Neidio i'r prif gynnwy

Bydd pob coleg addysg bellach yn elwa ar gyfran o £4 miliwn o gyllid ar gyfer cymorth iechyd meddwl a llesiant―dyma sydd wedi’i gyhoeddi gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, ar ei ymweliad â Choleg Cambria yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y £4 miliwn yn gwella capasiti timau lles ym mhob coleg addysg bellach yng Nghymru, gan gynnwys recriwtio swyddogion cymorth llesiant. Bydd hefyd yn adeiladu ar lwyddiant mentrau blaenorol a gafodd eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ym maes iechyd meddwl a llesiant, fel cymorth cwnsela, hyfforddiant ar ymyrryd yn gynnar, recriwtio staff i annog gweithgareddau awyr agored a phrosiectau sy’n gweithio gydag elusennau iechyd meddwl.

Mae Coleg Cambria a Grŵp Llandrillo Menai wedi defnyddio cyllid iechyd meddwl a llesiant Llywodraeth Cymru i gydweithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu arferion sy’n ystyriol o drawma. Mae staff wedi’u hyfforddi i ddeall sut y gall trawma effeithio ar ddysgwyr a sut i ddarparu cymorth priodol.

Mae amgylchedd adeiladau’r coleg wedi’i drawsnewid i ddarparu hybiau llesiant sydd ag awyrgylch sy’n tawelu’r meddwl er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth ofalgar a llesiant. Mae gwybodaeth i gefnogi iechyd meddwl a llesiant ar gael yn rhwydd ac mae swyddogion llesiant wrth law i siarad â staff a dysgwyr.

Dolch i’r cyllid diweddaraf hwn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyflwyno’r dull gweithredu sy’n ystyriol o drawma i golegau addysg bellach eraill yng Nghymru.

Mae dros 1200 o ddysgwyr yng Ngholeg Cambria wedi elwa ar y mentrau hyn ac mae dros 800 yn cael cefnogaeth barhaus ar hyn o bryd. Ers 2020, mae 11 o aelodau staff newydd wedi’u recriwtio i gefnogi iechyd meddwl a llesiant staff a dysgwyr yn y coleg.

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae staff a dysgwyr Coleg Cambria yn mwynhau sesiynau llesiant sy’n amrywio o weithgareddau corfforol fel pêl-fasged, pêl-droed, dosbarthiadau beicio o dan do ac ioga, i weithgareddau llesiant eraill gan gynnwys sgiliau byw yn y gwyllt, origami a chwrdd â chŵn cymorth ynghyd â thylluanod a hebogiaid. Mae nifer o’r gweithgareddau hyn yn cael eu cefnogi gan fusnesau bach ac elusennau lleol.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i adeiladu ar y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud yn y sector addysg bellach i gwrdd â’r cynnydd yn y galw am gymorth iechyd meddwl yn dilyn y pandemig.

Dyna pam rwy’n cyhoeddi’r cyllid ychwanegol hwn i adeiladu ar y gwaith presennol ac i greu mentrau newydd i gefnogi iechyd a llesiant ein dysgwyr, er mwyn iddynt fod yn barod i ymroi i ddysgu a chael budd ohono. Mae gan bawb hawl i gael profiad hapus o fyd addysg.

Dywedodd Carlie Hughes-Lloyd, Swyddog Pontio Iechyd Meddwl a Llesiant yng Ngholeg Cambria, a benodwyd drwy gyllid iechyd meddwl a llesiant Llywodraeth Cymru:

Roeddwn i’n ddysgwr yng Ngholeg Cambria yn 2015 a bellach rydw i wedi dychwelyd gan ymuno â’r tîm llesiant. Mae yna wahaniaeth mawr erbyn hyn. Mae llawer mwy o gymorth ar gael i staff a dysgwyr; mae’n anhygoel gweld cymaint sydd wedi newid. Mae’r hybiau llesiant yn awyrgylch diogel gwych i bawb ac mae staff arbenigol ar gael i gefnogi pawb. Mae’n fraint cael bod yn rhan o’r newid sy’n digwydd a gallu cefnogi dysgwyr newydd wrth iddynt bontio i’r coleg.

Dywedodd Lizzie Stevens, Pennaeth Cynhwysiant Coleg Cambria:

Fel coleg, rydym wedi ymrwymo i sicrhau cynhwysiant i bawb. Rydym yn cydnabod y rhwystrau mae ein dysgwyr yn eu hwynebu, gan gynnwys afiechyd meddwl. 

Gyda chymorth Llywodraeth Cymru a’i Chronfa Iechyd Meddwl a Llesiant, gallwn ddarparu cymorth amserol a phwrpasol i’n dysgwyr, cyn iddynt ymuno â ni ac yn ystod eu cyfnod yma. Mae hyn yn cael ei gryfhau drwy ein dulliau gweithredu sy’n ystyriol o drawma, sydd wedi ein hannog i ystyried y modd rydym yn rhyngweithio â dysgwyr. Mae hyn hefyd wedi’i ymgorffori yn ein holl brosesau a pholisïau, gan adlewyrchu strategaeth y coleg a’i werthoedd.