Newidiadau yn amserlenni trwyddedau pysgota ac atodiadau sy'n weithredol o 00:01, dydd Sadwrn 1 Ebrill 2023.
Cynnwys
Newidiadau i fesurau draenogiaid môr – yn effeithio ar atodlen pob trwydded
Cychod sy’n defnyddio treillrwydi dyfnforol a rhwydi sân
Caniateir cadw ar fwrdd y cwch y canlynol yn unig:
- sgil-ddalfa anorfod o ddraenogiaid môr na fydd yn pwyso mwy na 5% o bwysau holl ddalfeydd organeddau morol fydd ar y bwrdd yn ystod un trip pysgota
- ddim mwy na 3.8 tunnell (3800kg) fesul cwch y flwyddyn
Cychod sydd wedi'u hawdurdodi i bysgota â rhwydi drysu gosod
Cychod ni chaniateir cadw ar fwrdd y cwch na glanio mwy na chyfanswm o 6.2 tunnell o ddraenogiaid môr y flwyddyn galendr.
Cychod sydd wedi’u hawdurdodi i bysgota â rhwydi drysu gosod
Cychod ni chaniateir cadw ar fwrdd y cwch sgil-ddalfa o fwy nag 1.6 tunnell o ddraenogiaid môr y flwyddyn galendr.
Rhywogaeth Waharddedig wedi’i thynnu o Ran I: Rhywogaethau na chewch bysgota amdanynt – yn effeithio ar atodlen pob trwydded
Manylion
Efallai na fyddwch yn pysgota Ci pigog (Squalus acanthias) mewn ardaloedd môr I, II, III, IV, V, VI, VII, VIII, XII a XIV.
Cyfyngiadau newydd ar bysgota am gŵn pigog – yn effeithio ar atodlen pob trwydded
Bob blwyddyn galendr caiff cwch pysgota gadw ar ei fwrdd a glanio gŵn pigog (Squalus acanthias) a ddelir yn:
- ardal y Gorllewin (ardaloedd ICES: 6, 7 ac 8; dyfroedd y Deyrnas Unedig a rhyngwladol 5; dyfroedd rhyngwladol 1, 12 ac 14), ac
- ardal Môr y Gogledd (ardaloedd ICES: dyfroedd y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd 4; dyfroedd y Deyrnas Unedig 2a)
cyn belled ag y bodlonir yr amodau canlynol wrth bysgota yn nyfroedd y DU a’r UE
- ni chaniateir cadw ar fwrdd y cwch na glanio fwy na 5 tunnell, pwysau byw, a ddelir yn ardal y Gorllewin fesul mis calendr
- gwaherddir cadw, trosglwyddo rhwng cychod a glanio sbesimenau mwy na 100cm o hyd o ben y cynffon i flaen y trwyn
Dyddiau ymdrech bysgota am gregyn bylchog Ch2 – yn effeithio ar atodlen trwydded pob cwch dros 10m
Pennir 70 diwrnod o ddyddiau ymdrech bysgota am gregyn bylchog yn nyfroedd y Gorllewin yn Ch2 (00.01awr 1 Ebrill 2023 – 25.59 30 Mehefin 2023).
Cau pysgodfa cregyn y frenhines – yn effeithio ar atodlen pob trwydded
Nid yw’r drwydded hon yn caniatáu pysgota am gregyn y frenhines (aequipecten opercularis) yn ardal ICES Via a VIIa rhwng 00:01 awr 1 Ebrill 2023 a 23:59 awr 30 Mehefin 2023.