Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar Borthladd Caergybi ar ddiwedd cyfnod pontio'r UE ar 1 Ionawr 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pam fod angen inni roi cynlluniau wrth gefn yn eu lle ym mhorthladd Caergybi?

Ar 1 Ionawr, bydd y cyfnod pontio yn dod i ben. Mae hyn yn golygu na fydd y DU yn gallu masnachu bellach gyda’r UE ar yr un telerau. Bydd angen dogfennau gwahanol ar Gerbydau Nwyddau Trwm (HGVs) ac mae’n bosibl y bydd angen cynnal gwiriadau ychwanegol a allai arwain at oedi i gludwyr. Bydd angen lle ar HGVs i aros tra’u bod yn paratoi’r dogfennau cywir cyn teithio i Iwerddon.

Mae’r senario waethaf sy’n rhesymol ei thybied sydd wedi’i chyhoeddi gan Lywodraeth y DU yn pwysleisio y gallai 40-70 y cant o HGVs sy’n cyrraedd porthladdoedd gael eu gwrthod am nad oes ganddynt y dogfennau cywir. Rhaid inni sicrhau bod yna safleoedd lle y gall y cerbydau hyn barcio’n ddiogel tra bod y broblem yn cael ei datrys. Os na fydd cynlluniau wrth gefn, gall arwain at broblemau oherwydd na fydd HGVs, sy’n cael eu gwrthod rhag mynd i’r porthladd, yn gwybod lle i fynd nesaf a gallent barcio mewn cilfannau neu yn y dref.

Dros amser, disgwylir i’r broblem o ran paratoi’r dogfennau cywir wella, ond mae rhywfaint o risg yn parhau y bydd oedi yn Nulyn oherwydd gwiriadau ychwanegol a allai effeithio ar amserau hwylio. Mae hyn yn golygu y bydd angen ardaloedd stacio yng Nghaergybi tra bod HGVs yn aros am fferïau hwyr.

Beth yw’r cynlluniau ar gyfer porthladd Caergybi ar ddiwedd y cyfnod pontio ar 1 Ionawr?

Bydd gwrthlif dros dro yn cael ei roi yn ei le tua’r dwyrain rhwng Cyffordd 2 – 4 o’r A55 gyda’r gerbytffordd tua’r gorllewin yn cael ei chadw ar gyfer ffiltro a stacio HGVs sy’n cael eu gwrthod. Bydd y system hon yn ei lle ar 28 Rhagfyr yn barod i’w defnyddio o 1 Ionawr ymlaen. Bydd pob cerbyd nad ydynt yn barod sy’n cyrraedd y porthladd yn cael eu cyfeirio yn ôl i’r gwrthlif ac yna’n ymuno â’r gerbytffordd tua’r gorllewin wrth Gyffordd 4. Bydd cerbydau sydd â’r ddogfennaeth gywir yn gallu teithio’n syth i’r porthladd yn ôl yr arfer. Os na fydd rhagor o le yn y porthladd, oherwydd oedi achos tywydd gwael er enghraifft, bydd cerbydau sy’n barod i groesi’r ffin yn cael eu cyfeirio i’r gerbytffordd tua’r gorllewin.

Mae trafodaethau ar y gweill i ddefnyddio safle Roadking ger y porthladd ac mae gwaith wedi dechrau ar Blot 9 Parc Caergybi i’w ddefnyddio fel ardal stacio o ganol mis Ionawr. Os bydd lle ar y safleoedd hyn, bydd HGVs yn cael eu cyfeirio iddynt o’r gerbytffordd tua’r gorllewin. Dim ond os na fydd lle ar gael ar unrhyw safle arall y bydd cerbydau yn cael eu gosod mewn rhes ar yr A55. Byddwn yn adolygu’r cynlluniau hyn yn rheolaidd.

A fydd eu hangen arnom os bydd Llywodraeth y DU yn dod i gytundeb gyda’r UE?

Bydd. Bydd y cyfnod pontio yn dod i ben a pha un ai y bydd gennym gytundeb masnach neu beidio, bydd y trefniadau ar y ffin yn newid. Bydd prosesau tollau yn cael eu cyflwyno ar 1 Ionawr o hyd ac mae’n bosibl y bydd angen gwybodaeth berthnasol ar weithredwyr wrth archebu teithiau hwylio ar fferïau. Mae angen inni gynllunio ar gyfer tarfu posibl pan fydd y trefniadau newydd hyn yn dod i rym.

Pa fesurau diogelwch sydd wedi’u rhoi yn eu lle i wneud y trefniadau yn ddiogel o ran Covid?

Mae’r trefniadau wedi’u gwneud gyda mesurau yn eu lle i ddiogelu rhag Covid-19. Os bydd gwrthlif yr A55 yn cael ei ddefnyddio fel ardal stacio, bydd cyfleusterau llesiant a hylendid yn cael eu darparu ar gyfer gyrwyr. Gofynnir i yrwyr aros yn eu cerbydau gymaint â phosibl cyn cael mynediad i’r porthladd.

Sut y bydd hyn yn effeithio ar bobl sy’n byw a gweithio yng Nghaergybi?

Nod y cynllun hwn yw sicrhau cyn lleied â phosibl o effaith ar y bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghaergybi, yn ogystal â darparu cyfleusterau i HGVs a gyrwyr. Byddwn yn annog pobl i wirio adroddiadau traffig i gael gwybod yr wybodaeth ddiweddaraf.

A fyddwn yn dal i allu teithio i Gaergybi ac oddi yno?

Byddwch, er mae’n bosibl y bydd rhywfaint o broblemau, yn enwedig ym mis Ionawr. Bydd y cynlluniau yn cael eu monitro a’u haddasu i sicrhau cyn lleied â phosibl o broblemau.

Am ba mor hir y bydd y trefniadau hyn yn eu lle?

Mae’n anodd rhoi dyddiad pendant ar gyfer pryd y bydd y trefniadau yn dod i ben, ond er bod y gwaith cynllunio yn ystyried y senario waethaf o hyd at chwe mis, byddwn yn cael gwared ar y gwrthlif dros dro ar yr A55 unwaith na fydd ei angen a bod modd gwneud hynny’n ddiogel. Rydym yn disgwyl i’r sefyllfa wella wrth i amser fynd yn ei flaen a bod cludwyr ac allforwyr yn dod yn gyfarwydd â’r trefniadau newydd. Rydym yn disgwyl gweld llawer o oedi ym mis Ionawr, gan fod ar ei waethaf tuag at ganol y mis. Byddwn yn monitro’r sefyllfa’n ofalus ac yn darparu diweddariadau.

Pam bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y trefniadau hyn?

Caergybi yw porthladd gyrru mewn ac allan prysuraf y DU ar ôl Dover. Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am y rhwydwaith cefnffyrdd a rhaid inni sicrhau bod cynlluniau yn eu lle i ddelio ag unrhyw broblemau posibl yn y porthladd pwysig hwn. Rydym am sicrhau bod cael mynediad i borthladd Caergybi yn parhau mor hawdd â phosibl. Rydym am sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar gymunedau Ynys Môn a theithwyr a phe na bawn yn gweithredu’r cynlluniau hyn, mae’n debygol iawn y byddai’r tarfu hwnnw’n ddifrifol. Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid ar y cynlluniau hyn, gan gynnwys Cyngor Sir Ynys Môn a’r porthladd.

Sut y bydd cludwyr yn gwybod y ffordd?

Y ffordd orau y gall cludwyr baratoi i deithio drwy Gaergybi ar ddiwedd y cyfnod pontio yw gwneud yn siŵr eu bod wedi cael y dogfennau cywir cyn dechrau teithio, a bod y gweithredwyr fferi wedi cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt.

Dylai cludwyr sy’n barod fynd yn syth i’r porthladd yn ôl yr arfer.

Byddwn yn rhannu ein cynlluniau gyda chwmnïau fferi a chymdeithasau cludwyr er mwyn iddynt drosglwyddo’r wybodaeth i gludwyr os cânt eu gwrthod. Bydd arwyddion hefyd yn cael eu gosod ac mae canolfan wybodaeth eisoes yn gweithredu yn Roadking. Bydd Traffig Cymru hefyd yn hyrwyddo’r cynlluniau a’r llwybrau.

Beth am deithwyr mewn ceir neu ar droed – pa drefniadau sy’n cael eu gwneud ar eu cyfer nhw?

Ar y ffin gyda’r UE, bydd gwiriadau ychwanegol yn gymwys i nwyddau sy’n esbonio’r effaith ar HGVs. Ni effeithir ar deithwyr mewn ceir neu ar droed ac os bydd fferïau yn cael eu hoedi, mae’r porthladd wedi rhoi gwybod inni y bydd digon o le ar gyfer cerbydau teithwyr. Fodd bynnag, dylai teithwyr wirio’r cyngor diweddaraf ar deithio i Iwerddon ac oddi yno i wneud yn siŵr eu bod yn barod ar gyfer y daith.

Sut y byddwn yn gwybod am broblemau yn y porthladd?

Fe’ch cynghorir i wirio adroddiadau traffig cyn teithio. Bydd gan Traffig Cymru yr wybodaeth ddiweddaraf @TrafficWalesN

Mae gwybodaeth am ymadael â’r UE