Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn cynnig cyfle unigryw i dreulio wyth wythnos naill ai yn Uganda, Lesotho neu Namibia, yn gweithio ar brosiectau sy'n helpu i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, ac yn gwella eich sgiliau arwain ar yr un pryd.

Bydd y rhaglen hon yn cael y rheini sy'n cymryd rhan i ehangu eu sgiliau. Mae'n gyfle a fydd yn eich trochi mewn profiadau newydd, gan fynd â chi y tu hwnt i'r ffiniau yr ydych yn teimlo'n gyfforddus oddi mewn iddynt. Byddwch yn cael eich herio i weithio mewn modd creadigol ac i gryfhau eich gwytnwch personol. Bydd y sgiliau a'r ddealltwriaeth y byddwch yn eu hennill o fod yn rhan o'r rhaglen hon yn amhrisiadwy, nid yn unig i chi fel unigolyn, ond hefyd i'ch sefydliad ac i Gymru.

Ers 2007, mae bron i 200 o bobl wedi cymryd rhan ac wedi cael y profiad o fyw a gweithio yn un o wledydd Affrica. Mae'r rheini sydd wedi cymryd rhan wedi dychwelyd â dealltwriaeth newydd o sut y gellir addasu i weithio gydag adnoddau cyfyngedig, rhywbeth sydd wedi cryfhau eu sgiliau fel arweinwyr – er mwyn gwella'r hyn a ddarperir ar gyfer pobl Cymru mewn cyfnod heriol.

Ar gyfer pwy y mae'r rhaglen hon?

Mae'r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn rhaglen ar gyfer rheolwyr ac arweinwyr profiadol sy'n byw neu'n gweithio yng Nghymru. Drwy ein proses ddethol, rydym yn sicrhau bod y rheini sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn unigolion sydd wedi ymrwymo'n llwyr i'r rhaglen ac yn rhai sydd â'r gallu i ymgymryd â lleoliad.

Mae'r sgiliau allweddol yn cynnwys:

  • y gallu i weithio gydag eraill
  • y gallu i reoli ac ysgogi grŵp o bobl amrywiol
  • sgiliau gwrando a chyfathrebu cryf 
  • y gallu i ddylanwadu ar bobl heb fod yn rheolwr llinell arnynt
  • y gallu i feddwl yn strategol
  • y gallu i ddatrys problemau

Dylai unrhyw leoliad o dan y rhaglen fod yn rhan o'ch datblygiad personol a phroffesiynol parhaus, ac felly rhaid i'ch rheolwr llinell a'ch sefydliad gefnogi eich cais yn llawn.

Prosiectau

Rydym yn mynd ati i ddarparu amrywiaeth eang o brosiectau gyda grŵp o bartneriaid amrywiol sydd ar waith mewn pedair gwlad sy'n wahanol iawn i'w gilydd, sef Uganda, Lesotho, Namibia a Somaliland.

Yn rhanbarth Mbale yn Uganda, mae'r rhan fwyaf o'n bartneriaid yn gyrff anllywodraethol llai o faint sy'n brwydro i ymdopi â datblygu polisi, rheoli a datblygu staff, darparu gwasanaethau, a chodi arian. Mae Uganda hefyd yn gartref i brosiect Plannu Coed Mbale, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac rydym hefyd yn defnyddio lleoliadau'r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol i helpu i weithredu'r prosiect arloesol hwn.

Yn Lesotho, mae ein partneriaid yn Dolen, sef Cyswllt Cymru Lesotho, wedi llwyddo i sicrhau lleoliadau gydag amrywiaeth eang o gyrff anllywodraethol a chyfleusterau meddygol.

Yn Namibia, mae ein lleoliadau'n cael eu hwyluso gan Brosiect Ffenics – sef y cyswllt rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia, ac maent yn cefnogi eu hamcanion tymor hir.

Yn Somaliland rydym yn bwriadu cynnig nifer cyfyngedig o leoliadau unigryw i ddechrau gan ei bod yn wlad bartner newydd.

Mae'r pedair gwlad yn wahanol iawn i'w gilydd ac felly'n cynnig profiadau gwahanol. Gall ein tîm profiadol helpu i baru sgiliau ymgeiswyr â'r prosiectau mwyaf addas – ar ôl rhoi ystyriaeth i iechyd neu faterion eraill a allai wneud un o'r gwledydd yn ddewis mwy priodol na'r lleill i'r unigolyn.

Bydd tîm Cymru ac Affrica bob amser â nifer o gyfleoedd a disgrifiadau o leoliadau sydd ar gael, ond yn aml bydd hefyd yn gallu dyfeisio lleoliadau pwrpasol ar gyfer ymgeiswyr sydd â sgiliau neu brofiad mwy penodol.

Y broses ymgeisio

Rydym yn gweithredu rhaglen dreigl o gyfleoedd, a gallwn anfon pobl draw ar unrhyw adeg.

I ymgeisio, anfonwch eich CV, a nodyn gan eich rheolwr llinell yn cytuno i'ch rhyddhau ar gyfer lleoliad 8 wythnos, ynghyd â llythyr ymgeisio, drwy e-bost, i walesandafrica@gov.wales.

Dylai eich llythyr gynnwys y canlynol:

  • Pam gwnaethoch chi ddewis wneud cais i'r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol?
  • Beth yw'r profiad a'r sgiliau sydd gennych a fyddai o fudd i'r rhaglen hon?
  • Beth yw eich prif gryfderau?
  • Yn eich tyb chi, beth allwch ei gynnig i'r rhaglen a'n partneriaid yn Affrica?
  • Sut y bydd cymryd rhan yn y rhaglen yn helpu i fodloni eich anghenion datblygu presennol?
  • Sut y byddwch yn defnyddio'r hyn yr ydych yn ei ddysgu yn eich rôl bresennol, fel y bydd o fudd i'ch sefydliad.
  • A oes unrhyw wybodaeth arall yr hoffech ei rhannu â ni?

Bydd tîm Cymru ac Affrica yn ystyried eich cais, gan wahodd yr ymgeiswyr llwyddiannus i gyfweliad anffurfiol. Ar ôl ichi gael eich derbyn ar y rhaglen, bydd proses baru'n digwydd, a bydd honno'n cael ei dilyn gan ddiwrnod hyfforddi a sesiwn friffio cyn ichi adael i ddechrau ar eich lleoliad.

Manteision

Mae manteision y Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn fwy pellgyrhaeddol nag yr ydych efallai'n tybio – i chi, i'n partneriaid yn Affrica, i'ch sefydliad, ac i Gymru.

Yn ôl profiad rheolwyr, mae'r rheini sydd wedi cymryd rhan yn dychwelyd i'w swyddi fan hyn gyda mwy o gymhelliant, ymrwymiad cryfach, a phersbectif newydd ar eu gwaith.

Mae llawer o bobl yn dychwelyd i'r gwaith gyda:

  • sgiliau meddal gwell, a mwy o hunan hyder a hyblygrwydd
  • parodrwydd i fynd ati i ddatrys problemau mewn ffyrdd mwy arloesol
  • persbectif a gwytnwch newydd
  • sgiliau gwell o ran gweithio mewn modd mwy cydweithredol

Costau

Bydd rhaglen Cymru ac Affrica yn talu costau teithio, llety, brechiadau, ac yswiriant. Disgwylir i'ch cyflogwr barhau i dalu eich cyflog.

Yn dal ddim yn siŵr?

Gallwch weld enghraifft o’r mathau o swyddi sydd ar gael yn y gwledydd partner hyn ar wefan Hub Cymru Africa (dolen allanol).

Cysylltwch â thîm Cymru ac Affrica drwy ffonio 03000 251670 neu e-bostio walesandafrica@gov.wales i drafod.