Neidio i'r prif gynnwy

Strategaeth

Argymhellion:

1. Ein Gweledigaeth yw i Gymru gynhyrchu ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ynni yn llawn o leiaf a defnyddio cynhyrchu dros ben i fynd i'r afael ag argyfyngau'r hinsawdd a natur.  Byddwn yn cyflymu'r camau gweithredu i leihau'r galw am ynni a gwneud y mwyaf o berchnogaeth leol gan gadw manteision economaidd a chymdeithasol yng Nghymru.

2. Byddwn yn cynyddu cynlluniau ynni lleol i greu cynllun ynni cenedlaethol erbyn 2024, gan fapio'r galw am ynni yn y dyfodol a'r cyflenwad ar gyfer pob rhan o Gymru i nodi bylchau i'n galluogi i gynllunio ar gyfer system sy'n hyblyg ac yn glyfar - gan batru cynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol â'r galw am ynni.

3. Bydd ein cynlluniau ymgysylltu â'r cyhoedd a newid ymddygiad Sero Net Cymru yn helpu dinasyddion i gymryd camau i leihau'r galw, gwella effeithlonrwydd ynni a defnyddio ynni mewn ffordd sy'n cefnogi ein gweledigaeth.

4. Rydym am weld gwasanaeth cynghori hawdd ei ddefnyddio yn cael ei sefydlu i helpu pobl i ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon a gwella perfformiad clyfar eu cartrefi a'u busnesau yn ogystal â chyflenwad parod o gyflenwyr a gosodwyr systemau gwresogi carbon isel y gellir ymddiried ynddynt yng Nghymru. Byddwn yn cymryd camau gweithredu ychwanegol wrth i ni ddatblygu ein Rhaglen Cartrefi Clyd a’r Strategaeth Wres yn y dyfodol.

Grid

Argymhellion:

5. Byddwn yn cynyddu ein hymgysylltiad ag Ofgem i nodi anghenion buddsoddi Cymru, gan ganolbwyntio ar gadw gwerth yng Nghymru. Byddwn yn sefydlu gweithgor ar y cyd i edrych ar opsiynau ar gyfer cefnogi cysylltiadau grid newydd, hyblyg ar gyfer ynni adnewyddadwy ac atebion storio ynni.

6. Gan adeiladu ar Brosiect Grid Ynni'r Dyfodol, byddwn yn pwyso ar Ofgem i greu Pensaer System Ynni Cymru i oruchwylio:

  1. Hyblygrwydd ochr y galw, domestig, annomestig a phenodedig, gan gynnwys storio ynni
  2. Mapio aelwydydd tlawd o ran tanwydd (& trafnidiaeth) yn erbyn Gweithredwyr Rhwydwaith Dosbarthu (DNO) parthau rheoli cyfyngiadau cyfredol a rhagfynegol (lle mae gan yr ymateb ymhlith defnyddwyr/hyblygrwydd y gwerth mwyaf i’r system) gyda'r bwriad o ddefnyddio Technolegau Hyblygrwydd Carbon Isel i'r cartrefi a'r aelwydydd hyn o fewn y gymdeithas. 
  3. Atebion deallus ar gyfer trosglwyddo a dosbarthu gan gynnwys defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) i wneud y defnydd gorau o'r rhwydwaith presennol. Gan gynnwys datblygu gofynion, cyllid a bod yn agored i'r farchnad ar gyfer arloesi. Ymgysylltu a mewnbynnau sy'n ofynnol o bob rhan o'r diwydiant.
  4. Cefnogi achosion busnes ar gyfer cynllunio system gyfan a dwyn ynghyd gynlluniau ar draws De, Canolbarth a Gogledd Cymru
  5. Cystadleuaeth ar gyfer adeiladu rhwydwaith i leihau costau a chyflymu amseroedd adeiladu
  6. Datblygu cynllun system gyfan manwl sy'n cwmpasu trosglwyddo a dosbarthu
  7. Dylunio rhwydwaith ar y môr ar y Môr Celtaidd ac atgyfnerthiadau ar y tir. 

Cydsynio, trwyddedu a threfniadau cynghori ategol

7. Byddwn yn cynnal adolygiad o dystiolaeth a chyngor cydsynio a chefnogi, er mwyn sicrhau proses amserol a chymesur gan gynnwys:

  1. Adolygiad o'r prosesau trwyddedu morol, cydsynio a phrosesau cynghori ategol i ddileu rhwystrau, gan ddefnyddio gwaith grwpiau presennol 
  2. Adolygiad o anghenion ac opsiynau o ran adnoddau ar gyfer prosesau cydsynio a chynghori er mwyn cadw i fyny â'r twf mewn ynni adnewyddadwy, gan gynnwys adolygiad brys o anghenion o ran adnoddau ac opsiynau ar gyfer Rhaglen Ynni Adnewyddadwy ar y Môr CNC 
  3. Nodi bylchau tystiolaeth sy’n flaenoriaeth ar y môr ac ar y tir a dulliau o’u llenwi, er mwyn hwyluso'r broses ymgeisio 
  4. Adolygu a mapio'r broses i osodiadau ynni adnewyddadwy ar y tir gael trwydded amgylcheddol, gan ganolbwyntio ar dechnolegau sy'n datblygu 
  5. Nodi opsiynau ar gyfer rhyddhau capasiti ac ail-gyfeirio adnoddau i feysydd blaenoriaeth y cytunwyd arnynt.

Byddwn yn adrodd ar ein canfyddiadau yn ystod haf 2022, ac eithrio pwynt b. y byddwn yn adrodd arno yng ngwanwyn 2022. 

8. Byddwn, gyda CNC a rhanddeiliaid allweddol, yn nodi 'meysydd adnoddau strategol' morol erbyn 2023 ac yn rhoi canllawiau i gyfeirio meysydd priodol ac amhriodol ar gyfer datblygu gwahanol dechnolegau ynni adnewyddadwy. Bydd ein polisïau cynllunio morol, trwyddedu a chadwraeth forol yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu llwybr ar gyfer datblygiadau adnewyddadwy morol. 

9. Wrth inni fynd ar drywydd datganoli Ystâd y Goron, byddwn yn symleiddio'r broses ar gyfer datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy'r Môr Celtaidd gan gynnwys dirprwyo pwerau cynghori ar y môr gan y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) i CNC.

Cyllid

Argymhellion:

10.  Byddwn yn sefydlu grŵp arbenigol i edrych ar ffyrdd o sicrhau buddsoddiad ychwanegol mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Byddwn yn blaenoriaethu perchnogaeth leol a chymunedol er mwyn sicrhau'r gwerth economaidd a chymdeithasol mwyaf posibl.

11. Byddwn yn ceisio creu cynghrair gyda Llywodraethau datganoledig i sicrhau bod proses Contract ar gyfer Gwahaniaeth (CfD) Llywodraeth y DU yn esblygu'n briodol i:

  1. adlewyrchu blaenoriaeth datblygu'r gadwyn gyflenwi a
  2. sicrhau llwybr datblygu cydlynol a chytbwys ar gyfer technolegau masnachol a thechnolegau sy'n datblygu.

12. Byddwn yn edrych ar yr opsiynau i gefnogi cynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol a chymunedol drwy Ardrethi Annomestig.

13. Bydd gweithgor yn cael ei sefydlu i adolygu opsiynau ar gyfer sut y gall caffael gefnogi cyflymu cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru er mwyn sicrhau'r gwerth economaidd a chymdeithasol lleol mwyaf posibl i gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  1. Gwella polisi caffael i ymgorffori gwerth cymdeithasol gan gynnwys archwilio gyda datblygwyr masnachol sut y gallant ddiwallu anghenion lleol orau.
  2. Opsiynau ar gyfer defnyddio pŵer prynu'r sector cyhoeddus yng Nghymru i gefnogi llwybrau dibynadwy i'r farchnad ar gyfer prosiectau ynni cymunedol a'r sector cyhoeddus, gan gynnwys drwy Gytundebau Prynu Pŵer hirdymor.
  3. Sut y gall gwasanaethau cyngor a chymorth gynorthwyo datblygwyr ynni cymunedol yn well i fanteisio ar gyfleoedd yn y farchnad.
  4. Sut i ymgysylltu'n well â'r sector ynni cymunedol yn Rhaglen ariannu Cymru.
  5. Sut y gellir lledaenu arfer gorau gan gynnwys bwydo i mewn i grŵp arfer gorau Llywodraeth Cymru neu'r Ganolfan Ragoriaeth Gaffael os caiff ei sefydlu.

Cyfleoedd i gynyddu Ynni Cymunedol a lleol yng Nghymru

Argymhellion:

14. Byddwn yn cynyddu adnoddau i gefnogi ynni adnewyddadwy cymunedol a lleol yng Nghymru gan gynnwys:

  1. O Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru gyda staff a chymorth ariannol i sicrhau darpariaeth ar gyfer datblygu prosiectau gwres, effeithlonrwydd ynni a thrafnidiaeth sy'n eiddo i'r gymuned (gyda pharhad ar gyfer trydan adnewyddadwy) a chymorth ar gyfer rhanberchnogaeth
  2. Camau gan y llywodraeth i annog datblygwyr preifat i gynnwys opsiynau ar gyfer rhannu perchnogaeth leol a chymunedol gan gynnwys drwy dendrau a gyhoeddir ar dir cyhoeddus.
  3. Cyllid Gan Lywodraeth Cymru i feithrin gallu ychwanegol mewn mentrau cymunedol i'w helpu i ddechrau graddio eu gwaith a mentora sefydliadau llai, i greu sector mwy a chynaliadwy.

15. Byddwn yn sicrhau bod y sector sy'n eiddo i'r gymuned yn cael ei gynnwys ac yn cyfrannu at Ynni Cymru gan ystyried y tri opsiwn canlynol:

  1. Mae gan y sector ynni cymunedol ran yn y datblygwr sy'n eiddo cyhoeddus 
  2. Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn sefydliad ynni cymunedol presennol i gyflawni'r gwaith hwn e.e., YnNi Teg, Egni neu Gydweithfa o Gydweithfeydd Ynni
  3. Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y datblygwr ynni sy'n eiddo cyhoeddus a datblygwr ynni sy'n eiddo i'r gymuned = dau gorff sydd ag adnoddau i ddatblygu prosiectau.

16. Byddwn yn gwella mynediad i'r ystâd gyhoeddus ar gyfer y sector ynni cymunedol drwy (a) bod gan fentrau cymunedol hawl i gael y cynnig cyntaf os na chânt eu datblygu gan gorff cyhoeddus (b) strwythuro prosesau tendro i ffafrio prosiectau / cynlluniau cymunedol o fewn y gymdeithas.

17. Byddwn yn cwblhau ac yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r canllawiau ar gydberchnogaeth, gan gynnwys yr hyn sy'n bodloni'r diffiniad o 'gydberchnogaeth', ac yn gweithio'n agos gyda datblygwyr preifat i sicrhau'r effaith fwyaf posibl. Byddwn yn cyhoeddi'r canllawiau yng ngwanwyn 2022.

Cyfleoedd i wneud y mwyaf o werth Economaidd a chymdeithasol yng Nghymru

Argymhellion:

18. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddod â buddsoddiad newydd i borthladdoedd yng Nghymru. Byddwn yn gweithio gyda phorthladdoedd yng Nghymru i nodi cyfleoedd ar gyfer arbenigo a chydweithredu, ac i sicrhau bod porthladdoedd Cymru yn barod ar gyfer buddsoddiad.  Rydym yn galw ar Ystâd y Goron a Llywodraeth y DU i wneud y mwyaf o werth cyfleoedd datblygu'r gadwyn gyflenwi a seilwaith yng Nghymru o'u cylchoedd prydlesu.

19. Wrth i ni ddatblygu cynllun gweithredu sgiliau sero net erbyn gwanwyn 2022 byddwn yn cefnogi mwy o gydweithio rhwng y diwydiant a sicrhau'r cyfleoedd mwyaf posibl i'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru.

20. Gan weithio gyda diwydiant, byddwn yn paratoi rhaglen waith i sicrhau cymaint o ynni adnewyddadwy, hyblygrwydd a storfeydd â phosibl ar safleoedd busnes a diwydiannol. Bydd y rhaglen yn edrych ar ffyrdd o gefnogi buddsoddiadau a sicrhau llai o risg.

Arloesedd

Argymhellion:

21. Byddwn yn galw ar Ofgem i ddatblygu rhanddirymiad rheoleiddiol yng Nghymru i alluogi model busnes ynni arloesol i gefnogi argymhellion ehangach yr Archwiliad Dwfn i Ynni Adnewyddadwy. Dylai amcanion y rhanddirymiad gynnwys:

  1. Cyflymu datblygiad ynni adnewyddadwy yng Nghymru
  2. Galluogi model busnes ynni arloesol
  3. Gwireddu manteision a chyd-fanteision ehangach ynni adnewyddadwy (o safbwynt Cymru a systemau ynni)
  4. Datgloi gwerth y system ynni, fel y galw hyblyg gan gwsmeriaid a masnachu gan gyfoedion a chyflenwad trydan lleol
  5. Ymgysylltu a diogelu buddiannau dinasyddion Cymru yn well.