Mick Antoniw AS Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Cynnwys

Cyfrifoldebau'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Cynnwys
Bywgraffiad
Mynychodd Mick Antoniw Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd. Roedd yn gyfreithiwr gweithredol cyn cael ei ethol i'r Senedd yn 2011.
Rhwng Mehefin 2016 a Thachwedd 2017 gwasanaethodd Mick fel Cwnsler Cyffredinol. Ar 13 Mai 2021 penodwyd Mick yn Gwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
Cyfrifoldebau
- Rhoi cyngor cyfreithiol i’r Llywodraeth
- Goruchwylio gwaith yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol a Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol
- Goruchwylio erlyniadau ar ran Llywodraeth Cymru
- Goruchwylio’r gwaith o gynrychioli Llywodraeth Cymru yn y llysoedd
- Ystyried a oes angen i Filiau a basiwyd gan y Senedd gael eu cyfeirio at y Goruchaf Lys er mwyn penderfynu a ydynt o fewn cymhwysedd y Senedd (gwneir hyn yn annibynnol ar y Llywodraeth)
- Cyflawni swyddogaethau eraill er budd y cyhoedd gan gynnwys, pan fo’r Cwnsler Cyffredinol yn ystyried bod hynny’n briodol, cychwyn, amddiffyn neu ymddangos mewn unrhyw achosion cyfreithiol sy’n ymwneud â swyddogaethau Llywodraeth Cymru (gwneir hyn yn annibynnol ar y llywodraeth)
- Cydlynu â'r Sector Cyfreithiol
- Cadeirydd Pwyllgor Sefydlog y Cabinet ar y Rhaglen Ddeddfwriaethol
- Hygyrchedd Cyfraith Cymru
- Confensiwn Cyfansoddiadol a Materion Cyfansoddiadol
- Polisi etholiadau
- Polisi cyfiawnder ac ymateb i adroddiad y Comisiwn Cyfiawnder
- Cydlynu gwaith ar y Fframweithiau Cyffredin
- Deddf Marchnad Fewnol y DU
- Polisi tribiwnlysoedd
SYLWER. Gan nad yw'r Cwnsler Cyffredinol yn un o Weinidogion Cymru a benodir o dan a48 o Ddeddf Llywodraeth Cymru, nid oes modd i'r Cwnsler Cyffredinol arfer pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru. Bydd unrhyw fater sydd angen penderfyniad ffurfiol gan Weinidogion Cymru dan bŵer statudol yn cael ei arfer gan y Prif Weinidog neu Weinidog portffolio penodol.