Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn parhau i wynebu pwysau sylweddol o ran y llwyth gwaith ar hyn o bryd sy’n effeithio ar ar ein gallu i symud ymlaen â’n gwaith achos ar y cyflymder y byddem yn dymuno.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Mae ôl-groniad o apeliadau newydd yn aros i gael eu dilysu a’u dechrau o hyd. Am nifer o resymau gwasanaeth cwsmeriaid, gweithredol ac adnoddau, rydym wedi penderfynu blaenoriaethu ein Gwasanaethau Apeliadau Deiliaid Tai, Hysbysebion a Masnachol Bach trwy ddechrau’r apeliadau hyn cyn gwaith achos arall ar hyn o bryd. Heblaw am nifer gyfyngedig o achosion arbenigol y mae angen eu gweinyddu trwy ddilyn gweithdrefn arbennig, bydd yr holl waith achos arall yn cael ei drin yn nhrefn y dyddiad y cafodd ei derbyn.

Byddwn yn ceisio rhaglennu digwyddiadau Gwrandawiad ac Ymchwiliad cyn gynted â phosibl ar ôl dechrau apeliadau, ond bydd oedi’n anochel o ganlyniad i bwysau llwyth gwaith ac adnoddau. Rydym yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i ddewis a hwyluso’r math mwyaf priodol o ddigwyddiad; digwyddiadau rhithwir yw’r opsiwn a ffefrir oni bai bod rhesymau clir dros drefnu digwyddiadau wyneb yn wyneb. 

Os oes gennych ymholiad ynglŷn ag apêl, gofynnwn i chi aros nes bod 19 wythnos wedi mynd heibio ar ôl derbyn cydnabyddiaeth gychwynnol cyn cysylltu â ni.

Yn ystod y cyfnod hwn, rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gallu parhau i fod yn sicr o ansawdd ein gwaith ac rydym yn gwneud pob dim posibl i fynd i’r afael â’r ôl-groniad o waith achos i ganiatáu i ni ddychwelyd i raddfeydd amser arferol. Diolchwn i chi am eich amynedd wrth i ni ymdrechu i wella’r gwasanaeth a ddarparwn.