Julie Morgan AS Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Cynnwys

Cyfrifoldebau'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Cynnwys
Bywgraffiad
Cafodd Julie Morgan ei geni yng Nghaerdydd a’i haddysgu yn Ysgol Gynradd Dinas Powys, Ysgol Howell’s, King’s College Llundain, Prifysgol Manceinion a Phrifysgol Caerdydd. Bu’n weithiwr cymdeithasol ac yn rheolwr yng Nghynghorau De Morgannwg a Gorllewin Morgannwg, cyn cael ei phenodi’n Gyfarwyddwr Cynorthwyol gyda Barnardos. Bu’n Gynghorydd ar Gyngor Sir De Morgannwg nes iddi gael ei hethol yn Aelod Seneddol dros Ogledd Caerdydd ym 1997.
Yn ystod ei hamser yn San Steffan, cyflwynodd Julie dri Bil Preifat gan Aelod – un yn gwahardd smygu mewn mannau cyhoeddus, un yn rhoi’r bleidlais i bobl ifanc 16 oed, ac un ar gyfer atal pobl ifanc dan 18 rhag defnyddio gwelyau haul, a ddaeth yn gyfraith yn 2010.
Cafodd Julie ei hethol yn Aelod Cynulliad dros Ogledd Caerdydd yn 2011, a bu’n aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, y Pwyllgor Cyllid, a Phwyllgor yr Amgylchedd yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. Bu hefyd yn cadeirio saith o grwpiau trawsbleidiol a oedd yn ymdrin â meysydd megis plant, canser, a nyrsio a bydwreigiaeth. Yn ystod y Pumed Cynulliad, bu Julie yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Ar 13 Rhagfyr 2018, cafodd Julie ei phenodi’n Ddirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Penodwyd Julie yn Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar 13 Mai 2021.
Cyfrifoldebau
- Iechyd y Cyhoedd: Ymateb i COVID-19, sgrinio a brechu
- Darpariaeth a pherfformiad yn y GIG
- Gweithdrefnau uwchgyfeirio
- Derbyn ac ymateb i adroddiadau gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a'u llywio
- Goruchwylio perthynas Llywodraeth Cymru â Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â gweithgareddau'r GIG
- Hyfforddiant a datblygiad y gweithlu meddygol [ac eithrio blynyddoedd 1-5 Addysg Prifysgol Meddygon]
- Ymchwil a datblygu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
- Arloesi iechyd a digidol
- Gwasanaethau iechyd meddwl
- Atal hunanladdiad
- Dementia
- Awtistiaeth
- Effaith gamblo cymhellol ar iechyd
- Camddefnyddio sylweddau
- Iechyd y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr
- Iechyd y Cyhoedd: Gwasanaethau gwella iechyd a llesiant
- Strategaeth gordewdra
- Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, gan gynnwys diogelwch bwyd
- Bwyd sydd wedi'i addasu'n enetig (ac eithrio tyfu cnydau sydd wedi'u haddasu'n enetig)
- Profiad cleifion, cyfranogiad a llais y dinesydd
- Diogelu
- Gwasanaethau mabwysiadu a gofal maeth
- Eiriolaeth i blant a phobl ifanc, gan gynnwys cwynion, sylwadau ac eiriolaeth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Rhannu gwybodaeth o dan Ddeddf Plant 2004
- CAFCASS Cymru
- Polisi a goruchwylio holl weithgareddau’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru o ran gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys cyhoeddi canllawiau statudol
- Goruchwylio Gofal Cymdeithasol Cymru
- Rheoleiddio lleoliadau preswyl, gofal cartref, lleoliadau i oedolion, gofal maeth, darpariaeth gofal i blant dan 8 oed a gofal iechyd preifat
- Arolygu'r gwasanaethau cymdeithasol a ddarperir gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru, a llunio adroddiadau am yr arolygon hynny (drwy Arolygiaeth Gofal Cymru), gan gynnwys adolygiadau ar y cyd o wasanaethau cymdeithasol ac ymateb i adroddiadau
- Hawliau plant a phobl ifanc, gan gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn
- Blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae, gan gynnwys y cynnig Gofal Plant a'r gweithlu
- Addysg a gofal plentyndod cynnar
- Dechrau'n Deg ar gyfer plant 0-3 oed
- Teuluoedd yn Gyntaf a pholisïau chwarae