Pecyn i Ymgeiswyr: Prif Ystadegydd
Mae’r cyngor yn rhoi trosolwg i ymgeiswyr o'r broses recriwtio ar gyfer ein rolau Prif Ystadegydd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Croeso
Rwy'n falch iawn bod gennych ddiddordeb mewn gyrfa mewn ystadegau yn Llywodraeth Cymru.
Llywodraeth Cymru yw'r llywodraeth ddatganoledig i Gymru. Mae'n gyfrifol am ddatblygu a gweithredu polisïau cenedlaethol i Gymru ar bynciau fel iechyd, addysg, cymunedau a'r amgylchedd.
Mae'r rhan fwyaf o ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru mewn adran ganolog o'r enw Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, a thua thraean yn gweithio mewn timau sydd wedi'u lleoli mewn adrannau polisi. Lle bynnag y maent wedi'u lleoli, mae ystadegwyr yn cynhyrchu data a dadansoddiadau a ddefnyddir bob dydd gan Weinidogion, busnesau, elusennau a'r cyhoedd i helpu i wneud penderfyniadau.
Mae gyrfa yn Llywodraeth Cymru yn rhoi boddhad mawr. Byddwch yn cael cyfleoedd i weithio'n agos gyda llunwyr polisi i lywio'r gwaith o ddatblygu polisïau allweddol a monitro eu heffaith. Fel cynhyrchwyr ystadegau swyddogol, rydym yn falch o gynhyrchu dadansoddiad y gellir ymddiried ynddo, o ansawdd uchel ac o werth cyhoeddus. Byddwch yn gweithio'n rheolaidd gyda dadansoddwyr ledled y DU a chyda defnyddwyr ein hystadegau i barhau i ysgogi gwelliannau.
Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn werthoedd craidd i Lywodraeth Cymru ac mae gennyf ymrwymiad personol cryf i wneud y proffesiwn ystadegau yn lle gwirioneddol gynhwysol i weithio. Rwyf yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, yn enwedig y rheini nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n ddigonol yn y sector cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog ac mae gyrfa mewn ystadegau yn rhoi cyfle gwych i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.
Gan fod gennym swyddfeydd ledled Cymru, fel sefydliad gallwn fod yn hyblyg o ran o ble rydych chi'n gweithio. Mae'r Prif Weinidog wedi gosod targed i Gymru bod 30% o'r gweithlu'n gweithio o bell, felly bydd gweithio hybrid yn parhau i fod yn rhan o'n dull gweithredu yn y dyfodol.
Mae canlyniadau ein Harolwg Pobl yn dangos bod cydweithwyr yn canfod bod y maes ystadegau yn Llywodraeth Cymru yn yrfa ddiddorol a gwerthfawr. Os oes gennych y sgiliau cywir, edrychaf ymlaen at eich gweld yn ymuno â ni.
Stephanie Howarth, Prif Ystadegydd, Llywodraeth Cymru
Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth
Mae ystadegwyr proffesiynol yn Llywodraeth Cymru yn rhan o Grŵp Ystadegwyr y Llywodraeth, sef proffesiwn y gwasanaeth sifil ar gyfer ystadegwyr a gwyddonwyr data. Mae eu dylanwad yn mynd y tu hwnt i gasglu data a chyhoeddiadau i ddarparu sail dystiolaeth ddiduedd fel y gellir gwneud penderfyniadau effeithiol. Mae gwaith dadansoddi a sgiliau ystadegwyr yn hanfodol i wella'r gwasanaethau gweithredol y mae'r llywodraeth yn eu darparu. Yn y dirwedd data sydd ohoni, sy'n datblygu'n barhaus, mae'r angen am ystadegwyr proffesiynol yn fwy nag erioed. Mae galw mawr am sgiliau ystadegwyr yn y llywodraeth fel dadansoddwyr, llunwyr ystadegau swyddogol a gwyddonwyr data. Ym mhob un o rolau eu swydd, maent yn defnyddio eu safonau proffesiynol cydnabyddedig i sicrhau ansawdd ac uniondeb eu gwaith. Mae'r proffesiwn yn gweithio fel rhan o Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth, sef cymuned yr holl weision sifil sy'n gweithio ym maes casglu, cynhyrchu a rhannu ystadegau swyddogol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.
Ynghylch rôl y Prif Ystadegydd
Fel prif ystadegydd chi fydd y prif gynghorydd ystadegol ar gyfer maes penodol. Byddwch yn rheoli'r gwaith o ddarparu ystadegau drwy gasglu, coladu, dadansoddi a chyflwyno data ar bynciau penodol. Mae deiliaid y swydd hefyd yn gyfrifol am helpu'r sefydliad i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, gan weithio gyda chydweithwyr ledled y DU, a chan hyrwyddo a datblygu polisïau ac arferion ystadegol. Efallai y byddwch am weld rhai o'r ystadegau y mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn eu llunio drwy bori ein tudalennau.
Bydd angen ichi ddefnyddio eich sgiliau arwain yn y rôl er mwyn gosod y cyfeiriad strategol ac ysgogi tîm, yn ogystal â meithrin perthynas ag amrywiaeth o randdeiliaid y tu fewn i'r llywodraeth ac y tu allan iddi. Bydd yn hanfodol gallu egluro a chyfathrebu gwybodaeth a allai fod yn gymhleth ar adegau.
Mae tair swydd Prif Ystadegydd ar gael.
Dirprwy Bennaeth Uwch-ddadansoddeg a Modelu, Yr Is-adran Cyngor ar Wyddoniaeth a Thystiolaeth
Bydd y rôl hon yn cefnogi'r gwaith o fodelu ymyriadau yn y system iechyd, gan gynnwys rhai ar gyfer clefydau heintus, gan wella llif cleifion drwy'r ysbyty, a chan edrych ar effeithlonrwydd y GIG. Byddwch yn arwain prosiectau ystadegol mawr yn yr Is-adran Cyngor ar Wyddoniaeth a Thystiolaeth newydd yn y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan gyfarwyddyd y Prif Gynghorydd Gwyddonol ar Iechyd. Mae'r tîm modelu ac uwch-ddadansoddeg yn cynnwys cydweithwyr sy'n gweithio ym meysydd ymchwil, ystadegau, gwyddor data ac economeg iechyd. Mae'r rôl yn golygu gweithio gyda’r Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) ym Mhrifysgol Abertawe i lywio prosiectau modelu a dadansoddi er mwyn ychwanegu at benderfyniadau polisi ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd deiliad y swydd yn meithrin ac yn cynnal perthynas weithio agos â Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS) Llywodraeth Cymru, adrannau Llywodraeth y DU a Llywodraethau Datganoledig eraill.
Prif Ystadegydd, y Rhaglen Gwell Canlyniadau drwy Ddata Cysylltiol (BOLD)
Mae'r rôl hon yn rhan o raglen BOLD, sef menter drawslywodraethol flaengar a arweinir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae'r rôl yn perthyn i dîm amlddisgyblaethol mawr sy'n gyfrifol am drawsnewid y ffordd y caiff data eu defnyddio er mwyn ysgogi canlyniadau a phenderfyniadau ym mhob rhan o'r llywodraeth. Mae'r rôl yn rhan o dîm Ymchwil Data Gweinyddol Cymru Llywodraeth Cymru, a bydd yn golygu gweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL). Mae gwaith y tîm yng Nghymru yn canolbwyntio'n benodol ar ddarparu tystiolaeth er mwyn helpu i wella effeithlonrwydd, effeithiolrwydd, ac effaith polisïau a’r ddarpariaeth o wasanaethau ym maes camddefnyddio sylweddau. Disgwylir y bydd deiliad y swydd yn ehangu gwaith dadansoddi'r tîm yng Nghymru i gynnwys meysydd tai, digartrefedd ac iechyd meddwl.
Arweinydd Ffrwd Waith Data, Rhaglen Weithredu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
Mae'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn gorff newydd a noddir gan Lywodraeth Cymru. Cafodd ei lansio ym mis Ebrill 2024. Bydd y Comisiwn yn cymryd lle Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), gan ysgwyddo'r swyddogaethau sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru a HEFCW ar hyn o bryd. Bydd deiliad y swydd yn arwain y Ffrwd Waith Data ar gyfer y prosiect Systemau a Phrosesau, a bydd yn gyfrifol am nodi data y mae angen eu trosglwyddo i'r corff newydd a sicrhau cydymffurfiaeth wrth hwyluso’r gwaith o’u trosglwyddo. Bydd deiliad y swydd hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod systemau sy'n addas i'r diben ar gyfer casglu, dadansoddi, cadw a lledaenu data ar waith erbyn diwrnod cyntaf y Comisiwn newydd, ac am sefydlu'r Comisiwn fel cynhyrchydd Ystadegau Swyddogol, gan sicrhau bod modd iddo gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. At hynny, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gynllunio ymarfer casglu data newydd a'i roi ar waith, i'w gynnal yn lle'r ymarferion casglu data ôl-16 presennol yn ystod cyfnod pontio'r Comisiwn.
Y broses gwneud cais
Meini prawf cymhwysedd
Mae'n rhaid eich bod yn meddu ar un o'r canlynol er mwyn gwneud cais:
- Gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth mewn pwnc sy'n cynnwys hyfforddiant ystadegol ffurfiol (e.e. Ystadegau, Mathemateg, Economeg, y Gwyddorau, Astudiaethau Busnes, Seicoleg, Daearyddiaeth, Gwyddor Data neu bwnc tebyg)
- Gradd uwch, e.e. MSc neu PhD, mewn pwnc sy'n cynnwys hyfforddiant ystadegol ffurfiol (e.e. Ystadegau, Mathemateg, Economeg, y Gwyddorau, Astudiaethau Busnes, Gwyddor Data, Seicoleg, Daearyddiaeth neu bwnc tebyg)
- Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr nad oes ganddynt radd, ond bydd yn rhaid iddynt ddangos eu bod wedi gweithio mewn maes sy'n gysylltiedig ag ystadegau/gwyddor data. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu datblygiad proffesiynol parhaus (drwy Gofnodlyfr DPP) ym maes ystadegau/gwyddor data i ddangos gwybodaeth ar yr un lefel â gradd sylfaen/HND (Lefel 5).
Ffurflen gais
Gwnewch gais drwy gyflwyno CV a datganiad personol drwy ein system gwneud cais ar-lein. Dylai eich CV gynnwys manylion addysg a chymwysterau proffesiynol, hanes cyflogaeth a sgiliau a phrofiad perthnasol.
Dylai eich datganiad personol adlewyrchu manyleb y person. Rhaid iddo gynnwys manylion eich cyflawniadau technegol a phroffesiynol, ac ni ddylai fod yn fwy na 1250 o eiriau.
Wrth edrych ar geisiadau, bydd yr aseswyr yn chwilio am dystiolaeth glir o'ch gwybodaeth a'ch profiad ystadegol a sut rydych yn bodloni meini prawf Manyleb y Person; felly fe'ch cynghorir i'w deilwra'n unol â hynny.
Manyleb y person
- Sgiliau arwain y gellir eu dangos, a'r gallu i feithrin galluogrwydd aelodau tîm a chreu amgylchedd gweithio cynhwysol.
- Yn gallu gosod cyfeiriad strategol, gan sicrhau bod cynlluniau a blaenoriaethau yn adlewyrchu amcanion y sefydliad.
- Dadansoddwr profiadol â hanes o ddefnyddio gwaith dadansoddi ystadegol neu ymchwil yn ymarferol i ddiwallu anghenion defnyddwyr.
- Gallu amlwg i reoli prosesau cyflawni rhaglenni gwaith, gan ddarparu canlyniadau o ansawdd yn unol â therfyn amser a chan nodi risgiau.
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da, ac yn gallu egluro dadansoddiadau ystadegol i bobl nad ydynt yn arbenigwyr, a meithrin perthynas effeithiol â gweinidogion, uwch-swyddogion a rhanddeiliaid allanol.
Prawf amlddewis
Os yw eich cais yn dangos y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y rôl, cewch eich gwahodd i ymgymryd â phrawf amlddewis ar-lein, wedi'i gynllunio i brofi eich sgiliau rhifedd a'ch gwybodaeth ystadegol. Mae'n brawf wedi'i amseru a rhaid ei gwblhau a'i gyflwyno erbyn canol dydd ar y dyddiad a bennir yn yr e-bost er mwyn cael eich ystyried ar gyfer cam nesaf y broses.
Os ydych eisoes yn aelod o Grŵp Ystadegwyr y Llywodraeth, rydych wedi'ch eithrio rhag sefyll y prawf. E-bostiwch rebecca.gillard@llyw.cymru gyda'ch rhif aelodaeth Grŵp Ystadegwyr y Llywodraeth a fydd yn cadarnhau os nad oes angen i chi gwblhau'r prawf. Byddwch wedyn yn cael eich symud i'r cam nesaf (cyfweliad).
Cyfweliad ar-lein a phrawf lledaenu
Os byddwch yn pasio'r prawf amlddewis, cewch eich gwahodd i gyfweliad ar-lein. Bydd y cyfweliad ar-lein yn cael ei gynnal dros Microsoft Teams. Bydd y cyfweliad yn defnyddio technegau asesu amrywiol sy'n cyd-fynd â fframwaith Proffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil. Bydd hyn yn rhoi'r cyfle gorau posibl i ni ddod o hyd i'r unigolyn cywir ar gyfer y swydd. Defnyddir cwestiynau am eich profiadau yn y gorffennol i asesu'r ymddygiadau gwasanaeth sifil a bennwyd. Yn ogystal, gofynnir cwestiynau am Gymwyseddau Technegol Grŵp Ystadegwyr y Llywodraeth ichi hefyd.
Yn ystod y cwestiynau hynny, bydd disgwyl i chi ddangos dealltwriaeth o ddwy dechneg ystadegol (e.e. ANOVA, atchweliad, cyfres amser, profion damcaniaeth ac ati.) Cyn y cyfweliad, byddwch yn cael 40 munud i sefyll prawf byr, a fydd yn ffurfio cyflwyniad i'w roi i'r panel ar ddechrau'r cyfweliad. Ni ddylai'r cyflwyniad bara mwy na phum munud, a byddwch yn aros yn eich sedd yn ystod y cyflwyniad.
Cymwyseddau technegol
- Caffael Data/Deall Anghenion Cwsmeriaid: dangos eich dealltwriaeth o ffynonellau data ynghyd â'u cryfderau a'u cyfyngiadau. Dangos y dulliau rydych wedi'u defnyddio i gasglu data.
- Dadansoddi Data: dangos sut rydych yn dadansoddi data gan ddefnyddio technegau ystadegol. DS Rhaid i chi ddangos tystiolaeth o ddefnyddio dwy dechneg ystadegol o leiaf.
- Cyflwyno a Lledaenu Data yn Effeithiol: Dangos sut rydych yn rhannu technegau ystadegol ag unigolion nad ydynt yn arbenigwyr gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau.
Ymddygiadau'r Gwasanaeth Sifil
- Gweld y darlun cyflawn: sicrhau bod cynlluniau a gweithgareddau yn eich maes gwaith yn adlewyrchu blaenoriaethau strategol ehangach.
- Arweinyddiaeth: hyrwyddo amrywiaeth, cynhwysiant a chyfle cyfartal, gan barchu gwahaniaeth a phrofiad allanol.
- Gweithio ar y Cyd: adeiladu a chynnal rhwydwaith o gydweithwyr a chysylltiadau yn weithgar er mwyn cyflawni cynnydd ar amcanion a rennir.
Cyngor ar sut i wneud cais
Dechrau arni
- Ysgrifennwch enghreifftiau o dasgau rydych wedi'u gwneud yn dda dros y ddwy flynedd diwethaf (neu gyfnod hwy). Os gallwch, defnyddiwch dystiolaeth o fyd gwaith, er nad oes rhaid i'ch enghreifftiau fod yn gysylltiedig â gwaith. Ar gyfer pob un o'r pethau hyn, nodwch sut y gwnaethoch gyflawni'r hyn a wnaethoch, a'r sgiliau a'r ymddygiadau y gwnaethoch eu defnyddio.
- Edrychwch ar y dangosyddion cymhwysedd effeithiol ac, ar gyfer pob darn o waith, nodwch pa feysydd ym manyldeb y person y gallai fod yn berthnasol iddynt.
- Dylech gasglu eich tystiolaeth ynghyd a bwrw golwg drosti cyn dechrau ysgrifennu enghreifftiau – mae'n debygol y bydd gennych fwy o dystiolaeth na'r disgwyl!
- Mae ail neu drydydd pâr o lygaid yn ddefnyddiol bob amser.
Cwblhau'r Ffurflen Gais
Beth yw'r Fframwaith Proffil Llwyddiant?
Mae proffiliau llwyddiant yn symud recriwtio i ffwrdd o system asesu sy'n seiliedig yn gyfan gwbl ar gymhwysedd. Maent yn cyflwyno fframwaith mwy hyblyg sy'n asesu ymgeiswyr yn erbyn amrywiaeth o elfennau gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau dethol. Bydd hyn yn rhoi'r cyfle gorau posibl o ddod o hyd i'r unigolyn cywir ar gyfer y swydd, a bydd hefyd yn gwella amrywiaeth a chynhwysiant. Cewch eich asesu yn erbyn meysydd megis eich cryfderau, eich gallu a'ch ymddygiadau (cymwyseddau yn flaenorol).
Y Meini Prawf y gellir eu hasesu er mwyn pennu'r ymgeisydd gorau ar gyfer y rôl yw:
- Ymddygiadau: y gweithredoedd a'r gweithgareddau y mae pobl yn eu cyflawni sy'n arwain at berfformiad effeithiol yn y swydd honno
- Gallu: gallu meddyliol cyffredinol, gallu gwybyddol neu ddoniau. Defnyddir profion i ragfynegi perfformiad yn y dyfodol.
- Profiad: Gwybodaeth am weithgaredd neu bwnc a feithrinwyd drwy gymryd rhan ynddo neu ddod i gysylltiad ag ef.
- Technegol: Sgiliau penodol, neu brofiad neu gymwysterau sydd eu hangen ar gyfer y rôl
Dewis eich enghreifftiau
- Wrth benderfynu pa enghreifftiau i'w defnyddio, cofiwch gyfeirio'n ôl at fanyleb y person yn yr hysbyseb swydd, lefel G7 fframwaith cymwyseddau Grŵp Ystadegwyr y Llywodraeth 2021 a Lefel 4 ymddygiadau Proffil Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil am ddangosyddion ymddygiad effeithiol. Ceisiwch ddewis enghreifftiau sy'n berthnasol i'r swydd a hysbysebwyd.
- Ceisiwch deilwra eich cymwyseddau i'r swydd rydych yn gwneud cais amdani. Mae'r fframwaith cymwyseddau'n cynnwys lefelau gwahanol ar gyfer graddau gwahanol – defnyddiwch y lefel ar gyfer G7.
- Tanlinellwch unrhyw eiriau a brawddegau allweddol yn yr hysbyseb swydd i'w cynnwys yn eich enghreifftiau. Os bydd gennych unrhyw amheuon am yr hysbyseb, siaradwch â'r unigolyn cyswllt a enwyd yn yr hysbyseb i gael rhagor o wybodaeth am y swydd a hysbysebwyd.
- Neilltuwch ddigon o amser i ysgrifennu eich enghreifftiau – ceisiwch osgoi eu gadael tan y funud olaf.
- Dewiswch eich enghreifftiau mwyaf pwerus – sefyllfaoedd heriol sydd â llawer o sylwedd.
- Canolbwyntiwch ar 'sut' drwyddi draw. Er enghraifft, "Cydweithiais â thimau, gan feithrin cydberthnasau ac annog gwaith gyda thimau eraill".
- Defnyddiwch yr unigol yn hytrach na'r lluosog. Eich rôl yn y dasg a'r effaith a gawsoch ar y canlyniad sy'n bwysig yma.
- Defnyddiwch eich geiriau eich hun. Ystyriwch ddefnyddio berfau gweithredol i greu mwy o effaith.
- Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd gan y panel sifftio unrhyw wybodaeth am y sefyllfa na'r cyd-destun.
- Eich gwaith chi yw cyflwyno’r wybodaeth. Ni all aelodau'r panel dybio'r hyn nad yw wedi'i gynnwys yn yr enghraifft, a dim ond yr hyn rydych wedi'i ysgrifennu y gallant ei asesu.
- Sicrhewch eich bod wedi nodi canlyniad clir.
- Peidiwch ag adrodd stori yn eich enghraifft. Rhowch ddigon o wybodaeth i ddangos sut y gwnaethoch gyflawni'r dasg, a'r rheswm dros ei chyflawni yn y ffordd honno, a disgrifiwch unrhyw rwystrau y gwnaethoch eu hwynebu.
Yn y Gwasanaeth Sifil, y dull gweithredu mwyaf cyffredin yw: Dull STAR
Bydd defnyddio dull STAR (Sefyllfa, Tasg, Camau Gweithredu, Canlyniadau) yn eich galluogi i osod y sefyllfa, dangos yr hyn a wnaethoch a sut, a'r canlyniad cyffredinol. Bydd deiliad y swydd (a'r cyfwelydd yn ddiweddarach) yn defnyddio'r dull hwn i gasglu'r holl wybodaeth am allu penodol sy'n ofynnol ar gyfer y swydd.
Sefyllfa
Disgrifiwch y sefyllfa dan sylw. Rhaid ichi ddisgrifio sefyllfa neu ddigwyddiad penodol. Cofiwch roi digon o fanylion er mwyn sicrhau bod deiliad y swydd yn deall.
- Ble roeddech chi?
- Pwy oedd yno gyda chi?
- Beth ddigwyddodd?
Tasg
Bydd deiliad y swydd am ddeall yr hyn y gwnaethoch geisio ei gyflawni o'r sefyllfa dan sylw.
- Beth oedd y dasg, a pham?
- Beth oedd angen ichi ei gyflawni?
Camau gweithredu
Beth wnaethoch chi? Bydd deiliad y swydd yn chwilio am wybodaeth am yr hyn a wnaethoch, sut a pham. Canolbwyntiwch arnoch chi. Pa gamau penodol y gwnaethoch eu cymryd a beth oedd eich cyfraniad chi? Cofiwch gynnwys sut y gwnaethoch gyflawni'r dasg, a'r ymddygiadau y gwnaethoch eu defnyddio. Ceisiwch ddefnyddio'r unigol yn hytrach na'r lluosog wrth ddisgrifio'r camau gweithredu a arweiniodd at y canlyniad. Peidiwch â hawlio'r clod am rywbeth na wnaethoch ei gyflawni.
Canlyniadau
Cofiwch hawlio'r clod am eich ymddygiad. Dyfynnwch ffeithiau a ffigurau penodol y gellir eu deall yn hawdd.
- Pa ganlyniadau a ddeilliodd o'r camau gweithredu?
- Beth wnaethoch chi ei gyflawni drwy eich camau gweithredu, ac a lwyddoch chi i gyrraedd eich nodau?
- A oedd y canlyniad yn un llwyddiannus? Os nad oedd, beth wnaethoch chi ei ddysgu o'r profiad?
- Wrth ysgrifennu eich enghraifft, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr 'hyn' a wnaethoch chi, a 'sut'. Yn y rhan fwyaf o enghreifftiau, dylech ganolbwyntio mwy o eiriau ar yr agwedd 'sut', yn hytrach na'r ‘hyn’ a wnaethoch.
- Yna, dylech roi crynodeb byr o'r 'canlyniad'.
Byddwch yn gryno wrth sôn am y sefyllfa a'r dasg. Canolbwyntiwch ar y camau gweithredu a'r canlyniad. Os nad oedd y canlyniad yn gwbl lwyddiannus, disgrifiwch beth wnaethoch chi ei ddysgu o hyn a beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol y tro nesaf. Gwnewch yn siŵr eich bod yn canolbwyntio ar eich cryfderau.
Cyfweliad: awgrymiadau
Mae cyfweliad da yn gofyn am waith paratoi gwych, sgiliau gwrando da a'r gallu i ateb y cwestiwn dan sylw. Dylech ymarfer cyn y cyfweliad drwy baratoi ac ymarfer atebion i gwestiynau posibl.
Dyma rai awgrymiadau defnyddiol.
- Ceisiwch drefnu 'ffug gyfweliad' gyda'ch canolfan gyrfaoedd.
- Ymchwiliwch i Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth, ei waith a'i gwsmeriaid.
- Cofiwch ddefnyddio model 'STAR' wrth deilwra eich enghreifftiau i'r cwestiynau.
Rydym am wybod am eich profiad, eich sgiliau a'ch ymddygiadau eich hun. Dylai eich atebion ganolbwyntio ar ddweud wrthym am eich gweithredoedd eich hun, yn hytrach na'r rhai a gwblhawyd fel grŵp cyfan. Wrth weithio mewn tîm neu grŵp, hoffem wybod am yr hyn a wnaethoch chi yn bersonol.
Bydd Rhan 1 o'r cyfweliad yn dechrau drwy asesu eich cymhwysedd technegol. Bydd hyn yn cynnwys tri Cymhwysedd Ystadegol:
- Cyflwyno a Lledaenu Data
- Caffael Data/Deall Anghenion Cwsmeriaid
- Dadansoddi Data
Bydd ail ran y cyfweliad yn eich asesu yn erbyn tri o ymddygiadau'r Proffil Llwyddiant, gan ddefnyddio cwestiynau Sefyllfaol a chwestiynau am Brofiad Blaenorol. Bydd hyn yn canolbwyntio ar dri Ymddygiad:
- Gweld y darlun cyflawn
- Arweinyddiaeth
- Gweithio ar y cyd
Manylion cyswllt
Diolch am eich diddordeb yn y swydd hon. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl neu'r broses recriwtio, cysylltwch â stephanie.howarth001@llyw.cymru neu statscareers1@llyw.cymru