Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r cyfyngiadau hynny’n ymwneud â’r canlynol:

  • pryd a lle y cewch ddal draenogiaid môr
  • sut y cewch bysgota (math o offer) ac a oes gennych awdurdodiad i wneud hynny
  • faint o ddraenogiaid môr y gellir eu cadw

Pryd a lle y cewch ddal draenogiaid môr

Ni chaniateir dal draenogiaid môr, eu cadw, eu trosglwyddo o gwch i gwch na’u glanio os ydynt wedi eu dal o gwch neu o lannau’r ardaloedd ‘gwaharddedig’ canlynol:

Ardal fׅôrIs-adran 
Cyngor Rhyngwladol Archwilio'r Môr (ICES)
Dynesfeydd y De-orllewin7b, 7c, 7j a 7k ICES
Môr Iwerddon neu’r Môr CeltaiddY tu allan i’r terfyn 12 milltir fôr o ddyfroedd y DU yn is- adrannau 7g a 7a ICES

Yn ystod mis Ionawr ac o 1 Ebrill hyd at 31 Rhagfyr, dim ond os oes gennych awdurdodiad gan Lywodraeth Cymru i wneud hynny y cewch ddal draenogiaid môr, eu cadw, eu trosglwyddo o gwch i gwch a’u glanio yn yr ardaloedd cyfyngedig isod. Mae pysgota draenogiaid môr mewn unrhyw ardal gyfyngedig wedi ei wahardd yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth.

Ardal fôr is-adran Cyngor Rhyngwladol Archwilio'r Môr (ICES)

Môr y Gogledd4b, 4c
Y Sianel7d, 7e
Y Môr Celtaidd7f, 7g*
Môr Iwerddon7a*
Dynesfeydd y De-orllewin7h
 (*y tu mewn i derfyn 12 milltir fôr y DU yn unig)

Sut y cewch bysgota wrth weithredu mewn ardal gyfyngedig

Yn amodol ar fod ag awdurdodiad wedi ei roi gan eich gweinyddwr pysgodfeydd, fe’ch caniateir i ddal a chadw draenogiaid môr gyda’r offer canlynol:

  • rhwydi drysu gosod
  • bachau a leiniau

Bellach, mae awdurdod gan bob cwch pysgota masnachol eisoes i lanio draenogiaid môr sy’n cael eu dal gan dreillrwydi dyfnforol a rhwydi sân, a does dim angen caniatâd ysgrifenedig.

Ni chaniateir i chi ddal a chadw draenogiaid môr gydag unrhyw offer eraill, gan gynnwys treillrwydi canolddwr, rhwydi amgylchynu na rhwydi sy’n drifftio gyda’r cerrynt neu sy’n gallu gwneud hynny.

Ni chewch ddal draenogiaid môr, eu cadw, eu trosglwyddo o gwch i gwch na’u glanio os na roddwyd awdurdodiad ichi.

Rhwydi drysu gosod

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod rhwydi drysu gosod (‘fixed gillnets’) o fewn y diffiniad o rwydi sefydlog (‘static nets’) yn erthygl 6(23) o Reoliad (UE) 2019/1241 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sef “any type of gillnet that is anchored to the seabed for fish to swim into and become entangled or enmeshed in the netting”.

Diffinnir rhwydi gosod (‘fixed nets’) fel rhai sydd wedi eu gosod ar waelod y môr mewn safle parhaol drwy unrhyw ddull megis pwysau, angorau neu byst a rhaid eu bod wedi eu gosod fel na allant ddrifftio neu symud gyda’r cerrynt.

Pan fydd rhwyd allan o’r dŵr (hy ar gwch pysgota) rhaid iddi allu cael ei gosod ar unwaith ar waelod y môr drwy unrhyw ddull megis clymu pwysau, angorau neu byst at y rhwyd, neu drwy allu clymu’r rhain at y rhwyd yn union cyn ei defnyddio. Os nad oes modd digonol ar gael i osod y rhwyd ar waelod y môr ni ystyrir y rhwyd yn rhwyd osod.

Er mwyn osgoi amheuaeth, ni ystyrir angorau, pwysau nac eitemau eraill sydd wedi eu clymu at y rhwyd nad ydynt yn ei gosod ar waelod y môr neu’n ei hatal rhag drifftio (beth bynnag fo cyflwr y cerrynt), yn ddigonol i ystyried y rhwyd fel rhwyd osod.

Faint y gellir ei gadw

Dim ond draenogiaid môr sy’n ddarostyngedig i’r terfynau isod y gallwch eu dal a’u cadw. Ni ellir trosglwyddo terfynau dalfa rhwng cychod.

 Treillrwydi Dyfnforol a Rhwydi SânBachau a leiniauRhwydi Drysu GosodPob math arall o offer (gan gynnwys rhwydi drifft)
Cyfyngiadau’r BysgodfaAr gau ym mis Chwefror a mis MawrthAr gau ym mis Chwefror a mis MawrthAr gau ym mis Chwefror a mis MawrthGwaherddir holl ddalfeydd draenogiaid môr
Terfyn uchaf y ddalfa

Uchafswm o 5% yn ôl pwysau yr holl organebau morol FESUL TAITH

Sgil-ddalfa anosgoadwy. 760 o gilogramau mewn unrhyw ddau fis yn olynol

5.95 tunnell y flwyddynSgil-ddalfa o 1.5 tunnell y flwyddynGwaherddir holl ddalfeydd draenogiaid môr

Defnyddio mwy nag un math o offer

Dim ond un math o offer pysgota awdurdodedig y caiff cychod pysgota’r DU eu cario pan gedwir draenogiaid môr ar fwrdd y cwch. Os byddwch yn defnyddio mwy nag un math o offer pysgota a ganiateir mewn un mis calendr, yna bydd terfyn isaf y ddalfa ar gyfer yr offer yn berthnasol.

Awdurdodiadau

O dan Reoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio etc.) (Rhif. 2) 2021 mae gan bob cwch pysgota masnachol bellach awdurdod i lanio draenogiaid môr a ddaliwyd gan dreillrwydi dyfnforol a rhwydi sân, a does dim angen caniatâd ysgrifenedig.

Mae’n bwysig nodi bod draenogiaid môr a ddaliwyd gan ddefnyddio treillrwydi a rhwydi sân yn parhau i fod yn destun cyfyngiad o 5% yn ôl pwysau yr holl organebau morol fesul taith. Mae Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio etc.) 2021 (legislation.gov.uk) yn gosod terfyn sgil-ddalfa anosgoadwy o 3.8 tunnell (3800kg) fesul cwch fesul blwyddyn.

Er eglurder, nid yw rhwydi amgylchynu wedi eu cynnwys yng nghategori’r treillrwydi a rhwydi sân. Mae glanio draenogiaid môr ar gychod sy’n defnyddio rhwydi amgylchynu wedi ei wahardd.

Os ydych am ddal a chadw draenogiaid môr gan ddefnyddio math arall o offer rhaid i chi fod â chaniatâd ysgrifenedig i wneud hynny gan Lywodraeth Cymru. Bydd caniatâd gan bysgotwyr masnachol i ddal a chadw draenogiaid môr gydag offer penodol. Mae awdurdodiadau yn cael eu rhoi i gychod sydd â hanes o lanio draenogiaid môr yn ystod y cyfnod cyfeirio o 1 Gorffennaf 2015 hyd at 30 Medi 2016, yn amodol ar unrhyw geisiadau trosglwyddo llwyddiannus.

Unwaith y byddwch wedi derbyn awdurdodiad bydd caniatâd gennych i ddal a chadw draenogiaid môr gyda’r mathau o offer a restrir ar eich awdurdodiad, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau penodol ar gyfer pob math gwahanol o offer.

Rhwymedigaeth glanio

Nid yw draenogiaid môr yn ddarostyngedig i’r rhwymedigaeth glanio. Felly, rhaid gwaredu unrhyw ddalfeydd a wnaed ag offer diawdurdod, ac unrhyw ddalfa a wnaed ag offer awdurdodedig sydd dros y terfyn awdurdodedig.

Yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth mae pysgota draenogiaid môr wedi ei wahardd yn llwyr a rhaid dychwelyd dalfeydd draenogiaid môr i’r môr. Dylai pysgotwyr gymryd pob mesur rhesymol i osgoi a lleihau’r nifer o ddraenogiaid môr sy’n cael eu gwaredu.

Disodli cychod a throsglwyddo awdurdodiad

Os ydych yn disodli cwch sydd ag awdurdodiad draenogiaid môr, ystyrir trosglwyddo’r awdurdodiad cyhyd â bod injan a thunelledd y cwch sy’n cymryd lle’r hen un ddim yn fwy. Os yw’r cwch newydd hwl unigol yn 8 metr neu’n llai o hyd yn ei gyfanrwydd, nid yw’r ddarpariaeth o ddim cynnydd mewn maint o ran injan a thunelledd yn berthnasol. Cyfrifoldeb unrhyw berchennog cwch yw ceisio’r cymeradwyaethau perthnasol gan Lywodraeth Cymru cyn gwneud ymrwymiad i brynu cwch pysgota newydd, os ydynt am drosglwyddo unrhyw awdurdodiad presennol.

Dylai perchnogion sy’n bwriadu gwerthu cychod sy’n cael eu disodli hefyd sicrhau bod y prynwr yn ymwybodol y bydd y cwch sy’n cael ei werthu yn colli ei awdurdodiad i ddal draenogiaid môr unwaith y bydd y trosglwyddiad wedi ei gwblhau (mae’n bosibl y bydd angen tystiolaeth ysgrifenedig gan y prynwr i gadarnhau ei fod yn deall y sefyllfa).

Os yw cwch ar goll ar y môr ac/neu wedi ei ddifrodi fel na ellir ei atgyweirio, ystyrir trosglwyddo awdurdodiad cyhyd â bod injan a thunelledd y cwch sy’n ei ddisodli ddim yn fwy. Dylai unigolion sydd am drosglwyddo awdurdodiad presennol i gwch newydd neu gwch sy’n disodli hen un gysylltu â swyddfapysgodfeyddaberdaugleddau@llyw.cymru cyn gynted ag sy’n ymarferol, gan ddarparu tystiolaeth bod eu hamgylchiadau yn bodloni’r meini prawf a nodir uchod.

Bydd awdurdodiadau yn trosglwyddo i berchennog newydd y cwch pan fydd perchnogaeth y cwch yn cael ei drosglwyddo. Bydd lefel dalfa bresennol y cwch hwnnw hefyd yn cael ei throsglwyddo – hy ni fydd terfynau’r ddalfa yn cael eu hailosod. Er enghraifft, os yw cwch wedi cyrraedd terfyn ei ddalfa bachyn a lein blynyddol yna ni fydd perchennog newydd y cwch yn cael dal a chadw mwy o ddraenogiaid môr gan ddefnyddio bachau a leiniau.

Cychod hamdden a chychod siarter

Yn is-adrannau 4b, 4c, 6a, 7a i 7k ICES, o 1 Ionawr hyd 31 Ionawr ac 1 Ebrill hyd 31 Rhagfyr, os nad oes gennych gwch pysgota trwyddedig, ni chaniateir cadw a glanio mwy na  dau ddraenogyn môr Ewropeaidd fesul pysgotwr hamdden fesul diwrnod yn yr ardaloedd cyfyngedig.

Os oes gennych gwch pysgota gyda thrwydded ond heb awdurdodiad draenogiaid môr, gallech barhau i fynd â physgotwyr hamdden allan i bysgota. O 1 Ionawr hyd 31 Ionawr ac 1 Ebrill hyd 31 Rhagfyr, ni chaniateir cadw a glanio mwy na dau ddraenogyn môr Ewropeaidd fesul pysgotwr hamdden fesul diwrnod yn yr ardal gyfyngedig. Fodd bynnag, ni chaniateir gwerthu unrhyw ddraenogiaid môr mewn  perthynas ag unrhyw bysgota hamdden.

Maint Cyfeirio Cadwraethol Lleiaf (MCRS)

Y maint cyfeirio cadwraethol lleiaf (‘isafswm maint’) ar gyfer draenogyn môr yw 42cm.

Ni chaniateir cadw draenogiaid môr sydd o dan y maint cyfeirio cadwraethol lleiaf, eu trosglwyddo o gwch i gwch, eu glanio, eu cludo, eu storio, eu gwerthu, eu harddangos na’u cynnig ar werth, ond rhaid eu dychwelyd i’r môr ar unwaith.

Pysgota am ddraenogiaid môr yn fasnachol o’r lan

Ni ellir mynd ag unrhyw ddraenogiaid môr, ar wahân i sgil-ddalfa, gan ddefnyddio rhwydi drysu gosod sydd ar y glannau (codau offer GTR, GNS, GNC, FYK, FPN a FIX

(Ni chaniateir cadw unrhyw sgil-ddalfeydd o ddraenogiaid môr rhwng 1 Chwefror a 31 Mawrth)

Ni chaniateir unrhyw bysgota arall am ddraenogiaid môr yn fasnachol o’r lan gydag unrhyw fath o offer.

Am ragor o wybodaeth gweler Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio etc.) 2021 a Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio etc.) (Rhif 2) 2021.

Pysgota hamdden am ddraenogiaid môr

Mae pysgodfeydd hamdden, gan gynnwys o’r lan, yn is-adrannau 4b, 4c, 6a, 7a i 7k ICES wedi eu cyfyngu i ddal a rhyddhau yn unig yn ystod y cyfnod o 1 Chwefror hyd 31 Mawrth.

O 1 Ionawr hyd at 31 Ionawr ac 1 Ebrill hyd 31 Rhagfyr, caiff pob pysgotwr gadw dim mwy na dau ddraenogyn môr fesul diwrnod. 

Mewn pysgodfeydd hamdden yn is-adrannau 8a ac 8b ICES, caiff pob pysgotwr hamdden gadw uchafswm o ddau ddraenogyn môr yr un fesul diwrnod drwy gydol y flwyddyn.

Isafswm maint draenogiaid môr Ewropeaidd a gedwir fydd 42 cm.

Am ragor o wybodaeth gweler Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio etc.) 2021 a Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio etc.) (Rhif 2) 2021.

Ni ellir cymryd unrhyw ddraenogiaid môr drwy rwydi gosod.

Mae’r rheolau hyn yn berthnasol os ydych yn pysgota o gwch neu o’r lan.