Neidio i'r prif gynnwy

Twf Swyddi Cymru Plws (TSC+)

Yn achos rhaglenni TSC+ yn unig, mae’n orfodol i’r contractwr sicrhau bod pob unigolyn ar y rhaglen yn gweld yr hysbysiad preifatrwydd yn ystod y cyflwyniad i’r cynllun datblygu unigol. 

Pob rhaglen arall

Mae’n orfodol i bob dysgwr weld hysbysiad preifatrwydd Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru yn ystod y broses gofrestru, ynghyd â’r unigolion hynny sydd eisoes wedi dechrau dysgu.

Hysbysiad Preifatrwydd Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru: Rhan Un (Fersiwn Fer)

Cyflwyniad

Mae'r rhaglen ddysgu yr ydych ar fin ymrestru ar ei gyfer yn cael ei hariannu naill ai'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru (LlC) neu'n rhannol drwy weithrediadau a gymeradwyir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) (drwy Lywodraeth Cymru). 

Er mwyn cymryd rhan yn y rhaglen hon, bydd yn rhaid i chi ddarparu data personol. Rydym yn dibynnu ar erthygl 6(1)(e) o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data fel sail gyfreithiol i brosesu eich data personol. Mae hyn yn caniatáu i ni fodloni ein dyletswyddau cyfreithiol a gweinyddu a monitro'r cyllid a ddarperir gennym. Pan fyddwch yn darparu gwybodaeth categori arbennig, fel ethnigrwydd, bydd yn cael ei phrosesu am resymau diddordeb cyhoeddus sylweddol (o dan Erthygl 9(2)(g) a dibenion ystadegol (o dan Erthygl 9(2)(j).

Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli unrhyw ddata personol a ddarperir gennych fel rhan o'ch cais am gyllid.

Os caiff eich rhaglen ei hariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, bydd eich darparwr dysgu yn gofyn i chi ddarparu tystiolaeth ychwanegol megis pasbort, slip cyflog diweddar neu dystysgrif cymhwyster. Cedwir copi o'r dystiolaeth hon gan eich darparwr dysgu at ddibenion archwilio gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, a bydd sampl o dystiolaeth dysgwyr ar draws darparwyr yn cael ei hanfon i Lywodraeth Cymru.

At ba ddiben y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich gwybodaeth?

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich data at ddibenion ariannu, cynllunio a datblygu polisi yn ogystal â monitro deilliannau dysgwyr (megis ennill cymwysterau, cynnydd dysgwyr a chyrchfannau).

Yn ychwanegol, bydd eich data yn cael eu defnyddio mewn ystadegau ac ymchwil swyddogol, gan gynnwys sut y mae iechyd ac amgylchiadau unigol yn cael effaith ar ddeilliannau addysgol dysgwyr yng Nghymru. Mae ein hadroddiadau ystadegau swyddogol yn rhoi darlun cyffredinol o ddysgwyr yng Nghymru, beth y maent yn eu hastudio, eu canlyniadau a'u cyrchfannau ar ôl iddynt adael. Er enghraifft, maent yn cynnwys, gwybodaeth am batrymau o ran rhyw ac oedran dysgwyr a'r cymwysterau, pynciau a'r lefelau y maent yn eu hastudio. Ni ellir adnabod dysgwyr unigol o'r cyhoeddiadau hyn.

Fel rhan o ffrwd cyflogaeth Twf Swyddi Cymru Plws (TSC+), defnyddir data i bennu taliadau cymhorthdal cyfradd cyflog Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod cyflogaeth, er mwyn sicrhau bod y cyflog cywir yn cael ei dalu i'r cyfranogwr. Bydd data cyflogwyr hefyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi, monitro a phennu cyrchfan y cyfranogwyr hynny drwy gyflogaeth.

Bydd sefydliadau ymchwil hefyd yn defnyddio data dysgwyr ôl-16 er mwyn gwerthuso rhaglenni a pholisïau addysg yng Nghymru. Fel rhan o'r gwaith gwerthuso, efallai y byddant yn cynnal arolygon dysgwyr dewisol, a fydd yn asesu effaith rhaglen ar y dysgwr unigol yn ogystal â chyfrannu at ddatblygu polisi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol; er enghraifft, sefydlu faint o dâl y mae prentisiaid yn ei gael, sydd yn ei dro yn cyfrannu at ddatblygu polisi ar isafswm cyflog cenedlaethol.

Er mwyn i Lywodraeth Cymru asesu'r effaith y mae eu rhaglenni yn ei chael ar grwpiau o ddysgwyr penodol, byddwn yn cysylltu'ch data gyda chofnodion addysgol eraill a gedwir gennym, megis y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion, Cronfa Ddata Arholiadau Cymru a’r Awdurdod Ystadegau Addysg Uwch. Rydym yn defnyddio hyn i'n helpu i ddeall cynnydd a deilliannau dysgwyr yng Nghymru, er mwyn llywio ein hymchwil, mesurau perfformiad a chyhoeddiadau ystadegol. Efallai y byddwn yn rhannu hyn hefyd gydag ymchwilwyr a chyda'n partneriaid, gan gynnwys Estyn a Cymwysterau Cymru, er mwyn eu cynorthwyo i gynnal eu dadansoddiad nhw o'r data i lunio arolygiadau ac adolygiadau. Ni ellir adnabod dysgwyr unigol o'r data hyn yr ydym yn eu rhannu â'n partneriaid.

Am restr fanylach o sut y mae eich data yn cael eu defnyddio, cyfeiriwch at y Rhan dau/fersiwn lawn o'r hysbysiad preifatrwydd hwn.

Pwy y mae Llywodraeth Cymru yn rhannu eich data â nhw a pham?

Ewch i weld y Rhan dau/fersiwn lawn o'r hysbysiad preifatrwydd am esboniad llawn o bwy rydym yn rhannu eich data â nhw a pham.

O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data gallwch:

  • weld y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch chi
  • ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gywiro unrhyw wallau yn y data hynny
  • gwrthwynebu unrhyw achos o brosesu’r data, am resymau’n ymwneud â’ch sefyllfa benodol chi (mewn rhai amgylchiadau)
  • cyfyngu ar waith prosesu (mewn rhai amgylchiadau)
  • gofyn i'ch data gael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Am ba mor hir y bydd Llywodraeth Cymru’n cadw eich data?

Y math o ddata

Cyfnod cadw data

Defnyddio’r data

Addysg Bellach a Dysgu Oedolion

Bydd eich data’n cael eu dileu ar ôl 10 mlynedd Mae’n galluogi Llywodraeth Cymru i ddadansoddi data dysgwyr a chreu adroddiadau dros gyfnod o amser. Bydd yr adroddiadau hynny yn cael eu defnyddio i helpu i lywio penderfyniadau ynghylch polisïau neu ragweld cyllid yn y dyfodol. Os caiff y dysgu ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, cedwir data fel bod modd eu gwirio a'u harchwilio. Yr Undeb Ewropeaidd sy'n penderfynu ar y cyfnodau amser ar gyfer cadw data.
Rhaglen Comisiynu Prentisiaethau Bydd eich data’n cael eu dileu 10 mlynedd ar ôl diwedd cyfnod y contract
Twf Swyddi Cymru Plws (TSC+) Bydd eich data’n cael eu dileu ar ôl 10 mlynedd  
Cedwir eich data am gyfnod hirach at ddibenion ystadegol a dibenion ymchwil.

Manylion cyswllt

I wybod mwy am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac at ba ddiben, neu os hoffech arfer eich hawl o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bostiwch: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

I gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, gweler y manylion isod:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
029 2067 8400 (llinell gymorth Cymru) neu 0303 123 1113 (llinell gymorth y Deyrnas Unedig)
Gwefan: https://ico.org.uk

Hysbysu ynghylch newidiadau

Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar Mawrth 2023 ac rydym yn ei adolygu'n gyson i sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn gywir. Byddwn wastad yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i'r defnydd a wnawn o'ch data drwy'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn a'ch darparwr. Bydd pob achos o brosesu data gan Lywodraeth Cymru yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gyfredol ym maes diogelu data.

Os hoffech beidio â chyflwyno eich data categori arbennig ar unrhyw adeg, dylech gysylltu â'ch darparwr dysgu a fydd yn diweddaru'ch cofnod.

Hysbysiad preifatrwydd Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru Rhan Dau (Fersiwn Lawn)

Pa wybodaeth bersonol amdanoch fydd yn cael ei chasglu a’i defnyddio gan Lywodraeth Cymru?

Cesglir data personol amdanoch gan y darparwyr ac fe'u hanfonir at Lywodraeth Cymru ar gyfer Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, y system gasglu data ar gyfer Addysg Bellach, Rhaglen Comisiynu Prentisiaethau a Dysgu Oedolion. Yn ôl diffiniad y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, eich data personol yw:

  • dynodydd unigryw'r dysgwr (sy'n cael ei greu gan Lywodraeth Cymru) 
  • rhif adnabod y dysgwr (a grëwyd gan eich darparwr dysgu)
  • cyfenw
  • enw(au) cyntaf
  • cyfeirio
  • cod Post
  • rhif ffôn
  • rhif Yswiriant Gwladol
  • cenedl
  • eich cyfenw yn 16 oed
  • dyddiad geni
  • hunaniaeth genedlaethol 
  • yr ysgol ddiwethaf yr aethoch iddi
  • y flwyddyn y gadawsoch yr ysgol
  • rhif dysgwr unigryw (a grëwyd gan y Gwasanaeth Cofnodion Dysgu) 
  • p'un a ydych yn weithiwr mudol
  • dangosydd anhawster neu anabledd dysgu
  • cod post (ar ddechrau'r rhaglen ddysgu)

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn prosesu'r data categori arbennig hyn am ddysgwyr:

  • ethnigrwydd
  • math o anabledd
  • cyflwr iechyd

Nid oes yn rhaid i chi ddarparu’r data hwn.

Gweler Atodiad A am restr o feysydd data amhersonol y mae Llywodraeth Cymru yn eu casglu.

Sut y bydd eich data’n cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru yn fewnol?

  • Mewn gwaith gwerthuso rhaglenni a phrosiectau, er mwyn llunio polisïau ar gyfer dysgu ôl-16 yn y dyfodol
  • Er mwyn mesur y deilliannau ar gyfer dysgu ôl-16, gan gynnwys cyflawniadau dysgwyr o ran cymwysterau, cynnydd a chyrchfannau
  • Er mwyn helpu i ddyrannu a monitro cyllid ar gyfer dysgu ôl-16, gan gynnwys dysgu a ariennir ar y cyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop
  • Gan archwilwyr Llywodraeth Cymru, sy'n gwirio'r data yn fisol er mwyn sicrhau bod darparwyr y Rhaglen Comisiynu Prentisiaethau yn cyflawni'r hyn a amlinellir yn eu contract neu'u cytundeb ariannu gyda Llywodraeth Cymru
  • Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth o ran dysgu ôl-16 drwy Gymru, er mwyn sicrhau cydymffurfedd â Deddf Cydraddoldeb 2010
  • Er mwyn creu ystadegau swyddogol dienw ynghylch dysgu ôl-16 yng Nghymru

Sut y bydd eich data’n cael eu defnyddio gan drydydd partïon?

  • Mae Llywodraeth Cymru yn cysylltu'ch data yn fewnol a chyda chyrff allanol y llywodraeth megis yr Adran Gwaith a Phensiynau, er mwyn asesu effaith rhaglenni dysgu fel prentisiaethau.
  • Gan gwmnïau ymchwil sy'n cael eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwaith gwerthuso ar raglenni fel Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau. Efallai y bydd hyn yn cynnwys cysylltu â dysgwyr o'r gorffennol a rhai cyfredol i gymryd rhan mewn arolygiadau, er y bydd gennych wastad yr opsiwn i wrthod cymryd rhan os cysylltir â chi.
  • Gan y Swyddfa ystadegau Gwladol, er mwyn cyhoeddi ystadegau crynswth mewn perthynas â’r economi, y boblogaeth a chymdeithas ar lefel y Deyrnas Unedig, Cymru a lefel leol. Cyhoeddir yr ystadegau hyn mewn modd sy’n sicrhau nad yw’n bosibl adnabod unigolion. Un o brif gynhyrchion ystadegol y Swyddfa Ystadegau Gwladol yw Cyfrifiad 2021. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn defnyddio’r data i wella cywirdeb Cyfrifiad 2021. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn defnyddio’r data i gynnal ymchwil, neu er mwyn rhoi data dienw i ymchwilwyr sydd wedi’u cymeradwyo (fel y’u diffinnir yn Neddf yr Economi Ddigidol), drwy ei hamgylchedd digidol diogel. Bydd prosiectau ystadegol y Swyddfa Ystadegau Gwladol a’r prosiectau ymchwil yn ymwneud â chysylltu data â ffynonellau data eraill er mwyn helpu i ddeall y cyswllt rhwng y system addysg a materion eraill, megis iechyd, lles neu’r economi. Cynhelir yr holl waith ystadegol ac ymchwil mewn ffordd sy’n cynnwys cynnal gwiriadau i sicrhau nad oes modd adnabod unigolion o ganlyniadau unrhyw ddadansoddiad.
  • Gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, a fydd yn gweithio ag Amgylchedd Ymchwil Ddiogel i gysylltu’ch data gyda gwybodaeth ddienw amdanoch sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, y GIG a sefydliadau cyhoeddus eraill, gan sicrhau nad oes modd adnabod unigolion o ganlyniadau unrhyw ddadansoddiad.
  • Gan Brifysgol Abertawe, mewn Amgylchedd Ymchwil Ddiogel, lle mae modd gwneud ymchwil gan ddefnyddio gwybodaeth ddienw a chynnal gwiriadau i sicrhau nad oes modd adnabod unigolion o ganlyniadau unrhyw ddadansoddiad. Bydd eich enw, eich cyfeiriad a’ch cod post wastad yn aros ar wahân i’ch data, ac ni fyddant ar gael yn yr Amgylchedd Ymchwil Ddiogel. Bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion ystadegol ac ymchwil yn unig. Un enghraifft o gwestiynau ymchwil allweddol a fydd yn cael eu hateb gan waith fel hyn yw sut y mae iechyd ac amgylchiadau unigol yn effeithio ar gyrhaeddiad dysgwyr yng Nghymru.
  • Gan Cymwysterau Cymru i gynnal dadansoddiad o nifer y dysgwyr ar lefel cymhwyster neu lefel sector, i helpu i lywio adolygiadau sector o gymwysterau.
  • Gan Estyn. Mae data ynghylch nifer y dysgwyr yn cael eu dadansoddi a’u defnyddio gan arolygwyr Estyn fel rhan o’u harolygiadau o’r dysgu a geir mewn sefydliadau addysg bellach, a gan ddarparwyr ddarparwyr y Rhaglen Comisiynu Prentisiaethau a darparwyr dysgu i oedolion.
  • Gan CThEF i nodi tandaliad i Brentisiaid Cymru. Bydd eich data yn cael eu defnyddio i nodi statws prentisiaeth ac oedran a fydd yn cael eu defnyddio i asesu eich hawl o ran Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
  • Gan Adran Addysg Llywodraeth y DU, er mwyn cysylltu cofnodion dysgwyr â chofnodion cyflogaeth, enillion a budd-daliadau a gedwir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, a hynny at ddiben nodi a dadansoddi i ba gyfeiriad y mae dysgwyr yn mynd o ran dysgu pellach a/neu gyflogaeth.
    Bydd Llywodraeth Cymru yn dadansoddi’r data cysylltiedig hyn yn fewnol, a bydd hefyd yn eu rhannu â chyrff cyhoeddus megis Estyn, Cymwysterau Cymru a CCAUC, neu gyrff ymchwil trydydd parti megis prifysgolion neu gwmnïau ymchwil cymdeithasol ac economaidd annibynnol. Pan rennir data cysylltiedig, cânt eu defnyddio i asesu effeithiolrwydd polisi ym maes addysg a hyfforddiant – er enghraifft, faint o bobl sydd â chymwysterau penodol sy’n mynd ymlaen i gael swyddi penodol, cymharu deilliannau pobl sy’n mynd at wahanol ddarparwyr addysg neu hyfforddiant, neu p’un a yw cynlluniau penodol wedi cyflawni’r hyn yr oeddent i fod i’w gyflawni.
  • Gan IFF Research sy’n cynnal arolygon ymchwil er mwyn rhoi darlun cyfredol o gyflogau prentisiaid yng Nghymru na thrwy Brydain Fawr ac i helpu o ran datblygu a monitro polisïau sy’n ymwneud â phrentisiaethau a’r isafswm cyflog cenedlaethol.
  • Gan KPMG, PwC, BTP Associates Ltd, Mazars ac RSM UK, archwilwyr cyllid addysg bellach, sy’n sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu asesu a yw data sy’n cael eu dychwelyd gan sefydliadau yn sail resymol ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch cyllid.
  • Gan Gyrfa Cymru, er mwyn cyflawni ei amcan o ddarparu cymorth i grwpiau penodol o unigolion sy’n wynebu risg uchel o ymddieithrio o addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.
    Defnyddir data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru er mwyn eu paru â chofnodion cleientiaid sydd gan Gyrfa Cymru eisoes.
    Bydd rhywfaint o’r wybodaeth amhersonol a ddarperir i Gyrfa Cymru ar gael i Gyrfa Cymru o ddydd i ddydd felly. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am gyrsiau, dyddiad cychwyn ac ati. Mae manylion ynghylch sut y bydd Gyrfa Cymru yn defnyddio eich gwybodaeth i’w gweld yn ei hysbysiad preifatrwydd.

* Prosesu data personol yn y fath fodd fel na ellir cysylltu dysgwr penodol â’r data hwnnw mwyach heb ddefnyddio gwybodaeth bellach.

Mae’r contractwyr trydydd parti canlynol yn gwneud gwaith paru data a dadansoddi ar ran Llywodraeth Cymru:

  • London Economics Ltd - paru’r un dysgwyr sy’n ymddangos mewn setiau data addysgol ar wahân (data'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion, Cronfa Ddata Arholiadau Cymru, Casgliad Ôl-16 a’r Awdurdod Ystadegau Addysg Uwch), sydd yn ei dro, yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i ddeall taith y dysgwyr drwy’r system addysg, a’u cyrchfannau ar ôl iddynt adael.

Mae’r broses o rannu data dysgwyr gyda chontractwyr trydydd parti o hyd yn ddarostyngedig i ofynion llym o ran cyfrinachedd a diogelwch ac mae’n rhaid i gontractwyr sy’n cynnal ymchwil ar ein rhan gydymffurfio â Chod Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth.

Cytundebau rhannu data

Mae gan Lywodraeth Cymru gytundeb rhannu data ffurfiol yn ei le pan fyddwn yn rhannu eich data gyda thrydydd parti. Mae rhan o’r cytundeb yn golygu y bydd yn rhaid i drydydd parti lofnodi cytundeb cyfrinachedd ynghylch eich data er mwyn dangos ei fod yn gweithredu gweithdrefnau boddhaol ar gyfer diogelwch gwybodaeth, y byddant ond yn defnyddio eich gwybodaeth mewn ffyrdd a ragnodir, ac y byddant yn dinistrio ei gopïau o’ch data pan na fydd arnynt angen y data mwyach.

Trefniadau diogelwch ar gyfer eich data a gedwir gan Lywodraeth Cymru 

Bydd y data y mae Llywodraeth Cymru yn ei gasglu amdanoch yn cael ei storio mewn cronfa ddata ddiogel y caiff mynediad iddi ei reoli ac y caiff profion eu cynnal yn rheolaidd arni er mwyn sicrhau ei diogelwch a’i hintegriti. 

Crynodeb o'r newidiadau i hysbysiad preifatrwydd CDGOC rhwng fersiwn 6.0 a 7.0

  • Geiriad y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedu ei ddiweddaru.
  • CThEM wedi ei ychwanegu i’r hysbysiad preifatrwydd.
  • Sail gyfreithiol categori arbennig wedi newid.

Atodiad A

Data amhersonol Nodiadau
Gwir oriau anghydamserol  
Gwir oriau cydamserol  
Oriau cydamserol disgwyliedig  
Oriau anghydamserol disgwyliedig  
Dangosydd achredu dysgu drwy brofiad blaenorol Cydnabod y sgiliau a'r wybodaeth y mae'r dysgwr eisoes wedi llwyddo i'w cael at ddiben cymhwyster 
Oriau gwaith gwirioneddol neu mewn canolfan

Cofnod o faint o amser y mae dysgwr yn debygol o dreulio gyda chyflogwr neu mewn coleg neu ganolfan ddysgu arall

Oriau cyswllt diwygiedig dan arweiniad neu mewn canolfan
Dysgu asesadwy P'un a yw'r dysgu'n asesadwy, ac yn caniatáu nodi gweithgareddau dysgu a ddylai gael dyfarniadau cysylltiedig
Dangosydd cyrhaeddiad  
Lefel credyd/gwerth dyfarniad  
Dynodydd cofrestriad am ddyfarniad Dynodydd ar gyfer pob cofrestriadam ddyfarniad ar gyfer y rhaglen ddysgu hon
Cyfeirnod nod dysgu dyfarniad Dynodydd ar gyfer gweithgaredd dysgu gan Gymwysterau Cymru neu god cyffredinol a ddiffinnir gan Lywodraeth Cymru
Cyfrifoldeb gofalu Cofnodi a oes gan ddysgwyr a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop gyfrifoldebau gofalu
Statws cwblhau  
Gwlad breswyl  
Lefel credyd/gwerth y gweithgaredd dysgu  
Dyddiad cychwyn a gorffen y gweithgaredd dysgu/rhaglen ddysgu  
Cyrchfan o fewn tri mis i adael  
Enw/cod post y cyflogwr  
Statws cyflogaeth ar ddechrau'r rhaglen ddysgu/cyn dysgu  
Amcan o oriau gwaith/mewn canolfan Yn cofnodi faint o amser y mae dysgwr yn debygol o dreulio gyda chyflogwr neu mewn coleg neu ganolfan ddysgu arall
Dyddiad gorffen disgwyliedig y gweithgaredd dysgu  
Oriau sy’n cael eu gweithio bob wythnos  
Statws yr aelwyd Cofnodi a yw dysgwyr a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop yn dod o aelwydydd di-waith
Y gyrchfan uniongyrchol Cyrchfan y dysgwr o fewn pedair wythnos i adael y rhaglen
Cyllid darpariaeth ddysgu  
Rhif nod dysgu Nodi gweithgaredd dysgu gan Gymwysterau Cymru neu god cyffredinol a ddiffinnir gan Lywodraeth Cymru
Cod rhaglen ddysgu/cyfeirnod gweithgaredd a ddefnyddir gan y darparwr  
Dyddiad gorffen disgwyliedig y rhaglen ddysgu  
Dynodydd y rhaglen ddysgu  
Cyfeirnod a ddefnyddir gan y darparwr  
Hyd y gyflogaeth gyda'r un cyflogwr  
Lefel y cymhwyster uchaf a gyflawnwyd cyn y rhaglen ddysgu  
Dangosydd anhawster neu anabledd dysgu  
Prif ffynhonnell y ffioedd  
Dull cyflwyno Cofnodi a yw'r dysgu yn cael ei gyflwyno mewn ystafelloedd dosbarth, yn y gweithle neu mewn ffyrdd eraill
Cod post (ar ddechrau'r rhaglen ddysgu)  
Dyddiad dechrau'r rhaglen  
Cyfran o'r gweithgaredd dysgu a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg  
Y darparwr dysgu  
Rheswm dros derfynu'r rhaglen ddysgu  
Canlyniad a dyddiad y canlyniad  
Codau fframwaith sector  
Maint y cyflogwr/cod busnes bach a chanolig (BBaCh)  
Is-gontractwr sy'n cyflwyno'r rhaglen  
Pwnc dysgu/enw'r dyfarniad/gweithgaredd dysgu  
Cyfanswm ffioedd a dalwyd am y rhaglen ddysgu  
Y cymhwyster iaith Gymraeg uchaf a gafwyd cyn y rhaglen ddysgu  
Math o raglen ddysgu/gweithgaredd dysgu/dyfarniad  
Math o ddysgu cyfrwng Cymraeg  
Cod awdurdod unedol  
Dangosydd siaradwr Cymraeg  
Oriau cyswllt dan arweiniad mewn gwaith neu ganolfan Yn cofnodi faint o amser y mae dysgwr yn debygol o dreulio gyda chyflogwr neu mewn coleg neu ganolfan ddysgu arall
Cyfeirnod y cyflogwr  
Dangosydd ffyrlo  

Dangosydd y cynllun datblygu unigol

 
Disgrifyddion gweithgarwch TSC+  
Cymorth gwladwriaethol