Neidio i'r prif gynnwy

Mae asesiad risg newydd yn cael ei lansio heddiw i gefnogi pobl o gefndiroedd duon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn y GIG ac ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wedi’i ddatblygu gan y grŵp cynghori arbenigol, a sefydlwyd gan Brif Weinidog Cymru, bydd yr asesiad risg dau gam yn helpu i leihau’r risg i bobl ddal y coronaeirws yn y gweithle.  

Adnodd Asesiad Risg COVID-19 Gweithlu Cymru yw’r darn mawr cyntaf o waith gan y grŵp cynghori, a sefydlwyd er mwyn edrych ar y rhesymau pam mae pobl o gymunedau BAME yn cael eu heffeithio ar raddfa uwch gan y coronafeirws. Yn drist iawn, mae llawer o’r gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi marw o’r coronafeirws o gefndiroedd duon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. 

Fis Ebrill, lansiodd y Prif Weinidog ymchwiliad brys i ddeall y rhesymau dros y risg uwch i gymunedau BAME a sefydlodd y grŵp cynghori, yn cael ei gadeirio ar y cyd gan y Barnwr Ray Singh a Dr Heather Payne. Roedd yn cynnwys dau is-grŵp – un yn canolbwyntio ar yr asesiad risg gan yr Athro Keshav Singhal a’r ail yn edrych ar y ffactorau economaidd-gymdeithasol sy’n dylanwadu efallai ar ganlyniadau’r coronafeirws.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

Yn erbyn y cefndir o dystiolaeth gynyddol bod y coronafeirws yn cael mwy o effaith ar bobl o gefndiroedd BAME, mae’r grŵp cynghori wedi datblygu’r adnodd asesiad risg yma, ac rwy’n gobeithio y bydd yn helpu pobl i ddeall eu risg o haint a theimlo bod ganddyn nhw bŵer i weithredu i leihau’r risg honno.       

Mae Adnodd Asesiad Risg COVID-19 Gweithlu Cymru yn ganlyniad ymchwil ac ymchwiliad cyflym iawn gan y grŵp cynghori, ac rydw i’n ddiolchgar iawn am hynny.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething:

Mae Adnodd Asesiad Risg COVID-19 Gweithlu Cymru wedi cael ei ddatblygu i helpu pobl sy’n gweithio yn y GIG ac ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru i weld a oes ganddyn nhw fwy o risg o ddatblygu symptomau mwy difrifol os byddant yn dod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Rydyn ni eisiau helpu pobl i ddeall a ydynt yn wynebu mwy o risg a helpu cyflogwyr i roi camau gweithredu priodol ar waith yn seiliedig ar lefel risg pobl. Rhaid i bawb ddilyn y rhagofalon rheoli haint, fel hylendid dwylo a defnydd o gyfarpar diogelu personol, sy’n lleihau’r risg o gael eu heintio.     

Mae gan gyflogwyr ddyletswydd o ofal i warchod iechyd a diogelwch pobl yn y gwaith ac mae hyn yn cynnwys deall y risg ychwanegol o COVID-19. Mae’r ddyletswydd hon o ofal yn cynnwys sicrhau dull gweithredu cyfartal ar gyfer y staff i gyd. 

Dywedodd yr Athro Keshav Singhal MBE, FLSW:

Rydw i’n ddiolchgar iawn am y modd y mae’r Prif Weinidog wedi gweithredu heb oedi i sefydlu’r grŵp cynghori arbenigol gyda mandad i adnabod a lliniaru’r risg uwch i gymunedau BAME. Mae ein grŵp ni wedi gweithredu’n gyflym iawn gan gasglu’r dystiolaeth orau i feddwl am adnodd asesu risg hunanweithredol ar gyfer holl staff y GIG a’r maes gofal cymdeithasol o fewn pythefnos.

Mae’r adnodd asesu risg yma’n syml a hawdd ei ddefnyddio i gyflogeion ac i’r cyflogwr ac mae’n darparu llwybr clir i leihau risg ar gyfer y rhai sy’n wynebu risg uchel oherwydd eu hethnigrwydd neu gyfuniad o ffactorau amrywiol, gan gynnwys rhyw ac oedran.

Bydd lansio a rhoi’r adnodd hwn ar waith yn helpu i leddfu pryderon, yn enwedig ymhlith staff BAME, gan eu grymuso a’u cadw’n ddiogel rhag Covid-19 a helpu cyflogwyr i gyflawni eu rhwymedigaeth gyfreithiol, foesol a moesegol tuag at ddiogelwch eu staff.

Dywedodd y Barnwr Ray Singh CBE:

Ers i’r Grŵp Cynghori Covid-19 BAME gyfarfod am y tro cyntaf ychydig dros fis yn ôl, mae wedi gweithio’n ddiflino er mwyn datblygu Adnodd Asesiad Risg Cymru i ddiogelu rhag COVID-19 a rhoi sicrwydd i weithwyr rheng flaen Duon, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig yn y GIG ac ym maes gofal cymdeithasol, sydd wedi cael eu heffeithio ar raddfa uwch gan y feirws hwn. Rydyn ni’n gwybod bod mwyafrif y meddygon a’r nyrsys sydd wedi marw yn anffodus o COVID-19 yn dod o gefndir BAME.

Bydd yr adnodd hwn yn helpu i stopio rhagor o weithwyr a theuluoedd rhag mynd drwy’r un torcalon â’r gweithwyr dewr hynny sydd wedi aberthu eu bywydau yn ein gwarchod ni i gyd. Ni fyddwn yn eu hanghofio fyth ac estynnwn ein cydymdeimlad â’u teuluoedd.

Cynlluniodd yr is-grŵp asesiad risg yr asesiad dau gam y gellir ei ddefnyddio ar draws y GIG ac ym maes gofal cymdeithasol. Mae’n cynnwys tabl sgorio syml y gellid ei drosglwyddo ar gyfer ei ddefnyddio mewn gweithleoedd a sectorau eraill.

Gan drafod gyda’u rheolwr llinell, caiff pobl sy’n wynebu risg gynyddol gytuno ar addasiadau i’w trefniadau gwaith neu weithio o gartref.