Neidio i'r prif gynnwy

Annwyl Geraint,

Diolch am eich llythyr dyddiedig 21 Mehefin yn rhinwedd eich swydd fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni. Rwy’n ddiolchgar dros ben am yr ymdrechion, yr amser a’r ymroddiad y mae’r Grŵp wedi’i fuddsoddi yn y gwaith o ddatblygu cynigion polisi am drefniadau amgen ar gyfer cymwysterau’r haf hwn ac am eu cefnogaeth wrth fynd ati i’w rhoi ar waith.

Rwy’n croesawu y pwyslais pendant a roddwyd ar gefnogi lles dysgwyr yn ogystal â’u cynnydd, yr ystyriaeth fanwl a roddwyd i gydraddoldeb, y sylw parhaus i feichiau gwaith ac am ymdrechion y grŵp i greu dull gweithredu sy’n ddigon hyblyg i ymateb i amgylchiadau lleol, ond sydd ar yr un pryd yn darparu cysondeb a thryloywder er mwyn hybu tegwch a hyder y cyhoedd.

Rwy’n sylweddoli na fu hyn yn waith hawdd a’i fod ar brydiau wedi gofyn am drafodaethau manwl a newid dulliau o fynd ati – gan gynnwys ymateb yn gyflym i’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd wrth iddi waethygu. Rwy’n sylweddoli hefyd fod y gwaith wedi gofyn am lawer mwy o ymroddiad nag a ragwelwyd gan neb o’r aelodau yn wreiddiol. Credaf fod y cytundeb barn o ran cyngor polisi gan groestoriad o arweinwyr ysgolion a phenaethiaid colegau ledled Cymru, ochr yn ochr â chyngor arbenigol a chymorth Cymwysterau Cymru a CBAC, wedi bod yn hollbwysig wrth fynd ati i ddatblygu’r broses ar gyfer pennu graddau mewn canolfannau tra’n cynnal cydymdeimlad a chefnogaeth gyffredinol y sector ar yr un pryd. Rydw i’n hyderus ein bod wedi datblygu system sy’n dryloyw, yn deg ac y gallwn fod yn hyderus ynddi. Gall dysgwyr fod â ffydd yn y graddau a ddyfernir, ac felly hefyd y system addysg yn fwy eang a chyflogwyr y tu fewn a thu allan i Gymru.

Mae’r Grŵp yn adlewyrchu ystod eang o ysgolion a cholegau ar draws Cymru ac wedi cael y cyfle i weithio’n ddwys iawn ar y cyd â fy swyddogion, Cymwysterau Cymru a CBAC. Mae hyn yn golygu, yn fy marn i, fod gan y Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni ddealltwriaeth unigryw o’r heriau a’r cyfleoedd a wynebwn wrth geisio galluogi dysgwyr i wneud cynnydd a chynnal, ar yr un pryd, hygrededd ein system gymwysterau a ffydd ynddi. Felly, yn nhymor yr hydref, pan fydd y broses o bennu graddau gan ganolfannau wedi’i chwblhau, hoffwn wahodd y Grŵp i edrych ar y gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn academaidd hon a’r gwersi a’r cyfleoedd y gallwn gribinio ohono – wrth inni baratoi ar gyfer cymwysterau 2022, yn ogystal ag unrhyw ystyriaethau yn y tymor hwy ynghylch cyfleoedd ar gyfer cymwysterau wrth inni fwrw ymlaen â’r broses o ddiwygio’r cwricwlwm.

Hoffwn fynegi unwaith eto fy niolch i chi am eich rôl yn cadeirio’r Grŵp. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth na fu hon yn dasg heriol a’i bod wedi gofyn am gryn argyhoeddiad ac ymroddiad personol ar eich rhan. Hoffwn hefyd ddiolch i holl aelodau’r Grŵp am eu gwaith yn ystod y flwyddyn hon i gefnogi ein dysgwyr yn y blynyddoedd arholi – gan gydnabod eu bod wedi buddsoddi eu hamser a’u hegni yn hyn, a hynny tra’n cyflawni eu rolau prysur fel arweinwyr ysgolion a cholegau.

Yn gywir,

Image

 

Jeremy Miles AS/MS
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Minister for Education and Welsh Language