Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cymdeithas Rheoli Gorchmynion Pysgodfa Afon Menai yn gofyn am sylwadau ar Orchymyn arfaethedig Pysgodfa Wystrys ac Cregyn Gleision Afon Menai (Dwyrain).

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cymdeithas Rheoli Gorchmynion Pysgodfa Afon Menai (MSFOMA) wedi cyflwyno cais i Weinidogion Cymru am Orchymyn Rheoleiddio newydd a Gorchymyn Pysgodfa Unigol newydd, o dan Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 (fel y'i diwygiwyd).

Byddai hyn yn rhoi'r hawl iddynt reoleiddio pysgodfa a physgodfa unigol newydd ar gyfer wystrys a chregyn gleision yn nwyrain Afon Menai.

Mae Gorchymyn presennol Pysgodfa Wystrys ac Cregyn Gleision Afon Menai (Dwyrain) 1962 yn gweithredu wyth labordy a brydlesir yn breifat o dan y bysgodfa unigol newydd. Mae gweddill yr ardal bysgodfa yn gweithredu fel pysgodfa a reoleiddir. Daw'r Gorchymyn presennol i ben ar 31 Mawrth 2022.

Mae MSFOMA wedi gwneud cais am Orchymyn newydd i sicrhau:

  • bod cynhyrchu'n parhau
  • bod busnesau presennol yn cael eu diogelu
  • bod modd buddsoddi ymhellach

Y dyddiad y daw'r Gorchymyn newydd i rym yw 1 Ebrill 2022.

Mae'r cynigion ar gyfer y Gorchymyn newydd wedi'u nodi yng Ngorchymyn Pysgodfa Wystrys ac Cregyn Gleision drafft Afon Menai (Dwyrain). Bydd y Gorchymyn Pysgodfeydd drafft yn destun ymgynghoriad am gyfnod o fis ar neu'n fuan ar ôl dydd Llun 5 Ebrill. Mae'r ymgynghoriad yn cael ei gynnal gan MSFOMA.

Bydd MSFOMA yn hysbysebu'r gorchymyn drafft yn y North Wales Chronicle, y Western Mail a'r Fishing News. Gwneir hyn ar neu'n fuan ar ôl dydd Llun 5 Ebrill. Ar yr un pryd, bydd MSFOMA yn hysbysu partïon â diddordeb. Mae Gweinidogion Cymru hefyd wedi hysbysu rhestr ehangach o randdeiliaid morol a physgodfeydd. 

Bydd y cais, y map o'r ardal a'r Gorchymyn drafft ar gyfer y Gorchymyn Pysgodfeydd arfaethedig ar gael yn www.msfoma.org pan fydd yr ymgynghoriad yn mynd yn fyw.

Mae'r Gorchymyn drafft yn adlewyrchu'r cais a wnaed ac fe'i drafftiwyd ar gyfer ymgynghoriad yn unig. Bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried yn llawn rinweddau'r cais a barn y cyhoedd ar ddiwedd yr ymgynghoriad.