Neidio i'r prif gynnwy

Gwnewch ddewis doeth – symud ymlaen yn eich gyrfa drwy ddilyn prentisiaeth

P’un a ydych chi’n ceisio gwneud eich ffordd drwy’r byd gwaith, neu’n cymryd camau i newid eich gyrfa, efallai mai prentisiaeth yw’r peth i chi.

Beth yw prentisiaeth?

Mae prentisiaethau yn cyfuno hyfforddiant ymarferol mewn gwaith ag elfen o astudio.

Fel prentis, byddwch:

  • yn gweithio ochr yn ochr â staff profiadol
  • yn datblygu sgiliau penodol i’r swydd
  • yn ennill cyflog, hyd yn oed pan fyddwch ar wyliau
  • yn cael amser i astudio (un diwrnod yr wythnos fel rheol)
  • yn cynyddu eich gallu i ennill cyflog mwy
  • yn cael pecyn cymorth llawn, beth bynnag yw eich anghenion
  • yn cael cyfle i symud ymlaen drwy lefelau prentisiaeth gwahanol

Mae prentisiaethau yn para 1 i 4 blynedd, yn dibynnu ar eu lefel.

Darllenwch ein canllaw ar brentisiaethau i ddysgwyr i gael gwybod mwy.

 

Pwy all wneud cais am brentisiaeth?

Yng Nghymru mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un sy’n 16 oed ac yn hŷn, gan gynnwys:

  • pobl ifanc sydd am gymryd y cam o fyd myfyriwr i fyd gwaith
  • pobl ddi-waith
  • pobl sydd â swydd ond sydd am newid gyrfa
  • y rheini sydd mewn cyflogaeth ar hyn o bryd ond sydd am gynyddu eu sgiliau

Mae prentisiaethau ar gael i’r rheini sydd ag anabledd, cyflwr iechyd neu anhawster dysgu. Mae modd addasu bron i bob prentisiaeth, a bydd eich cyflogwr yn gweithio gyda chi i sicrhau eich bod yn cael cymorth sydd wedi’i deilwra yn ôl eich anghenion chi fel y gallwch weithio’n hyderus.

Darllenwch ein canllaw ar brentisiaethau i bobl anabl i gael gwybod mwy.

Lefelau prentisiaethau

Nid yr ystafell ddosbarth yw’r unig le i ddysgu, ac felly does dim ots p’un a wnaethoch chi adael yr ysgol heb lawer o gymwysterau, p’un a oes gennych lwyth o gymwysterau TGAU, p’un a ydych newydd orffen yn y coleg neu wedi graddio – mae yna lefel brentisiaeth i chi. 

Lefel brentisiaeth Lefel addysgol gyfatebol
Prentisiaeth Sylfaen – Lefel 2 5 TGAU neu NVQ Lefel 2
Prentisiaeth – Lefel 3 2 Safon Uwch neu NVQ Lefel 3
Prentisiaeth Uwch  - Lefel 4 / 5 HNC neu HND neu radd sylfaen

Prentisiaeth Radd – Lefel 6*

*Mae Prentisiaethau Gradd ar gael mewn galwedigaethau TGCh / digidol, peirianneg a gweithgynhyrchu uwch.

Gradd baglor 

Beth yw manteision prentisiaeth?

Bydd prentisiaeth yn caniatáu ichi:

  • gael hyfforddiant mewn maes rydych chi am weithio ynddo a datblygu eich gyrfa o’r diwrnod cyntaf
  • cael profiad gwerthfawr ac ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol
  • ennill arian a dechrau ar fyd gwaith, gan eich helpu i dyfu’n fwy annibynnol
  • cael cyflog gwyliau ac, mewn rhai achosion, amser astudio
  • dysgu oddi wrth gydweithwyr profiadol
  • meithrin eich hyder ac ennill sgiliau penodol i swydd: gan eich gwneud yn fwy cyflogadwy

Mae prentisiaethau ar gael mewn amrywiaeth eang o rolau, nid dim ond meysydd traddodiadol fel adeiladu a pheirianneg. Gallwch roi cynnig ar rywbeth sydd wastad wedi’ch denu neu rywbeth na fyddech erioed wedi meddwl amdano o’r blaen.

Sectorau a fframweithiau

Mae prentisiaethau ar gael mewn 23 o sectorau, ac ar gael ar bedair lefel – sy’n golygu bod yna brentisiaeth i bob dysgwr. 

  • Amaethyddiaeth a’r Amgylchedd
  • Arlwyo a Lletygarwch
  • Busnes a Rheolaeth
  • Bwyd a Diod
  • Diwylliant, Dylunio a’r Cyfryngau
  • Gwallt a Harddwch
  • Gwasanaethau Adeiladu
  • Gwasanaethau Addysg a Gwybodaeth
  • Gwasanaethau Amddiffynnol
  • Gwasanaethau Cyfreithiol ac Ariannol
  • Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Gwasanaethau Eiddo
  • Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol
  • Gwasanaethau Gofal Plant
  • Gwasanaethau Gofal Iechyd
  • Gweithgynhyrchu Uwch a Deunyddiau
  • Gwyddorau Bywyd
  • Manwerthu
  • Moduron, Cludiant a Logisteg
  • Peirianneg
  • Technoleg Ddigidol
  • Teithio, Twristiaeth a Hamdden

Gweld yr holl fframweithiau sydd ar gael yng Nghymru.

Prentisiaethau lefel gradd

Pwy sy'n cael ymgeisio?

nrhyw un yng Nghymru sy'n bodloni gofynion mynediad y brifysgol ar gyfer y brentisiaeth gradd. Fel rheol, mae hyn fel arfer yn golygu rhywun â chymwysterau ar Lefel 3 - sydd gyfwerth ag NVQ Lefel 3 neu basio 2 gymhwyster Safon Uwch - ar y fframwaith credydau a chymwysterau (FfCCh), ac/neu brofiad perthnasol o'r diwydiant. Gall y cyflogwr a'r brifysgol neu'r coleg sy'n cynnig y brentisiaeth gradd bennu pynciau a graddau penodol.

I ddechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen ichi:

  • fod yn 16 oed neu'n hŷn - nid oes uchafswm oedran
  • fod yn gweithio yng Nghymru 51% neu fwy o'r amser
  • fod mewn swydd, neu gael eich recriwtio i swydd sy'n berthnasol i'r brentisiaeth

Gan gydweithio â'ch cyflogwr a phrifysgol yng Nghymru, byddwch chi'n cynllunio'r brentisiaeth gradd, boed hynny yn Gymraeg neu'n Saesneg. Drwy hynny, bydd modd teilwra'r brentisiaeth yn arbennig fel bod gennych y sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich swydd yn y presennol a'r dyfodol.

Bydd eich cyflogwr a'r brifysgol yn cytuno â chi ar y cymhwyster, ar y dulliau asesu ac ar y rhaglen waith.

Beth yw'r costau?

Ceir dwy gost yn gysylltiedig â phrentisiaeth gradd - costau eich cyflog a chostau ffioedd dysgu ar gyfer astudio addysg uwch. Eich cyflogwr sy'n talu'r gost gyntaf. Nid chi sy'n talu'r ail gost.

Llywodraeth Cymru sy'n talu costau'r ffioedd dysgu yn llawn.

Manteision prentisiaeth gradd

Developing your higher-level skills with industry-led degree apprenticeships can support you to succeed and innovate in your role.

Gall eich prentisiaeth gradd:

  • Eich helpu i ennill wrth ddysgu, oherwydd bydd gennych swydd gyflogedig hyd  ddiwedd eich cwrs.
  • Arwain at gymhwyster lefel gradd a all hefyd gynnwys cymwysterau proffesiynol sy'n berthnasol i'r diwydiant.
  • Eich galluogi i elwa ar gymorth parhaus ac wedi'i bersonoli gan gydweithwyr a staff addysgu sy'n brofiadol yn eu maes.
  • Rhoi'r cyfle i gymhwyso'r hyn a ddysgwyd yn uniongyrchol i brosiectau byw yn y byd go iawn.
  • Eich helpu i ddatblygu'r arbenigedd, yr wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn eich gwaith.
  • Cynnig ysgol o gyfleoedd i'ch helpu i wneud cynnydd yn eich gyrfa.
  • Eich gwneud yn fwy cyflogadwy i gwmnïau yn y dyfodol a fydd yn gwerthfawrogi eich gwybodaeth a'ch profiad.
  • Bod wedi'u cynllunio'n hyblyg i fodloni eich anghenion.

Cymorth a chefnogaeth

Os yw'r byd prentisiaethau yn newydd i chi, gallwch gael cymorth a chefnogaeth bellach drwy siarad yn uniongyrchol â'ch prifysgol leol.

Darllenwch restr lawn o brifysgolion a phrentisiaethau gradd ar wefan Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Chwilio am swydd wag yn gysylltiedig â phrentisiaeth gradd

Bydd eich prifysgol leol yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am swyddi gwag presennol. Mewn rhai achosion, yn dibynnu ar natur y swydd, cewch hefyd wneud cais uniongyrchol i'r cyflogwr, neu chwilio am brentisiaeth drwy wasanaeth swyddi prentisiaeth Llywodraeth Cymru.

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o gyrsiau prifysgol, nid oes unrhyw amser penodol pan gaiff ymgeiswyr eu derbyn ar brentisiaeth gradd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn chwilio'n gyson, oherwydd gallai swyddi ddod i'r amlwg ar unrhyw bryd.

Prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog

Gall unigolion ddilyn hyfforddiant yn eu dewis iaith. Gall prentisiaid ddysgu sgiliau newydd a datblygu eu Cymraeg yn y gweithle.

Dod o hyd i brentisiaeth

Defnyddiwch ein gwasanaeth prentisiaethau gwag i ddod o hyd i brentisiaeth sy’n iawn i chi.

Darllenwch ein straeon llwyddiant

Stori Mathew
“Prentisiaeth wedi rhoi ffocws newydd I mi ar ôl gorfod gwarchod yn ystod y pandemig”.
Stori Chloe
Prentisiaid o gymru yn helpu I fynd I’r afael â phrinder staff yn y diwydiant gofal cymdeithasol.
Stori Nooh
Mae prentis WRU am gael cymunedau mwy amrywiol i chwarae rygbi.
Stori Cameron
Prentis peirianneg â’r gallu i weithio dan bwysau.
Stori Tiffany
Sut gwnaeth prentisiaeth ddatgloi drws i newid gyrfa mewn peirianneg.
Stori Ellen
Prentis datblygu meddalwedd yn rhagori ar ddisgwyliadau rôl swydd ‘draddodiadol’.
Stori Jake
Prentis yn dod â chwa o awyr iach i gwmni tyrbinau gwynt.
Stori Nikita
O athrawes i fyfyriwr: Athrawes ysgol gynradd yn dadgodio bywyd fel prentis.
Stori Safyan
Mae Safyan Iqbal, prentis ITV Cymru Wales yn annog eraill i ystyried prentisiaethau fel cam ymlaen i yrfa lwyddiannus.
Stori Gruff
Roedd Gruff yn breuddwydio am weithio yn y cyfryngau, ond nid oedd yn siŵr sut i dorri i mewn i’r diwydiant.
Stori Manmeet
Mae Manmeet, sydd wedi ennill gwobrau fel prentis, yn creu gyrfa lwyddiannus gyda High Precision Wales.
Stori Andrew
Prentis yn cael dyrchafiad yn y gwaith, diolch i’w ddewis doeth i ddilyn prentisiaeth i gynyddu ei sgiliau yn y gweithle.

Gwybodaeth bellach

Cymorth gyda’ch cais

Darllenwch ein cyngor i’ch helpu i wneud cais.

Cewch gyngor pellach ar ysgrifennu cais, creu CV da a sut i baratoi ar gyfer cyfweliadau ar wefan Cymru’n Gweithio.

Ydy eich plentyn yn gadael yr ysgol?

Os yw eich plentyn yn gadael yr ysgol, ydych chi wedi trafod prentisiaeth fel cam nesaf?

Os hoffech wybod mwy, darllenwch ein canllaw.

Gwobrau Prentisiaethau Cymru

Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru'n dathlu llwyddiannau eithriadol dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu yn y gweithle sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru.

Mwy o wybodaeth am Wobrau Prentisiaethau Cymru.

Cymorth gyda’ch cais

Darllenwch ein cyngor i’ch helpu i wneud cais.

Cewch gyngor pellach ar ysgrifennu cais, creu CV da a sut i baratoi ar gyfer cyfweliadau ar wefan Cymru’n Gweithio.

Ydy eich plentyn yn gadael yr ysgol?

Os yw eich plentyn yn gadael yr ysgol, ydych chi wedi trafod prentisiaeth fel cam nesaf?

Os hoffech wybod mwy, darllenwch ein canllaw.

Gwobrau Prentisiaethau Cymru

Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru'n dathlu llwyddiannau eithriadol dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu yn y gweithle sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru.

Mwy o wybodaeth am Wobrau Prentisiaethau Cymru.

Apprenticeships logoEuropean Social Fund logo