Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cyhoeddi data Cyfrifiad 2021 ar ethnigrwydd, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd unigolion a chartrefi yng Nghymru a Lloegr y bore yma (dydd Mawrth 29 Tachwedd 2022) mewn pedwar bwletin ar wahân.

Mae’r bwletin ystadegol hwn yn cynnwys crynodebau o’r pedwar maes pwnc hyn ar gyfer Cymru.

Mae'r bwletin hwn yn cynnwys data ar brif iaith yr ymatebwyr a chartrefi. Caiff bwletin ar wahân yn cynnwys data sgiliau Cymraeg o Gyfrifiad 2021 ei gyhoeddi ar ein gwefan ar 6 Rhagfyr 2022.

Prif bwyntiau

Grŵp ethnig

  • Ar ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, nododd 2.9 miliwn o breswylwyr arferol yng Nghymru fod eu grŵp ethnig yn y categori lefel uchel “Gwyn” (93.8% o'r boblogaeth, o'i gymharu â 95.6% yn 2011). Nododd 90.6% o'r boblogaeth “Gwyn: Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig” fel eu grŵp ethnig yn 2021.
  • Yr ail gategori lefel uchel mwyaf cyffredinol yng Nghymru yn 2021 oedd “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig”, gyda 89,000 o bobl yn nodi eu bod yn y categori hwn (2.9% o'r boblogaeth, o'i gymharu â 2.3% yn 2011).
  • Nododd 49,000 o breswylwyr arferol yng Nghymru fod eu grŵp ethnig yn y categori lefel uchel “Grwpiau cymysg neu amlethnig” (1.6% o'r boblogaeth o'i gymharu â 1.0% yn 2011).
  • Nododd 28,000 o breswylwyr arferol yng Nghymru fod eu grŵp ethnig yn y categori lefel uchelຘ “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” (0.9% o'r boblogaeth, o'i gymharu â 0.6% yn 2011).
  • Nododd 26,000 o breswylwyr arferol yng Nghymru fod eu grŵp ethnig yn y categori lefel uchel “Grŵp ethnig arall” yn 2021 (0.9% o'r boblogaeth, o'i gymharu â 0.5% yn 2011).
  • Yr awdurdodau lleol â'r cyfrannau uchaf o grwpiau ethnig lefel uchel ar wahân i “Gwyn” oedd ardaloedd trefol fel Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe yn bennaf.
  • Roedd 5.3% o gartrefi yng Nghymru yn gartrefi â grwpiau amlethnig, i fyny o 4.2% yn 2011.

Hunaniaeth genedlaethol

  • Nododd 1.7 miliwn o breswylwyr arferol yng Nghymru hunaniaeth “Gymreig” yn unig (55.2% o'r boblogaeth, i lawr o 57.5% yn 2011).
  • Nododd 8.1% o boblogaeth Cymru hunaniaeth “Gymreig” a “Prydeinig”, i fyny o 7.1% yn 2011.
  • Yr hunaniaethau mwyaf cyffredin o’r DU yng Nghymru heblaw “Cymreig” yn unig neu “Cymreig” a “Prydeinig” yn unig oedd “Prydeinig” yn unig (18.5%), “Saesnig” yn unig (9.1%) a “Saesnig” a “Prydeinig” (1.8%). Nododd 1.9% o’r boblogaeth eu bod yn uniaethu â hunaniaeth arall o’r DU neu gyfuniad o hunaniaethau o’r DU.
  • Dewisodd 5.4% o breswylwyr arferol yng Nghymru o leiaf un hunaniaeth genedlaethol heb fod o’r DU (i fyny o 3.8% yn 2011). O fewn y grŵp hwn, nid oedd 4.2% o’r boblogaeth yn uniaethu ag unrhyw hunaniaeth o’r DU (i fyny o 3.4% yn 2011).
  • Yr hunaniaeth fwyaf cyffredin ymhlith pobl heb hunaniaeth o’r DU yng Nghymru oedd Pwylaidd (0.7%  o breswylwyr arferol), ac yna Gwyddelig (0.3%), Rwmanaidd (0.2%) ac Indiaidd (0.2%).
  • Roedd yr ardaloedd a chanddynt y canrannau uchaf o’r bobl a nododd “Cymreig” yn unig fel eu hunaniaeth yn cynnwys Merthyr Tudful (70.0%), Rhondda Cynon Taf (69.8%) a Chaerffili (69.2%), a Sir y Fflint (34.7%) oedd â'r gyfran leiaf.
  • Roedd canran y bobl a nododd “Cymreig” yn unig fel eu hunaniaeth yn llai yn 2021 nag yn 2011 ar gyfer y rhan fwyaf o awdurdodau lleol. Gwelodd pob awdurdod lleol gynnydd yng nghyfran y bobl sy’n dewis “Cymreig” a “Prydeinig”.

Iaith

  • Roedd 2.9 miliwn o breswylwyr arferol tair oed a throsodd yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel eu prif iaith (96.7% o'r boblogaeth, i lawr o 97.1% yn 2011).
  • O’r preswylwyr arferol yng Nghymru na wnaeth ddewis Cymraeg na Saesneg fel eu prif iaith yn 2021, dywedodd 78,000 (78.0%) eu bod yn gallu siarad Saesneg yn dda neu'n dda iawn, ond ni allai 22,000 (22.0%) siarad Saesneg yn dda iawn neu o gwbl.
  • Fel yn 2011, Pwyleg oedd y brif iaith fwyaf cyffredin ar ôl Cymraeg neu Saesneg, sef 0.7% o'r boblogaeth. Arabeg (0.3%) oedd y brif iaith fwyaf cyffredin heblaw am y Gymraeg, Saesneg neu Bwyleg yn 2021.
  • Iaith Arwyddion Prydain (BSL) oedd dewis iaith 900 (0.03%) o’r preswylwyr arferol tair oed a throsodd ledled Cymru.
  • Fel yn 2011, roedd cyfrannau is o bobl sy’n siarad Cymraeg neu Saesneg fel prif iaith yn 2021 mewn awdurdodau lleol trefol, gyda Chaerdydd, Casnewydd, Wrecsam ac Abertawe â'r cyfrannau isaf o holl awdurdodau lleol Cymru.
  • Mewn 1.3 miliwn o gartrefi yng Nghymru (96.2% o'r holl gartrefi), roedd pob preswylydd arferol yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel prif iaith, sy'n gyfran llai nag yn 2011 (96.7%).

Crefydd

  • Dewisodd 2.9 miliwn o ymatebwyr yng Nghymru (93.7%) ateb y cwestiwn gwirfoddol am grefydd yn 2021, ond dewisodd 195,000 (6.3%) beidio ag ateb. Atebodd mwy o bobl y cwestiwn nag yn 2011 pan atebodd 92.4% a dewisodd 7.6% beidio ag ateb.
  • Nododd 1.4 miliwn o breswylwyr arferol yng Nghymru “Dim crefydd” yn 2021 (46.5% o'r boblogaeth, i fyny o 32.1% yn 2011). Fe wnaeth mwy o bobl nodi “Dim crefydd” nag unrhyw ymlyniad crefyddol unigol.
  • Disgrifiodd 43.6% o'r preswylwyr arferol (1.4 miliwn) eu crefydd fel “Cristnogaeth” yn 2021. Dewisodd dros hanner y preswylwyr yng Nghymru yr ymlyniad crefyddol hwn yng Nghyfrifiad 2011 (57.6%).
  • Fe wnaeth cyfran y boblogaeth a nododd “Cristnogaeth” fel eu crefydd ostwng ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru rhwng 2011 a 2021, ac roedd y tri awdurdod lleol a welodd y gostyngiad mwyaf yng nghyfran y bobl a ddewisodd “Cristnogaeth” ar draws Cymru a Lloegr i gyd yng Nghymru (Blaenau Gwent, Caerffili a Merthyr Tudful).
  • Yr ymlyniad crefyddol mwyaf cyffredin nesaf yng Nghymru oedd “Islam”, gyda 2.2% o'r boblogaeth (67,000 o breswylwyr arferol) yn nodi “Islam” fel eu crefydd yn 2021. Mae hyn yn gynnydd o 1.5% yn 2011.
  • Ychydig o newid a welwyd ers 2011 yng nghyfrannau'r boblogaeth a oedd yn uniaethu â grwpiau crefyddol eraill a oedd wedi’u cynnwys yn yr opsiynau blwch ticio yn ffurflen y Cyfrifiad.
  • Ar gyfer grwpiau crefyddol heblaw “Cristnogaeth”, roedd yr awdurdodau lleol â'r crynoadau uchaf o bob crefydd yn tueddu i fod yn ardaloedd trefol, gyda Chaerdydd â'r cyfrannau uchaf o bobl a nododd “Islam” (9.3%), “Hindŵaeth” (1.5%) a “Siciaeth” (0.4%) fel crefydd, a'r ail gyfran uchaf o bobl a nododd “Bwdhaeth” (0.4%) fel crefydd.

Grŵp ethnig

Ers 1991, mae’r cyfrifiad ar gyfer Cymru a Lloegr wedi cynnwys cwestiwn am hunaniaeth ethnig. Trefnwyd y categorïau grŵp ethnig, gan gynnwys categorïau 'eraill' ar gyfer ysgrifennu ymateb, o fewn pum categori grŵp ethnig lefel uchel.

  1. “Gwyn”
  2. “Grwpiau cymysg neu aml-ethnig”
  3. “Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig”
  4. “Cymry Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd”
  5. “Grŵp ethnig arall”

Yn 2021, gallai ymatebwyr ddewis un o’r opsiynau ymateb ar ffurf blwch ticio a ddarparwyd ar y ffurflen, neu ysgrifennu eu hunaniaeth ethnig trwy un o'r chwe opsiwn ymateb.

  1. “Cefndir Affricanaidd”
  2. “Unrhyw gefndir Asiaidd arall” 
  3. “Unrhyw gefndir Du/Du Prydeinig neu Ddu/Caribïaidd arall”
  4. “Unrhyw gefndir Cymysg/Aml-ethnig eraill” 
  5. “Unrhyw gefndir Gwyn arall” 
  6. “Unrhyw grŵp ethnig arall” 

Yn 2021, dewisodd 155,000 o bobl yng Nghymru (5.0% o'r boblogaeth) ysgrifennu hunaniaeth ethnig.

Mae llawer o ffactorau a allai fod yn cyfrannu at y newid yng nghyfansoddiad ethnig Cymru, megis gwahanol batrymau o heneiddio, ffrwythlondeb, marwolaethau, a mudo. Gall newidiadau hefyd gael eu hachosi gan wahaniaethau yn y ffordd y mae unigolion yn dewis disgrifio eu hunain rhwng cyfrifiadau.

Grwpiau ethnig yng Nghymru

Ffigur 1: Categorïau grŵp ethnig lefel uchel yng Nghymru, 2011 a 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart bar hwn yn dangos sut y cynyddodd cyfrannau’r trigolion arferol sy'n nodi eu bod yn dod o bob categori grŵp ethnig lefel uchel ar wahân i "Gwyn" rhwng 2011 a 2021.

[Noder] Rydym wedi tynnu’r categori "Gwyn" lefel uchel o Ffigur 1 er mwyn ei gwneud yn haws gweld yn glir y gwahaniaethau ar gyfer y pedwar grŵp lefel uchel sy'n cyfrif am ganran lai o'r boblogaeth gyffredinol. Cafodd “Asiaidd Cymreig” a “Du Cymreig” eu cynnwys ar holiadur y cyfrifiad yng Nghymru yn unig. Roedd y categorïau hyn yn newydd yn 2021.  

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Gwyn

Roedd cyfran y bobl yng Nghymru a nododd eu bod yn perthyn i’r categori lefel uchel mwyaf, sef “Gwyn” (2.9 miliwn, 93.8% o'r boblogaeth), yn llai nag yn 2011 (95.6%). Fel yn 2011, roedd hyn yn llawer mwy na chyfran y bobl a wnaeth nodi eu bod yn perthyn i’r categori “Gwyn” yn Lloegr (81.0%).

O fewn y categori “Gwyn” lefel uchel, dewisodd 2.8 miliwn o bobl yng Nghymru “Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig” (90.6% o boblogaeth gyfan). Roedd hyn yn ostyngiad ers 2011 (93.2%).

Yr ymateb mwyaf cyffredin ar ôl “Gwyn: Cymreig, Saesnig, Albanaidd, Gogledd Iwerddon neu Brydeinig” oedd “Unrhyw gefndir Gwyn arall”, gyda 2.7% o'r boblogaeth (83,000) yn dewis yr opsiwn hwn. Mae hyn yn gynnydd o 2011 (1.8%). Roedd yr opsiwn hwn yn caniatáu i’r ymatebwyr ysgrifennu eu grŵp ethnig, a’r ymatebion mwyaf cyffredin a ysgrifennwyd oedd “Pwylaidd” (22,000, 0.7%) a “Rwmanaidd” (5,000, 0.2%). Yn rhannol, gellir esbonio'r cynnydd i'r grwpiau ethnig hyn gan y cyfleuster newydd Chwilio-wrth-deipio ar gyfer Cyfrifiad 2021, sy’n ei gwneud hi'n haws i bobl hunanddiffinio wrth gwblhau'r cyfrifiad ar-lein.

Nododd 13,000 o breswylwyr arferol yng Nghymru “Gwyddelig” fel eu hethnigrwydd yn y categori lefel uchel “Gwyn” yn 2021 (0.4% o'r boblogaeth), sy’n ostyngiad ers 2011 (14,000 o bobl, 0.5%).

Fe wnaeth 4,000 o breswylwyr arferol yng Nghymru (0.1%) ddisgrifio eu hethnigrwydd fel “Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” yn y categori lefel uchel “Gwyn”, sy’n gynnydd ers 2011 pan wnaeth bron i 3,000 o breswylwyr arferol (0.1%) nodi’r grŵp ethnig hwn.

Yn 2021, cafodd “Roma” ei gynnwys fel categori blwch ticio yn y categori lefel uchel “Gwyn” am y tro cyntaf ar ffurflen cyfrifiad, gydag agos i 2,000 o breswylwyr arferol yng Nghymru (0.1%) yn uniaethu â’r grŵp ethnig hwn.

Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig

Yr ail gategori grŵp ethnig lefel uchel mwyaf yng Nghymru oedd “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig” (89,000, 2.9%), sy’n gynnydd ers 2011 (2.3%). Roedd cyfran lai o bobl yng Nghymru wedi nodi eu bod yn “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig” yn Lloegr (9.6%).

Y grŵp ethnig mwyaf yn y categori lefel uchel “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig” oedd “Indiaidd”, gyda 0.7% o breswylwyr arferol (21,000) yn nodi’r ethnigrwydd hwn yn 2021. Mae hyn yn gynnydd ers 2011, pan nododd 17,000 o bobl (0.6%) ethnigrwydd Indiaidd.

Dewisodd nifer tebyg o bobl “Unrhyw gefndir Asiaidd arall”, a wnaeth ganiatáu iddynt ysgrifennu eu grŵp ethnig. Dewisodd 21,000 o breswylwyr arferol (0.7%) yr ymateb hwn yn 2021, sy’n gynnydd ers 2011 (16,000, 0.5%). Yr ymatebion mwyaf cyffredin a ysgrifennwyd oedd “Ffilipinaidd” (6,000, 0.2%) a “Sri Lankaidd” (2000, 0.1%).

Y grŵp ethnig mwyaf cyffredin nesaf yn y categori lefel uchel hwn oedd “Pacistanaidd”, gyda 0.6% o boblogaeth Cymru (18,000) yn dewis y grŵp ethnig hwn yn 2021. Mae hyn yn gynnydd o 12,000 (0.4%) yn 2011.

Nododd 15,000 o breswylwyr arferol yng Nghymru (0.5%) eu bod yn uniaethu â’r grŵp ethnig “Bangladeshaidd” yn 2021 (i fyny o 0.3% yn 2011), a chynyddodd cyfran y bobl a nododd eu bod yn “Tsieineiadd” i 0.5% (14,000 o breswylwyr arferol), o 0.4% yn 2011.

Grwpiau cymysg neu amlethnig

Nododd 49,000 o breswylwyr arferol yng Nghymru (1.6%) eu bod yn perthyn i’r categori grŵp ethnig lefel uchel “Grwpiau cymysg neu amlethnig” (cynnydd o 1.0% yn 2011). Roedd cyfran lai o bobl yng Nghymru yn uniaethu â “Grwpiau cymysg neu amlethnig” nag yn Lloegr (3.0%).

O fewn y categori lefel uchel, dewisodd 14,000 o breswylwyr arferol yng Nghymru (0.5%) y categori “Gwyn ac Asiaidd”, sy’n gynnydd o 0.3% (9,000) yn 2011.

Y grŵp ethnig mwyaf cyffredin nesaf yn y categori lefel uchel “Grŵp ethnig cymysg neu amlethnig” oedd “Gwyn a Du Caribïaidd”. Gwnaeth 14,000 (0.4%)  o breswylwyr arferol yng Nghymru uniaethu â’r grŵp hwn yn 2021, sy’n yn fwy o bobl nag yn 2011 ond yn gyfran debyg (11,000, 0.4%).

Dewisodd 13,000 o bobl (0.4%) “Unrhyw gefndir cymysg neu amlethnig arall” yn 2021, sydd bron dwbl y ffigur o 7,000 (0.2%) yn 2011. Fe wnaeth yr ymateb hwn ganiatáu i’r ymatebwyr ysgrifennu eu grŵp ethnig, a’r ymateb mwyaf cyffredin a ysgrifennwyd oedd “Gwyn ac Arabaidd” (800 o bobl).

Nododd 8,000 o bobl (0.3%) “Gwyn a Du Affricanaidd” yn 2021, gan gynyddu o 4,000 (0.1%) yn 2011.

Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd

Roedd 28,000 o breswylwyr arferol yng Nghymru (0.9%) yn uniaethu â’r categori grŵp ethnig lefel uchel “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” (cynnydd o 0.6% yn 2011). Roedd hyn yn gyfran lai nag yn Lloegr (4.2%) lle mai “Du, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” oedd y trydydd grŵp ethnig lefel uchel mwyaf.

Y grŵp ethnig mwyaf yn y categori lefel uchel hwn oedd “Affricanaidd”, gyda 20,000 o bobl (0.6%) yn dewis yr opsiwn hwn yn 2021. Mewn cymhariaeth, dewisodd 0.4% o'r boblogaeth (12,000) “Affricanaidd” yng Nghyfrifiad 2011, er nad oedd opsiwn i ysgrifennu pa gefndir yn 2011. Roedd yr ymatebion mwyaf cyffredin a ysgrifennwyd ar gyfer y grŵp ethnig “Affricanaidd” yn cynnwys “Nigeraidd” (3,000, 0.1%) a “Somalïaidd” (2,000, 0.1%).

Dewisodd bron i 4,000 o breswylwyr arferol yng Nghymru (0.1%) yr ymateb “Unrhyw gefndir Du, Du Prydeinig neu Garibïaidd arall” yn 2021. Mewn cymhariaeth, dewisodd 0.1% o bobl (3,000) “Unrhyw gefndir Du, Affricanaidd neu Garibïaidd arall” yn 2011.

Fe wnaeth 4,000 o breswylwyr arferol yng Nghymru ddewis “Caribïaidd” fel eu grŵp ethnig yn 2021, sef 0.1% o'r boblogaeth. Mae nifer y bobl sy’n uniaethu â’r grŵp hwn wedi gostwng ychydig ers 2011.

Grŵp ethnig arall

Yn 2021, nododd 0.9% o breswylwyr arferol yng Nghymru (26,000) ethnigrwydd nad oedd wedi’i gwmpasu yn y categoriau grwpiau ethnig lefel uchel eraill, gan gynyddu o 0.5% yn 2011 (15,000). Mae hyn yn gyfran lai o bobl nag yn Lloegr (2.2%).

Ffigur 2: Grwpiau ethnig lleiafrifol  yng Nghymru, 2011 a 2021
Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart bar hwn yn dangos sut y newidiodd cyfranau'r trigolion arferol sy'n nodi eu bod yn dod o grŵp ethnig lleiafrifol rhwng 2011 a 2021, gyda'r cyfrannau'n cynyddu i'r rhan fwyaf o grwpiau ethnig lleiafrifol yn y cyfnod hwnnw.

[Noder] Nid oedd blwch ticio ar gyfer “Roma” yn 2011. Mae "Gwyn: Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig" wedi’i dynnu o'r siart hon er mwyn dangos yn fwy clir y gwahaniaethau ar gyfer y grwpiau ethnig sy'n cyfrif am ganran lai o'r boblogaeth gyffredinol.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

O fewn y categori lefel uchel, dewisodd 15,000 o breswylwyr arferol yng Nghymru (0.5%) yr ymateb “Unrhyw grŵp ethnig arall”. Mae nifer y bobl sy'n dewis yr opsiwn hwn wedi mwy na dyblu ers 2011 (6,000, 0.2%). Yr ymateb mwyaf cyffredin a ysgrifennwyd oedd “Cwrdaidd” (2,000, 0.1%). Yr ymatebion mwyaf cyffredin nesaf a ysgrifennwyd (gyda 1,000 o breswylwyr arferol yr un) oedd “Tyrcaidd”, “Iranaidd” a “Sbaenaidd neu Lladin Americanaidd” (llai na 0.1% yr un).

Dewisodd 0.4% o breswylwyr arferol yng Nghymru (12,000) y grŵp ethnig “Arabaidd” yn 2021. Mae hyn yn gynnydd o 0.3% (10,000) yn 2011.

Sut roedd grwpiau ethnig yn amrywio ar draws Cymru

Ym mron pob awdurdod lleol Cymreig, roedd dros 80% o gyfanswm y boblogaeth yn uniaethu â’r grŵp ethnig lefel uchel “Gwyn”, a'r unig eithriad oedd Caerdydd (79.2%). Yn Ynys Môn (98.1%) oedd y gyfran uchaf o bobl a ddewisodd y grŵp ethnig lefel uchel “Gwyn”, ac wedyn Blaenau Gwent (97.8%), Caerffili a Phowys (97.7%), a Sir y Fflint a Sir Benfro (97.6%). 

Caerdydd (73.6%) hefyd oedd yr unig awdurdod lleol lle’r oedd llai na 80% o’r boblogaeth yn uniaethu â’r grŵp ethnig mwyaf “Gwyn: Cymreig, Seisnig Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig”. Yn Ynys Môn (96.3%) oedd y gyfran uchaf unwaith eto.

Ffigur 3: Canran y preswylwyr arferol yng Nghymru sy’n uniaethu â grŵp ethnig lleiafrifol yn ôl awdurdod lleol, 2021
Image
Manylion yn y testun yn dilyn y map.

Mae'r map hwn yn dangos sut roedd cyfran y trigolion arferol sy'n nodi eu bod yn dod o grŵp ethnig lleiafrifol yn amrywio gan awdurdod lleol, gydag ardaloedd trefol yn tueddu i gael y cyfrannau uchaf.

Roedd yr awdurdodau lleol â'r cyfrannau uchaf o bobl a oedd yn uniaethu â grwpiau ethnig lefel uchel ar wahân i “Gwyn” yn tueddu i fod yn ardaloedd trefol. Caerdydd oedd â’r cyfrannau uchaf o bobl a nododd y categorïau lefel uchel “Asiaidd, Asiaidd Prydeinig neu Asiaidd Cymreig” (9.7%), “Du, Du Prydeinig, Du Cymreig, Caribïaidd neu Affricanaidd” (3.8%), “Grwpiau cymysg neu amlethnig” (4.0%) a “Grwpiau ethnig eraill” (3.3%). Casnewydd oedd yr ail uchaf ar gyfer pob un o'r categorïau ethnig lefel uchel hyn. Abertawe oedd y trydydd uchaf ar gyfer categorïau hyn ac eithrio “Grwpiau cymsyg neu amlethnig” - ym Mro Morgannwg (2.3%) oedd y drydedd gyfran uchaf ar gyfer y categori hwn.

“Gwyn: Unrhyw gefndir Gwyn arall” oedd y grŵp ethnig lleiafrifol mwyaf ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Roedd cyfran y boblogaeth a oedd yn uniaethu â’r grŵp ethnig hwn ar ei uchaf yn Wrecsam (4.8%), ac roedd hefyd dros 3% yn awdurdodau lleol Caerdydd, Casnewydd, Sir y Fflint, Ceredigion, Merthyr Tudful ac Abertawe.

Yn y grŵp ethnig lefel uchel "Gwyn", Sir Benfro oedd yr awdurdod lleol â’r gyfran uchaf o bobl a nododd y grŵp ethnig "Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig" (0.5%), Conwy oedd â'r gyfran uchaf o’r rhai a nododd "Gwyddelig" (0.7%) a Chasnewydd oedd â’r gyfran uchaf a nododd "Roma" (0.3%).

Er mai Casnewydd oedd â'r gyfran uchaf o bobl a nododd "Pacistanaidd" (3.0%), Caerdydd oedd â'r gyfran uchaf o bobl a nododd grwpiau ethnig eraill yn y categori lefel uchel "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig”, a phob grŵp ethnig yn y categorïau lefel uchel "Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd", "Grwpiau cymysg neu amlethnig" a "Grŵp ethnig arall". Y grwpiau ethnig mwyaf yng Nghaerdydd yn y categorïau lefel uchel hyn oedd “Affricanaidd” (2.9%), Indiaidd a Phacistanaidd (2.4% yr un).

Y tu allan i Gaerdydd, Abertawe oedd â'r gyfran uchaf o bobl a nododd "Arabaidd" a "Tsieineaidd". Roedd y cyfrannau mwyaf ar gyfer y grwpiau ethnig sy'n weddill yn y categorïau lefel uchel "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig", "Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd", "Grwpiau cymysg neu amlethnig” a "Grŵp ethnig arall" yng Nghasnewydd.

Nodi grwpiau ethnig mewn cartrefi yng Nghymru

Mae’r cyfrifiad hefyd yn rhoi cipolwg ar grwpiau ethnig yn y 918,000 o gartrefi yng Nghymru lle mae mwy nag un person yn byw (68.1% o gyfanswm y cartrefi a feddiannir). Yn y mwyafrif ohonynt, roedd pob aelod o’r cartref yn uniaethu â’r un grŵp ethnig o'r dosbarthiad 19 categori (847,000 o gartrefi, 62.9% o gyfanswm yr holl gartrefi). Yn 2011, roedd cyfran ychydig yn uwch o gartrefi lle’r oedd pob aelod yn uniaethu â’r un grŵp ethnig (65.0%). Nid yw hyn yn cynnwys y 430,000 o gartrefi un person yn 2021 (31.9%).

Yng Nghymru yn 2021, roedd 5.3% o gartrefi yn gartrefi â grwpiau amlethnig, i fyny o 4.2% yn 2011 ac yn is na chyfran y cartrefi yn Lloegr (10.4%).

Mae Cyfrifiad 2021 yn rhoi cipolwg ar dri chyfuniad o grwpiau ethnig a pherthnasoedd mewn cartrefi lle mae mwy nag un person yn byw.

  1. Mae’r grwpiau ethnig yn amrywio rhwng cenedlaethau ond rhwng partneriaethau (0.9% o’r holl gartrefi)
  2. Mae’r grwpiau ethnig yn amrywio rhwng partneriaethau (3.2%)
  3. Unrhyw gyfuniad arall o hunaniaethau amlethnig (1.2%)

Yng Nghymru, roedd canran y cartrefi â grwpiau amlethnig yn amrywio rhwng 2.5% o’r holl gartrefi ym Mlaenau Gwent a 11.6% yng Nghaerdydd.

Hunaniaeth genedlaethol

Cafodd cwestiwn y cyfrifiad ar hunaniaeth genedlaethol ei gyflwyno yn 2011 oherwydd bod mwy o ddiddordeb mewn ymwybyddiaeth 'genedlaethol' a galw ar bobl i allu cydnabod eu hunaniaeth genedlaethol. Mae'r cwestiwn yn caniatáu i'r ymatebwyr roi tic wrth bob hunaniaeth sy'n berthnasol.

Yn ein bwletin Cyfrifiad 2021 ar ddemograffeg a mudo yng Nghymru, gwnaethom grynhoi data ar demograffeg a mudo yng Nghymru, gan gynnwys trosolwg o'r boblogaeth nas anwyd yn y DU. Yn y bwletin hwnnw, dangoswyd bod mwy o breswylwyr arferol yng Nghymru yn 2021 wedi'u geni y tu allan i'r DU nag yn 2011, a bod canran uwch o bobl a anwyd yn Lloegr yn byw yng Nghymru. Gall y tueddiadau hyn mewn demograffeg esbonio rhai o'r tueddiadau o ran y ffordd y mae pobl yn disgrifio eu hunaniaeth genedlaethol a archwilir isod.

Hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru

Dewisodd 55.2% o'r boblogaeth yng Nghymru (1.7 miliwn) “Cymreig” yn unig yn 2021, i lawr o 57.5% (1.8 miliwn) yn 2011. Fe wnaeth 8.1% o'r boblogaeth (251,000) yng Nghymru ddewis “Cymreig” a “Prydeinig, i fyny o 7.1% (218,000 o unigolion) yn 2011. Nododd cyfran uwch o’r boblogaeth yng Nghymru hunaniaeth o’r DU (95.8%) nag yn Lloegr (90.0%), er bod y gyfran hon wedi gostwng ers 2011 (96.6%).

Nododd 18.5% o boblogaeth Cymru “Prydeinig” yn unig fel hunaniaeth (574,000 o unigolion), i fyny o 16.9% yn 2011. Mae hyn yn gyfran sylweddol is nag yn Lloegr (56.8%), a fu bron â threblu dros y degawd. Efallai bod hyn wedi deillio o newidiadau cymdeithasol, cyfreithiol, neu ddemograffig, ond gall hefyd fod o ganlyniad i’r newidiadau i strwythur y cwestiwn hunaniaeth genedlaethol yn Lloegr. Yn Lloegr, y blwch ticio ar gyfer "Prydeinig" ar holiadur Cyfrifiad 2021 oedd yr opsiwn cyntaf, ond dyma oedd yr opsiwn olaf ond un yn 2011. Yng Nghymru, "Prydeinig" oedd yr opsiwn olaf ond un a “Cymreig” oedd y cyntaf. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adroddiad datblygu cwestiynau cenedlaethol, grŵp ethnig, iaith a chrefydd ar gyfer Cyfrifiad 2021 ( Y Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Ffigur 4: Hunaniaethau cenedlaethol o’r DU yng Nghymru, 2011 a 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart colofn hwn yn dangos cyfran y trigolion arferol yng Nghymru sy'n uniaethu â hunaniaethau cenedlaethol y DU yn 2021, a sut mae'r rhain wedi newid ers 2011.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Yr hunaniaeth fwyaf cyffredin o’r DU yng Nghymru yn 2021 heblaw “Cymreig” yn unig neu “Prydeinig” yn unig oedd “Saesnig” yn unig, gyda 9.1% o'r boblogaeth (283,000 o breswylwyr arferol), i lawr o 11.2% yn 2011. Dewisodd 1.8% o’r boblogaeth “Saesnig” a “Prydeinig” (55,000 o breswylwyr arferol), i fyny o 1.5% yn 2011. Nododd 1.9% o’r boblogaeth hunaniaethau eraill o’r DU neu gyfuniad o hunaniaethau yn 2021, i fyny o 1.5% yn 2011.

Yn gyffredinol, dewisodd 168,000 o breswylwyr arferol (5.4%) yng Nghymru o leiaf un hunaniaeth genedlaethol heb fod o’r DU. Mae hyn wedi cynyddu ers 2011, pan ddewisodd 118,000 o bobl (3.8%) yng Nghymru o leiaf un hunaniaeth genedlaethol sydd heb fod o’r DU. Mae’r grŵp hwn yn cynnwys preswylwyr arferol yng Nghymru nad oeddent wedi nodi unrhyw hunaniaeth yn y DU h.y. a wnaeth ond nodi hunaniaeth heb fod o’r DU neu fwy nag un hunaniaeth heb fod o’r DU. Mae cyfran y boblogaeth na wnaeth uniaethu ag unrhyw hunaniaeth o’r DU hefyd wedi cynyddu, o 3.4% yn 2011 i 4.2% yn 2021.

Ffigur 5: Y 10 hunaniaeth mwyaf cyffredin heb fod o’r DU yng Nghymru, 2021
Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart bar hwn yn dangos y 10 hunaniaeth fwyaf cyffredin nad ydynt yn y DU a adroddwyd gan bobl heb hunaniaeth y DU yng Nghymru yn 2021. Yr hunaniaeth fwyaf cyffredin heb fod yn y DU ymhlith pobl heb hunaniaeth yn y DU yng Nghymru oedd "Pwyleg".

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Yn 2021, yr hunaniaeth fwyaf cyffredin heb fod o’r DU ymhlith pobl heb hunaniaeth o’r DU yng Nghymru oedd “Pwyliaidd” (21,000, 0.7%). Mae hyn yn gynnydd ers 2011 (19,000, 0.6%), pan oedd hefyd yn hunaniaeth mwyaf cyffredin heb fod o’r DU. Yr hunaniaethau mwyaf cyffredin nesaf oedd “Gwyddelig” (9,000, 0.3%), “Rwmanaidd” (7,000, 0.2%) ac “Indiaidd” (6,000, 0.2%).

Yr hunaniaethau â'r cynnydd cymharol mwyaf dros y ddegawd oedd “Rwmanaidd” (7,000 o unigolion yn 2021, mwy na phum gwaith yn uwch nag yn 2011) a “Tsieineaidd Hong Kong” (900 o unigolion, dros saith gwaith yn uwch nag yn 2011).  Mae'r cynnydd hwn yn debygol o fod o ganlyniad i godi gyfyngiadau gwaith i ddinasyddion Rwmania yn 2014, a newid polisi Llywodraeth Prydain ar fisas Cenedlaethol Prydain (Tramor), a arweiniodd at gynnydd yn nifer y bobl o Hong Kong a ddewisodd ymfudo i'r DU.

Sut roedd hunaniaeth genedlaethol yn amrywio ar draws Cymru

Roedd rhai o'r ardaloedd â'r canrannau uchaf o'r boblogaeth a ddewisodd “Cymreig” yn unig fel hunaniaeth yn ardaloedd y Cymoedd. Roedd hyn yn cynnwys Merthyr Tudful (70.0%), Rhondda Cynon Taf (69.8%), a Chaerffili (69.2%). Awdurdod lleol Cymru â'r gyfran isaf o bobl â hunaniaeth “Cymreig” yn unig oedd Sir y Fflint (34.7%) ar y ffin â Lloegr o dipyn i beth. Roedd y canran o bobl a nododd “Cymreig” yn unig fel hunaniaeth yn uwch ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru nag yn unrhyw awdurdod lleol yn Lloegr.

Gwelwyd cynnydd mewn pedwar awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru yng nghyfrannau'u poblogaethau a ddewisodd “Cymreig” yn unig fel hunaniaeth yn 2021: mae Ynys Môn (cynnydd o 0.9 pwynt canran i 55.6%), Sir Ddinbych (cynnydd o 0.6 pwynt canran i 44.7%), Conwy (cynnydd o 0.4 pwynt canran i 42.0%) a Gwynedd (i fyny 0.2 pwynt canran i 59.3%). Heblaw am Ceredigion, lle na welwyd fawr o newid, fe wnaeth cyfran y rheini a ddewisodd “Cymreig” yn unig fel hunaniaeth ostwng ym mhob awdurdod lleol arall rhwng 2011 a 2021. Yr awdurdodau lleol a welodd y gostyngiadau mwyaf oedd Casnewydd (gostyngiad o 4.6 pwynt canran i 50.9%), Blaenau Gwent (gostyngiad o 4.5 pwynt canran i 68.0%) a Chaerdydd (gostyngiad o 3.7 pwynt canran i 46.7%).

Ffigur 6: Cyfran y bobl sy'n nodi “Cymreig” yn unig fel hunaniaeth yn ôl awdurdod lleol, 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y map.

Mae'r map hwn yn dangos cyfrannau pobl mewn awdurdodau lleol a nododd hunaniaeth "Gymraeg" yn unig yn 2021. Roedd rhai o'r ardaloedd â'r canrannau uchaf o'r boblogaeth yn nodi fel hyn yng nghymoedd De Cymru.

Mewn cyferbyniad, gwelodd pob awdurdod lleol gynnydd yng nghyfran y bobl a ddewisodd “Cymreig” a “Prydeinig”, gyda’r cynnydd mwyaf yn Nhorfaen (i fyny 1.9 pwynt canran i 10.1%), Rhonda Cynon Taf (i fyny 1.6 pwynt canran i 9.8%) a Chonwy (i fyny 1.4 pwynt canran i 5.8%).

Yn yr un modd, fe wnaeth cyfran y bobl a nododd “Prydeinig” yn unig gynyddu ym mhob awdurdod lleol rhwng 2011 a 2021, a nododd oddeutu chwarter y bobl “Prydeinig” yn unig yn Sir Fynwy (27.0%), Sir y Fflint (25.8%), Powys (24.4%) a Chonwy (24.3%). Roedd y gyfran isaf o hunaniaethau “Prydeinig” yn unig ym Merthyr Tydfil (10.9%).

Caerffili (98.4%), Ynys Môn (98.2%) a Thorfaen (98.1%) oedd y cyfrannau uchaf o bobl a roddodd o leiaf un hunaniaeth o’r DU, a Chaerdydd (90.0%), Casnewydd (92.8%), Abertawe a Wrecsam (94.1% yr un) oedd â'r cyfrannau lleiaf. Caerdydd (12.5%), Casnewydd (8.8%) ac Abertawe (7.4%) oedd â'r cyfrannau uchaf o bobl a roddodd o leiaf hunaniaeth heb fod o’r DU.

Roedd y crynoadau uchaf o bobl a nododd “Pwylaidd” yn Wrecsam (2.4%), Merthyr Tudful (1.9%) a Sir y Fflint (1.4%). Roedd o leiaf 0.5% o boblogaeth wyth awdurdod lleol arall (Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Casnewydd, Blaenau Gwent, Abertawe, Caerdydd, Powys a Phen-y-bont ar Ogwr) wedi nodi “Pwylaidd”.

Roedd crynodiadau nodedig eraill o grwpiau hunaniaeth cenedlaethol heb fod o’r DU yn cynnwys Tsieineaidd (0.6%) ac Indiaidd (0.7%) yng Nghaerdydd, “Rwmanaidd” yng Nghasnewydd a Sir y Fflint (0.6% yr un), “Portiwgalaidd” yn Wrecsam (0.6%) a Merthyr Tudful (0.5%), a “Gwyddelig” yng Nghonwy (0.5%).

Iaith

Yng Nghymru, gofynnwyd i bobl oedd eu prif iaith yn unrhyw beth heblaw Cymraeg neu Saesneg. Felly, nid oes modd pennu o'r cwestiwn hwn faint o bobl yng Nghymru a oedd yn ystyried y Gymraeg fel eu prif iaith. Roedd cwestiwn ar wahân i bobl yng Nghymru yn gofyn iddyn nhw am eu gallu yn y Gymraeg. Ni ofynnwyd y cwestiwn hwn yn Lloegr. Byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth am sgiliau Cymraeg yng Nghymru ar 6 Rhagfyr 2022.

Fodd bynnag, nid oedd y Gymraeg wedi’i chynnwys yn y testun blwch ticio ar gyfer prif iaith yn Lloegr, a oedd yn ei gwneud yn bosibl pennu faint o breswylwyr arferol yn Lloegr a ysgrifennodd mai’r Gymraeg yw eu prif iaith. Yn 2021, dywedodd 7,000 o bobl yn Lloegr (llai na 0.1%) mai’r Gymraeg oedd eu prif iaith. Roedd y cyfrannau mwyaf o bobl a ddewisodd y Gymraeg fel eu prif iaith (0.1% yr un) ym Mhryste, Gorllewin Swydd Gaer a Swydd Gaer, Swydd Amwythig a Lerpwl .

Gofynnwyd i bobl yng Nghymru na wnaeth ddewis Cymraeg na Saesneg fel prif iaith nodi pa mor dda yr oeddent yn gallu siarad Saesneg. Roeddent yn gallu dewis naill ai "Da iawn", "Da", "Ddim yn dda" neu "Ddim o gwbl”. Roedd hyn yn caniatáu i bobl nad oedd wedi nodi Cymraeg neu Saesneg fel eu prif iaith, ond a oedd efallai’n rhugl yn Saesneg, nodi eu bod yn gallu siarad Saesneg yn dda neu'n dda iawn.

Iaith yng Nghymru

Yng Nghymru, roedd 96.7% o breswylwyr arferol (2.9 miliwn) tair oed a throsodd yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel eu prif iaith, i lawr ychydig o 97.1% yn 2011. Roedd hyn yn gyfran uwch nag ym mhob rhanbarth yn Lloegr.

O'r 101,000 o bobl yng Nghymru wnaeth ddim dewis Cymraeg na Saesneg yn brif iaith yn 2021, dywedodd 78.0% (78,000) eu bod yn gallu siarad Saesneg yn dda neu'n dda iawn, yn debyg i 2011 (77.1%, 65,000). Roedd 22.0% o'r bobl na wnaeth ddewis Cymraeg na Saesneg yn brif iaith ddim yn gallu siarad Saesneg yn dda iawn neu o gwbl (22,000 o unigolion).

Ffigur 7: Y 10 iaith fwyaf cyffredin heb gynnwys Cymraeg a Saesneg yng Nghymru, 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart bar hwn yn dangos y 10 prif iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg yr adroddir amlaf yng Nghymru yn 2021. Fel yn 2011, Pwyleg oedd y brif iaith fwyaf cyffredin ar ôl y Gymraeg neu'r Saesneg

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Fel yn 2011, Pwyleg oedd y brif iaith fwyaf cyffredin yn 2021 ar ôl Cymraeg neu Saesneg, ar gyfer 0.7% o'r boblogaeth (21,000). Mae hyn yn gynnydd ers 2011 (17,000, 0.6%). Arabeg oedd y brif iaith fwyaf cyffredin nesaf yng Nghymru (9,000, 0.3%), cynnydd o 0.2% yn 2011.

Yn ogystal ag ieithoedd llafar, Iaith Arwyddion Prydain (BSL) oedd dewis iaith 900 (0.03%) o’r preswylwyr arferol tair oed a throsodd ar draws Cymru. Mae hyn yn gynnydd bach o 800 yn 2011. Fe wnaeth 300 o breswylwyr arferol pellach a ddewisodd iaith nad yw’n iaith lafar fel eu prif iaith nodi iaith arwyddion neu system gyfathrebu heblaw Iaith Arwyddion Prydain.

Sut yr oedd iaith yn amrywio ar draws Cymru

Roedd y cyfrannau uchaf o bobl a oedd wedi nodi Cymraeg neu Saesneg fel eu prif iaith yn 2021 yn Ynys Môn (99.1%), Caerffili (98.8%), a Sir Benfro (98.6%). Er bod Ynys Môn a Chaerffili ymhlith y pedwar awdurdod lleol â'r cyfrannau uchaf yn 2011, Sir Benfro oedd â'r wythfed gyfran uchaf cyn hynny. Fel yn 2011, roedd y gyfran o bobl a nododd Cymraeg neu Saesneg fel eu prif iaith yn is mewn awdurdodau lleol trefol, ac roedd y cyfrannau isaf ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru yng Chaerdydd (91.1%), Casnewydd (93.5%), Wrecsam (94.9%) ac Abertawe (95.2%).

Ynys Môn (99.1%), Sir Benfro (98.6%) a Gwynedd (97.5%) oedd yr unig awdurdodau lleol Cymraeg lle cynyddodd cyfran y bobl a nododd Cymraeg neu Saesneg fel eu prif iaith rhwng 2011 a 2021, gydag phob un ohonynt yn codi 0.1 pwynt canran. Ychydig iawn o newid a welwyd yn Sir Ddinbych (98.3%) a Ceredigion (97.1%) ers 2011, ac fe wnaeth y gyfran o’r boblogaeth a nododd Cymraeg neu Saesneg fel eu prif iaith ostwng ym mhob awdurdod lleol arall. Fe welwyd y gostyngiadau mwyaf yng Nghasnewydd (93.5%) a Sir y Fflint (96.3%), gydag gostyngiad o 1.6 pwynt canran ers 2011.

Ffigur 8: Cyfran y bobl nad ydynt yn siarad Saesneg a Cymraeg fel prif iaith yng Nghymru, yn ôl eu hyfedredd yn yr iaith Saesneg ac awdurdod lleol, 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart bar hwn yn dangos cyfran y bobl heb Saesneg na Chymraeg fel prif iaith ym mhob awdurdod lleol, a'u hyfedredd yn Saesneg. Roedd gan awdurdodau lleol trefol  gyfrannau uwch o bobl  nad Cymraeg  na Saesneg oedd eu prif iaith.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

O'r bobl nad oeddent wedi dewis Cymraeg neu Saesneg fel prif iaith, roedd y cyfrannau uchaf a oedd yn gallu siarad Saesneg yn dda neu'n dda iawn yng Nghaerdydd (6.9%), Casnewydd (5.0%), Wrecsam (3.8%) ac Abertawe (3.7%). Dyma hefyd oedd yr awdurdod lleol oedd â'r cyfrannau uchaf yn 2011. Ym mhob awdurdod lleol arall, roedd y gyfran yn llai na 3%.

Yr awdurdodau lleol â'r cyfrannau uchaf o bobl nad Cymraeg neu Saesneg oedd eu prif iaith ac nad oeddent yn gallu siarad Saesneg yn dda neu o gwbl oedd Caerdydd (1.9%), Casnewydd (1.5%), Wrecsam (1.3%), ac Abertawe a Merthyr Tydful (1.1% yr un). Mae’r gyfran hon wedi cynyddu yng Nghaerdydd, Casnewydd, Wrecsam ac Abertawe ers 2011. Ym Merthyr Tudful, roedd cyfran y bobl nad Cymraeg neu Saesneg oedd eu prif iaith ac nad oedd yn gallu siarad Saesneg yn dda neu o gwbl wedi gostwng o 1.3%.

Fel yn 2011, yr awdurdodau lleol yng Nghymru â'r gyfran uchaf o bobl wnaeth ddewis Pwyleg fel prif iaith oedd Wrecsam (2.5%) a Merthyr Tudful (1.9%). O'r holl brif ieithoedd heblaw Cymraeg neu Saesneg, yr iaith fwyaf cyffredin mewn unrhyw awdurdod lleol oedd Pwyleg yn Wrecsam. Fe welwyd y cynnydd mwyaf yn nifer y bobl a nododd Pwyleg fel eu prif iaith ers 2011 yn Sir y Fflint (cynnydd o 850 o bobl i 1.4%) a Chasnewydd (i fyny 800 o bobl i 1.0%).

Yr awdurdod lleol yng Nghymru â'r gyfran uchaf o siaradwyr Arabeg oedd Caerdydd (1.4%), a oedd hefyd yn wir yn 2011 (1.1%). Roedd hyn dros ddwywaith cyfran yr awdurdod lleol uchaf nesaf (Abertawe, 0.5%).

Mae poblogaethau nodedig eraill gyda phrif iaith nad yw o’r DU yn cynnwys y rheini lle mai’r prif iaith yw Tsieinëeg yng Nghaerdydd (0.7%), Bengali (gyda Sylheti a Chatgaya) yng Nghaerdydd (0.6%) a Chasnewydd (0.5%) a Phortiwgaleg yn Wrecsam a Merthyr Tydfil (0.5% yr un).

Yn rhai awdurdodau lleol, roedd hefyd poblogaethau nodedig a oedd yn siarad ieithoedd o ardaloedd daearyddol penodol. Yng Nghaerdydd oedd y gyfran uchaf o bobl oedd yn siarad ieithoedd Affricanaidd (0.5%), ieithoedd o orllewin neu ganol India (0.6%) ac unrhyw ieithoedd eraill o dde Asia (0.5%). Roedd gan nifer o awdurdodau lleol boblogaethau nodedig a nododd ieithoedd eraill o’r Undeb Ewropeaidd, ac roedd y gyfran uchaf yng Nghasnewydd (1.9%). Mae’r grwpiau hyn o ieithoedd yn eithrio’r ymatebion mwyaf cyffredin (er enghraifft, Pwylaidd fel iaith o’r Undeb Ewropeaidd).

Iaith y cartref

Ar y cyfan, yn 96.2% o gartrefi yng Nghymru (1.3 miliwn cartref), dywedodd pob preswylydd arferol mai Cymraeg neu Saesneg oedd eu prif iaith, sy'n gyfran lai nag yn 2011 (96.7%,). Mewn 1.5% (20,000) arall o gartrefi, dywedodd o leiaf un oedolyn ond nid pob oedolyn mai Cymraeg neu Saesneg oedd eu prif iaith ac mewn 0.5% (7,000) o gartrefi, ni wnaeth unrhyw oedolion ond o leiaf un plentyn ddweud mai Cymraeg neu Saesneg oedd eu prif iaith. Yn y 1.8% (25,000) o gartrefi a oedd yn weddill, nid oedd unrhyw breswylydd wedi dweud mai Cymraeg neu Saesneg oedd eu prif iaith, sy'n debyg i 2011 (1.7%, 22,000).

Yng Nghymru, roedd 3.8% (52,000) o gartrefi yn cynnwys preswylydd arferol nad Cymraeg na Saesneg oedd ei brif iaith, sy’n gynnydd o 0.6 pwynt canran ers 2011 (3.3%, 43,000).

Roedd cyfran y cartrefi lle’r oedd pob preswylydd arferol wedi dweud mai Cymraeg neu Saesneg oedd eu prif iaith yn amrywio o 98.8% yn Ynys Môn i 89.4% yng Nghaerdydd.

Crefydd

Cyflwynodd y cyfrifiad gwestiwn gwirfoddol am grefydd yn 2001. Yn data'r cyfrifiad, mae crefydd yn cyfeirio at ymlyniad crefyddol person ( Y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Dyma'r grefydd y maent yn cysylltu neu'n uniaethu â hi, yn hytrach na'u credoau neu eu harferion crefyddol gweithredol.

Dewisodd 2.9 miliwn o ymatebwyr yng Nghymru (93.7%) ateb y cwestiwn am grefydd yn 2021, a dewisodd 195,000 (6.3%) beidio ag ateb. Atebodd mwy o bobl nag yn 2011, pan wnaeth 2.8 miliwn (92.4%) ateb y cwestiwn am grefydd a dewisodd 234,000 (7.6%) beidio ag ateb.

Crefydd yng Nghymru

Yn 2021, roedd nifer y bobl yng Nghymru a ddewisodd “Dim crefydd” yn fwy na'r rhai a nododd unrhyw ymlyniad crefyddol unigol, gyda 46.5% o’r boblogaeth (1.4 miliwn) yn adrodd nad oedd ganddynt unrhyw grefydd. Mae hyn yn gynnydd o 14.5 pwynt canran ers 2011 (32.1%, 983,000). Gwelwyd y cynnydd hwn hefyd yn Lloegr (i fyny 11.9 pwynt canran dros y degawd i 36.7%), er mai’r rhai a nododd “Cristnogaeth” fel crefydd oedd y grŵp mwyaf yn Lloegr o hyd.

Ffigur 9: Cyfansoddiad crefyddol Cymru, 2011 a 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart colofn hwn yn dangos sut mae ymatebion i'r cwestiwn crefydd yn 2021 wedi newid ers 2011. Roedd cynnydd mawr yn nifer y bobl a adroddodd "Dim crefydd" yn cyd-fynd â gostyngiad yn nifer y bobl oedd yn nodi eu bod yn "Gristnogol".

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Ynghyd â’r cynnydd yn nifer y bobl a nododd “Dim crefydd”, roedd gostyngiad yn nifer y bobl a nododd “Cristnogaeth” fel crefydd. Yng Nghymru, roedd llai na hanner y boblogaeth (43.6%, 1.4 miliwn) wedi nodi “Cristnogaeth” fel crefydd yn 2021. Dyma oedd dros hanner yr ymatebion yng Nghyfrifiad 2011, ac felly roedd hyn yn ostyngiad o 14.0 pwynt canran dros y degawd o 57.6% (1.8 miliwn) yn 2011. Mae cyfran y bobl sy’n nodi “Cristnogaeth” fel crefydd yng Nghymru yn is nag yn Lloegr (46.3%), lle gwelwyd gostyngiad tebyg dros y degawd er mai “Cristnogaeth” yw’r ymateb mwyaf cyffredin o hyd yn 2021.

Yr ymlyniad crefyddol mwyaf nesaf yng Nghymru yw “Islam”, gyda 2.2% o'r boblogaeth (67,000) yn nodi’r ymlyniad hwn yn 2021. Mae hyn yn gynnydd o 1.5% (46,000) yn 2011.

Ychydig iawn o newid a welwyd ers 2011 yng nghyfrannau'r boblogaeth a ddewisodd grwpiau crefyddol eraill.

  • Nododd 12,000 o bobl eu bod yn “Hindŵaidd” (0.4%)
  • Nododd 10,000 o bobl eu bod yn “Fwdhaidd” (0.3%)
  • Nododd 4,000 o bobl eu bod yn “Sikhaidd” (0.1%)
  • Nododd 2,000 o bobl eu bod yn “Iddewon” (0.1%).

Gallai person adnabod ei grefydd drwy’r blychau ticio neu ei ysgrifennu drwy ddewis 'Unrhyw grefydd arall, nodwch’. Darllenwch y blog SYG ar y cwestiwn am grefydd yn y cyfrifiad am ragor o wybodaeth.

Yr ymatebion mwyaf cyffredin a ysgrifennwyd yng Nghymru oedd “Paganaidd” (5,000, 0.2%), “Ysbrydegol” (2,000, 0.1%), ac “Ysbrydol” (2,000, 0.1%).

Sut roedd crefydd yn amrywio ar draws Cymru

Fe wnaeth cyfran y boblogaeth a nododd “Cristnogaeth” fel crefydd ostwng ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru rhwng 2011 a 2021. Roedd y tri awdurdod lleol gyda'r gostyngiad mwyaf yng nghyfran y bobl a nododd “Cristnogaeth” ar draws Cymru a Lloegr i gyd yng Nghymru: Blaenau Gwent (o 49.9% yn 2011 i 36.5% yn 2021), Caerffili (o 50.7% yn 2011 i 36.4% yn 2021), a Merthyr Tudful (o 56.0% yn 2011 i 40.1% yn 2021).

Ffigur 10: Cyfran y bobl a nododd “Dim crefydd” yng Nghymru yn ôl awdurdod lleol, 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y map.

Mae'r map hwn yn dangos cyfran y bobl ym mhob awdurdod lleol sy'n adrodd "Dim crefydd" yn 2021. Roedd rhai o'r ardaloedd â'r canrannau uchaf o'r boblogaeth yn nodi fel hyn yng nghymoedd De Cymru.

Roedd yr awdurdodau lleol â'r gyfran uchaf o bobl a nododd “Dim crefydd” yn debyg iawn i'r rhai lle bu'r gostyngiad mwyaf yn y niferoedd a ddewisodd “Cristnogaeth” fel crefydd. Roedd y rhain yn cynnwys Caerffili (56.7% wedi nodi “Dim crefydd”), Blaenau Gwent (56.4%), a Rhondda Cynon Taf (56.2%).

Ardaloedd trefol Cymru oedd yn fwyaf amrywiol o ran crefydd. Er enghraifft, Caerdydd oedd â'r cyfrannau uchaf o bobl a nododd “Islam” (9.3%), Hindŵaeth (1.5%) a “Sikiaeth” (0.4%) fel crefydd, a'r ail gyfran uchaf o bobl a nododd “Bwdhaeth” (0.4%) fel crefydd. Casnewydd ac Abertawe oedd â'r ail a'r drydedd gyfran uchaf, yn y drefn honno, o bobl oedd a nododd “Islam” a “Hindŵaeth”. Yng Ngheredigion oedd y gyfran uchaf o’r boblogaeth a ddewisodd “Bwdhaeth” (0.5%) fel crefydd a chrefydd heblaw’r rheini oedd wedi’u cynnwys yn y blychau ticio (0.9%).

Crefydd yn y cartref

Yng Nghyfrifiad 2021 adroddwyd am y tro cyntaf ar gyfansoddiad crefyddol cartrefi a sut yr oedd hyn yn amrywio ar draws Cymru. Gall pob un o'r categorïau o gartref y sonnir amdanynt isod gynnwys pobl na wnaeth ddatgan crefydd.

Ar y cyfan, roedd 25.5% o gartrefi (344,000 o gartrefi) yn cynnwys mwy nag un aelod a oedd i gyd wedi nodi “Dim crefydd”, tra bod 26.4% (356,000) yn cynnwys aelodau gyda mwy nag un aelod a oedd i gyd wedi nodi’r un grefydd.

Yn 13.8% o gartrefi yng Nghymru (185,000), nododd yr aelodau gyfuniad o un grefydd a “Dim crefydd”, ac roedd 0.6% (8,000) wedi nodi o leiaf dwy grefydd wahanol. Roedd 1.8% o gartrefi (25,000) yn cynnwys aelodau nad oedd yr un ohonynt wedi datgan crefydd. Roedd y 31.9% arall (430,000) yn gartrefi un person.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

I gael gwybodaeth lawn am ansawdd a methodoleg, gan gynnwys geirfa, gweler adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Darllenwch mwy am yr ystyriaethau ansawdd penodol ar gyfer grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd (Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Darperir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd yn y fethodoleg Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Gall newid yn y boblogaeth mewn rhai ardaloedd adlewyrchu'r ffordd y gwnaeth pandemig y coronafeirws (COVID-19) effeithio ar y breswylfa arferol a ddewiswyd gan bobl ar Ddiwrnod y Cyfrifiad. Gallai'r newidiadau hyn fod wedi bod yn rhai dros dro i rai pobl ac yn fwy hirdymor i bobl eraill.

Bydd datganiadau pellach o ddata Cyfrifiad 2021 yn cael eu cyhoeddi o fis Tachwedd ymlaen, gan gynnwys gwybodaeth am bynciau fel y Gymraeg. I gael rhagor o wybodaeth am y data a'r dadansoddiadau fydd ar gael, gweler cynlluniau datganiadau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Geirfa

I gael geirfa lawn, gweler geiriadur Cyfrifiad 2021 yr SYG.

Grŵp ethnig

Y grŵp ethnig y mae'r person sy'n cwblhau'r cyfrifiad yn teimlo y mae’n perthyn iddo. Gallai hyn fod yn seiliedig ar ddiwylliant, cefndir teuluol, hunaniaeth neu ymddangosiad corfforol.

Gallai ymatebwyr ddewis un o 19 o gategorïau ymateb ar ffurf blwch ticio, gan gynnwys opsiynau i ysgrifennu ymateb.

Grwpiau amlethnig yn y cartref

Mae’n dosbarthu cartrefi yn ôl p’un a yw’r aelodau yn ystyried eu bod yn dod o’r un grwpiau ethnig neu rai gwahanol. Os oes grwpiau amlethnig yn bresennol, mae hyn yn nodi p'un a yw grwpiau ethnig yn amrywio rhwng cenedlaethau neu rhwng partneriaethau yn y cartref.

Preswylydd arferol

Preswylydd arferol yn y DU yw unrhyw un a oedd ar ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y DU ac wedi aros neu'n bwriadu aros yn y DU am 12 mis neu fwy, neu oedd â chyfeiriad parhaol yn y DU ac a oedd y tu allan i'r DU ac yn bwriadu bod y tu allan i'r DU am lai na 12 mis.

Hunaniaeth genedlaethol

Mae hunaniaeth genedlaethol person yn hunan-asesiad o’i hunaniaeth ei hun mewn perthynas â'r wlad neu wledydd y mae'n teimlo cysylltiad â nhw. Nid yw'n dibynnol ar grŵp ethnig na dinasyddiaeth.

Hyfedredd yn yr iaith Saesneg

Pa mor dda y mae pobl nad Cymraeg neu Saesneg (Saesneg yn Lloegr) yw eu prif iaith yn siarad Saesneg.

Iaith y cartref

Mae iaith y cartref yn dosbarthu cartrefi yn ôl y cyfuniad o oedolion a phlant yn y cartref sydd â’r Gymraeg neu’r Saesneg (neu Saesneg yn unig yn Lloegr) yn brif iaith. Mae iaith y cartref yn defnyddio'r diffiniad amgen o oedolyn a phlentyn a ddefnyddir mewn nifer fach o ganlyniadau'r cyfrifiad.

Prif iaith

Iaith gyntaf unigolyn neu’r iaith a ffefrir gan yr unigolyn.

Sawl prif iaith yn y cartref

Mae’n dosbarthu cartrefi yn p’un a yw’r aelodau yn siarad yr un brif iaith neu brif iaith wahanol. Os caiff sawl prif iaith ei siarad yn y cartref, mae’n nodi p’un a yw’n amrywio rhwng cenedlaethau neu rhwng partneriaethau yn y cartref.

Sawl crefydd yn y cartref

Mae’n dosbarthu cartrefi yn ôl p’un a yw’r aelodau’n perthyn i'r un grefydd, wedi nodi dim crefydd, heb ateb y cwestiwn, neu gyfuniad o’r opsiynau hyn. Roedd y cwestiwn hwn yn wirfoddol ac mae'r newidyn yn cynnwys pobl a atebodd y cwestiwn ochr yn ochr â'r rhai a ddewisodd beidio ag ateb y cwestiwn hwn.

Crefydd

Y grefydd y mae pobl yn cysylltu neu'n uniaethu â hi (eu hymlyniad crefyddol), p'un a ydynt yn ei harfer neu'n credu ynddi ai peidio.

Roedd y cwestiwn hwn yn wirfoddol ac mae'r newidyn yn cynnwys pobl a atebodd y cwestiwn, gan gynnwys ‘Dim crefydd’, ochr yn ochr â'r rhai a ddewisodd beidio ag ateb y cwestiwn hwn.

Mae'r newidyn hwn yn dosbarthu pobl i'r wyth opsiwn ymateb â blwch ticio. Caiff ymatebion ysgrifenedig eu dosbarthu yn ôl eu hymlyniad crefyddol “gwreiddiol”, gan gynnwys ‘Dim crefydd’, lle bo’n berthnasol.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r  Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau .

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2022 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Diben y rhain yw sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran 10(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn hefyd ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Andy O’Rourke
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SB 37/2022