Neidio i'r prif gynnwy

Fideos, digwyddiadau byw ar-lein a hyfforddiant sgiliau digidol ar y gwasanaeth digidol i ddarparwyr Cynnig Gofal Plant Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roedd y cyntaf o'r sesiynau hyfforddi hyn ar sut i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd.

Esboniodd yr ail gyfres o ddigwyddiadau byw sut i gadarnhau Cytundebau gyda rhieni.

Esboniodd y trydydd gyfres o ddigwyddiadau byw sut i lenwi taflenni amser a hawlio taliadau.

Rydym hefyd wedi gweithio gyda Chymunedau Digidol Cymru (prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru) i gynnig rhywfaint o hyfforddiant ar sgiliau digidol cyffredinol yn benodol ar gyfer darparwyr gofal plant. Mae'r sesiynau hynny ar gael ar ffurf fideos wedi'u recordio ymlaen llaw ac ar ffurf sesiynau hyfforddi byw gan ddefnyddio Zoom.

Yn ogystal, rydym yn gweithio'n agos ag awdurdodau lleol i sicrhau y bydd cymorth ar gael i'ch helpu i weithio gyda'r gwasanaeth newydd.