Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer gwasanaeth negeseuon testun ac e-bost ynghylch gwarchod.
Daeth y cynllun cymorth ar gyfer unigolion sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol (pobl sy’n gwarchod eu hunain) i ben ar 31 Mawrth 2022. Bryd hynny, rhoddodd Llywodraeth Cymru y gorau i'r gwasanaeth hysbysu drwy SMS ac e-bost.
Er mwyn rhoi cymorth parhaus i bobl sy'n eithriadol o agored i niwed sydd wedi cael llythyr oddi wrth y Prif Swyddog Meddygol Cymru gyda chyngor gwarchod yn ystod y pandemig COVID-19 (y coronafeirws), hoffai Llywodraeth Cymru anfon diweddariadau e-bost neu negeseuon testun atoch mewn perthynas â gwarchod. Llywodraeth Cymru fyddai rheolwr y data ar gyfer yr wybodaeth gyswllt a ddarparwch (drwy'r ffurflen SmartSurvey ar-lein) a byddwn yn prosesu ar sail (eich) caniatâd wrth ei darparu inni er mwyn cael negeseuon. Er mwyn anfon y negeseuon atoch, bydd y manylion cyswllt a ddarparwch yn cael eu prosesu gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS), sy'n gweithredu'r system negeseuon GOV.UK Notify. Ni fydd eich manylion cyswllt yn cael eu rhannu y tu allan i Lywodraeth Cymru fel arall.
Gallwch ddewis peidio â derbyn rhagor o negeseuon testun neu E-bost ar unrhyw adeg drwy anfon e-bost UNSUBSCRIBE neu STOP i gwarchod@llyw.cymru. Os na fyddwch yn ddewis peidio â derbyn rhagor o negeseuon, bydd eich data personol yn cael ei gadw am hyd at 6 mis ar ôl codi'r cyfyngiadau ar symud ac epidemig y coronafeirws yn llawn. Ar ôl y cyfnod hwn bydd yn cael ei ddinistrio'n ddiogel. Byddwn yn parhau i gadw data ystadegol dienw at ddibenion ymchwil a gwerthuso, ond ni fydd yn bosibl adnabod unigolyn o'r wybodaeth hon.
O dan y GDPR, mae gennych yr hawliau a ganlyn mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych i’n galluogi i'ch cefnogi. Yn benodol, mae gennych yr hawl:
- i gael gweld copi o'ch data eich hun
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro unrhyw wallau yn y data hwnnw
- i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu (o dan amgylchiadau penodol)
- i fynnu bod eich data'n cael ei ddileu (o dan amgylchiadau penodol)
- i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 or 0303 123 1113.
Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych gwestiynau pellach am sut y bydd y data a ddarperir yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn :
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales