Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidogion wedi cadarnhau y bydd gorchuddion wyneb yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth helpu i ddiogelu pawb rhag y coronafeirws yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i gyhoeddi Cynllun Rheoli’r Coronafeirws wedi'i ddiweddaru, yn nodi’r hyn a fydd yn digwydd y tu hwnt i lefel rhybudd un, bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofynnol mewn rhai lleoliadau, fel ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn tacsis ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, o leiaf, tra bo’r coronafeirws yn parhau i beri bygythiad i iechyd y cyhoedd.

Mae ystyriaeth weithredol bellach yn cael ei rhoi i a ddylai gorchuddion wyneb fod yn ofynnol mewn lleoliadau eraill hefyd, fel lleoliadau manwerthu, os caiff y cyfyngiadau eu llacio ymhellach.

Ar hyn o bryd mae Cymru ar lefel rhybudd un – mae gorchuddion wyneb yn orfodol ym mhob man cyhoeddus dan do ar lefel rhybudd un ac uwch.

Yr wythnos nesaf, bydd y Gweinidogion yn cynnal yr adolygiad 21 diwrnod rheolaidd o’r rheoliadau coronafeirws, a fydd yn nodi a ellir llacio'r cyfyngiadau mewn rhai mannau dan do, gan gynnwys yng nghartrefi pobl.

Byddant hefyd yn cyhoeddi cynlluniau newydd yn nodi sut y bydd Cymru yn symud y tu hwnt i lefel rhybudd un i lefel rhybudd sero newydd, gyda llai o gyfyngiadau cyfreithiol.

Fodd bynnag, cadarnhaodd y Gweinidogion heddiw y bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofynnol o dan y gyfraith mewn rhai mannau tra bo’r coronafeirws yn parhau i beri bygythiad i iechyd y cyhoedd.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

Bydd angen help pawb arnom i gadw’r coronafeirws dan reolaeth wrth i ni barhau i ymateb i'r pandemig – yn sicr nid yw'r feirws hwn wedi diflannu.

Rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl yn parhau i boeni ac yn bryderus am fynd allan. Byddwn yn cynnal y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn rhai mannau – ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, ac mewn llefydd eraill yn ôl yr angen – er mwyn helpu i'n cadw ni i gyd yn ddiogel.

Mae tystiolaeth wyddonol yn cefnogi’r defnydd o orchuddion wyneb, ochr yn ochr â chamau eraill, fel ffordd o leihau trosglwyddiad y feirws.

Yn bennaf, maent yn diogelu pobl eraill, yn hytrach na'r rhai sy’n eu gwisgo, rhag lledaeniad yr haint, a hynny drwy orchuddio'r trwyn a'r geg, sef y prif ffynonellau ar gyfer trosglwyddo’r feirws. Maent yn arbennig o ddefnyddiol mewn ardaloedd dan do prysur neu lawn sydd wedi’u hawyru'n wael.

Mae cerbydau trafnidiaeth gyhoeddus fel arfer yn fannau caeedig. Os yw trên neu fws yn llawn, ni all bobl ddewis peidio â mynd arnynt os mai dyna’r unig ffordd sydd ganddynt o gyrraedd y gwaith.

Gall lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol fod yn amgylcheddau risg uchel lle gallai cleifion sâl ac aelodau o staff fod mewn mwy o berygl o ddod i gysylltiad â'r feirws. Gall gwisgo gorchuddion wyneb yn yr ardaloedd hyn helpu i ddiogelu eraill.

Bydd y rheolau ar orchuddion wyneb hefyd yn newid mewn ysgolion. Ddydd Gwener, ysgrifennodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, at bob ysgol yng Nghymru yn egluro nad argymhellir gwisgo gorchuddion wyneb yn yr ystafell ddosbarth o fis Medi ymlaen.

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:

Mae gwisgo gorchuddion wyneb yn ffordd effeithiol o leihau trosglwyddiad y coronafeirws.

 Mae gan bob un ohonom ddyletswydd i helpu i ddiogelu ein gilydd. Mae diogelu pawb wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru gydol y pandemig a bydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth yn y dyfodol.

Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher yn nodi canlyniad yr adolygiad 21 diwrnod ac yn rhoi rhagor o fanylion am y lefel rhybudd sero newydd.