Neidio i'r prif gynnwy

Sgwrs â’r teulu Jones, wrth i'w tri phlentyn ddychwelyd i'r ysgol a sut maen nhw i gyd yn ceisio llywio ‘y normal newydd' – gan weithio allan beth yn union yw hynny i'w teulu nhw.

Mae'r ’normal newydd' wedi bod yn anodd ei lywio.

Gyda gwersi nofio ar wahanol adegau a gwahanol ddiwrnodau ar gyfer y tri phlentyn, clwb theatr, gwersi gitâr, pêl-droed, a Brownis i fynd iddyn nhw – roedd fy mhen i’n troi ar ôl yr wythnos gyntaf ’normal'! Peidiwch â fy nghamddeall i, mae hi wedi bod yn wych gweld y plant yn mwynhau eu hoff weithgareddau eto ar ôl cyhyd, ond weithiau mae'n teimlo bod cymaint o bwysau i wneud y gorau ohoni, a mwynhau'r holl bethau rydym ni wedi methu â’u gwneud. O gofrestru’r plant ar gyfer dosbarthiadau drama a nofio ychwanegol a chymryd rhan yn y pantomeim sydd ar ddod, i dderbyn pob gwahoddiad sy'n dod ein ffordd ni!

Gormod o wybodaeth

Nid wyf i erioed wedi cael cymaint o negeseuon e-bost a negeseuon testun yn fy mywyd! Gyda phob gweithgaredd sy’n ailgychwyn daw llawer iawn o wybodaeth; gan gynnwys negeseuon am brotocolau Covid newydd – nodiadau atgoffa i wisgo masgiau, systemau unffordd gorfodol, ac amseroedd gollwng a chasglu wedi’u gwasgaru. Yna daw ‘Monitro ac Olrhain' – y ping ofnadwy ar fy ffôn yn gofyn i mi gasglu fy mhlentyn o'r ysgol a'i hebrwng am brawf PCR... neu fod swigen yn cau ac rydym ni nôl i addysgu gartref. Rwyf i mor ffodus fy mod i’n aros gartref i ofalu am y plant – yn wir, wn i ddim sut mae fy ffrindiau sy’n gweithio yn ymdopi â'r tarfu ar fywyd gwaith a threfniadau gofal plant. Mae’n rhaid ei bod yn gymaint o straen.

Mae'r Nadolig yn nesáu!

Wrth i’r Nadolig nesáu, rwy'n osgoi hysbysebion teledu, erthyglau cylchgronau, a phostiadau cymdeithasol yn fy ‘annog’ i frysio i brynu ‘pob tegan’, addurno'r tŷ yn berffaith, a phrynu fy nhwrci nawr neu bydd y Nadolig wedi’i ddifetha!

Rwy'n cynllunio’r dyddiau a’r wythnosau o'n blaenau gyda phwrpas, yn ceisio gwasgaru’r partïon a'r digwyddiadau cymdeithasol a sicrhau bod pob un ohonom ni’n cael digon o amser ymlacio fel teulu. Mae hi wedi bod yn flinderus ac weithiau rwy'n dal fy hun yn breuddwydio am y dyddiau symlach, ‘llai llawn’ y gwnaethom ni eu mwynhau gyda llai o ruthro a straen. Yn sicr nid y cyfnod clo llawn! Ond rhywbeth llai prysur, pan yr oedd fel pe baem ni’n sylweddoli faint o fwynhad oedd yn y pethau symlach – teithiau cerdded dyddiol, chwilio am gregyn ar y traeth, a bwydo'r adar. Gallwn ni barhau i fwynhau'r pethau hynny er gwaethaf yr adroddiadau newyddion ‘brawychus’ am brisiau tanwydd a nwy, prinder bwyd a sgrolio’r cyfryngau cymdeithasol yn dynghedus!

Amser gyda'n gilydd fel teulu

Wrth i bethau brysuro, mae hi wedi dod yn bwysicach byth neilltuo amser ar y cyd i fod gyda'n gilydd fel teulu. Mae'r plant yn sicr yn hapusach pan fydd ganddyn nhw seibiannau yn eu hwythnos. Mae amser gyda'n gilydd yn sgwrsio am ein diwrnod, yn tynnu lluniau o amgylch y bwrdd, neu'n chwarae gêm bwrdd teuluol ar ôl cinio yn rhoi'r amser hwnnw i ni orffwys ac ailgysylltu fel teulu.

Mae ein plant yn ffynnu ar drefn arferol, felly mae ei ‘normal newydd’ yn amlwg yn cynnwys yr holl weithgareddau allgyrsiol hynny sydd wedi ailgychwyn erbyn hyn, ond mae hefyd yn cynnwys amseroedd gwely rheolaidd, amser darllen neu dynnu lluniau tawel wedi'i amserlenni, bwyta gyda'n gilydd, a thrafod ein diwrnod – rwy’n dwlu ar glywed am weithgareddau a gemau'r plant yn yr ysgol a'r hyn y maen nhw wedi bod yn ei ddysgu.

Mae’r plant yn ymdopi’n hawdd!

Er bod ansicrwydd o hyd ynghylch mynd i’r ysgol, gweithgareddau allgyrsiol, hunanynysu, ac yn amlwg ‘dieithrwch’ mynd am brofion PCR a gwneud profion llif unffordd – mae'n ymddangos bod y plant yn ymdopi’n hawdd â phopeth hyd yn hyn. Rwy'n esbonio bod y profion yn angenrheidiol ac yn esbonio, trwy wybod a ydym ni’n sâl gyda'r feirws ai peidio, gallwn ni helpu i amddiffyn pobl eraill a'u cadw nhw’n ddiogel. Maen nhw’n deall hynny ac yn dymuno helpu.

Cymryd pethau un dydd ar y tro

Ar y cyfan, mae ein teulu ni wedi bod yn gadarnhaol iawn drwy gydol yr holl brofiad hwn ac rydym ni’n mwynhau'r pethau yr oeddem ni eisoes yn eu cymryd yn ganiataol – mae mynd nôl i'r theatr, y sinema, a gallu cynnal partïon pen-blwydd i'r plant ‘wyneb yn wyneb’ yn hytrach nag ar zoom, wedi bod yn wych.

Mae gwybod y gall fod cyfyngiadau eraill o'n blaenau ac na fyddwn ni’n gallu cynllunio ar gyfer pob posibilrwydd, yn golygu ein bod ni’n ceisio cymryd pethau un dydd ar y tro. Fy nghyngor i unrhyw riant arall a allai fod yn ei chael hi'n anodd ymdopi yn y cyfnod ansicr hwn, yw cadw at drefn arferol eich plentyn gymaint â phosibl. Gwnewch yn siŵr bod pawb yn cael digon o gwsg ac yn bwyta'n dda (neu cystal ag y byddai bwytäwr ffyslyd yn bwyta!); mynd allan bob dydd (yn arbennig o bwysig wrth i’r nosweithiau dywyllu gyda'r bonws ychwanegol bod mynd allan yn yr awyr agored yn helpu i leihau pwysau a rhyddhau rhywfaint o stêm, a’u blino nhw hefyd!).

Os ydych chi’n cael trafferth gydag unrhyw agwedd ar ofidio neu bryder, cysylltwch â ffrind, aelod o'r teulu, neu sefydliad sy'n gallu helpu, i gael sgwrs. Mae hi mor bwysig i ni i gyd rannu’r pethau sy’n pwyso arnom ni ac mae'n galonogol gwybod bod pobl eraill yn teimlo'r un ffordd.

Rydym ni’n byw mewn cyfnod ansicr ac mae cymaint o bwysau ar hyn o bryd, felly peidiwch â dioddef yn dawel.

Mae'n bosibl iawn y bydd y ‘normal newydd’ yn cymryd sbel i ddod i arfer ag ef, ond rwy'n gobeithio y byddwn ni’n ei ddatrys – gyda'n gilydd.