Grant i helpu i gynyddu ymgysylltiad ar gyfer y strategaeth tlodi plant ar ei newydd wedd.
Cynnwys
Pa gyllid sydd ar gael?
Bydd £50,000 ar gael i sefydliadau’r trydydd sector neu grwpiau cymunedol.
Byddwn yn darparu grantiau i sefydliadau/grwpiau hyd at uchafswm o £4,995.
Ynghylch y grant
Mae’r grant yn helpu i sicrhau bod y Strategaeth Tlodi Plant ar ei newydd wedd yn cael ei ddatblygu gyda phobl o aelwydydd a chymunedau lle mae plant yn byw mewn tlodi.
Rydym yn anelu at gyllido ystod o sefydliadau/grwpiau er mwyn sicrhau y gellir cyrraedd pawb. Byddwn hefyd yn sicrhau bod yr arian yn cael ei rannu’n deg ar sail ddaearyddol. Bydd y panel yn ystyried gwerth am arian wrth wneud penderfyniadau.
Pwy all wneud cais am y grant?
Y trydydd sector, grwpiau cymunedol neu sefydliadau sydd yn arbenigo mewn cynorthwyo ac ymgysylltu â phobl a nodweddion gwarchodedig neu gweithio â nhw.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau sy’n cynnig partneriaeth a gweithio ar y gyd. Dylid cael un prif ymgeisydd a fydd yn cymryd rôl deiliad y grant a rheolydd data.
Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau gan unrhyw sefydliad sydd â chysylltiad â phartïon gwleidyddol.
Meini prawf gofynnol
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cyflawni'r gwaith hwn erbyn dydd Llun 10 Ebrill 2023. Fel rhan o'ch cais, dylech amlinellu'r adnoddau y byddwch yn eu hymrwymo a darparu amserlen arfaethedig ar gyfer y weithgaredd.
Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu templed ar gyfer ymateb i'r ymgynghoriad erbyn dydd Llun 10 Ebrill 2023.
Sut i wneud cais
Gwnewch gais drwy lenwi'r ffurflen gais.
Gallwch gyflwyno gwybodaeth ychwanegol y byddwch yn ei hystyried yn ddefnyddiol i gefnogi eich cais. Gall hyn fod yn gynlluniau prosiect, cynlluniau cyfathrebu, diagramau sefydliadol a pherthynas.
E-bostiwch eich cais gorffenedig i: TrechuTlodiAChefnogiTeuluoedd@llyw.cymru.
Os ydych angen y ffurflen gais mewn fformat arall, e-bostiwch: TrechuTlodiAChefnogiTeuluoedd@llyw.cymru.
Byddwn yn ysgrifennu at brif ymgeisydd pob cais i roi gwybod am y canlyniad.
Amserlen a rhagor o wybodaeth
- 13 Chwefror 2023: ffenestr ymgeisio am grant yn agor.
- 27 Chwefror 2023: ffenestr ymgeisio am grant yn cau.
- 6 Mawrth 2023: llythyrau canlyniadau yn cael eu hanfon at yr ymgeiswyr.
- Mawrth 2023: cyhoeddi llythyrau dyfarnu grant.
- Strategaeth tlodi plant grant ymgysylltu â'r gymuned: ffurflen gais.