Lesley Griffiths AS Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Cynnwys

Cyfrifoldebau'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.
Cynnwys
Bywgraffiad
Cafodd Lesley Griffiths ei magu yn y Gogledd-ddwyrain ac mae wedi byw a gweithio yn Wrecsam ers yn oedolyn. Mae ganddi ddwy ferch ac mae wedi bod yn llywodraethwr ysgol ac yn gynghorydd cymuned. Bu’n gweithio yn Ysbyty Wrecsam Maelor am ugain mlynedd. Cyn iddi gael ei hethol, bu’n gweithio fel cynorthwyydd etholaethol i Ian Lucas, AC. Fel rhywun sy’n gadarn o blaid datganoli i Gymru, chwaraeodd ran weithgar yn yr ymgyrch ‘Ie dros Gymru’ ym 1997. Mae’n aelod o undeb Unsain.
Fe’i hetholwyd yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2007 ac mae wedi gwasanaethu ar nifer o Bwyllgorau’r Cynulliad. Hi sefydlodd y Grŵp Hosbis Trawsbleidiol. Ym mis Rhagfyr 2009, fe’i penodwyd yn Ddirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau. Ar ôl ei hailethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2011, penodwyd Lesley Griffiths yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac ym mis Mawrth 2013, fe’i penodwyd yn Weinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth. Ym mis Medi 2014, fe'i penodwyd yn Weinidog Cymunedau a Threchu Tlodi. Ym mis Mai 2016, yn dilyn ei ail-etholiad, penodwyd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Penodwyd Lesley yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar 3 Tachwedd 2017. Ar 13 Rhagfyr 2018 penodwyd Lesley yn Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Penodwydd Lesley yn Weinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ar 13 Mai 2021.
Y tu allan i fyd gwleidyddiaeth, ei phrif ddiddordebau yw cerddoriaeth, cerdded a gwylio Clwb Pêl-droed Wrecsam. Bu Lesley, ar un adeg, yn un o gyfarwyddwyr etholedig Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam.
Cyfrifoldebau
- Y Rhaglen Datblygu Gwledig
- Polisi ffermio yn y dyfodol a thaliadau uniongyrchol i ffermwyr
- Datblygu’r sector amaethyddol, gan gynnwys cyflogau a sgiliau
- Datblygu’r sector bwyd-amaeth, cadwyni cyflenwi cysylltiedig, hyrwyddo a marchnata bwyd a diod o Gymru
- Iechyd a lles anifeiliaid
- Y Cynllun Dileu TB mewn Gwartheg
- Polisi ar dda byw, ffrwythloni artiffisial, dofednod, anifeiliaid anwes, ceffylau a gwenyn
- Polisi ar adnabod a symud da byw
- Polisi cofrestru daliadau
- Pysgodfeydd mewndirol, arfordirol a morol: rheoleiddio a gorfodi polisïau, gan gynnwys y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin a rheoli harbyrau pysgota
- Y pŵer i'w gwneud yn ofynnol i ddarparu gwybodaeth am bris cnydau
- Gwarchod a rheoli bywyd gwyllt, gan gynnwys rheoli plâu, chwyn niweidiol a fermin a rheoleiddio iechyd planhigion, hadau a phlaladdwyr
- Cnydau a addaswyd yn enetig
- Cofrestru, Gwerthuso, Awdurdodi a Chyfyngu ar Gemegau (REACH) a’r polisi Cemegau
- Parc Cenedlaethol newydd (Bryniau Clwyd)
- Gweinidog y Gogledd a Chadeirydd Pwyllgor Sefydlog y Cabinet ar y Gogledd
- Rheoli busnes y Llywodraeth yn y Senedd yn unol â'r Rheolau Sefydlog
- Darparu'r Datganiad Busnes wythnosol
- Cynrychioli'r Llywodraeth ar y Pwyllgor Busnes