhaglen frechu rhag COVID-19 a’r rhaglen frechu rhag y ffliw.

Cynnydd yn erbyn y strategaeth

Amddiffyn y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf

Dechreuwyd rhoi brechiadau rhag COVID ar gyfer y grwpiau cymwys ar 1 Medi, gan frechu:

  • preswylwyr a staff cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • unigolion sy’n gaeth i’r tŷ
  • gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen

Dylai pob unigolyn sy'n gymwys i gael brechiad atgyfnerthu COVID-19 fod wedi cael eu cynnig i gael y brechiad erbyn hyn. Os ydych yn gymwys ond heb gael eich gwahoddiad, cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol. Mae pob bwrdd iechyd bellach yn gweithredu clinigau galw i mewn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan eich bwrdd iechyd. 

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cyhoeddi mai’r grwpiau hyn sy’n gymwys i gael brechiad atgyfnerthu:

  • pob oedolyn 50 oed a hŷn
  • pobl rhwng 5 a 49 oed mewn grŵp risg glinigol, fel y nodir yn y Llyfr Gwyrdd (gov.uk)
  • pobl rhwng 5 a 49 oed sy’n gyswllt cartref i bobl sydd ag imiwnedd isel, fel y diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd (gov.uk)
  • pobl rhwng 16 a 49 oed sy’n ofalwyr

Dylai unigolion sy’n gymwys i gael brechiad rhag y ffliw, sy’n cynnwys pawb dros 50 oed, fod wedi cael cynnig y brechiad erbyn hyn. Os ydych yn gymwys ond heb gael eich brechiad eto, gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gael y brechiad yn eich ardal yng Nghymru. Mae pob bwrdd iechyd nawr yn cynnig dewisiadau hyblyg, gyda threfniadau ‘galw i mewn’ ar waith ar draws Cymru, gan gynnwys sesiynau i blant gael brechlyn ffliw drwy chwistrelliad trwyn.

Amddiffyn plant a phobl ifanc

Mae’r canlynol yn gymwys i gael eu brechu rhag y ffliw eleni:

  • plant 2 a 3 oed
  • plant ysgolion cynradd o’r dosbarth derbyn i Flwyddyn 6
  • plant a phobl ifanc ysgolion uwchradd o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 11
  • pobl rhwng chwe mis oed a 49 oed mewn grŵp risg glinigol fel y nodir yng Nghylchlythyr Iechyd Cymru ar y ffliw

Byddwn yn gofyn i rieni neu warcheidwaid roi caniatâd. Rydym yn annog rhieni, gwarcheidwaid, plant a phobl ifanc i drafod â’i gilydd a ydyn nhw am gael y brechiad ai peidio. Mae gwybodaeth ffeithiol ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i’w helpu i wneud y penderfyniad hwn.

Bydd y mwyafrif o blant a phobl ifanc yn cael eu brechiad COVID-19 mewn canolfan frechu. Bydd rhai ardaloedd hefyd yn cynnig y brechlyn drwy ysgolion arbennig. Bydd y ffordd o ddarparu brechiadau yn cael ei llywio gan wybodaeth leol a gall newid yn ôl amgylchiadau.

Bydd byrddau iechyd yn defnyddio gwasanaethau nyrsio mewn ysgolion yn bennaf i ddarparu’r brechlyn i blant, sef chwistrelliad drwy’r trwyn. Yn ogystal, bydd sesiynau dilynol a’r defnydd o feddygfeydd yn rhan o’r model ar gyfer darparu brechiadau. Mae’r cynlluniau ar gyfer darparu wrthi’n cael eu hadolygu i sicrhau bod y nifer mwyaf o bobl yn cael y brechlyn eleni, yn enwedig yng nghyd-destun y lefelau uchel presennol o feirysau anadlol sy’n cylchredeg yn y gymuned a feirysau eraill, megis y Dwymyn Goch a Streptococws A (Strep A). Mae trefniadau ‘galw i mewn’ nawr ar gael i roi mwy o hyblygrwydd i deuluoedd ac i sicrhau’r lefelau uchaf o amddiffyniad.

Gadael neb ar ôl

Mae brechu teg yn parhau yn egwyddor allweddol yn rhaglen frechu Cymru. Mae’r egwyddor o ‘adael neb ar ôl’, sy’n rhan annatod o’n strategaeth frechu, wedi’i seilio ar y rhagosodiad y dylai pawb gael mynediad teg a chyfle teg i fanteisio ar y cynnig o frechlyn.  

Mae’r byrddau iechyd yn parhau i weithio mewn partneriaeth â grwpiau rhanddeiliaid ehangach a phartneriaid allweddol. Bydd y GIG yn parhau i sicrhau bod y brechlyn ar gael yn hwylus er mwyn brechu cynifer o bobl â phosibl.

Mae’r Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol newydd yn nodi bod tegwch brechu yn ganolog i gynllun a darpariaeth y gwasanaeth. Mae’r Fframwaith yn amlinellu’r camau gweithredu allweddol i wireddu hyn ar gyfer pob rhaglen frechu.

Crynodeb o’n cynnydd cyffredinol

Yn unol â'n strategaeth, rhoddwyd gwahoddiad i bob unigolyn cymwys gael brechlyn COVID-19 erbyn 30 Tachwedd a chyfle i gael eu brechiad rhag y ffliw erbyn 31 Rhagfyr. Rydym bellach yng nghyfnod ‘gadael neb ar ôl’ y rhaglen gyda byrddau iechyd yn ceisio sicrhau bod y nifer mwyaf o bobl yn cael y brechlyn drwy gynnig parhaus, e.e. drwy glinigau galw i mewn. 

Ers dechrau rhoi Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol ar waith ar 1 Medi:

  • Mae 1,137,232 o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi’u rhoi (yn gywir ar 6 Chwefror 2023)
  • Mae 15,507 o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi’u rhoi i staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal (ar 6 Chwefror 2023)
  • Mae 11,932 o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi’u rhoi i breswylwyr cartrefi gofal (ar 6 Chwefror 2023)
  • Mae 38,338 o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi’u rhoi i bobl sydd â system imiwnedd gwannach na’r cyffredin (ar 6 Chwefror 2023)

Mae'r crynodeb o’r niferoedd sydd wedi manteisio ar y brechlyn rhag y ffliw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyhoeddwyd ar 2 Chwefror 2023 yn nodi’r lefelau manteisio canlynol, sydd ar yr un lefel yn fras â blynyddoedd blaenorol ar yr adeg hon yn yr ymgyrch.

  • 75.8% o’r rheini sy’n 65 oed a hŷn
  • 43.1% o’r rheini yn y grŵp risg rhwng 6 mis oed a 64 oed
  • 43.1% o blant 2 a 3 oed
  • 43.6% o staff y GIG

Gwybodaeth ychwanegol am y rhaglen frechu

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cwestiynau cyffredin am y brechlynnau a diogelwch. Mae hefyd yn cyhoeddi data gwyliadwriaeth rheolaidd.

Mae gwybodaeth amrywiol am ein rhaglen frechu, gan gynnwys sut i gael eich brechu, ar gael ar ein gwefan