Yn y canllaw hwn
1. Crynodeb
Horizon Europe yw'r rhaglen trawswladol fwyaf erioed sy'n cefnogi ymchwil ac arloesi. Mae'n cael ei rhedeg gan y Comisiwn Ewropeaidd tan 2027, ac mae ganddi gyllideb o €100 biliwn.
Y diweddaraf am y berthynas y DU â Horizon Europe.
Mae'r DU yn dal yn gymwys i gymryd rhan yn Horizon Europe. Mae gwybodaeth am gyfranogiad y DU yn y rhaglen ar gael yn sesiwn holi ac ateb y Comisiwn Ewropeaidd.
Mae'r UE yn dal i ffurfioli cysylltiad y DU. Os na fydd hyn yn llwyddiannus, mae rhaglenni amgen arfaethedig yn y DU.
Mae Llywodraeth y DU wedi gwarantu cyllid ar gyfer y don gyntaf a'r ail don o ymgeiswyr llwyddiannus i Horizon Europe na allant arwyddo cytundebau grant gyda'r UE cyn cysylltiad ffurfiol y DU â'r rhaglen.
Bydd cyllid yn cael ei ddarparu drwy UK Research and Innovation ac mae mwy o wybodaeth i'w gweld yng nghanllawiau gwarant Horizon Europe.