Cwestiynau Cyffredin
Atebion i gwestiynau cyffredin a ofynnir yn aml i’r panel.
Cynnwys
A yw’r penderfyniadau a’r taliadau a bennir gan y panel yn orfodol?
Bob blwyddyn, bydd y Panel yn llunio adroddiad yn diweddaru ei Adroddiad ac yn nodi lefelau’r taliadau y mae gan gynghorwyr etholedig yr hawl iddynt.i ar gyfer aelodau awdurdod. Penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan y Panel yw’r rhain. Nid oes gan gynghorau’r pwerau i amrywio penderfyniadau, lefelau taliadau, na phenderfynu nad ydynt am wneud taliad. Rhaid i swyddogion y cyngor wneud trefniadau i sicrhau bod pob unigolynaelodau yn cael y taliad y mae ganddo’rganddynt hawl iddo. Ni cheir gweithredu gofyniad sy’n golygu bod angen i’r unigolyn wneud cais neu optio i mewn er mwyn cael ei dalu. Mae pob aelod etholedig ar draws Cymru â’r hawl i gael y taliadau a bennir gan y Panel, ac nid oes pŵer gan gynghorau i amrywio penderfyniadau, lefelau taliadau, na phenderfynu nad ydynt am wneud taliad.
Oes rhaid i Gyngor Tref/Cymuned neu Gymuned dalu i’wei aelodau?
Oes, mae’n rhaid i bob cyngor cymuned a thref sicrhau bodwneud taliad o £150 y flwyddyn ar gael i bob un o’u haelodau fel cyfraniad. Mae’r taliad hwn yn gyfraniad tuag at gostau a threuliau aelodau wrth gyflawni eu rôl etholedig. Gellir talu uwch daliad ychwanegol o £500 y flwyddyn i aelodau sydd â rolau uwch yn y cyngor. Rhaid i’r cynghorau mwyaf wneud o leiaf un uwch daliad. Gellir talu hyd at £1500 y flwyddyn yn ychwanegol i feiri neu arweinwyr. Gellir talu hyd at £500 y flwyddyn yn ychwanegol i’w dirprwyon.
A oes hawl gan aelod unigol i beidio â chymryd ei gyflog cyfan neu ran o’i gyflog?
Os nad oes angen taliad ar unigolyn, neu os nad yw am gael taliad cyfan neu ran o’i daliad, caiff atal neu leihau’r taliad hwnnw. Mae hwn yn benderfyniad personol gan yr unigolyn, ac mae’n rhaid i’r unigolyn roi gwybod amdano’n ysgrifenedig i’r swyddog perthnasol yn y cyngor. Ni ddylai cynghorau na grwpiau o gynghorwyraelodau geisio dylanwadu ar unigolyn, na roi pwysau arno, mewn perthynas â’r penderfyniad personol hwn.
Am beth all aelodau cyfetholedig hawlio?
Mae’n rhaid i awdurdodau lleol dalu ffi ddyddiol neu ffi hanner diwrnod i aelodau cyfetholedig â hawliau pleidleisio. Mae cyfarfodydd sy’n gymwys ar gyfer talu ffi yn cynnwys pwyllgorau, gweithgorau, rhag-gyfarfodydd gyda swyddogion, hyfforddiant, a phresenoldeb mewn cynadleddau ac unrhyw gyfarfod ffurfiol y gofynnir i aelodau cyfetholedig fod yn bresennol ynddo.
Mae amser paratoi rhesymol ar gyfer cyfarfodydd ac amser teithio i ac o gyfarfodydd yn gymwys i gael eu cynnwys mewn hawliadau gan aelodau cyfetholedig hefyd.
Gall awdurdodau lleol benderfynu ar uchafswm y diwrnodau y gellir talu i aelodau cyfetholedig mewn unrhyw flwyddyn unigol.
Ble allaf weld rheoliadau’r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol?
Mae rheoliadau’r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol i’w gweld yn yr Atodiad wrth yr Adroddiad Blynyddol diweddaraf a gyhoeddwyd ar y wefan.
Lle caiff lwfans milltiredd ei hawlio a oes rhaid iddo gael ei dalu yn ôl y cyfraddau penodedig?
Os yw aelodau’n hawlio lwfansau milltiredd, mae’n rhaid iddynt gael eu talu yn ôl cyfradd benodedig Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
A all aelod hawlio lwfans milltiredd ar ôl bod yn deithiwr mewn car a oedd yn cael ei yrru gan rywun arall?
Dylai awdurdodau dalu lwfansau milltiredd yn ôl y cyfraddau penodedig i aelod, ar fusnes swyddogol, sydd wedi bod yn deithiwr mewn cerbyd a oedd yn cael ei yrru gan rywun arall, ar yr amod bod yr awdurdod wedi’i argyhoeddi bod yr aelod wedi ysgwyddo cost.
A oes hawl gan bob aelod i hawlio am gostau gofal?
Oes, mae hyn yn berthnasol i bob aelod etholedig o brif gynghorau a Chynghorau Cymuned a Thref, pob aelod o Awdurdodau Parc Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub; ac i aelodau cyfetholedig o’r awdurdodau hyn sydd â hawliau pleidleisio.
Ble alla i weld dehongliad o’r termau a ddefnyddir yn adroddiad blynyddol y Panel?
Mae rhestr o’r termau a ddefnyddir gan y Panel i’w weld yn Atodiad 2 o’r adroddiad blynyddol.
Oes rhaid i Gyngor Tref i Cymuned dalu i’w aelodau?
Mae gan bob cyngor tref a chymuned yr hawl i wneud taliad i’w aelodau o hyd at uchafswm o £150 y flwyddyn am gostau a ysgwyddir mewn perthynas â defnyddio’r ffôn, technoleg gwybodaeth, defnyddiau traul ac yn y blaen.
Rhaid i bob cyngor cymuned a thref sicrhau bod taliad o £150 y flwyddyn ar gael i bob un o’u haelodau fel cyfraniad at gostau a threuliau.
Pryd dylai Cyngor Cymuned dalu ei gynghorwyr?
Mae pob aelod yn gymwys i gael ei dalu £150 o ddechrau’r flwyddyn ariannol; oni bai. Os ydynt yn ymuno â’r cyngor neu’n ei fod yn cael ei etholadael yn nes ymlaen ynystod y flwyddyn ariannol. Bryd hynny, bydd, maent yn gymwys i gael cyfran o’r taliad pro-rata o’r dyddiad hwnnw neu hyd at y dyddiad hwnnw.
Mater i bob cyngor unigol yw gwneud penderfyniad polisi, a chofnodi’r penderfyniad hwnnw, o ran:
- yr amser pan fydd y taliad yn cael ei wneud i’r aelod
- rhannu’r cyfanswm sy’n daladwy yn daliadau llai
- adennill unrhyw daliadau a wnaed i aelod sy’n gadael neu sy’n newid ei rôl
- yn ystod y flwyddyn ariannol, a sut y dylid mynd ati i wneud hynny
A fydd cynghorydd yn cael ei dalu am gyflawni mwy nag un rôl ar y cyngor? A fydd Is-gadeirydd y Cyngor yn cael ei dalu am gyflawni rôl Cadeirydd Pwyllgor hefyd, yn ogystal â chael £150 tuag at gostau a threuliau?
Bydd, mae’n bosibl talu cynghorydd am gyflawni rôl fel Cadeirydd neu Is-gadeirydd Cyngor, yn ogystal â rôl fel Cadeirydd Pwyllgor, ynghyd â’i daliad o £150.
A yw’r taliadau’n seiliedig ar flwyddyn y cyngor?
MaeNac ydynt, mae holl benderfyniadau’r Panel yn cael effaith o 1 Ebrill,seiliedig ar y flwyddyn ariannol a rhaid iddynt gael eu gweithredu o’r dyddiad hwnnwo 1 Ebrill. Mewn blynyddoedd etholiad, gall dyddiadau gweithredu amgen fod yn berthnasol. Mae’r dyddiadau hyn wedi’u cynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol perthnasol.
A yw’n bosibl talu cynghorydd ar ôl i’r flwyddyn ariannol ddod i ben? A yw’n bosibl cario taliadau ymlaen i’r flwyddyn ganlynol?
Nac ydy, rhaid i daliadau gael eu gwneud yn y flwyddyn y maent yn berthnasol iddi.
Sut y dylid gwario’r taliad o £150?
Mae’r taliad o £150 yn gyfraniad at gostau a threuliau’r aelod o gyngor cymuned neu gyngor tref.aelodau wrth gyflawni eu rôl etholedig.
A ddylai cyngor gynnwys y taliad o £150 a wneir i’r holl gynghorwyr yn ei braesept?
Dylai. Dylai’r, dylai’r cyngor gynnwys y taliad yn ei braesept. Os na fydd cynghoryddyw cynghorwyr yn cymryd ygwrthod eu taliadau £150 a gynigir, bydd yr arian yn parhau gan y cyngoryna arbediad.
A oes unrhyw ganllawiau ar gyfer sut y dylid gwario’r lwfansgyllideb Pennaeth Dinesig?
Nid yw’r penderfyniadau cyllid sy’n gysylltiedig â lefelau’r math hwnnw o gymorth ychwanegol yn faterion taliadau personol. Ond yn hytrach maent yn ymwneud â’r cyllid y mae ei angen i gyflawni’r tasgau a’r dyletswyddau. Materion ar gyfer y cynghorau unigol yw’r materion hyn. Mae cyngor yn dal i gael buddsoddi mewn cymorth ar ba bynnag lefel sy’n briodol ar gyfer lefel benodol ei arweinyddiaeth ddinesig.
Nid yw cymorth ar gyfer costau trafnidiaeth neu gostau teithio yn ôl milltiroedd; cymorth ysgrifenyddol; rhoddion elusennol, (prynu tocynnau, cyfrannu arian, neu brynu tocynnau raffl); a dillad yn faterion sy’n ymwneud â thaliadau personol i’r unigolyn sy’n cyflawni rôl uwch.
A oes rhaid i gyngor gyhoeddi ei daliadau i gynghorwyr?
Oes, rhaid i bob cyngor gyhoeddi datganiad sy’n cynnwys y taliadau a wnaed i’w aelodau ym mhob blwyddyn ariannol. Rhaid cyhoeddi’r wybodaeth hon mewn ffurf ac mewn lleoliad sydd ar gael yn hawdd i aelodau’r cyhoedd, a hynny erbyn 30 Medi fan bellaf, ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol flaenorol.
A yw cynghoryddaelod yn cael rhoi ei daliad i elusen?
Telir treth ar daliadau Mae taliadau a ragnodir gan y Panel, cyn i’r taliadau hynny ddod yn rhan o gronfeydd personol i bob aelod ac, yn dibynnu ar yr unigolyn. Mae unigolionamgylchiadau unigol, telir treth arnynt. Mae aelodau yn rhydd wedi hynny, fel y mae unrhyw berson arall, i wneud cyfraniadau i elusen. Fel yn achos pob person, nid yw’n ofynnol i roi cyhoeddusrwydd i unrhyw rodd elusennol.
Os nad yw cynghorydd unigolaelod yn dymuno derbyn y taliad sy’n ddyledus iddo, dylid gwrthod y taliad. Dylai unrhyw arian a wrthodir gan gynghorydd unigol barhau yn rhan o gyllideb y cyngor i’w wario yn ôl dymuniad y cyngor, NID yr aelod. Gall cynghorau gyllido elusennau, gweithgarwch elusennol neu sefydliadau’r trydydd sector yn unol â’u penderfyniadau polisi. Mae hyn yn debygol o fod yn ffordd fwy effeithlon o gyfeirio arian y cyngor at gyrff elusennol neu at ddefnydd sydd er budd y cyhoedd nag ydyw rhoi arian y cyngor i unigolion sy’n agored i dalu treth incwm, cyn iddynt hwy ei gyfeirio ymlaen at elusen.
A all aelod hawlio am ei gostau gofal?
Gall, gall aelod sy’n gorfod talu am gostau gofal a neu gymorth personol ychwanegol er mwyn ei alluogi i ymgymryd â’i ddyletswyddau a gymeradwywyd hawlio ad-daliad tuag at y costau ychwanegol hyn.
Beth yw costau gofal, a faint all aelod ei hawlio?
O 1 Ebrill 2021, mae’r cap misol o £403 wedi cael ei ddileu ac mae’n cael ei ddisodli gan yr hyn a ganlyn:
- costau gofal ffurfiol sydd i’w talu yn ôl y dystiolaeth a gyflwynir, drwy dderbynebau neu ddulliau cyffelyb. Mae gofal ffurfiol yn golygu gofal gan ddarparwr cofrestredig. Er enghraifft, darparwr sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru
- costau gofal anffurfiol (nad yw’n gofrestredig) sydd i’w talu, yn amodol ar dderbynneb, hyd at gyfanswm cyfradd yr awr sy’n gyfwerth â Chyflog Byw Gwirioneddol y DU ar yr adeg y caiff y costau eu hysgwyddo
A gaf i hawlio am y cyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol er mwyn ymgymryd â ‘dyletswyddau a gymeradwywyd’?
Cewch, mae dyletswyddau a gymeradwywyd yn gysylltiedig â gwaith aelod fel gwaith cyffredinol yn y ward, darllen, mynd i gyfarfodydd a hyfforddi.
Mae aelod yn dymuno hawlio costau gofal beth yw ystyr gofal ‘anffurfiol’?
Gofalwr nad yw wedi cofrestru yw gofalwr anffurfiol. Gallai hyn gynnwys ffrind neu aelod o’r teulu. Nid yw’n cynnwys rhywun sy’n perthyn i aelwyd aelod.