Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch rhaglen brechu COVID-19 hyd at 25 Ionawr 2022 .

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Beth sy’n newydd ers y diweddariad diwethaf?

Ddydd Iau diwethaf, ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i ddechrau brechu plant 5 i 11 oed sydd “mewn risg” gyda fformiwla newydd y brechlyn ar gyfer plant. Mae plant 5 i 11 oed sy’n byw ar aelwyd gyda rhywun sy’n imiwnoataliedig hefyd yn gymwys ar gyfer y brechlyn hwn.

Bydd gwahoddiad yn cael ei anfon yn awtomatig at blant 5 i 11 oed sydd mewn risg, i fynd i gael eu brechiad, felly does dim angen cysylltu â’ch meddyg teulu.

Bydd angen i blant 5 i 11 oed sy’n gyswllt ar aelwyd i rywun sy’n imiwnoataliedig lenwi ffurflen i roi gwybod i fyrddau iechyd eu bod yn gymwys a bod angen apwyntiad arnynt.

Gadael neb ar ôl

Ni fydd neb yn cael ei adael ar ôl a gall unrhyw un sydd eisiau derbyn y cynnig o bigiad atgyfnerthu, dos cyntaf neu ail ddos wneud hynny o hyd. Os na lwyddoch i fynd i’ch apwyntiad dros y Nadolig, gallwch fynd nawr. Mae sesiynau galw heibio ar gael ledled Cymru ar gyfer pigiadau atgyfnerthu, dos cyntaf neu ail ddos. Mae manylion y byrddau iechyd ar gael yma: Cael eich brechlyn COVID-19 

Mae’r brechlyn yn cynnig amddiffyniad da, ac mae werth ei gael hyd yn oed os ydych wedi cael COVID. Y rheswm am hyn yw oherwydd gall y lefel o amddiffyniad sydd gan bobl ar ôl cael y feirws amrywio, yn dibynnu ar ba mor ysgafn neu ddifrifol oedd eu salwch, faint o amser sydd ers iddynt gael yr haint, a’u hoedran. Ond gwyddom fod y brechlyn, yn arbennig y brechlyn atgyfnerthu, yn cynnig amddiffyniad da. 

Mae’n fwy tebygol y bydd pobl sydd heb eu brechu angen gofal critigol mewn ysbytai oherwydd COVID, gan gynnwys yr amrywiolyn Omicron, a gan amlaf, mae eu canlyniadau’n waeth na’r rheini sydd wedi’u brechu.

Gall timau brechu ateb unrhyw gwestiynau allai fod gennych am y brechlyn, a’ch cefnogi wrth gael eich brechu. Mae gan y rhan fwyaf o ganolfannau brechu ardaloedd tawel i bobl eistedd wrth aros, ac mae nyrsys arbenigol ar gael yn llawer o’r canolfannau hyn i helpu’r rheini sydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol.

Statws brechu COVID-19

O 11 Hydref ymlaen, mae’r Pàs COVID yn orfodol i bawb sy’n mynd i’r lleoliadau canlynol:

  • clybiau nos a lleoliadau tebyg
  • digwyddiadau dan do heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobl. Byddai hyn yn cynnwys confensiynau a chyngherddau
  • digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobl
  • unrhyw leoliad neu ddigwyddiad sy’n cynnwys mwy na 10,000 o bobl, fel gêm rygbi neu bêl-droed

O 15 Tachwedd ymlaen, mae hefyd angen y Pàs COVID i fynd i:

  • Sinemâu
  • Theatrau
  • Neuaddau cyngerdd

Mae’r Pàs COVID yn cadarnhau eich statws brechu neu’n dangos eich bod chi wedi cael canlyniad prawf llif unffordd negatif o fewn y 24 awr ddiwethaf. Os ydych wedi eich cofrestru gyda meddyg teulu yn y DU, wedi cael eich brechu yng Nghymru neu Loegr ac yn 16 oed neu hŷn, gallwch gael Pàs COVID digidol y GIG.

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau i randdeiliaid drwy’r ddolen ganlynol: https://llyw.cymru/pas-covid-canllawiau-ar-gyfer-busnesau-digwyddiadau-html

I gael gafael ar y Pàs COVID gan ddefnyddio ffôn clyfar, cyfrifiadur neu liniadur, defnyddiwch y ddolen hon https://covid-status.service.nhsx.nhs.uk/

Bydd rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar gael gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol agos. Mae canllawiau presennol y Pàs COVID i’w gweld yn: https://llyw.cymru/pas-covid-y-gig-dangoswch-eich-statws-brechu

Pwy sy’n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Fel canllaw ar gyfer pwy sy’n gymwys ar gyfer y brechlyn, gan gynnwys faint o amser i aros rhwng y dosau, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth, ac mae ar gael yma.

Crynodeb o’n cynnydd cyffredinol:

  • Mae cyfanswm o fwy na 6.7 miliwn dos o frechlynnau wedi'u rhoi yng Nghymru
  • Mae mwy na 2.5 miliwn o bobl wedi cael eu dos cyntaf ac mae mwy na 2.35 miliwn o bobl wedi cael eu cwrs llawn o’r brechlyn
  • Mae 73.4% o oedolion 18 i 29 oed a 75.7% o oedolion 30 i 39 oed wedi cael eu hail ddos
  • Mae 79.1% o bobl ifanc 16 ac 17 oed wedi cael eu dos cyntaf ac mae 61.6% o bobl ifanc 12 i 15 oed wedi cael eu dos cyntaf
  • Mae mwy na 53,400 o bobl sydd â system imiwnedd wan iawn wedi cael eu trydydd dos sylfaenol
  • Mae mwy nag 1.8 miliwn o bobl wedi cael dos atgyfnerthu
  • Mae 67.9% o unigolion 12 oed+ yng Nghymru wedi cael dos atgyfnerthu neu drydydd dos. Nid yw’r ffigur hwn yn ystyried y ffaith na fydd pawb yn gymwys am ddos atgyfnerthu ar hyn o bryd, er enghraifft pobl nad ydynt mewn grŵp cymwys, pobl sydd wedi cael eu hail ddos lai na dri mis yn ôl a phobl sydd wedi cael haint COVID-19 yn ddiweddar
  • Mae 90.1% o breswylwyr cartrefi gofal, 75.4% o staff cartrefi gofal a mwy nag 84.5% o bobl dros 50 oed wedi cael dos atgyfnerthu

Rhagor o wybodaeth

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru Gwestiynau Cyffredin ynglŷn â’r brechlyn a diogelwch. Mae hefyd yn cyhoeddi datganiadau gwyliadwriaeth dyddiol ac wythnosol.

Mae gwybodaeth am sut i gael eich brechlyn ar gael yma: Cael eich brechlyn COVID-19

Mae amrywiaeth o wybodaeth am ein rhaglen frechu ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys canllawiau yn ymwneud â'r grwpiau blaenoriaeth. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.