Grant llwybrau diogel mewn cymunedau: canllawiau i ymgeiswyr 2023 i 2024
Sut mae awdurdodau lleol yn gwneud cais am gyllid i wella diogelwch ffyrdd, llwybrau beicio a cerdded i ysgolion.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Diben y Canllawiau yw cadarnhau'r blaenoriaethau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi drwy'r Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru yn ystod 2022 i 2023.
Mae’r Canllawiau yn nodi hefyd y broses y dylai awdurdodau lleol ei dilyn er mwyn cyflwyno ceisiadau yn unol â'r blaenoriaethau hyn, a sut y byddant yn cael eu hasesu, i'w hystyried gan Lywodraeth Cymru.
Mae Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd
Wrth wneud cais mae’n rhaid ichi ddangos eich bod wedi dilyn Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG).
Mae’r ffurflenni cais y adlewyrchu dull newydd WelTAG.
Canlyniadau
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus feddwl mwy am y tymor hir, gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ceisio atal problemau, a dilyn dull gweithredu mwy cydgysylltiedig.
Mae Deddf 2015 yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gyflawni'r nodau a'r amcanion llesiant ym mhopeth y maent yn ei wneud.
Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth Newydd Cymru yw ein strategaeth ar gyfer dyfodol trafnidiaeth yng Nghymru. Mae’n pennu ein huchelgeisiau ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf a’n blaenoriaethau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. Mae hyn yn sail i’r amcanion grant.
Yn eich ceisiadau mae'n rhaid ichi ddangos eich bod wedi datblygu eich cynnig gan ddefnyddio'r pum ffordd o weithio a bod eich cynnig yn manteisio i'r eithaf ar eich cyfraniad at uchelgeisiau Strategaeth Drafnidiaeth Cymru sy’n cyd-fynd â’r nodau llesiant.
Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol: yr hanfodion
Mae'n rhaid i'ch ceisiadau ddangos sut y bydd eich cynigion yn cyflawni'r amcanion grant hyn.
Enw'r Grant: Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.
Amcanion y grant:
- cynyddu lefelau teithio llesol ymhlith plant sy'n teithio i'r ysgol ac yn y gymuned ehangach
- gwneud cymunedau'n lleoedd gwell i fyw ynddynt
- gwella’r amgylchedd ar gyfer cerdded, beicio a sgwtio o gwmpas ysgolion
Cymhwystra i gael Cyllid Cyfalaf
Yn amodol ar ba gyllidebau sy’n cael eu cadarnhau, disgwylir i gyfanswm y cyllid dangosol sydd ar gael i gynlluniau Llwybrau Diogel mewn cymunedau ledled Cymru ar gyfer BA2023-24 fod tua £5,000,000.
Strydoedd ysgolion
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae mentrau Strydoedd Ysgolion sydd wedi golygu cau ffyrdd mynediad am gyfnodau dros dro rhag y rhan fwyaf o draffig, ynghyd â gweithgareddau hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth a mesurau gorfodi, yn dechrau cael eu cyflwyno gyda chanlyniadau positif.
Eleni rydym yn galluogi awdurodau lleol i wneud cais ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb ar strydoedd ysgolion yn eu hardal i nodi cynlluniau strydoedd ysgolion posibl ar gyfer cyllid yn y dyfodol. Mae angen cwblhau ffurflen un dudalen i wneud cais am y cyllid hwn, a bydd pob awdurdod lleol sy’n gwneud cais ar gyfer yr astudiaeth ddichonoldeb ar strydoedd ysgolion yn derbyn £50,000 i gynnal yr astudiaeth.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu gwybodaeth i helpu awdurdodau lleol i lunio rhestr fer o’r cynlluniau maent am fwrw ymlaen â nhw.
Gallai mesurau Strydoedd Ysgolion gael eu hymgorffori hefyd fel rhan o gynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau mwy.
Gwneud Cais ar gyfer Cynllun
Gwahoddir awdurdodau lleol i gyflwyno hyd at ddau gais ar gyfer cynlluniau unigol neu pecynnau Strydoedd Ysgolion gan gynnwys unrhyw gynlluniau aml-flwyddyn sy'n bodoli eisoes, ac un cais ar gyfer yr astudiaeth ddichonoldeb ar strydoedd ysgolion. Dylai cynlluniau sydd wedi'u lleoli mewn mannau dynodedig o dan y Ddeddf teithio lleso fod ar lwybrau teithio llesol sydd wedi cael eu nodi ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol a gyflwynwyd neu’r Map Llwybrau Cyfredol / Map Rhwydwaith Integredig sydd wedi'u cyflwyno / cymeradwyo – a rhaid rhoi geirda. Rydym hefyd yn caniatáu ceisiadau ar gyfer ysgolion nad ydynt mewn lleoliadau dynodedig o dan y Ddeddf Teithio Llesol, er enghraifft mewn ardaloedd mwy gwledig.
Mae cynlluniau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn fwyaf llwyddiannus lle cawsant eu datblygu gyda chyfraniad agos gan ddisgyblion, rhieni, staff ysgolion a'r gymuned ehangach. Rydym am weld cyfranogiad a dylunio cydweithredol o gamau cynnar datblygu cynllun, lle bynnag y bo'n bosibl. Felly, rydym yn disgwyl i'r cynlluniau a gyflwynir ar gyfer arian ddarparu tystiolaeth o gyfranogiad a wnaed eisoes, neu gynllun ar gyfer cynnwys.
Os ydych yn gwneud cais am gyllid i ddylunio ac adeiladu o fewn yr un flwyddyn ariannol mae’n rhaid i chi gyflwyno eich dyluniadau manwl cyn gynted ag y byddan nhw ar gael i Lywodraeth Cymru eu hystyried a chyn i chi ddechrau’r gwaith adeiladu.
Sylwch na fyddwn bellach yn darparu cyllid ar gyfer cynlluniau 20mya trwy Lwybrau Diogel mewn Cymunedau, oherwydd y terfyn cyflymder diofyn o 20mya a fydd yn dod i rym ym mis Medi 2023. Bydd awdurdodau lleol yn parhau i dderbyn cyllid ar gyfer y gwaith hwn drwy’r grant 20mya.
Caiff cyllid ei roi pan fydd dyluniad y cynllun yn adlewyrchu'r Canllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol yn unig.
Wrth ddylunio cynlluniau, rhaid i awdurdodau lleol ystyried hefyd eu cyfrifoldebau o dan Adran 6 – Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. O dan y ddyletswydd, mae'n rhaid i awdurdodau lleol geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth cyn belled ag y bo hynny’n gyson ag arfer eu swyddogaethau’n briodol, ac, wrth wneud hynny, hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau. Mae hyn, er enghraifft, yn berthnasol iawn i'r gwaith o drin ymylon ffyrdd a chynlluniau plannu fel rhan o gynlluniau trafnidiaeth. Mae canllawiau ar y ddyletswydd ar gael yma: Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016: bioamrywiaeth a chadernid ecosystemau
Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cynlluniau sy'n cymryd hyd at dair blynedd ariannol i'w cwblhau. Rhaid amlinellu cyfanswm y costau ar gyfer y cynllun ar ddechrau'r prosiect a bydd cyllid yn amodol ar gytundeb o flwyddyn i flwyddyn. Bydd cynlluniau sy'n cymryd nifer o flynyddoedd i'w cwblhau, os ydynt yn llwyddiannus, yn cael blaenoriaeth ar gyfer cyllid yn ystod blynyddoedd dilynol am hyd y cynllun, cyhyd â bod cyllid grant ar gael a chynnydd boddhaol yn cael ei wneud.
Gall awdurdodau lleol gydweithio ar eu ceisiadau. Mae’n rhaid nodi'r awdurdod lleol arweiniol ar gyfer pob cynllun. Byddai’r cyllid yn cael ei ddyrannu i’r awdurdod lleol arweiniol.
Byddwn yn ariannu gwaith a gwaith ymlaen llaw ar gyfer cynlluniau cyfalaf a gellir cynnwys costau monitro ac arfarnu cynllun. Bydd yn bosibl ystyried ariannu cynlluniau hefyd lle mai gwaith ymlaen llaw yn unig fydd yn cael ei gynnal.
Gellir gwneud ceisiadau ar gyfer cynlluniau newydd ar gyfer prosiectau unigol neu am becyn o brosiectau cysylltiedig. Dylai ceisiadau am becyn o brosiectau gynnwys rhestr o'r prosiectau cysylltiedig, wedi’u prisio, yn nhrefn eu blaenoriaeth.
Bydd cyllid yn cael ei ddyrannu hyd at y swm a ddyfernir ar gyfer y gwariant cymwys gwirioneddol a ysgwyddir gan gynllun sydd wedi ei dderbyn. Ni fydd mwy na’r cyllid y penderfynir arno yn cael ei roi a bydd yn rhaid i’r awdurdod lleol fod yn gyfrifol am unrhyw orwariant allai ddigwydd. Lle y bydd costau uwch oherwydd amgylchiadau eithriadol, y tu allan i reolaeth yr awdurdod lleol, gallai Llywodraeth Cymru ystyried gwneud cyllid ychwanegol ar gael.
Bydd disgwyl i awdurdodau lleol gyflawni’r cynlluniau a dderbynnir yn unol â’u ceisiadau. Bydd angen adrodd ar y cynnydd ar adegau drwy gydol blwyddyn ariannol 2023-24 – cynhwysir rhagor o wybodaeth yn y llythyr dyfarnu.
Mae’n bosibl y bydd swyddogion perthnasol Llywodraeth Cymru, neu gynrychiolwyr a enwebir ganddynt, yn gofyn am gyfarfodydd neu ymweliadau â’r safle i drafod cynllun fel sy’n briodol yn eu tyb nhw. Gallai methu â dangos cynnydd priodol wrth gyflawni’r cynllun arwain at dynnu cynigion cyllid yn ôl ac at gyllid sydd wedi ei hawlio hyd hynny yn cael ei adennill oddi wrth awdurdod lleol.
Bydd cynlluniau sy’n cynnwys arian cyfatebol yn denu sgôr ychwanegol yn y broses arfarnu, gyda chynlluniau sy’n dangos lefelau uwch o arian cyfatebol yn sgorio’n uwch.
Mae’n rhaid i geisiadau ddangos yn glir lefelau a ffynonellau’r arian cyfatebol sydd ar gael a chadarnhau y bydd y cyllid hwn ar waith i sicrhau bod y gwaith wedi ei gwblhau o fewn blwyddyn ariannol 2023-24. Gall yr arian cyfatebol fod o ffynhonnell fewnol neu allanol a gall gynnwys amser y swyddogion.
Dylid trefnu'r holl gynlluniau yn ôl eu blaenoriaeth.
Lle y rhoddir cymeradwyaeth ddangosol i gynlluniau sy'n parhau am fwy nag un flwyddyn yn 2021 i 2022 neu 2022 i 2023, bydd angen ffurflen gais i ddiweddaru'r wybodaeth a roddwyd yn flaenorol. Dylai hon nodi newidiadau i ddyluniad y cynllun, amserlenni, a maint y grant y gwneir cais amdano. Os yw'r cais yn amrywio'n sylweddol, bydd y cynllun yn cael ei drin fel pe bai'n gynllun newydd, ac ni fydd yn gymwys i gael cyllid yn awtomatig.
Telerau ac amodau'r grant
Dyrennir cyllid i awdurdodau lleol yn uniongyrchol, a bydd ar gael ar gyfer 2023 i 2024 yn unig. Dylai awdurdodau lleol nodi nad oes modd i Lywodraeth Cymru ymrwymo i roi cymorth ar ffurf grantiau ar ôl 2023 i 2024.
Oni bai fod amgylchiadau eithriadol, a thrwy gytundeb ymlaen llaw, dylai cynlluniau a gyflwynir ar gyfer cyllid gwaith yn 2023 i 2024 ddangos y bydd yr holl broblemau mewn perthynas â thir yn cael eu datrys a bod gorchmynion neu ganiatadau angenrheidiol ar waith er mwyn caniatáu i waith symud yn ei flaen.
Er bod Llywodraeth Cymru yn barod i dalu'r gost o brynu tir, ni ddarperir cyllid mewn perthynas â hawliadau iawndal sy'n codi o'r gwaith o brynu tir neu o'r prosiect ei hun.
Mae darparu cymorth cyfalaf i gynlluniau yn amodol ar ymrwymiad awdurdodau lleol i dalu costau refeniw a chynnal a chadw yn y dyfodol.
Monitro a gwerthuso
Mae’n rhaid i bob cynllun a menter addysgol gael eu monitro a’u gwerthuso. Caiff awdurdodau lleol gynnwys costau monitro am hyd at dair blynedd o fewn eu ceisiadau am gyllid ond mae’n rhaid eu nodi yn glir.
Rhaid monitro cynlluniau am dair blynedd ar ôl iddynt gael eu cwblhau, ac adrodd arnynt i Lywodraeth Cymru yn flynyddol. Bydd rhagor o ganllawiau yn cael eu darparu ar brosesau adrodd.
Hyrwyddo
Dylai ceisiadau gynnwys costau sy'n gysylltiedig â hyrwyddo cynlluniau, gan gynnwys arwyddion, deunyddiau a digwyddiadau, ar gyfer hyd at dair blynedd ar ôl i gynllun gael ei gwblhau. Rhaid nodi'r rhain yn glir.
Dogfennau'r broses ymgeisio
Dylai awdurdodau lleol gyflwyno eu ceisiadau gan ddefnyddio’r templedi perthnasol ar gyfer y ffurflenni cais. Bydd pob cynllun yn cael ei asesu drwy broses arfarnu.
Awdurdodau lleol a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y cynllun yn cadw at yr amserlen ac am nodi unrhyw newid i’r rhaglen waith a/neu'r proffil gwariant.
Rhaid i geisiadau ar gyfer cynlluniau cyfalaf ddangos y cynllun mewn cymaint o fanylder ag y bo modd ar adeg y cais (gan gynnwys lluniadau technegol) , a chynnwys map sy'n dangos y cynllun yn ei gyd-destun. Rhaid hefyd gynnwys cyfeirnod grid Arolwg Ordnans Prydain. Mae enghreifftiau o’r arferion gorau yn Atodiad 1.
Bydd dogfennau ategol yn cael eu hystyried fel a ganlyn:
- mapiau a chynlluniau ar gyfer ceisiadau cyfalaf (rhaid i'r mapiau a'r cynlluniau hyn ddangos y mesurau arfaethedig yn glir)
- rhaid sicrhau bod gwybodaeth ategol arall, yr ydych yn teimlo ei bod yn hanfodol i'r cynnig, cyn lleied ag y bo modd, ac yn ddienw pan fydd hynny'n berthnasol.
Y broses arfarnu
Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried gan banel o swyddogion trafnidiaeth Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allanol perthnasol fel sy’n briodol.
Bydd y penderfyniadau terfynol ynglŷn â chyllid yn cael eu gwneud gan y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.
Mae'r meini prawf asesu ar gyfer y grantiau ar gael ar wahân – gweler y Meini Prawf Asesu Grantiau ar gyfer 2023-24. Bydd yr argymhellion ariannu terfynol hefyd yn ystyried i ba raddau mae’r awdurdod lleol wedi llwyddo yn unol â’i ragolygon mewn perthynas â’r grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn y blynyddoedd diweddar.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno
Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 27 Ionawr 2023.
Rhaid anfon copïau electronig at y cyswllt perthnasol yn Llywodraeth Cymru yn y rhestr isod gan ddefnyddio’r cyfeiriad transportplanning@llyw.cymru - cadwch nifer yr atodiadau mor fach â phosibl. Cyflwynwch bob dogfen yn fformat Word neu PDF os medrwch.
Ni dderbynnir unrhyw wybodaeth ychwanegol neu ddiwygiedig ar ôl y dyddiad uchod, oni bai y gofynnir amdani gan Lywodraeth Cymru.
Manylion cyswllt Llywodraeth Cymru
Llwybrau Diogel mewn Cymunedau
Swyddog polisi teithio llesol
transportplanning@llyw.cymru
03000 251071
Atodiad 1: Llwybrau diogel mewn cymunedau nodyn canllaw
Map y cynllun
Gweler isod enghraifft o fap addas sy’n cynnwys manylion yr elfennau gwahanol mewn cynllun. Mae pob elfen wedi’i rhifo a gellir cyfeirio atynt yn yr adran ‘Manylion yr elfennau’ isod.

Disgrifiad o’r cynllun
Manylion yr elfennau:
Mae pob elfen wedi’i nodi gan y rhif perthnasol o’r map ac yn cynnwys ffotograff cyfredol a chyfeirnod grid. Mae’r manylion hyn yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol am y sefyllfa bresennol a’r hyn sydd wedi’i gynnwys yn y cynnig.
Enghraifft 1: Y droetffordd i’r orsaf ar ffordd station approach
FR-NB011 - Cyfeirnod OS Prydain Fawr: SN 11968 14675

Gwella’r droetffordd (DE001) sy’n ysbeidiol ac anwastad, ac mae cerbydau’n cael eu parcio arni. Gosod man croesi nad yw’n cael ei reoli (DE036) ar y gyffordd â Kiln Park Road. Nid oes unrhyw gapasiti i gynyddu nifer y mannau parcio yn yr orsaf oherwydd defnyddir y nifer cyfyngedig o fannau gan fusnesau neu drigolion. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y teithwyr sy’n defnyddio’r trên o Arberth wedi gostwng. Y gobaith yw y bydd gwelliannau mynediad yn gwrthdroi’r duedd hon. Mae’r cynnig hwn yn cyd-fynd ag FR-NB016 ac yn cysylltu’n uniongyrchol â’r orsaf reilffordd.
Enghraifft 2: Y droetffordd ar Station Road, y B4314
FR-NB016 - Cyfeirnod OS Prydain Fawr: SN 11897 14551

Station Road i Kiln Park Road yn Arberth – Gosod troetffordd (DE001) a man croesi nad yw’n cael ei reoli (DE036). Bydd y cynllun hwn yn llenwi bwlch yn y rhwydwaith troetffyrdd mewn rhan allweddol o’r dref. Mae’n cysylltu canol y dref â’r orsaf reilffordd ac yn dilyn y llwybr mae cerddwyr yn ei ffafrio i’r cyfleuster trafnidiaeth pwysig hwn.
Isod mae sylw a wnaed yn Ymgynghoriad Teithio Llesol Commonplace ar y cynnig hwn:
Station Road: Nid oes pafin rhwng diwedd y tai newydd ar Hyd Station Road a’r gyffordd â Kiln Park Road. Mae’n rhaid i lawer o bobl gerdded ar yr heol gan nad oes pafin. Gyda chynnydd yn y boblogaeth yn sgil dau ddatblygiad tai newydd ar hyd y ffordd hon, mae angen cael llwybr mwy diogel i’r orsaf ac ohoni. Dw i wedi gweld defnyddwyr y trên yn llusgo bagiau troli ar hyd yr heol gyda thraffig yn symud o’u cwmpas wrth iddyn nhw gerdded.