Os ydych chi wedi colli eich swydd, neu wedi dod yn ddi-waith, yn ystod y 12 mis diwethaf , neu os ydych chi o dan hysbysiad diswyddo cyfredol, gallech chi fod â hawl i gael cyllid ReAct i ailhyfforddi neu ddiweddaru eich sgiliau.
Dylech gysylltu â Cymru’n Gweithio i gael gwybodaeth, cyngor a chanllawiau am y cymorth sydd ar gael i chi. Ni all cynghorwyr Cymru’n Gweithio ddarparu gwasanaeth wyneb yn wyneb ar hyn o bryd, ond gallwch gael cyngor ar y ffôn yn 0800 028 4844.
Bydd cynghorwyr Cymru’n Gweithio yn darparu ferswin ddigidol i chi o ffurflen gais ReAct. Bydd eich cynghorydd yn eich helpu i gyflwyno’r ffurflen a’r dystiolaeth ategol i ni. Caiff pob cais ei ystyried fesul achos.
Cewch gadarnhad dros e-bost ei fod wedi dod i law o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Bydd ein penderfyniad yn eich cyrraedd o fewn 10 diwrnod gwaith. Bydd eich darparwr hyfforddiant hefyd yn cael gwybod.
Mae rhai cwestiynau cyffredin wedi eu hateb isod ynghylch rhaglen ReAct.
ReAct
Mae grant wedi ei roi ond nid yw'r hyfforddwr yn gallu darparu'r hyfforddiant
Byddwn yn anrhydeddu unrhyw grantiau sydd eisoes wedi’u dyfarnu. Os mai dim ond wyneb yn wyneb y gellir darparu eich hyfforddiant, er enghraifft cyrsiau peiriannau, byddwn yn cytuno i geisiadau i ohirio’r hyfforddiant hyd nes y bydd pethau wedi dychwelyd i drefn.
Byddwn yn ystyried ceisiadau i newid y dull hyfforddi fesul achos. Mae’n debygol y byddwn yn cytuno i drefniant ar-lein neu ddigidol i ddarparu hyfforddiant, er enghraifft drwy Skype.
Ni allwn ystyried ceisiadau i ddysgu o bell lle na all y darparwr hyfforddiant gynnig cyfle ichi drafod a chael cymorth ar-lein neu dros y ffôn.
Byddwn yn rhoi gwybod ichi am unrhyw newidiadau i’ch dyfarniad grant drwy e-bost o fewn 2 ddiwrnod gwaith i’ch cais.
Sut i hawlio treuliau ar ôl gorffen hyfforddiant
Byddwn yn gofyn i chi ac i’ch darparwr am gadarnhad eich bod wedi cwblhau’r hyfforddiant ac am nifer y diwrnodau hyfforddiant a gawsoch. Anfonwch gopi wedi’i sganio o’r ffurflen hawlio i reactenquiries@llyw.cymru neu gallwch ofyn am fersiwn Word.
Lle bo’n bosibl, dylech anfon tystiolaeth o’r treuliau a wariwyd. Os na allwch wneud hynny ar hyn o bryd, byddwn yn gofyn i chi eto cyn gynted ag y bydd pethau wedi dychwelyd i drefn.
Dylech gadw copïau caled o unrhyw ffurflenni hawlio rydym wedi’u hanfon atoch gan y gallem ofyn amdanynt unwaith y daw cyfnod y cyfyngiadau i ben.
Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am fwy o wybodaeth neu dystiolaeth i ategu eich cais unwaith y bydd pethau wedi dychwelyd i drefn.