Grant diogelwch ar y ffyrdd 2022 i 2023
Canllawiau i ymgeiswyr.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Diben y Canllawiau yw cadarnhau'r blaenoriaethau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi drwy'r grantiau diogelwch ar y ffyrdd i awdurdodau lleol yng Nghymru yn 2022 i 2023.
Mae'r Canllawiau hefyd yn nodi'r broses y dylai awdurdodau lleol gyflwyno ceisiadau yn unol â'r blaenoriaethau hyn, i'w hystyried gan Lywodraeth Cymru, a sut y cânt eu hasesu.
Yn eich ceisiadau, rhaid i chi ddangos eich bod wedi dilyn Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru (WelTAG). Mae'r ffurflenni cais wedi'u diwygio i adlewyrchu dull WelTAG.
Canlyniadau
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus feddwl mwy am y tymor hir, gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd, ceisio atal problemau a chymryd ymagwedd fwy cydgysylltiedig.
Mae Deddf 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i geisio cyflawni'r nodau a'r amcanion llesiant ym mhopeth a wnânt.
Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth Cymru Newydd yw ein strategaeth ar gyfer dyfodol trafnidiaeth yng Nghymru. Mae'n nodi ein huchelgeisiau ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf a'n blaenoriaethau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. Mae hyn yn sail i amcanion y grant.
Yn eich ceisiadau, rhaid i chi ddangos eich bod wedi datblygu eich cynnig gan ddefnyddio'r 5 ffordd o weithio a bod eich cynnig yn gwneud y mwyaf o'ch cyfraniad at uchelgeisiau Strategaeth Trafnidiaeth Cymru sy'n cyd-fynd â'r nodau llesiant.
Mae'r canllawiau hyn yn ymdrin â grantiau cyfalaf a refeniw diogelwch y ffyrdd yn unig. Yn eich ceisiadau, rhaid i chi ddangos sut y bydd eich cynigion yn bodloni'r amcanion grant hyn.
Enw’r grant | Amcanion y grant |
---|---|
Cyfalaf diogelwch ar y ffyrdd |
|
Refeniw diogelwch ar y ffyrdd |
|
Pwy sy'n gymwys i gael Cyllid Cyfalaf
Cyfalaf Diogelwch ar y Ffyrdd
Mae cyllid wedi’i ailflaenoriaethu eleni ar gyfer y prosiect 20mya. Gwahoddir yr awdurdodau hynny sydd â chynlluniau aml-flwyddyn sydd eisoes yn bodoli i ymgeisio am gyllid parhaus. Nid ydym yn gwahodd ceisiadau am gynlluniau newydd y flwyddyn ariannol hon.
Yn amodol ar gadarnhau cyllidebau, disgwylir i gyfanswm y cyllid dangosol sydd ar gael ar gyfer cynlluniau Cyfalaf Diogelwch ar y Ffyrdd ledled Cymru ar gyfer BA2022 i 2023 fod tua £1,000,000.
Rhaid i gynlluniau sydd eisoes yn bodoli fodloni’r amcanion grant a nodir isod.
-
Ymdrechu i sicrhau nad yw pobl yn cael eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd yng Nghymru
-
drwy dargedu ymyriadau mewn lleoliadau, llwybrau neu gymunedau lle ceir tystiolaeth o wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd sy'n arwain at anafusion wedi’u lladd neu dderbyn niwed sylweddol neu lle mae nifer sylweddol o wrthdrawiadau mân anafiadau wedi digwydd
-
-
blaenoriaethu grwpiau risg uchel a grwpiau agored i niwed
-
drwy ddatblygu cynlluniau sy'n targedu grwpiau agored i niwed fel y nodwyd yn y Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd
-
drwy ddatblygu cynlluniau arloesol sy'n mynd ati'n rhagweithiol i wella diogelwch i feicwyr modur lle mae risg wirioneddol neu dybiedig
-
-
gwella diogelwch cymunedol
-
drwy fynd i'r afael â phryderon y gymuned a pheryglon canfyddedig
-
drwy sicrhau bod y cynllun wedi'i ddatblygu gyda phob defnyddiwr ffordd mewn golwg.
-
-
dylai awdurdodau lleol sicrhau bod y cynllun neu'r ymyriad wedi'i ddatblygu ar ôl ymgysylltu â'r gymuned. Dylai awdurdodau ymgynghori â'r cymunedau a'r rhanddeiliaid y mae'r cynllun yn effeithio arnynt ac adrodd ar y broses a ddilynwyd ac adborth a gafwyd, neu, os yw'r cynllun yn ei gamau cynharaf,sut y byddant yn gwneud hynny, o fewn eu cais.
Mae'n ofynnol i chi ofyn am gymeradwyaeth Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru (GoSafe) ar gyfer unrhyw gynlluniau sy'n cynnwys prynu, amnewid neu symud camerâu diogelwch.
Mae angen cymeradwyaeth yr heddlu ar gyfer pob cynllun a rhaid gofyn amdano cyn cyflwyno'r cais.
Pwy sy'n gymwys i gael Arian Cyfalaf – yn ymwneud â phob cynllun grant
Wrth gynllunio cynlluniau, rhaid i awdurdodau lleol hefyd ystyried eu cyfrifoldebau o dan Adran 6 – Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae'r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth i'r graddau y mae'n gyson ag arfer eu swyddogaethau'n briodol, ac wrth wneud hynny, hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau. Mae hyn, er enghraifft, yn berthnasol iawn i drin ymylon a chynlluniau plannu fel rhan o brosiectau trafnidiaeth. Mae canllawiau ar y ddyletswydd ar gael yma: Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016: bioamrywiaeth a chadernid ecosystemau.
Bydd cyllid yn cael ei ddyrannu hyd at y swm a ddyfernir ar gyfer gwariant cymwys gwirioneddol a ysgwyddir ar gynllun a dderbynnir. Bydd y cyllid yn cael ei gapio ar lefel y dyfarniad a bydd yn ofynnol i'r awdurdod lleol wynebu'r risg o orwario a allai ddigwydd. Pan fydd costau uwch yn codi oherwydd amgylchiadau eithriadol, y tu allan i reolaeth yr awdurdod lleol, gall Llywodraeth Cymru ystyried sicrhau bod arian ychwanegol ar gael.
Bydd disgwyl i awdurdodau lleol gyflawni'r cynlluniau a dderbynnir yn unol â'u ceisiadau. Bydd angen adroddiadau ar gynnydd ar adegau drwy gydol blwyddyn ariannol 2022 i 2023 a bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chynnwys yn y llythyr dyfarnu. Mae hefyd yn ofynnol i chi fonitro cynlluniau diogelwch ar y ffyrdd am 3 blynedd ar ôl eu gweithredu i fonitro'r effaith ar ffigurau gwrthdrawiadau ac anafusion.
Gall swyddogion perthnasol Llywodraeth Cymru ofyn am gyfarfodydd neu ymweliadau safle i drafod cynnydd y cynllun fel y bo'n briodol. Gall methu â dangos cynnydd priodol o ran cyflawni arwain at dynnu cynigion ariannu yn ôl a’r cyllid sydd wedi’i hawlio hyd at y pwynt hwnnw yn cael ei adennill gan yr awdurdod lleol.
Bydd cynlluniau sy'n cynnwys arian cyfatebol yn denu sgorau ychwanegol yn y broses arfarnu, gyda chynlluniau sy'n dangos lefelau uwch o arian cyfatebol yn sgorio'n uwch.
Rhaid i geisiadau nodi'n glir lefelau a ffynonellau'r arian cyfatebol sydd ar gael a chadarnhau y bydd hyn wedi’i drefnu i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau o fewn blwyddyn ariannol 2022 i 2023. Gall arian cyfatebol fod o ffynonellau mewnol neu allanol.
Cymhwysedd ar gyfer Cyllid Refeniw Diogelwch ar y Ffyrdd
Yn amodol ar gadarnhau cyllidebau, disgwylir i gyfanswm y cyllid dangosol sydd ar gael ar gyfer cynlluniau Refeniw Diogelwch ar y Ffyrdd ledled Cymru ar gyfer BA2022 i 2023 fod tua £1,600,000.
Bydd ceisiadau am gyllid refeniw diogelwch ar y ffyrdd yn cael eu hystyried o fewn y dyraniad a gyfrifir ar gyfer pob awdurdod lleol.
Bydd cyllid refeniw yn cael ei ddyrannu drwy ddefnyddio fformiwla yn seiliedig ar y niferoedd poblogaeth diweddaraf sydd ar gael (60%) a nifer yr anafusion o'r rhai a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol (40%).
Nid oes cyfyngiad ar nifer y mentrau y gallwch geisio cyllid ar eu cyfer. Dylid rhoi blaenoriaeth i hyfforddiant i blant sy’n cerdded, hyfforddiant beicio Safonau Cenedlaethol ac ymyriadau sy'n targedu grwpiau risg uchel o bobl ifanc a beicwyr modur.
Mae angen cyflwyno ceisiadau am gynlluniau hyfforddi ac addysg beiciau modur fel ceisiadau unigol ar wahân. Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau sy'n cwmpasu cyfres o fesurau.
Rhaid i geisiadau am Hyfforddiant Beicio Cenedlaethol gael eu harwain gan y Safon Genedlaethol newydd ar gyfer Hyfforddiant Beicio, a gyhoeddir gan yr Adran Drafnidiaeth.
Rhaid cyflwyno'r holl hyfforddiant i Lefel 2 fel gofyniad sylfaenol. Rydym yn cydnabod na fydd pob dysgwr o bosib yn barod i symud ymlaen o Lefel 1 i Lefel 2. Dylid ystyried a ellid darparu hyfforddiant ychwanegol i alluogi unigolion i symud ymlaen i Lefel 2.
Dylai awdurdodau hefyd ystyried a fyddai hyfforddiant beiciau cydbwysedd a sesiynau cyn-beicio yn fanteisiol yn ogystal ag ystyried pa grwpiau oedran ddylai gael cynnig yr hyfforddiant. Bydd £15 y plentyn o gyllid atodol ar gael i ganiatáu ar gyfer hyfforddiant ychwanegol pan fo angen i blant symud ymlaen i Lefel 2.
Lle bo’n bosibl, dylai plant nad ydynt yn ymgymryd â hyfforddiant Lefel 2 gyda gweddill eu dosbarth/carfan, gael gwybod am gyfleoedd eraill i ymgymryd â’r hyfforddiant, ee yn ystod y flwyddyn ysgol ganlynol, clybiau gwyliau, sesiynau i’r teulu.
Rydym yn annog awdurdodau i gynnig hyfforddiant beicio i oedolion a theuluoedd lle bo hynny'n bosibl. Gall awdurdodau hefyd ymgeisio am gyllid ar gyfer costau hyfforddwyr. Dan amgylchiadau eithriadol lle na all blant gael hyfforddiant Lefel 2, dylid hawlio ffi yn llai.
Croesewir ceisiadau am ddulliau newydd arloesol, yn enwedig y rhai a fydd yn cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar deithio llesol a lle mae dulliau newydd yn cael eu hategu gan sylfaen dystiolaeth glir. Bydd angen cynlluniau penodol ar gyfer gwerthuso, yn ogystal ag ymrwymiad i rannu gwersi a ddysgwyd gyda phartneriaid.
Dim ond ar gyfer Cynlluniau Beicwyr Gwell (ERS) y derbynnir ceisiadau am gynlluniau asesu a hyfforddi beiciau modur neu lle mae gwerthusiad penodol wedi'i gwblhau. Mae cynlluniau ymatebwyr cyntaf wedi'u heithrio o'r gofyniad hwn.
Bydd uchafswm y gellir ei hawlio fesul hyfforddai yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y mentrau cymeradwy. Wrth gyflwyno'ch cais bydd angen i chi nodi faint o bobl fydd yn cael eu hyfforddi a bydd y grant yn cael ei dalu ar draws y flwyddyn ariannol.
PassPlus Cymru | £138 |
Megadrive | £26 |
Beiciwr modur: Asesiad |
|
Kerbcraft | £62 |
Hyfforddiant Beicio Cenedlaethol Lefel 1 a 2 wedi’u cyfuno
|
£53 £60
|
Ar gyfer y meysydd blaenoriaeth hyn, nid oes gofyniad i gyflwyno tystiolaeth ategol, na manteision allweddol i gefnogi ymyrraeth, ond bydd angen gweithdrefnau monitro lleol. Bydd angen i geisiadau am gynlluniau y tu allan i'r meysydd blaenoriaeth gael eu hategu gan dystiolaeth briodol (gweler y meini prawf asesu grant refeniw am fanylion).
Dim ond os ydynt yn darparu prosiect cymeradwy penodol y caiff costau staff eu hariannu, er enghraifft i gydlynu hyfforddiant I blant sy’n cerdded. Ni fyddwn yn ariannu swyddi swyddogion diogelwch ffyrdd cyffredinol.
Ni dderbynnir ceisiadau ar gyfer ymgyrchoedd hysbysebu cyffredinol a'r cyfryngau. Gall awdurdodau lleol ddefnyddio cyfran o'u grant ar gyfer gwaith hyrwyddo penodol i sicrhau eu bod yn manteisio ar gyrsiau - bydd hyn yn rhan o'r costau mwyaf fesul hyfforddai. Bydd offer y gellir ei ailddefnyddio sydd ei angen i ddarparu hyfforddiant yn cael ei ariannu, ond nid eitemau hyrwyddo a roddir ar gyfer mynychu cyrsiau.
Anogir awdurdodau lleol i gydweithio ar brosiectau refeniw, yn enwedig lle bydd hyn yn arwain at arbedion effeithlonrwydd, rhannu arfer da neu lle mae cyllid trawsffiniol neu ar y ffin o fudd i ddiogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru. Rhaid nodi'r awdurdod lleol arweiniol ar gyfer pob cynllun. Bydd cyllid yn cael ei ddyrannu i'r awdurdod lleol arweiniol.
Pan fydd prosiectau refeniw yn cael eu darparu gan bartneriaid eraill, gallwn drefnu i dalu'r grant yn uniongyrchol ar gais. Bydd derbynnydd y grant yn gyfrifol am gyflwyno hawliadau a gwybodaeth ategol.
Telerau ac amodau'r grant
Bydd cyllid yn cael ei dalu yn uniongyrchol i awdurdodau lleol a bydd ar gael ar gyfer 2022 i 2023 yn unig. Dylai awdurdodau lleol nodi nad yw Llywodraeth Cymru yn gallu ymrwymo i roi cymorth grant ar ôl 2022 i 2023.
Ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol drwy gytundeb ymlaen llaw, dylai cynlluniau a gyflwynir ar gyfer cyllid gwaith yn 2022 i 2023 ddangos y bydd yr holl faterion sy’n ymwneud â thir yn cael eu datrys a bod gorchmynion neu ganiatâd gofynnol ar waith i ganiatáu i waith fynd rhagddo.
Er bod Llywodraeth Cymru yn barod i ariannu cost prynu tir, ni ddarperir cyllid mewn perthynas â hawliadau iawndal sy'n deillio o brynu tir neu o'r prosiect ei hun.
Mae darparu cymorth cyfalaf i gynlluniau yn amodol ar ymrwymiad awdurdodau lleol i dalu costau refeniw a chynnal a chadw yn y dyfodol.
Monitro a gwerthuso
Rhaid monitro a gwerthuso pob cynllun a menter addysgol. Gall awdurdodau lleol gynnwys costau monitro am hyd at dair blynedd o fewn eu ceisiadau am gyllid ond rhaid nodi'r rhain yn glir.
Rhaid monitro cynlluniau am dair blynedd ar ôl eu cwblhau a'u hadrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Ar gyfer Refeniw Diogelwch ar y Ffyrdd, mae angen ffurflenni monitro chwarterol a bydd angen adroddiadau blynyddol ar gynlluniau cenedlaethol. Darperir canllawiau pellach ar brosesau adrodd.
Hyrwyddo
Gall ceisiadau gynnwys costau sy'n gysylltiedig â hyrwyddo cynlluniau, gan gynnwys arwyddion, deunyddiau a digwyddiadau, am hyd at dair blynedd ar ôl cwblhau'r cynllun. Rhaid nodi'r rhain yn glir.
Dogfennaeth y broses ymgeisio
Dylai awdurdodau lleol gyflwyno eu ceisiadau gan ddefnyddio'r ffurflenni cais templed perthnasol. Bydd yr holl gynlluniau'n cael eu hasesu drwy broses arfarnu.
Bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am sicrhau bod y ddarpariaeth yn parhau ar yr amserlen ac yn adrodd am unrhyw newid i'r rhaglen waith a/neu broffil gwariant.
Ar gyfer cyllid diogelwch ar y ffyrdd, rhaid i chi wneud cais am refeniw a chyfalaf ar ffurflenni ar wahân.
Rhaid i geisiadau am gynlluniau cyfalaf gynnwys cynllun sy'n dangos y cynllun mewn cymaint o fanylion â phosibl yn ystod y cam ymgeisio a map sy'n dangos cyd-destun y cynllun. Rhaid cynnwys cyfeirnod grid OS GB hefyd.
Bydd dogfennau ategol yn cael eu hystyried fel a ganlyn:
- mapiau a chynlluniau mewn perthynas â cheisiadau cyfalaf (rhaid i'r mapiau a'r cynlluniau hyn ddangos y mesurau arfaethedig yn glir)
- adroddiadau gwerthuso i gefnogi ceisiadau am gyllid refeniw sydd y tu allan i'r meysydd blaenoriaeth. Rhaid i bob adroddiad gynnwys Crynodeb Gweithredol
- rhaid cadw gwybodaeth ategol arall, y teimlwch sy'n hanfodol i'r cais, i'r lleiafswm a bod yn ddienw, lle bo hynny'n berthnasol.
Y broses arfarnu
Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried gan banel o swyddogion Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allanol perthnasol fel y bo'n briodol.
Bydd y Dirprwy Weinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd yn gwneud penderfyniadau terfynol ar gyllid.
Mae'r meini prawf asesu ar gyfer y grantiau ar gael ar wahân: gweler meini prawf asesu grantiau 2022 i 2023.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau
Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 7 Chwefror 2022.
Cyflwyniadau
Rhaid cyflwyno copïau electronig i'r cyswllt perthnasol yn Lywodraeth Cymru a restrir isod drwy TransportPlanning@llyw.cymru – cadwch atodiadau mor fyr â phosibl.
Dylid cyflwyno'r holl ddogfennau ar ffurf Word.
Ni dderbynnir unrhyw wybodaeth ychwanegol na diwygiedig ar ôl y dyddiad uchod, oni bai bod Llywodraeth Cymru yn gofyn amdani.
Cysylltwch
Cynghorydd Polisi Trafnidiaeth: 03000 253150