Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyhoeddwyr cymunedol annibynnol, sy’n cael eu galw’n gyhoeddwyr hyperleol hefyd, wedi derbyn hwb gwerth £200,000 heddiw, gyda Gweinidog yr Economi, Ken Skates, yn cyhoeddi cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r sector.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod y gronfa fydd rhoi cymorth i gyhoeddiadau sy'n annibynnol o fuddiannau gwleidyddol, masnachol a chrefyddol; sy'n canolbwyntio ar y gymuned ac yn cynhyrchu newyddion cyfoes. Bydd y cyllid ar gael i gyhoeddiadau Cymraeg argraffedig ac ar-lein sy'n gymwys, sydd wedi bod yn cyhoeddi'n weithredol yng Nghymru ers o leiaf chwe mis. 
 
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:

"Rydyn ni'n byw mewn byd lle mae mwy o newyddion a gwybodaeth ar gael nag erioed, gyda disgwyl y bydd y cyfryngau hyperleol yn datblygu ac yn cael eu diweddaru, yn aml heb lawer o adnoddau ariannol neu ddynol. Mae'r rhain yn fusnesau bach sydd fel arfer yn cyflogi llai na phedwar o bobl – ond maen nhw'n darparu gwasanaeth hanfodol i gymunedau hyd a lled Cymru. 
 
"Bydd y cyllid newydd hwn yn adeiladu ar ein hymrwymiad i gefnogi newyddiadurwyr sydd am sefydlu eu busnesau eu hunain ym maes newyddion hyperleol, ac rwy'n gobeithio, drwy ddatblygu sgiliau a rhwydweithiau ymhellach, y byddwn yn helpu i gynnal a thyfu'r sector, gan alluogi newyddiadurwyr hyperleol i ehangu eu cwmpas a'u cyrhaeddiad o fewn eu cymunedau.
 
"Mae'r rhain yn wasanaethau pwysig sy'n haeddu cael eu cydnabod, ac rwyf wrth fy mod ein bod yn gallu gwneud hynny heddiw." 

Gwnaeth Cyfarwyddwr y Rhwydwaith Newyddion Cymunedol Annibynnol (ICNN), Emma Meese, ganmol y Llywodraeth am ei hymrwymiad i newyddion hyperleol. 

Dywedodd: 

"Mae hyn yn gam mawr ymlaen wrth gydnabod gwaith amhrisiadwy newyddiadurwyr cymunedol annibynnol yng Nghymru. Gallai buddsoddi yn y sector hwn gael effaith wych ar newyddiaduraeth leol, mentrau lleol a chydlyniad cymdeithasol.

"Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Gronfa Newyddiaduriaeth Gymunedol Annibynnol yn cydnabod arloesi yn y sector a'i bod ar gael i'r rhai sy'n ei haeddu fwyaf, er mwyn helpu i gynnal, datblygu a thyfu eu cyhoeddiad."

Mae'r cyllid grant ar gael o 1 Ebrill 2019 am un flwyddyn, ac mae'n ychwanegol at y cymorth cyfredol sydd ar gael i fusnesau drwy Busnes Cymru.