Neidio i'r prif gynnwy

Cyn i’r Canghellor gyhoeddi Cyllideb y Gwanwyn yfory [ddydd Mercher 15 Mawrth], mae Gweinidog Cyllid Cymru wedi dweud bod rhaid i Lywodraeth y DU gadw’r Warant Pris Ynni o £2,500 a chymryd camau gweithredu pendant, sydd wedi’u targedu. Bydd hyn yn lliniaru’r heriau ariannol cynyddol y mae llawer o bobl a busnesau’n eu hwynebu wrth i’r argyfwng costau byw barhau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dywedodd Rebecca Evans:

“Caiff Cyllideb Wanwyn Llywodraeth y DU ei chyflwyno yng nghanol yr argyfwng costau byw parhaus, gyda chostau ynni a bwyd yn uchel o hyd.

“Mae gan y Canghellor y pwerau i ddefnyddio ei ysgogiadau yn well o ran lles a threth, yn ogystal â mynediad at y pwrs cyhoeddus, i leihau’r heriau y mae cartrefi a busnesau’n eu hwynebu. Rhaid defnyddio hyn ar unwaith i gefnogi’r rhai hynny sydd fwyaf agored i niwed – gan gynnwys camau gweithredu ymarferol i gefnogi pobl gyda chostau ynni, anghenion tai, a budd-daliadau lles. Byddai cadw’r Warant Pris Ynni o £2,500 y tu hwnt i fis Ebrill yn rhan annatod o hyn.

“Mae’n hollbwysig bod y Canghellor yn gweithredu ar gyllid y GIG a’r sector cyhoeddus gan sicrhau bod cyflog gweithwyr y sector cyhoeddus yn dychwelyd i dermau real. Mae’r GIG yn 75 mlwydd oed eleni, sy’n gyfle gwirioneddol i fuddsoddi a diwygio.

“Mae ein cyllideb ein hunain yn werth hyd at £1 biliwn yn llai, mewn termau real, rhwng 2023 a 2024. Felly, mae angen i Lywodraeth y DU fuddsoddi’n iawn mewn gwasanaethau cyhoeddus i gydnabod yr effaith niweidiol y mae chwyddiant wedi’i gael ar hyd a lled y wlad.

“Rwyf wedi ysgrifennu at y Canghellor ac wedi cyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys i bwysleisio’r angen am fuddsoddiad go iawn yng Nghymru, ei phobl, a’i gwasanaethau cyhoeddus – Cyllideb y Gwanwyn yw’r amser i gymryd camau gweithredu ystyrlon.”