Cwestiynau cyffredin am beth i’w wneud os nad ydych chi’n gymwys am Bàs COVID y GIG
Cynnwys
Mae fy nghofnod statws brechu yn anghywir
Os yw eich cofnod statws brechu yn anghywir, e-bostiwch vaccine.certification@swansea.gov.uk
Mae fy manylion personol yn anghywir
Bydd eich Pàs COVID yn dangos eich enw cyntaf a’ch cyfenw. Mae hyn yn cydymffurfio â safonau rhyngwladol ar gyfer ardystiad COVID. Mae’ch manylion personol megis enw, cyfeiriad a dyddiad geni yn gysylltiedig â’ch cofnod meddyg teulu. Os yw unrhyw fanylion ar eich Pàs COVID yn anghywir, bydd angen ichi ofyn i’ch meddyg teulu ddiweddaru’ch cofnodion. Ar ôl iddynt gael eu diweddaru, dylech allu lawrlwytho pàs COVID sydd â’r manylion cywir arno.
Rwy’n cael trafferth mewngofnodi i system y GIG
Os ydych yn cael trafferth defnyddio NHS Login i gael at eich Pàs COVID, ewch i wefan canolfan gymorth mewngofnodi’r GIG (nhs.uk).
Dod o hyd i fy rhif GIG?
Gallwch weld eich rhif GIG ar y llythyr a oedd yn eich gwahodd i gael brechiad. Gallwch hefyd ddod o hyd i’ch rhif GIG yma (gov.uk).
Rwy’n cael trafferth gweld fy nghofnod brechu gan nad wyf wedi cofrestru gyda meddyg teulu
I gael Pàs COVID, rhaid ichi fod wedi’ch cofrestru gyda meddyg teulu. Dylech gofrestru gyda’ch gwasanaeth meddyg teulu lleol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i gael gafael ar wasanaethau meddygon teulu lleol yn: GIG 111 Cymru – Gwasanaethau Lleol – Cwestiynau Cyffredin am eich meddyg teulu (nhs.uk).
Ni allaf gael fy mrechu am resymau meddygol
Domestig: Mae’r gwasanaeth sy’n darparu prawf eich bod wedi eich eithrio o Pàs COVID domestig y GIG yng Nghymru wedi cael ei atal. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael os bydd y sefyllfa hon yn newid.
Rhyngwladol: Nid yw eithriadau meddygol yn ddilys ar gyfer teithio rhyngwladol am nad oes unrhyw gytundebau rhyngwladol ar waith â gwledydd eraill ar gyfer eithriadau mewn cysylltiad â statws COVID-19. Llywodraeth y wlad y byddwch yn mynd iddi sy’n pennu’r meini prawf mynediad. Rydym yn argymell eich bod yn gwirio meini prawf mynediad y wlad y byddwch yn mynd iddi cyn gwneud trefniadau teithio. Gall gofynion mynediad newid ar fyr rybudd felly cofiwch eu gwirio eto cyn teithio.
Cefais un neu ragor o’m brechiadau dramor neu’r tu allan i Gymru
Mae gennym bellach gynllun i integreiddio brechiadau a roddwyd dramor ac yng ngwledydd eraill y DU, ar gyfer preswylwyr Cymru. Mae byrddau iechyd yn diweddaru gwybodaeth gan breswylwyr yn eu hardal sydd wedi cael un neu ragor o’u brechiadau y tu allan i Gymru. I ddechrau, bydd tystiolaeth wedi’i chyfyngu i’r brechlynnau canlynol y mae eu defnydd yn y DU wedi’u cymeradwyo:
- Rhydychen-AstraZeneca (Vaxzevria)
- Pfizer/BioNTech (Comirnaty)
- Moderna (Spikevax)
- Novavax (Nuvaxovid)
Bydd angen ichi:
- fod wedi’ch cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru
- bod â rhif GIG
- darparu gwybodaeth i gadarnhau pwy ydych chi
- darparu tystiolaeth o’r brechiadau yr ydych wedi’u cael
Dylech gysylltu â’ch bwrdd iechyd lleol i gael rhagor o wybodaeth
Bwrdd Iechyd | Manylion cyswllt |
---|---|
Caerdydd a’r Fro | Cvuhb.Massimms@wales.nhs.uk |
Powys | |
Bae Abertawe | |
Hywel Dda | COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk |
Betsi Cadwaladr | |
Aneurin Bevan | |
Cwm Taf Morgannwg | CTM.WisSupport2@wales.nhs.uk |
Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu system a all gofnodi brechlynnau eraill. Byddwn yn cadarnhau’r trefniadau maes o law. Dylai unrhyw un a gafodd frechlyn nad yw wedi’i restru ar hyn o bryd barhau i ddefnyddio’r dystiolaeth a ddarparwyd adeg y brechiad.
Brechiadau atgyfnerthu
Mae brechiadau atgyfnerthu’r hydref bellach yn cael eu cynnwys ym Mhàs COVID y GIG.
Os byddwch yn teithio, mae rhagor o fanylion ar ofynion mynediad ar gael ar dudalennau cyngor teithio tramor GOV.UK ac ar wefannau’r wlad yr ydych yn teithio iddi. Os nad ydych wedi cwblhau eich cwrs brechu gwreiddiol, mae cyngor ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
My COVID Pass has a short expiry date
If your NHS COVID Pass has a shorter expiry date (2 days), then you will need to verify your identity.
To do this, visit Get your NHS COVID Pass (nhs.uk) and you will be asked to verify your identity.
You will need to supply a photograph of your photo ID and a video of yourself.
Dyddiadau dod i ben Pàs COVID y GIG
Bydd pàs COVID y GIG yn ddilys am 180 o ddiwrnodau os yw’ch hunaniaeth eisoes wedi’i dilysu. Caiff hyn ei ddiweddaru’n awtomatig bob tro y byddwch yn mewngofnodi i’r gwasanaeth.
Mae dyddiad dod i ben byr ar fy mhàs COVID y GIG
Os oes gan eich pàs COVID y GIG ddyddiad dod i ben byr (2 ddiwrnod), yna bydd angen i chi gadarnhau pwy ydych chi.
I wneud hyn, ewch i’r dudalen Cael eich Pàs COVID y GIG - GIG (nhsx.nhs.uk) a bydd gofyn ichi gadarnhau’ch manylion.
Bydd angen darparu ffotograff o’ch cerdyn adnabod â llun a fideo o’ch hun.
Mae arna i angen tystiolaeth fy mod wedi gwella o COVID-19
Caiff canlyniadau positif i brofion PCR eu cynnwys yn eich Pàs COVID digidol. Os cawsoch ganlyniad positif i brawf PCR, gallwch ddefnyddio’ch Pàs COVID i ddangos eich bod wedi gwella o COVID. Os oes gennych Bàs COVID y GIG ar gyfer teithio, sy’n seiliedig ar ganlyniad positif i brawf PCR GIG, bydd yn para 180 o ddiwrnodau (6 mis) ar ôl dyddiad y prawf.
Ni chaiff canlyniadau positif i brofion llif unffordd eu cydnabod yn rhyngwladol fel tystiolaeth bod rhywun wedi gwella o COVID. Ni ellir eu defnyddio at y diben hwn.
Os nad yw canlyniadau eich profion PCR yn dangos yn eich Pàs COVID y GIG, cysylltwch ag 119, a fydd yn ymchwilio i’r mater.
Fodd bynnag, nid yw rhai canlyniadau a brosesir yn Labordai GIG Cymru wedi’u hintegreiddio ar hyn o bryd. Rydym wrthi’n gweithio gyda Llywodraeth y DU i gynnwys y canlyniadau hyn ym Mhàs COVID y GIG. Byddwn yn gwneud cyhoeddiad pan fydd ateb wedi’i ddarganfod a’i roi ar waith.
Rhagor o help gyda’ch cofnod brechu
Os nad yw’ch cofnod brechu yn gywir neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich Pàs COVID Digidol/Papur:
- e-bostiwch vaccine.certification@swansea.gov.uk
- ffoniwch 0300 303 5667( Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg)