Mae’r cynllun yn rhoi’r cyfle i bob aelwyd yng Nghymru:
- gasglu coeden i’w phlannu, am ddim,
- cael coeden wedi’i phostio atynt, neu
- gael coeden wedi’i phlannu ar eu rhan.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Fy Nghoeden, Ein Coedwig, gan gynnwys:
- sut i gasglu neu archebu eich coeden, a
- sut i ofalu amdani
ar wefan Coed Cadw.
Rhoddwyd y 5,000 o goed cyntaf ym mis Mawrth 2022. Mae 295,000 o goed eraill ar gael rhwng 19 Tachwedd a mis Mawrth 2023. Gallwch gasglu eich coeden am ddim o ganolfan ranbarthol, er y bydd y canolfannau ar gau rhwng 19 Rhagfyr a chanol mis Chwefror. Bydd aelwydydd yng Nghymru yn dal i allu defnyddio’r opsiynau postio a ‘Plannu coeden i mi’.
Bydd y coed yn helpu i fynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd. Byddant hefyd yn cyfrannu at y Goedwig Genedlaethol i Gymru.
Mae Cadwch Gymru’n Daclus a Maint Cymru hefyd yn cefnogi’r cynllun gyda Coed Cadw. Maent yn cynnig y cyfle i 100 o ysgolion gael coetir bach wedi’i blannu ar eu tir.
Bydd ysgolion dethol yn cael:
- cymorth arbenigol i blannu eu coed, a
- gweithdai addysgol ysbrydoledig gan Cadwch Gymru’n Daclus a Maint Cymru
i wneud yn siŵr bod disgyblion yn deall pwysigrwydd coed ar raddfa leol a byd-eang.
Yn ystod Cwpan y Byd 2022, fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd annog cefnogwyr i blannu coeden drwy’r Ymgyrch Fy Nghoeden, Ein Coedwig. Roedd hyn er cof am y rheini fu farw cyn gallu gweld Cymru yng Nghwpan y Byd.