Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais am drwydded i bysgota am gregyn moch (Buccinum undatum) â photiau ym mharth Cymru yn ystod cyfnod y drwydded o 1 Mawrth 2023 i 29 Chwefror 2024.
Cyn i chi ddechrau
- rhaid mai chi yw perchennog neu siartrwr y cwch sydd â thrwydded i bysgota yn y DU
- rhaid ichi lenwi ffurflen gais ar gyfer pob cwch rydych yn pysgota â nhw
- bydd angen manylion y cwch arnoch, gan gynnwys rhif y drwydded bysgota
- bydd ffi yn cael ei chodi am y drwydded i dalu am gost gweinyddu, rheoli a monitro'r bysgodfa
Canllaw
Cewch ragor o wybodaeth yng Nghanllaw - Pysgodfa cregyn moch.
Os cewch chi drafferth i lenwi’r ffurflenni hyn, cysylltwch â ni:
- e-bost: milfordhavenfisheriesoffice@llyw.cymru
- ffôn: 0300 025 3500
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.