Neidio i'r prif gynnwy

Enillwyr

Abigail Gibbins - Materion Gwirfoddoli

Mae Abigail yn fyfyriwr gwaith ieuenctid sy'n gwirfoddoli ar gyfer prosiectau Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid Materion Gwirfoddoli ledled Gwent, a hi oedd Arweinydd Gwirfoddolwyr y prosiect peilot dan arweiniad pobl ifanc "Fy Iechyd Meddwl".

Cynorthwyodd bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) i ddatblygu pecyn cymorth hygyrch sy'n codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a phwysigrwydd lles pobl ifanc eraill ag ADY.

Gan ddefnyddio ei gwybodaeth am waith ieuenctid fel myfyriwr, hwylusodd Abigail sesiynau ar ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a grymusodd y bobl ifanc y bu'n gweithio gyda hwy i ddatblygu adnoddau deniadol, hawdd eu defnyddio a’u deall. Bu hefyd yn treialu ac yn darparu gweithdai dan arweiniad cyfoedion mewn canolfannau ieuenctid ac ysgolion uwchradd a defnyddiodd y profiad i greu achos busnes i gael cyllid pellach ar gyfer mentrau yn y dyfodol.

Roedd y beirniaid o'r farn bod ymdrechion Abi yn enghraifft wych o waith ieuenctid arloesol a thystiolaeth ardderchog o ddefnyddio sgiliau a phrofiadau pobl ifanc eu hunain i ddatblygu'r pecyn cymorth.