Neidio i'r prif gynnwy

Bydd rheoliadau adeiladu yn berthnasol yn gyffredinol os ydych am adeiladu estyniad i'ch cartref.

Fel rheol, fodd bynnag, caiff ystafell wydr ei heithrio rhag rheoliadau adeiladu:

  • Os caiff ei hadeiladu ar lefel y llawr gwaelod ac os yw arwynebedd ei llawr mewnol yn llai na 30 metr sgwâr
  • Os caiff ei gwahanu'n thermol oddi wrth y tŷ gan waliau, drysau neu ffenestri sydd o ansawdd rhai allanol
  • Nid oes offer gwresogi sefydlog neu nid yw system wresogi’r adeilad yn cael ei ymestyn i'r ystafell wydr.
  • Os yw'r gwydr ac unrhyw osodiadau trydanol sefydlog yn cydymffurfio â'r gofynion perthnasol o ran rheoliadau adeiladu (gweler isod).

Fe'ch cynghorir i beidio ag adeiladu ystafelloedd gwydr mewn mannau lle byddant yn cyfyngu ar y gallu i ddefnyddio ysgol i gyrraedd ffenestri ystafelloedd sydd wedi'u creu yn y to neu'r atig, yn enwedig os bwriedir i unrhyw rai o'r ffenestri hynny helpu pobl i ddianc neu gael eu hachub pe bai tân.

Bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar unrhyw agorfa strwythurol newydd rhwng yr ystafell wydr a'r tŷ presennol, hyd yn oed os yw'r ystafell wydr ei hun yn strwythur sydd wedi'i eithrio.

Rhagor o wybodaeth

Mae'r adrannau canlynol ar waith cyffredin yn awgrymu elfennau eraill y mae angen fel rheol iddynt fodloni gofynion y Rheoliadau ar gyfer ystafelloedd gwydr: