Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y rhaglen frechu COVID-19 hyd at 15 Mehefin 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd ein Strategaeth Frechu Genedlaethol ar 11 Ionawr 2021 ac mae’n amlinellu manylion Rhaglen Frechu Cymru. Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar dri maes allweddol:

  • Ein blaenoriaethau – rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar y cyflenwad o’r brechlynnau. Ar sail yr hyn yr ydym eisoes yn ei wybod am y cyflenwad a'r grwpiau blaenoriaeth a nodwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (‘y Cyd-bwyllgor’), rydym wedi nodi cerrig milltir allweddol.
     
  • Ein seilwaith brechu – gwneud yn siŵr y gall pobl gael y brechiad a gynigir iddynt – y llefydd y byddant yn mynd i gael eu brechu, pobl i roi'r brechiad a'r trefniadau ar gyfer y system apwyntiadau a chofnodi ac adrodd digidol.
     
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu – rydym wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu i bawb yng Nghymru.

Beth sy’n newydd yr wythnos hon?

Rydym nawr wedi cynnig dos cyntaf y brechlyn COVID-19 i bob oedolyn cymwys yng Nghymru. Mae hyn yn gyflawniad aruthrol ac mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn diolch i bawb fu’n cynorthwyo am eu gwaith arbennig, yn ogystal â diolch i’r cyhoedd yng Nghymru am dderbyn y cynnig o’r brechlyn i’w diogelu nhw a’u teuluoedd.

Rydym yn disgwyl cyrraedd carreg filltir 3 yn ein Strategaeth bod 75% wedi manteisio ar y dos cyntaf o’r brechlyn ar draws bob grŵp blaenoriaeth a grŵp oedran – tua mis cyn y targed. Os oes unrhyw un yn meddwl eu bod wedi colli allan, nid yw’n rhy hwyr. Cael brechlyn COVID-19 os ydych yn credu eich bod wedi colli allan.

Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru’n annog unrhyw un 18 i 29 oed sydd heb gael y brechlyn i wneud apwyntiad. Yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, mae GIG Cymru’n gweithio’n galed i sicrhau bod pob dos o’r brechlyn sydd wedi’i neilltuo i Gymru’n cael ei ddanfon yn brydlon i ganolfannau brechu a chontractwyr gofal sylfaenol i’w defnyddio yn y rhaglen ac i wneud yn siŵr bod y brechlyn priodol ar gael ar yr adeg gywir.

Pwy sy’n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Rydym yn parhau i ddilyn rhestr flaenoriaeth Cyd-bwyllgor annibynnol y DU ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), sy’n cael ei dilyn gan bedair gwlad y DU ac wedi cael cefnogaeth y pedwar Prif Swyddog Meddygol yn y DU.

Crynodeb cyfredol:

  • Mae pawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9 wedi cael cynnig y brechlyn ac mae’r rheini yng ngrŵp blaenoriaeth 10 yn cael cynnig y brechlyn nawr.
  • Mae cyfraddau uchel yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-4 wedi manteisio ar y dos cyntaf a’r ail ddos.
  • Mae cyfanswm o fwy na 3.6 miliwn o ddosau o’r brechlyn wedi’u gweinyddu yng Nghymru.
  • Mae dros 2.2 miliwn o bobl wedi cael y dos cyntaf a thros 1.4 miliwn o bobl wedi cael cwrs llawn y brechlyn.
  • Mae 82% o’r grŵp 40-49 oed wedi cael y dos cyntaf, 72% o’r grŵp 30-39 oed  wedi cael y dos cyntaf a 66% o’r grŵp 18-29 oed wedi cael y dos cyntaf.
  • Yn gyffredinol, mae 87% o’n poblogaeth oedolion wedi cael dos cyntaf a 54% o holl oedolion Cymru wedi cwblhau’r cwrs dau ddos.

Wrth inni barhau i weithredu ar yr egwyddor na ddylid gadael neb ar ôl, bydd y GIG yn cynnig y brechlyn eto i’r rhai yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9 sydd, am wahanol resymau, heb gael eu brechu eto.

Mae hynny’n golygu ein bod yn awr yn brechu’r canlynol:

  • oedolion 18 oed a hŷn sydd ar ôl heb eu brechu
  • unrhyw un nad yw wedi cael ei frechu, am ba reswm bynnag, yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9, fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl

Mae ein rhaglen ar gyfer yr ail ddos yn rhedeg ochr yn ochr â'n rhaglen ar gyfer y dos cyntaf. Mae'r ail ddos yn hanfodol i amddiffyn pobl yn y tymor hirach, felly mae yr un mor bwysig bod pobl yn derbyn y cynnig o ail ddos. Mae ymchwil Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi dangos bod dau ddos o’r brechlyn yn cynnig diogelwch cryf yn erbyn yr amrywiolyn Delta yr ydym yn parhau i’w fonitro’n agos yng Nghymru.

Yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, byddwn yn lleihau’r bwlch rhwng dosau cyntaf ac ail ddosau o’r brechlyn ar gyfer y bobl sydd mewn mwy o berygl o ddal COVID-19, yn enwedig y bobl sy’n byw mewn ardaloedd lle mae pryderon ynghylch yr amrywiolyn Delta ac yn dibynnu ar y cyflenwad o’r brechlyn. Bydd byrddau iechyd lleol yn goruchwylio’r gwaith hwn ar gyfer eu hardal ddaearyddol. Ein nod yw cynnig y ddau ddos o’r brechlyn i bob oedolyn cymwys erbyn mis Medi.

Ble mae pobl yn cael eu brechu?

Mae ein seilwaith wedi’i adeiladu o ddim ac mae'n fodel cyflenwi cyfunol. Ei nod yw darparu cymysgedd o safleoedd er mwyn cyflymu’r broses frechu, sicrhau diogelwch, diwallu’r anghenion o ran nodweddion y brechlynnau, bod mewn lleoliad sydd mor gyfleus â phosibl ac, yn hollbwysig, gwneud yn siŵr bod cyfle cyfartal ledled y wlad ac ym mhob cymuned i gael y brechlyn.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf roedd brechiadau'n cael eu rhoi mewn 446 o leoliadau ledled Cymru, gan gynnwys:

  • 52 o ganolfannau brechu torfol
  • 301 o leoliadau practis cyffredinol
  • 39 o fferyllfeydd
  • 20 o leoliadau ysbyty ac
  • roedd 27 o dimau symudol yn gweithredu

Rhagor o wybodaeth

Rydym wedi cyhoeddi diweddariad pellach i'n Strategaeth Genedlaethol i amlinellu’r camau nesaf ar gyfer y rhaglen frechu, gan gynnwys ein hymrwymiad i leihau anghydraddoldeb a sicrhau nad yw neb yn cael ei adael ar ôl. Mae hefyd yn amlinellu’r camau y mae Cymru’n eu cymryd i baratoi ar gyfer unrhyw benderfyniadau gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu am bigiadau atgyfnerthu a brechu plant a phobl ifanc – mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) wedi cymeradwyo brechlyn i’w ddefnyddio ar gyfer plant dros 12 oed.

Mae sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys yn un o egwyddorion allweddol ein rhaglen frechu. Er bod y nifer sy'n manteisio ar frechlyn COVID-19 yng Nghymru wedi bod yn uchel iawn, mae grwpiau o'r boblogaeth o hyd sydd, er iddynt dderbyn mwy nag un cynnig, yn dal heb eu brechu. Bydd y GIG bob amser yn barod ichi. Os na wnaethoch chi fanteisio ar eich cynnig cyntaf o frechlyn COVID-19 am ba reswm bynnag ond eich bod wedi newid eich meddwl, nid yw byth yn rhy hwyr i drefnu apwyntiad.

Mae’n bwysig ein bod yn cynnal y lefelau uchel presennol o frechu er mwyn diogelu Cymru, ac mae hyn yr un mor wir ar gyfer dosau cyntaf ac ail ddosau. Mae pob dos a weinyddir a phob person a ddiogelir wir yn gwneud gwahaniaeth. Mae'r brechlynnau'n ddiogel ac yn effeithiol ac rydym yn annog pawb i fanteisio arnynt pan ddaw eu tro. Mae cael ail ddos o’r brechlyn yn bwysig i sicrhau amddiffyniad hirdymor yn erbyn COVID-19 a hefyd yn erbyn yr amrywiolyn Delta presennol.

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru dudalen Cwestiynau Cyffredin ddefnyddiol ar eu gwefan am y brechlyn a diogelwch, ac maent hefyd yn cyhoeddi datganiadau monitro data dyddiol ac wythnosol

Mae amrywiaeth o wybodaeth am ein rhaglen frechu ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys canllawiau yn ymwneud â'r grwpiau blaenoriaeth. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.