Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y rhaglen frechu COVID-19 hyd at 13 Gorffennaf 2021

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd ein Strategaeth Frechu Genedlaethol ar 11 Ionawr ac mae'n seiliedig ar y gwaith cynllunio manwl a wnaeth GIG Cymru. Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar 3 maes allweddol:

  • Ein blaenoriaethau  – rydym yn parhau i weithio'n agos â Llywodraeth y DU o ran cyflenwad. Yn seiliedig ar yr hyn sy'n hysbys eisoes am y cyflenwad a'r grwpiau blaenoriaeth a bennwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), rydym wedi nodi cerrig milltir allweddol.
  • Ein seilwaith brechu - gwneud yn siŵr y gall pobl gael y brechlyn a gynigir iddynt - ble i fynd i gael brechlyn, pobl a fydd yn rhoi'r brechlyn a'r system apwyntiadau a chofnodi ac adrodd digidol a sefydlwyd.
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu – rydym wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu i bawb yng Nghymru.

Beth sy’n newydd yr wythnos hon?

Mae 90% o oedolion yng Nghymru wedi cael eu dos cyntaf o frechlyn COVID-19. Mae hwn yn gyflawniad aruthrol ac yn ymdrech tîm go iawn.

Rydym yn awyddus i’w gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gael eu brechu, yn enwedig oedolion iau sydd â galwadau eraill ar eu hamser. Mae canolfannau brechu mewn sawl rhan o Gymru ar agor ar gyfer apwyntiadau galw heibio. 

Mae 72% o oedolion yng Nghymru wedi cael eu hail ddos. Mae'r ail ddos yn hanfodol i amddiffyn pobl yn y tymor hirach, felly mae yr un mor bwysig bod pobl yn derbyn y cynnig o ail ddos. Mae tystiolaeth dda yn dod i’r amlwg sy’n awgrymu bod dau ddos o’r brechlyn yn helpu i leihau risg pobl o orfod mynd i’r ysbyty yn sgil yr amrywiolyn Delta.

Ein nod yw cynnig y ddau ddos o’r brechlyn i bob oedolyn cymwys erbyn mis Medi.

Mae hyn yn gam allweddol ymlaen yn ein brwydr yn erbyn COVID-19 a thuag at ailddechrau gwneud rhagor o’r pethau yr ydym yn eu mwynhau.

Os nad ydych wedi cael eich gwahoddiad neu os oes angen ichi aildrefnu, cysylltwch â’ch bwrdd iechyd. Mae gwybodaeth am beth i’w wneud ar gael yma: Cael brechlyn COVID-19 os ydych yn credu eich bod wedi colli allan.

Mae rhai pobl yn y Gogledd wedi cael trafferth archebu eu hail ddos o frechlyn AstraZeneca. Mae'r rhan fwyaf o ganolfannau galw heibio yn y Gogledd wedi'u hanelu at bobl o dan 40 oed nad ydynt wedi manteisio ar eu cynnig eto, felly mae ganddynt gyflenwad priodol ar gyfer y categori oedran hwn. Dylai'r rhai sydd angen archebu ail ddos o AstraZeneca yn y Gogledd gysylltu â'u bwrdd iechyd (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) ar 03000 840004. I helpu ymhellach, o 14 Gorffennaf bydd slotiau ychwanegol ar gael bob dydd ar gyfer apwyntiadau AstraZeneca yn ardal y Bwrdd Iechyd. Mae gan bob bwrdd iechyd, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ddigon o gyflenwad o frechlynnau ac maent i gyd yn gweithio'n galed i gynnig slotiau mor agos i 8 wythnos â phosibl.

Statws Brechu COVID-19

Mae Pàs COVID y GIG yn eich galluogi i ddangos i eraill eich bod wedi cael brechlyn COVID-19 pan fyddwch yn teithio dramor. Os cawsoch eich brechu yng Nghymru ac rydych yn 16 oed neu’n hŷn, gallwch gael Pàs COVID digidol y GIG. Mae NHS Digital yn gweithio gyda GIG Cymru i wneud trefniadau rhannu data rhwng Cymru a Lloegr. Gall pawb a gafodd ei frechu yng Nghymru neu Loegr sydd wedi’i gofrestru â meddyg teulu yng Nghymru gael pàs COVID digidol drwy wefan y GIG, a hynny ers 23 Mehefin 2021. Bydd pawb sydd wedi’i gofrestru â meddyg teulu yn Lloegr ond a gafodd ei frechu yng Nghymru yn gallu cael tystiolaeth o’u statws brechu COVID drwy wefan y GIG o ddydd Llun 12 Gorffennaf ymlaen.

Nid oes unrhyw frechlynnau Covishield wedi'u rhoi yn y DU. Sefydliad Serum India (SII) sy’n cynhyrchu Vaxzevria a Covishield. Cafodd yr holl ddosau a wnaed gan SII a gymeradwywyd gan yr MHRA ac a weinyddir yn y DU eu brandio fel 'brechlyn COVID-19 AstraZeneca' sydd bellach yn cael ei adnabod yn fasnachol fel 'Vaxzeria'– nid yw'r MHRA wedi cymeradwyo dosau sydd wedi'u brandio fel 'Covishield' ac nid oes yr un ohonynt wedi’u rhoi yn y DU.

Bydd pob brechlyn AstraZeneca a roddwyd yn y DU yn ymddangos ar Bàs COVID y GIG fel Vaxzevria, a’r un cynnyrch ydynt. Mae’r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd wedi awdurdodi’r brechlyn hwn ac rydym yn hyderus na fydd effaith ar deithio. Mae pob dos sydd wedi’i ddefnyddio yn y DU wedi bod drwy wiriadau trwyadl o ran diogelwch ac ansawdd, gan gynnwys profi llwythi unigol ac archwilio safleoedd, gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd.

Mae Tystysgrif COVID-19 Ddigidol yr UE ar gyfer dinasyddion yr UE yn unig ar hyn o bryd, neu ar gyfer gwladolion trydydd gwledydd sy'n aros yn gyfreithlon yn y DU neu’n byw yno. Mae sicrhau teithio diogel ac agored gyda'n partneriaid byd-eang yn flaenoriaeth glir ac mae Llywodraeth y DU mewn cysylltiad â’r Comisiwn Ewropeaidd ynglŷn ag ardystio.

Mae’r cyfryngau wedi rhoi sylw i hanes gwirfoddolwyr sydd, yn glodwiw iawn, wedi bod yn cymryd rhan mewn treialon brechu. Nid ydynt yn gallu dangos tystiolaeth o'u brechiadau ac felly maent yn cael anhawster i deithio dramor. Derbynnir bod treialon brechu yn ddilys ledled y DU ac mae Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd ar ran pob gwlad i annog gwledydd eraill i'w derbyn fel rhai dilys hefyd. Ni fydd yr holl ddata o dreialon yn ymddangos ar y Pàs Covid tan ddiwedd mis Gorffennaf ond mae’r timau treialu yn cyfathrebu â gwirfoddolwyr y mae hyn yn effeithio arnynt.

Pwy sy'n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Rydym yn parhau i ddilyn rhestr flaenoriaeth Cyd-bwyllgor annibynnol y DU ar Imiwneiddio a Brechu. Caiff yr un rhestr ei dilyn gan bob un o bedair gwlad y DU ac mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU o’i phlaid.

Crynodeb cyfredol:

  • mae cyfanswm o fwy na 4.1 miliwn o ddosau o’r brechlyn wedi’u gweinyddu yng Nghymru
  • mae cyfraddau uchel yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-4 wedi manteisio ar y dos cyntaf a’r ail ddos, gan ddiogelu’r rhai sydd fwyaf agored i niwed
  • mae dros 2.27 miliwn o bobl wedi cael y dos cyntaf a thros 1.84 miliwn o bobl wedi cael cwrs llawn o frechlyn
  • y brechlyn yw’r ffordd orau o atal salwch difrifol a lledaeniad y clefyd
  • yn gyffredinol, mae 90% o’n poblogaeth oedolion wedi cael dos cyntaf a 72% o holl oedolion Cymru wedi cwblhau’r cwrs dau ddos

Wrth inni barhau i weithredu ar yr egwyddor na ddylid gadael neb ar ôl, bydd y GIG yn cynnig y brechlyn eto i’r rhai yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9 sydd, am wahanol resymau, heb gael eu brechu eto.

Mae hynny’n golygu ein bod yn awr:

  • yn darparu dos cyntaf i oedolion 18 oed a hŷn sydd heb eu brechu, fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl
  • yn darparu ail ddosau

Ble y bydd brechlynnau'n cael eu rhoi?

Mae ein seilwaith wedi’i adeiladu o ddim ac mae'n fodel cyflenwi cyfunol. Ei nod yw darparu cymysgedd o safleoedd er mwyn cyflymu’r broses frechu, sicrhau diogelwch, diwallu’r anghenion o ran nodweddion y brechlynnau, bod mewn lleoliad sydd mor gyfleus â phosibl ac, yn hollbwysig, gwneud yn siŵr bod cyfle cyfartal ledled y wlad ac ym mhob cymuned i gael y brechlyn. 

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf roedd brechiadau'n cael eu rhoi mewn 226 o leoliadau ledled Cymru, gan gynnwys:

  • 50 o ganolfannau brechu torfol
  • 15 o leoliadau practis cyffredinol
  • 27 o fferyllfeydd
  • 22 o leoliadau ysbyty 
  • roedd 7 o dimau symudol yn gweithredu

Rhagor o wybodaeth

Mae’n bwysig ein bod yn cynnal y lefelau uchel presennol o frechu er mwyn diogelu Cymru, ac mae hyn yr un mor wir ar gyfer dosau cyntaf ac ail ddosau. Mae pob dos a weinyddir a phob person a ddiogelir wir yn gwneud gwahaniaeth. Mae'r brechlynnau'n ddiogel ac yn effeithiol. Mae cael ail ddos o’r brechlyn yn bwysig i sicrhau amddiffyniad hirdymor yn erbyn COVID-19 a hefyd yn erbyn yr amrywiolyn Delta.

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru dudalen Cwestiynau Cyffredin am y brechlyn, diogelwch a ffrwythlondeb. Mae hefyd yn cyhoeddi datganiadau monitro data dyddiol ac wythnosol

Mae amrywiaeth o wybodaeth am ein rhaglen frechu ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys canllawiau yn ymwneud â'r grwpiau blaenoriaeth. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.