Neidio i'r prif gynnwy
Ffotograff o Kelly Harris

Mae Kelly Harris yn weithiwr ieuenctid cymwysedig sydd wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc ers dros 20 mlynedd ar ôl cael ei hysbrydoli gan y gweithwyr ieuenctid a’i cefnogodd hi pan oedd yn berson ifanc bregus.

Gydag ymrwymiad cryf i hawliau plant a phlant yn cyfrannu, mae Kelly yn deall ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd gwaith ieuenctid, ac mae bob amser yn ceisio rhoi cyfleoedd i bobl ifanc gael dweud eu dweud.

Mae gan Kelly brofiad helaeth o weithio gyda gwahanol grwpiau o bobl ifanc ledled Cymru drwy ei swyddi presennol a chynt yn y sectorau gwirfoddol a statudol. Ar hyn o bryd mae Kelly yn gweithio i Brook - elusen iechyd rhywiol, lles a pherthnasoedd sy'n darparu addysg i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ar amrywiaeth o bynciau pwysig. Cyn hyn, bu Kelly yn gweithio yn Senedd Cymru gan helpu i sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru.

Mae Kelly yn Ymddiriedolwr ar gyfer y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol, yn aelod o’r Panel Cynghori i Oedolion ar gyfer Comisiynydd Plant Cymru ac yn asesydd ar gyfer Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.