Neidio i'r prif gynnwy

Eglurhad o nod y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol, at bwy y bydd yn berthnasol a sut y bydd yn gweithio.

Pryd fydd y ddyletswydd yn cychwyn?

Er i’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip nodi y byddai’r ddyletswydd yn cychwyn ar 29 Medi 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi ailflaenoriaethu ei busnes i adlewyrchu natur argyfwng coronafeirws (COVID 19), na welwyd ei debyg o’r blaen. Felly, cytunwyd ar ddyddiad diwygiedig ar gyfer y ddyletswydd. Bydd y ddyletswydd nawr yn dod i rym ar 31 Mawrth 2021.

Bydd y ddyletswydd yn adnodd allweddol i gefnogi’r mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ac yn rhywbeth a fydd yn eithriadol o bwysig pan fyddwn yn dod yn ôl i drefn ar ôl yr argyfwng presennol.

Beth yw nod cyffredinol y ddyletswydd?

Nod cyffredinol y ddyletswydd yw sicrhau gwell canlyniadau i’r rheini sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol. 

Bydd y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn cefnogi hyn drwy sicrhau bod y rheini sy’n gwneud penderfyniadau strategol: 

  • yn ystyried tystiolaeth ac effaith bosibl
  • drwy ymgynghori ac ymgysylltu, yn deall barn ac anghenion y rhai y mae’r penderfyniad yn effeithiornynt, yn enwedig y rheini sy’n dioddef anfantais economaidd-gymdeithasol
  • yn croesawu her a chraffu
  • yn sbarduno newid yn y ffordd y caiff penderfyniadau eu gwneud a’r ffordd y mae llunwyr penderfyniadau yn gweithredu.

Nid yw’r ddyletswydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried sut i leihau anghydraddoldebau y mae rhywun sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn eu profi.

A ddylai’r holl gyrff cyhoeddus, gan gynnwys y rheini nad ydynt wedi’u rhestru yn y Rheoliadau, ddilyn y ddyletswydd?

Thema allweddol a ddeilliodd o’r ymgynghoriad Cymru fwy Cyfartal – Cychwyn y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol, oedd i bob corff cyhoeddus, gan gynnwys y rheini nad ydynt wedi’u rhestru yn y Rheoliadau, weithredu mewn modd sy’n cyd-fynd â’r ddyletswydd.

Felly, er mai dim ond y cyrff cyhoeddus hynny a nodir yn y rheoliadau fydd â dyletswydd statudol i gydymffurfio â nhw ac ystyried unrhyw ganllawiau a gyhoeddir, byddem yn annog pob corff cyhoeddus arall i ystyried yr adnoddau sydd ar gael i’w helpu i wneud penderfyniadau.

Mae hyn yn cynnwys y canllaw sydd eisoes wedi’i gyhoeddi, er mwyn helpu i baratoi cyrff cyhoeddus perthnasol ar gyfer cychwyn y ddyletswydd.

Pam nad yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael ei hehangu i gynnwys y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol?

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i gyflwyno’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol ar gyfer cyrff cyhoeddus penodedig yng Nghymru.

Byddai’n ddiangen ac yn amhriodol ceisio ei deddfu drwy basio deddfwriaeth sylfaenol arall.

Sut y dylai cyrff cyhoeddus perthnasol roi tystiolaeth eu bod yn cydymffurfio â’r ddyletswydd?

Mae’n rhaid i gyrff penodedig ddangos sut maent yn bodloni’r gofyniad statudol. Fodd bynnag, argymhellir y dylai cyrff cyhoeddus perthnasol ddangos tystiolaeth o drywydd archwilio clir ar gyfer pob penderfyniad a wneir dan y Ddeddf, gan ddefnyddio prosesau sy’n bodoli eisoes, megis prosesau asesu effaith a systemau ar gyfer ymgysylltu.

Mae enghreifftiau o sut y gall corff cyhoeddus ddangos sylw dyledus wedi’u cynnwys yn y canllaw i helpu cyrff cyhoeddus perthnasol i baratoi ar gyfer cychwyn y ddyletswydd.

Beth yw rôl y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC)?

Yn ei rôl fel rheoleiddiwr Deddf Cydraddoldeb 2010 i gefnogi cyrff cyhoeddus perthnasol, mae gan y Comisiwn bwerau i hyrwyddo a darparu cyngor ac arweiniad, a chyhoeddi ymchwil, ar weithredu’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yng Nghymru. Nid yw’n defnyddio ei bwerau gorfodi llawn yng nghyswllt y ddyletswydd gan nad yw Deddf 2010 yn sefydlu ‘gwahaniaethu economaidd-gymdeithasol ‘ –
statws economaidd-gymdeithasol – fel nodwedd warchodedig yn y Ddeddf, ac felly ni fydd y Comisiwn yn ymgymryd â gorfodaeth ar sail ‘gweithred anghyfreithlon’.

Ar ôl i’r ddyletswydd gael ei chychwyn, os bydd corff cyhoeddus perthnasol yn methu cyflawni’r ddyletswydd, gall unigolyn neu grŵp y mae penderfyniad y corff cyhoeddus hwnnw yn effeithio’n andwyol ar ei fuddiannau, gyflwyno hawliad adolygiad barnwrol yn erbyn yr awdurdod hwnnw. 

Gall y Comisiwn gefnogi unigolyn neu grŵp yng nghyswllt unrhyw her o’r fath, neu ymgymryd â her o’r fath ei hun.

Faint o adnoddau fydd eu hangen i gydymffurfio’n briodol â’r ddyletswydd?

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod cyrff cyhoeddus perthnasol yn gweithredu’n wahanol ac felly mae’n awyddus i annog arloesedd wrth gyflawni’r ddyletswydd, gan groesawu gwahanol ddulliau gweithredu. Pan fydd y Rheoliadau sy’n gosod y ddyletswydd ar y cyrff perthnasol yn cael eu cyflwyno yn y Senedd, bydd Memorandwm Esboniadol, gan gynnwys Asesiad Effaith Rheoleiddiol (RIA) yn cael ei gyhoeddi hefyd.

Bydd yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn amlinellu’r costau a’r buddion amcangyfrifedig sy’n gysylltiedig â y dyletswydd. Bydd hyn yn cynnwys costau refeniw, cyfalaf a chyfle. 

Caiff y costau hyn eu datblygu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol er mwyn  sicrhau’r amcangyfrif gorau.

Sut y gellir ymgorffori’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn y prosesau presennol?

Fel y cyfeirir atynt o dan ‘sylw dyledus’ yn adran 4 y canllaw4 ‘Diffinio’r termau allweddol’ i helpu cyrff cyhoeddus i baratoi ar gyfer cychwyn y ddyletswydd, dylai cyrff cyhoeddus perthnasol ystyried sut y maent yn ymgorffori’r ddyletswydd yn y prosesau presennol; gellid ystyried y cyfle hwn drwy’r canlynol: 

  • agwedd integredig at asesu effaith
  • agwedd ehangach at ymgysylltu ac ymwneud i gynnwys anfantais economaidd-gymdeithasol
  • datblygu fframweithiau craffu i gynnwys craffu ar effaith yng nghyswllt anghydraddoldeb canlyniad sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol
  • agwedd integredig at gynllunio ac adrodd
  • datblygu mesurau perfformiad Integredig
  • ystyried atal anghydraddoldeb o ran y canlyniad a achosir gan anfantais economaidd-gymdeithasol drwy gymhwyso pum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Sut dylai’r ddyletswydd edrych wrth gael ei rhoi ar waith?

Mae Adran 9 y canllaw ‘Bodloni’r ddyletswydd o ddydd i ddydd’ yn cynnwys enghraifft o sut y gall cyrff cyhoeddus perthnasol gyflawni’r ddyletswydd o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cael ei nodi mewn pum cam.

Sut mae’r ddyletswydd yn effeithio ar benderfyniadau lle mae’r prosesau wedi dechrau cyn i’r ddyletswydd gychwyn ac nad ydynt wedi’u cwblhau?

Mae’r ddyletswydd yn berthnasol i holl benderfyniadau cyrff cyhoeddus penodedig a wneir ar ôl y dyddiad cychwyn.

Beth sy’n digwydd pan fydd corff cyhoeddus perthnasol yn caffael gwasanaeth?

Gan mai dim ond cyrff cyhoeddus penodedig sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd, mae’r ddyletswydd yn aros gyda’r corff hwnnw. Felly, nid yw’r gofyniad i gyflawni’r ddyletswydd yn trosglwyddo i drydydd parti drwy gaffael, comisiynu neu ei roi ar gontract allanol.

Fodd bynnag, mewn amgylchiadau lle ystyrir y gweithgaredd caffael ei hun gan gorff cyhoeddus penodol i ymgymryd â’r ddyletswydd, rhaid i’r corff cyhoeddus perthnasol ystyried sut mae trefniadau o’r fath yn lleihau anghydraddoldebau canlyniadau a achosir gan anfantais economaidd-gymdeithasol.

Beth am pan mae corff cyhoeddus perthnasol yn gweithio mewn partneriaeth â chyrff nad ydynt yn berthnasol?

Pan fydd corff penodedig yn gweithio mewn partneriaeth â chyrff nad yw’r ddyletswydd yn berthnasol iddynt, dim ond i’r corff penodedig y mae’r ddyletswydd yn berthnasol. Er enghraifft, caiff cynlluniau llesiant lleol dan Ran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 eu datblygu a’u perchenogi gan amrywiaeth o bartneriaid, ond dylai’r cyrff cyhoeddus hynny sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswydd drwy ystyried sut bydd elfennau o’r cynllun y maent yn gyfrifol amdanynt yn lleihau’r anghydraddoldebau a achosir gan anfantais economaidd-gymdeithasol.

Anogir pob corff cyhoeddus yng Nghymru i gefnogi’r ddyletswydd.

A fydd y ddyletswydd yn gymwys i ysgolion?

Ni fydd y ddyletswydd yn gymwys i ysgolion. Mae Cyrff Llywodraethu Ysgolion yn cael eu creu gan adran 19 o Ddeddf Addysg 2002 ac yn gorfforaethau statudol. Felly mae ganddynt hunaniaeth gyfreithiol neilltuol i’r Awdurdodau Lleol.