Neidio i'r prif gynnwy
Justine Fosh

Justine Fosh yw Prif Swyddog Gweithredol y Cogent Skills Group.

Mae Justine wedi ennill gradd mewn Cysylltiadau Diwydiannol a Marchnata o Brifysgol Strathclyde. Gan ddechrau ym maes rheoli brandiau, treuliodd 15 mlynedd yn gweithio mewn swyddi masnachol mewn cwmnïau, gan gynnwys:

  • Sara Lee
  • Grolsch
  • McCain
  • Uniq
  • McCormicks (Sbeisys)

Bu Justine yn Bennaeth Deall Cwsmeriaid a Chysylltiadau â Chwsmeriaid gyda learndirect. Ymunodd wedyn ag Improve, y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer bwyd a diod. Hi sefydlodd ei Academi Sgiliau Genedlaethol (NSAFD). Unodd y busnesau a daeth yn Brif Weithredwr. Llwyddodd i sicrhau mai’r NSAFD yw’r sefydliad y mae cwmnïau bwyd a diod yn troi ato os ydynt am gael cymorth a chyngor ar sgiliau.

Bu Justine yn goruchwylio’r broses o gaffael a datblygu'r sefydliad dyfarnu OAL, gan wneud hynny’n llwyddiannus. Mae bellach wedi symud i Cogent Skills, y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer Gwyddorau Bywyd, Gwyddorau Diwydiannol a niwclear.