Galwad ar y cyd am gynigion i gynnal rhaglen gydweithrediad rhwng Québec a Chymru 2022
Dyddiad cau: 9 Awst 2022
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Cefndir
Mae Llywodraeth Québec a Llywodraeth Cymru yn eich gwahodd i gyflwyno cais am gymorth ariannol i gynnal prosiect cydweithredu fel rhan o ail Alwad ar y Cyd am Gynigion Québec-Cymru.
Yn dilyn y Datganiad o Fwriad ar gydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Québec a lofnodwyd ar 25 Chwefror 2020 datblygodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Québec alwad ar y cyd am gynigion yn cwmpasu’r meysydd ymchwil, arloesi, a chynaliadwyedd yn wreiddiol.
Yn sgil pwysigrwydd a budd di-ben-draw ein sefydliadau artistig a diwylliannol i gymdeithas yng Nghymru a Quebec, y llynedd gwnaethom ehangu'r Alwad i gynnwys prosiectau yn y celfyddydau a diwylliant, gan annog sefydliadau sy'n gweithio yn y sectorau creadigol yng Nghymru a Quebec i wneud cais.
Yn dilyn llwyddiant dwy alwad flaenorol am gynigion, eleni rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi trydydd Galwad ar y Cyd am Gynigion ar gyfer 2022.
2. Amcanion
Mae'r alwad ar y cyd am gynigion rhwng y partïon yn meithrin a thyfu cysylltiadau cydweithredol rhwng Cymru a Québec:
- Hyrwyddo datblygu cynaliadwy ac adferiad gwyrdd ym mhob cymdeithas, ac annog gwaddol o weithredu yn sgil COP26 yn Glasgow, yr Alban
- Hyrwyddo cydweithrediad rhwng canolfannau ymchwil ac ymchwilwyr mewn meysydd diddordeb wedi'u targedu ar y ddwy ochr
- Hyrwyddo cydweithredu mewn datblygu economaidd mewn meysydd blaenoriaeth sydd o ddiddordeb i'r ddwy ochr
- Cefnogi gwaith ein sectorau creadigol i arddangos ein treftadaeth ddiwylliannol unigryw
- Ffafrio gwell cyd-ddealltwriaeth drwy gyfuno rhwydweithiau a rhannu arbenigedd.
3. Sectorau cydweithrediad
Mae'r alwad bresennol am gynigion yn agored i bob sector mewn cynaliadwyedd, ymchwil ac arloesi, a diwylliant. Bydd rhai meysydd yn cael blaenoriaeth ond ni fydd ceisiadau'n cael eu cyfyngu i:
Adferiad Gwyrdd
Er enghraifft:
- Hydrogen
- Ynni Glan a Storio Ynni
- Cerbydau Trydan
- Ailgylchu
Yr Economi, Gwyddoniaeth ac Arloesi
Er enghraifft:
- Gwyddorau bywyd (telefeddygaeth, technolegau meddygol, genomeg)
- Technolegau digidol a Deallusrwydd Artiffisial
- Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, gan gynnwys Awyrofod
Y Celfyddydau a Diwylliant
Er enghraifft:
- Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles
- Cynaliadwyedd
- Atebion Newydd ar gyfer Byd Newydd
Mae’r categori hwn ar gyfer prosiectau mewn disgyblaethau artistig fel gwaith clyweledol, llenyddiaeth a chyhoeddi, y celfyddydau perfformio, a’r celfyddydau gweledol a digidol. Er enghraifft, gallai’r prosiectau fod yn gyfnewid dwy ffordd rhwng artistiaid gyda chyfleoedd ar gyfer gyrfaoedd, gwaith creadigol a gwaith datblygu rhwydweithiau ar gyfer pob artist; cynyrchiadau ar y cyd/gwaith cynhyrchu ar y cyd lle y mae’r ddau bartner wedi ymgysylltu’n llwyr/wedi ymrwymo’n llwyr; neu gydgomisiynu prosiectau/mentrau.
Nodwch fod yr alwad hon am gynigion yn agored i bob un o'r sectorau hyn yn 2022. Bydd prosiectau'n cael eu dewis ar ôl gwerthusiad sy'n seiliedig ar ansawdd ac mewn perthynas â'r meini prawf a nodir isod.
4. Meini prawf cymhwysedd ar gyfer prosiectau
Yng Nghymru bydd yr alwad yn agored i ymgeiswyr sydd â sylfaen barhaol yn y wlad.
Yn Québec, mae'n rhaid i bennaeth y prosiect feddu ar ddinasyddiaeth Canada neu gael preswyliad parhaol yno.
Rhaid i brosiectau:
- Gynnwys un partner o Gymru ac un partner o Québec
- Cael ei gwblhau o fewn 12 mis ar ôl i'r cyllid gael ei gyhoeddi neu erbyn 31 Mawrth 2024 fan bellaf
- Cael eu cyflwyno fel ffeil gais gyflawn yn Adran Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, a’r Ministère des Relations internationales et de la Francophonie du Québec
- Parchu’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais – ni fydd ceisiadau a ddaw i law ar ôl 11:59pm ar 9 Awst 2022 yn cael eu hystyried.
Manyleb ar gyfer galwad 2022
Mae meysydd adferiad gwyrdd, gwyddorau bywyd, seiberddiogelwch, deallusrwydd artiffisial, awyrofod a’r celfyddydau a diwylliant wedi cael eu dewis fel meysydd blaenoriaeth. Bydd yn rhaid cyflwyno adroddiad terfynol erbyn 31 Mawrth 2024 fan bellaf.
5. Canllawiau a threuliau sy'n gymwys am gymorth ariannol
Rhaid i gymorth prosiect cydweithredu beidio â disodli'r cymorth a roddir fel arfer gan sefydliadau ariannu eraill. Nodwch na all cymorth ariannol fesul prosiect y flwyddyn a roddir gan Lywodraeth Québec fod yn fwy na $8,000 CAD a £4,800 GBP gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r treuliau canlynol yn gymwys:
- Costau trafnidiaeth ar gyfer teithio dwyffordd rhwng Québec a Chymru (dosbarth economi) pan fyddant ar gael o ran cyfyngiadau COVID-19
- Treuliau eraill sy'n gysylltiedig â chyfarfodydd teithio a thelegynadledda (fisa, yswiriant, ffioedd gwrthbwyso nwyon tŷ gwydr, cludo offerynnau neu weithiau celf, etc)
- Costau beunyddiol (gwesty a phrydau bwyd) os yw'n gymwys
- Ffioedd cyhoeddi, hyrwyddo a lledaenu gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r prosiect
- Ffioedd sy'n gysylltiedig â gwaith a grëwyd ar y cyd
- Costau'r lleoliad neu'r offer rhentu
- Ffioedd artistiaid sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r prosiect arfaethedig
- Prynu deunydd neu offer.
Nid yw'r treuliau canlynol yn gymwys:
- Costau sy'n gysylltiedig â chostau gweithredu a thaliad staff y sefydliad
- Unrhyw dreuliau a gwmpaswyd yn flaenorol gan gymorth ariannol o raglen arall gan y Llywodraeth
- Ffioedd gweithredu rheolaidd yr ymgeisydd
- Treuliau a dynnwyd cyn i’r grant gael ei gyhoeddi
- Costau teithio mewn dosbarth cyntaf neu ddosbarth busnes
- Ffioedd am fagiau dros ben
Dull cyllido
Mae cydweithrediad Québec-Cymru yn defnyddio dull cyllido ar wahân, sy'n golygu bod pob partner yn gyfrifol am ei holl dreuliau mewn tiriogaeth dramor. Darperir cymorth ariannol Québec gan y Quebec Ministère des Relations internationales et de la Francophonie (MRIF). Rhaid i'r grant y gofynnir amdano gan Lywodraeth Québec ymwneud yn unig â threuliau partner Québec (gan gynnwys costau teithio i Gymru yn ogystal â threuliau byw). Yn yr un modd, rhaid i'r grant y gofynnir amdano oddi wrth Lywodraeth Cymru ymwneud â gwariant partneriaid yng Nghymru yn unig (gan gynnwys costau teithio i Québec a threuliau byw).
6. Meini prawf gwerthuso prosiectau
- Cydlyniant y prosiect a gyflwynir mewn perthynas â'r amcanion a nodwyd yn yr alwad am brosiectau
- Hyrwyddo datblygu cynaliadwy ac egwyddorion cynaliadwyedd drwy'r prosiect
- Natur arloesol y prosiect
- Creu partneriaethau newydd
- Eglurder yr amcanion a nodwyd
- Yr amserlen ac ymarferoldeb y rhaglen waith
- Cyfrannu at ddatblygiad y sector yn seiliedig ar y manteision a'r canlyniadau a ragwelir
- Trylwyredd y trefniant ariannol ac amrywiaeth y ffynonellau ariannu
- Cydbwysedd rhwng yr amcanion a'r canlyniadau a ragwelir yng ngoleuni'r amserlen waith a'r strwythur cyllido
- Cael ei gynnal ar y cyd yn unol â'r egwyddor o gyd-gydymrwymiad, o ran ariannu ac effeithiau pendant
- Meithrin cyfnewidfeydd a bondiau cydweithredol tymor hir rhwng Québec a Chymru gan arwain o bosibl at gyllid pellach oddi wrth asiantaethau eraill y Llywodraeth (Canada neu'r Deyrnas Unedig, er enghraifft)
- Arwain at fanteision diriaethol i Québec a Chymru
- Arwain at sefydlu rhwydweithiau ar gyfer cydweithredu.
7. Cyflwyno a dethol prosiectau
Sylwer bod yn rhaid cyflwyno'r holl brosiectau yn gyfan gwbl i'r ddau sefydliad cydgysylltu (sef y ministère des Relations internationales et de la Francophonie ar gyfer partner Québec ac Adran Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru.
Rhaid i bartneriaid Québec a Chymru ill dau lenwi'r dogfennau perthnasol ar-lein (ni dderbynnir unrhyw ffurflenni eraill).
Ar gyfer Québec: dolen gwefan i'r ffurflen: CoopQuebecGalles@mri.gouv.qc.ca
Rhaid i'r partneriaid yng Nghymru gyflwyno'r dogfennau ar 9 Awst 2022 fan bellaf drwy e-bost at: QuebecWalesProjects@llyw.cymru
Gellir anfon ymholiadau ar gyfer partner Québec yn y cyfeiriad hwn:
M. Steve Boilard
Direction Europe et institutions européennes
Ministère des Relations internationals et de la Francophonie
Llywodraeth Québec a Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddewis terfynol y prosiectau a phenderfynu faint o gymorth a roddir. Bydd canlyniadau ar gael i’r ymgeiswyr yn Hydref 2022. Byddwch cystal â nodi nad yw penderfyniadau'n ddarostyngedig i unrhyw apeliadau.
8. Adroddiad terfynol
Bydd ffurflen adroddiad terfynol yn cael ei llenwi gan bob sefydliad a'i chyflwyno yn ôl y telerau sy'n gysylltiedig â hyn yn Québec a Chymru yn y drefn honno.