Neidio i'r prif gynnwy

Trenau newydd sbon, bysiau tanwydd hydrogen a threblu llwybrau cerdded a beicio - dyma rai o'r ffyrdd mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu 'gwneud y peth cywir, y peth hawdd' yn ôl y Dirprwy Weinidog Lee Waters.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhoddodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd - sy'n gyfrifol am drafnidiaeth - ddiweddariad ar sut mae cynlluniau trafnidiaeth yn symud ymlaen ar draws Cymru wrth fynd ar ymweliad i weld gwaith rheilffordd wedi’i drydaneiddio yn digwydd yn Radur.

Hyd yn hyn mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £1.6bn ar gyfres o raglenni trafnidiaeth ledled Cymru a fydd yn hanfodol wrth helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni targedau lleihau allyriadau carbon.

Fel rhan o'r cynllun hwn mae partneriaid allweddol, gan gynnwys awdurdodau lleol a Thrafnidiaeth Cymru, wedi cael y dasg o ddatblygu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer y pedair rhan o Gymru.Bydd y rhain yn sicrhau bod gwasanaethau yn diwallu anghenion y gymuned.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog, Lee Waters:

Rydyn ni i gyd yn canolbwyntio ar adeiladu system drafnidiaeth newydd sydd o ansawdd uchel ac sy'n gynaliadwy.

Rydw i eisiau gwneud y peth iawn i wneud y peth hawdd i'w wneud ac mae hynny'n golygu annog mwy o bobl allan o'u ceir i gerdded, beicio, neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Rydyn ni'n gwneud hynny trwy wella ein trafnidiaeth gyhoeddus a'n llwybrau rhwydwaith teithio llesol - mae'n gwneud synnwyr y bydd pobl yn dewis teithio fel hyn os bydd dewisiadau trafnidiaeth carbon isel yn dod yn fwy deniadol, yn fwy fforddiadwy ac yn haws i'w defnyddio.

Mae hefyd yn beth iawn a chyfrifol i'w wneud i'r amgylchedd ac yn hanfodol wrth inni weithio tuag at Gymru gryfach, wyrddach, tecach

Dyma sydd wedi bod yn digwydd ar draws Cymru hyd yma:

Metro Gogledd Cymru

Mae trawsnewid gwasanaethau teithio ar reilffyrdd, bysiau a theithio llesol ledled Gogledd Cymru yn ffactor allweddol o ran lleihau ynysu gwledig ac agor cyfleoedd cyflogaeth a hamdden ledled y rhanbarth.

Am y tro cyntaf mewn cenedlaethau mae gwasanaethau uniongyrchol rhwng gogledd Cymru a Lerpwl wedi eu hadfer gyda llwybrau teithio llesol wedi eu hagor gan helpu i gysylltu pobl leol â gorsafoedd bysiau a threnau yn Sir y Fflint, Wrecsam, a Gwynedd.

Mae dros chwarter y teithiau eisoes yn cael eu gwneud trwy gerdded a beicio, ond dros yr 20 mlynedd nesaf mae angen i ni gynyddu hyn i dros draean os ydym am gyrraedd ein targedau carbon.

Dyna pam mae cynlluniau yn cael eu rhoi ar waith i wella cysylltiadau pellach i orsafoedd ger Bangor, Y Fflint, Caergybi, Llandudno, Cyffordd Llandudno, Bae Colwyn, Shotton, Glannau Dyfrdwy, Wrecsam, Y Rhyl a Phrestatyn. Mae gwaith hefyd ar y gweill i ddatblygu uwchgynllun blaengar ar gyfer Caergybi sy'n cydnabod ei rôl hollbwysig ym maes trafnidiaeth a datblygiad economaidd.

Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru

Mae'r gwaith o greu rhwydwaith trafnidiaeth integredig yn ardal Bae Abertawe yn mynd rhagddo'n dda.

Er bod gwaith datblygu a dylunio manwl yn digwydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i wneud newidiadau i wella trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn y tymor byr.

Mae hyn yn cynnwys y penderfyniad poblogaidd i gyfuno tocynnau bysiau a threnau ar y gwasanaeth T1 Traws Cymru sy'n cysylltu Aberystwyth a Chaerfyrddin a throsi’r cerbydau a chyfleusterau’r depo i weithredu ar drydan batri.

Fel rhan o'r gwaith mwy uniongyrchol hwn mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn datblygu dau beilot ar raddfa fawr ar gyfer Bae Abertawe a Dyfrffordd y Ddau Gleddau i gyflwyno fflyd o fysiau celloedd tanwydd hydrogen erbyn canol y 2020au, gan gefnogi’r broses o ddatgarboneiddio'r fflyd bysiau yng Nghymru yn ehangach.

Bwriedir cynllunio mwy o gapasiti ar wasanaethau Gorllewin Cymru a rhwng De-orllewin Cymru a Manceinion, yn ogystal â datblygu opsiynau ar gyfer gwasanaethau prif reilffyrdd ychwanegol a chyflymach rhwng dinasoedd, ynghyd â rhwydwaith bysiau cynhwysfawr a  mwy rheolaidd sy'n gwasanaethu ardaloedd trefol yn Abertawe, Castell-nedd, Llanelli a Phort Talbot.

Metro De Cymru

Mae gwaith yn mynd rhagddo'n gyflym i uwchraddio'r rhwydwaith rheilffyrdd, hybiau trafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau teithio llesol ar draws de Cymru.

Mae datblygu cyfnewidfa trafnidiaeth aml-foddol newydd Caerdydd yng nghanol y ddinas yn rhoi profiad pleserus ac amgylchedd mwy diogel i deithwyr gydag arosfannau bysiau ar y stryd, tacsi, darpariaeth teithio llesol a chysylltedd gwell â Bae Caerdydd.

Mae'r Ganolfan Reoli Integredig a'r depo trenau trawiadol newydd gwerth £100 miliwn yn Ffynnon Taf yn mynd rhagddo a bydd yn chwarae rhan allweddol wrth gynyddu nifer y gwasanaethau ar reilffordd graidd y cymoedd, yn ogystal â thai'r fflyd newydd o drenau tram. Mae rhai pobl eisoes yn elwa o'r trenau newydd gyda chynllun ar gyfer hyd at 95% o holl deithwyr y rheilffyrdd i deithio ar y trenau newydd erbyn 2025.

Yn ogystal â'r rheilffyrdd, mae gwasanaethau bysiau'n cael eu hadolygu gydag awdurdodau lleol a phartneriaid yn y diwydiant i ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus fwy effeithiol ac integredig. Fel rhan o'r system hon mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn cynllun tocynnau Talu wrth Deithio drwy ddefnyddio cardiau debyd/credyd digyswllt. Gan adeiladu ar lwyddiant peilot yng ngogledd Cymru'r llynedd, cynhelir treialon ar wasanaethau tren a bws rhwng Caerdydd a Chasnewydd yn ddiweddarach eleni.