Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y rhaglen frechu COVID-19 hyd at 9 Chwefror 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd ein Strategaeth Frechu Genedlaethol ar 11 Ionawr ac mae'n seiliedig ar y gwaith cynllunio manwl a wnaeth GIG Cymru. Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar 3 maes allweddol:

  • Ein blaenoriaethau – rydym yn parhau i weithio'n agos â Llywodraeth y DU o ran cyflenwad. Yn seiliedig ar yr hyn sy'n hysbys eisoes am y cyflenwad a'r grwpiau blaenoriaeth a bennwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), rydym wedi nodi cerrig milltir allweddol
  • Ein seilwaith brechu - gwneud yn siŵr y gall pobl gael y brechlyn a gynigir iddynt - ble i fynd i gael brechlyn, pobl a fydd yn rhoi'r brechlyn a'r system apwyntiadau a chofnodi ac adrodd digidol a sefydlwyd
  • Sicrhau bod pobl yn cael gwybodaeth gyfredol am y rhaglen frechu – rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth er mwyn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu

Pwy sy'n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Cytunwyd ar ein rhestr flaenoriaeth o bobl i gael y brechlyn drwy gymeradwyo rhestr Cyd-bwyllgor annibynnol y DU ar Imiwneiddio a Brechu. Caiff yr un rhestr flaenoriaeth ei dilyn gan bedair gwlad y DU ac mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU yn cefnogi'r rhestr.

Ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw cynnig y dos cyntaf o'r brechlyn i grwpiau blaenoriaeth 1–4. Bydd hyn yn cynnwys holl breswylwyr a staff cartrefi gofal; staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; y rhai sy'n 70 mlwydd oed a hŷn; ac unigolion sy'n agored iawn i niwed yn glinigol. Yn amodol ar gyflenwad, rydym wedi dweud mai ein huchelgais yw gwneud hyn erbyn canol mis Chwefror.

Ddydd Gwener diwethaf – 5 Chwefror – oedd diwrnod 60 y rhaglen frechu ac ar y diwrnod hwn nodwyd fod hanner miliwn o bobl bellach wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn. Cofnodwyd mwy o frechiadau nag erioed o’r blaen gan GIG Cymru ar ddau ddiwrnod yn olynol, sef dydd Gwener a dydd Sadwrn. Rhoddwyd mwy na 30,000 o frechlynnau ar y ddau ddiwrnod, a rhoddwyd gwybod am bron i 34,000 o frechlynnau ar y dydd Sadwrn yn unig – mae hynny gyfystyr â brechu bron i 1% o boblogaeth Cymru mewn un diwrnod.

Yr wythnos diwethaf, roeddem yn brechu mwy o bobl bob dydd fel canran o’n poblogaeth nag yn unrhyw wlad arall yn y DU, ond hefyd ni oedd y trydydd yn y byd – gyda dim ond yr Emiraethau Arabaidd Unedig ac Israel yn perfformio’n well.

Hyd yn hyn mae mwy na 600,000 o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn yng Nghymru. Mae hynny bron yn un o bob pump o'r boblogaeth a 80% o'r rheini sydd wedi'u cynnwys yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf. Dros yr wythnos ddiwethaf, rhoddodd ein timau’r brechlyn i rywun yng Nghymru bob pedair eiliad.

Ble y bydd brechlynnau'n cael eu rhoi?

Rydym wedi bod yn adeiladu seilwaith o'r gwaelod i fyny. Mae'r model cyflawni yn fodel cyfunol. Ei nod yw darparu cymysgedd o safleoedd er mwyn cwblhau'r broses o gyflenwi brechlynnau mor gyflym â phosibl, sicrhau diogelwch, diwallu anghenion nodweddion y brechlynnau, sicrhau lleoliadau sydd mor gyfleus â phosibl ac, yn hollbwysig, gwneud yn siŵr bod cyfle cyfartal ym mhob rhan o’r wlad ac ym mhob cymuned. Bwriedir i'r model hwn hefyd sicrhau bod ein cartrefi gofal i bobl hŷn a'r boblogaeth hŷn yn cael y brechlyn cyn gynted â phosibl.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf rhoddwyd brechlynnau mewn 493 o leoliadau ar draws Cymru, gan gynnwys:

  • 43 o ganolfannau brechu torfol
  • 400 o leoliadau practis cyffredinol
  • 38 o leoliadau ysbyty
  • roedd 12 o dimau symudol yn gweithredu

Yr wythnos ddiwethaf danfonwyd mwy o ddosau o frechlyn i fyrddau iechyd nag yn ystod unrhyw wythnos arall – tua 210,000 o ddosau.

Cytunwyd hefyd yr wythnos diwethaf y byddai 90 yn rhagor o bersonél y lluoedd arfog yn cael eu lleoli yng Nghymru dros yr wythnosau nesaf. Mae 20 o’r rhain yn cofrestru a 70 yn cynorthwyo’r canolfannau gyda dyletswyddau cyffredinol.

Cynnydd

Cyflawni marcwyr a cherrig milltir

Yn ein Strategaeth, amlinellwyd 3 marciwr i'w cyflawni fel rhan o'n taith tuag at gyflawni carreg filltir 1 erbyn canol mis Chwefror:  

Marciwr 1 oedd cynnig y dos cyntaf o'r brechlyn i holl staff rheng flaen Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru erbyn 18 Ionawr. Cyflawnwyd hyn.

Marciwr 2 oedd bod wedi cynnig y brechlyn i holl breswylwyr a staff cartrefi gofal i bobl hŷn erbyn diwedd mis Ionawr. Gwnaethom gadarnhau yr wythnos diwethaf bod hyn wedi’i gyflawni. Bydd brechlynnau’n parhau i gael eu cynnig i breswylwyr cartrefi gofal i bobl hŷn a staff y cartrefi hynny dros yr wythnosau nesaf wrth i gartrefi ddod yn ddiogel ar gyfer ymweliadau’r timau brechu. Hyd yma, mae tua 80% o breswylwyr a staff wedi cael eu dos cyntaf. Dyma oeddem ni eisiau ei gyflawni o ran niferoedd.

Marciwr 3 oedd bod 250 o bractisau meddygon teulu yn rhoi'r brechlyn erbyn diwedd mis Ionawr. Cyflawnwyd hyn a rhagorwyd arno cyn y dyddiad a nodwyd.

Marcwyr a cherrig milltir sydd ar y gweill

Y pwynt allweddol nesaf yn ein Strategaeth yw Carreg Filltir 1. Y garreg filltir hon yw:

  • cynnig y brechlyn i bob unigolyn yng ngharfanau 1–4 erbyn canol mis Chwefror. Mae hynny'n cynnwys holl breswylwyr a staff cartrefi gofal i bobl hŷn; staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; pobl 70 mlwydd oed a hŷn; ac unigolion sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol

Mae dros 80% o'n 4 grŵp blaenoriaeth cyntaf bellach wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn. Mae’r cyflymder yn parhau i gynyddu ac rydym yn gwneud cynnydd da.  

Fel y nodwyd uchod, yr wythnos diwethaf roeddem yn drydydd yn y byd o ran y brechlynnau dyddiol a roddwyd fel canran o’n poblogaeth. Roeddem yn gweinyddu ar gyfradd a oedd ddwywaith cyfradd Unol Daleithiau America.  

Ddydd Sadwrn, roeddem wedi brechu 17.7% o boblogaeth Cymru; o’i gymharu â 17.5% yn Lloegr, 15.3% yng Ngogledd Iwerddon a 14.4% yn yr Alban.  

Rydym yn symud drwy’r grwpiau blaenoriaeth ac ar y trywydd cywir i gyflawni Carreg Filltir 1 erbyn canol mis Chwefror. Byddwn yn dweud mwy am hyn yr wythnos nesaf.

Rhagor o wybodaeth

Yr wythnos hon rydym hefyd wedi gweld newyddion da am y brechlynnau:

  • Rhyddhaodd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd ymchwil yn dangos bod y brechlynnau presennol yn “ddiogel iawn”, a dim ond sgil-effeithiau ysgafn a ddisgwylir
  • Mae astudiaeth ar y brechlyn Rhydychen-AstraZeneca yn awgrymu:
    • y gallai arwain at leihad sylweddol yn lledaeniad y feirws
    • bod diogelwch yn parhau i fod yn 76% yn ystod y tri mis cyntaf, gan godi i 82% ar ôl yr ail ddos

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi datganiadau data gwyliadwriaeth dyddiol ac wythnosol.  

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.