Trefniadau Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) ar gyfer gŵyl banc ddiwedd mis Mai.
Bydd gŵyl banc ddiwedd mis Mai 2022 ar ddydd Iau 2 Mehefin a bydd gŵyl banc ychwanegol ddydd Gwener 3 Mehefin, i ddathlu Jiwbilî Blatinwm y Frenhines.
O ganlyniad i’r newid hwn, mae gŵyl fraint y Gwasanaeth Sifil, i ddathlu pen-blwydd y Frenhines, a oedd yn digwydd yn draddodiadol y dydd Mawrth ar ôl dydd Llun gŵyl y banc, wedi cael ei symud i ddydd Llun 6 Mehefin 2022.
Bydd PCAC ar gau ar gyfer busnes o ddydd Iau 2 Mehefin tan ddydd Mawrth 7 Mehefin.