Katie Palmer Rheolwr Rhaglenni, Synnwyr Bwyd Cymru

Katie Palmer yw Rheolwr Rhaglenni Synnwyr Bwyd Cymru.
Mae gan Katie MSc mewn Maeth o Goleg Kings Llundain ac mewn Polisi Bwyd o Brifysgol y Ddinas. Mae wedi gweithio ym maes bwyd ers dros 20 mlynedd ac mae ganddi brofiad yn:
- y sector preifat (Volac International), ac yn
- y trydydd sector a'r sector cyhoeddus (gan gynnwys 6 blynedd ar Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yr Asiantaeth Safonau Bwyd)
Sefydlodd Katie Synnwyr Bwyd Cymru yn 2018 (yn rhan o elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro). Datblygodd o waith y Lle Bwyd Cynaliadwy yng Nghaerdydd. Nod Synnwyr Bwyd Cymru yw:
- dylanwadu ar sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a'i fwyta yng Nghymru
- sicrhau bod bwyd a ffermio cynaliadwy wrth wraidd system fwyd deg, gysylltiedig a ffyniannus
Mae'n arwain ar nifer o raglenni'r DU yng Nghymru, gan gynnwys:
- Lleoedd Bwyd Cynaliadwy
- Digwyddiadau Bwyd am Oes
- Peas Please
- Hawl Plant i Fwyd
Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn aelod o:
- Gynghrair Gwrthdlodi Oxfam Cymru
- Cynghrair Polisi Bwyd Cymru, a ffurfiwyd yn ddiweddar
Ar hyn o bryd, mae Katie yn aelod o:
- Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru
- Bwrdd Gweithredu Pwysau Iach, Cymru Iach
- Un o’r aelodau a sefydlodd y Veg Power Board.
Mae hefyd yn aelod o Grŵp Cynghori CLlLC ar y Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol. Roedd yn un o'r tîm o bedwar a greodd y rhaglen Bwyd a Hwyl, sydd wedi ennill sawl gwobr, yng Nghaerdydd yn 2015.